Text view
Universal Dependencies - Welsh - CCG
Language | Welsh |
---|
Project | CCG |
---|
Corpus Part | train |
---|
Annotation | Heinecke, Johannes; Tyers, Francis; |
---|
View options
Text: - Show: - Tags:
Javascript seems to be turned off, or there was a communication error. Turn on Javascript for more display options.
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
Ar ddiwedd wythnos o ddathlu chwe deg mlynedd o ymgyrchu rydyn ni'n edrych o'r newydd ar yr heriau fydd yn wynebu'r Gymraeg dros y ddegawd i ddod wrth gyhoeddi maniffesto newydd: Cymru Rydd, Cymru Werdd, Cymru Gymraeg: Cymdeithasiaeth i'r 21ain Ganrif. Lansiwyd cynllun Diogelwn yn 2021 er mwyn i berchnogion allu diogelu'r enwau Cymraeg ar eu tai, ond mae e bellach wedi ei ehangu i gynnwys enwau ar dir, a bydd y cynllun ar ei newydd wedd yn cael ei gyflwyno mewn digwyddiad ar stondin Cymdeithas yr Iaith ar faes yr Eisteddfod heddiw. Daeth yn amlwg yn gynharach eleni bod angen ymestyn ystod y cynllun i enwau tiroedd hefyd ar ôl i'r enw Banc y Cornicyll gael ei golli oddi ar y map ordnans a'i ddisodli gan yr enw Hakuna Mattata. Mae'r cynllun yn bodoli oherwydd bod 'na alw amdano , ac oherwydd bod gan y Cymry draddodiad hir o hunangymorth. 'Dyn ni i gyd yn pryderu am golli enwau Cymraeg, ac 'dyn ni i gyd yn ysu am weld deddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru i warchod yr enwau hynny'n statudol. Roedd Cymdeithas yr Iaith yn awyddus iddi fod mor hawdd â phosibl i unrhyw un ddiogelu'r enw ar eu cartref neu ar eu tir naill ai cyn neu wrth iddyn nhw ei werthu. Felly, mae cymalau a dogfennau sy'n cynnwys cyfamodau safonol ar gael ar wefan y Gymdeithas i'w lawrlwytho. Dim ond perchennog all newid yr enw ar eu tir neu ei ddiogelu trwy ddefnyddio Diogelwn, ond mae enwau twristaidd yn disodli enwau naturiol fel Carreg Edwen, Coed Llyn Celanedd, Coed Cerrig y Frân a Ffos Clogwyn y Geifr. Un o gadarnleoedd Edward 1af oedd Castell Conwy, ac fe'i adeiladwyd rhwng 1283 a 1287. Yn ystod ' Y Daith ” byddaf yn mynd heibio i'r pedair o'i gestyll, Biwmares, Caernarfon a Harlech – y cyfan yn ôl UNESCO yn un o Safleoedd Treftadaeth y Byd. Mae Wici yn llawn gwybodaeth pellach, gan gynnwys cyfeiriad at Owain Glyndŵr yn cipio'r castell a'r dref ym 1401.
Download XML • Download text
• Sentence view • Dependency trees