cy-ccg-train-c28.txt.clean

Universal Dependencies - Welsh - CCG

LanguageWelsh
ProjectCCG
Corpus Parttrain
AnnotationHeinecke, Johannes; Tyers, Francis;

Javascript seems to be turned off, or there was a communication error. Turn on Javascript for more display options.

indexsentence 40 - 50 < sentence 51 - 61 > sentence 62 - 72

Ond dydi o ddim yn arferol i ni weld y mynyddoedd pan mae'r haul wedi bod mor gryf â'r dyddiau dwytha' felly mae'r lluniau fel arfer yn llwyd. Does yr un o'r lluniau wedi eu golygu na'u newid oni bai am crop syml. Mae Mynyddoedd Wicklow yn gadwyn o fynyddoedd sydd wedi eu lleoli yn nwyrain Iwerddon, islaw Dulyn. Maent yn rhedeg o'r gogledd i'r de o Swydd Dulyn trwy Swydd Wicklow cyn dod i ben yn Swydd Wexford. Y mynydd uchaf yn y gadwyn yw Lugnaquilla sydd ag uchder o 925m, ac yr ail fynydd uchaf yw Mullaghcleevaun sydd ag uchder o 847m. Mae 'na luniau trawiadol o'r Wyddfa a'i chriw o dan eira wedi eu tynnu dros y dyddiau diwethaf - ond o Ddulyn?! Dyna leoliad y ffotograffydd pan dynnodd o'r llun yma, a Môr Iwerddon nid Afon Menai sydd rhyngddo fo ac Eryri. Roedd Niall wedi mynd am dro i gopa'r bryn sydd ar benrhyn Howth, ger Dulyn, ar bnawn Mawrth a sylweddoli bod posib gweld holl fynyddoedd Eryri, arfordir Caergybi a Phenrhyn Llŷn ac Ynys Manaw. Achos bod hi wedi chwarae mae hi'n deall falle yn well nag eraill - mae hi'n gadael y gêm i lifo ac efo dau dîm arbennig o dda sy'n enjoio chwarae pêl-droed da heno dwi'n siŵr fydd yn gêm ac achlysur arbennig. Fi'n credu bydd hi'n ysbrydoli eraill a dyna pam mae'n haeddu'r sylw. Mae gymaint o rolau gwahanol o fewn pêl-droed, dim jest bod yn chwaraewr neu gefnogwr, ac mae'n hyfryd i weld y llwybr yna (o fynd i'r byd dyfarnu ar ôl chwarae'r gêm) yn cael y sylw hefyd.

Download XMLDownload textSentence viewDependency trees