Text view

Universal Dependencies - Welsh - CCG

LanguageWelsh
ProjectCCG
Corpus Parttrain
AnnotationHeinecke, Johannes; Tyers, Francis;

Javascript seems to be turned off, or there was a communication error. Turn on Javascript for more display options.

indexsentence 40 - 50 < sentence 51 - 61 > sentence 62 - 72

I ddangos eich cefnogaeth i Hosbis Dewi Sant, cofrestrwch heddiw ar ein safle gwe. Yn ôl ym mis Chwefror wrth droedio Cwm Brwynog cefais syniad a fyddai'n plethu fy niddordeb mewn anturiaethau a gofal diwedd oes, sef cerdded Llwybr y Pererinion o Lanberis i Aberdaron yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Cymru Garedig 10fed 16eg Mai, er mwyn codi arian at Hosbis Dewi Sant. Diolch i'r drefn, 'roedd yr antur hefyd yn apelio at fy ffrind a chydymaith droeon, Gareth Roberts, a dyma fynd ati i droi'r cysyniad yn realiti. Gadael Penygroes fore Mawrth a dilyn llwybrau blodau gwylltion a phorthmyn heibio ffermydd a dolydd i Gapel Uchaf. Galw gyda theulu am banad yng Nghlynnog Fawr cyn ymweld ag eglwys a ffynnon Beuno Sant, a chromlech Bachwen. Yna dilyn llwybr hudolus, llawn garlleg gwyllt cyn ymuno â'r lôn i Drefor... a gweld lle 'roeddan ni'n mynd drennydd: sef Bwlch yr Eifl. 'Roedd Bwlch yr Eifl fore Iau yn tipyn o her ond 'roedd y golygfeydd o'r top yn werth pob ymdrech, a throsodd â ni wedyn am eglwys Pistyll, sydd bellach wedi'i llyncu gan unedau gwyliau. Sefydlwyd Côr Meibion Dyffryn Peris ym mis Mawrth 1989, gyda 22 aelod. Y diweddar John Huw Hughes, cyn-brifathro Ysgol Dolbadarn, Llanberis, wynebodd y dasg o'u harwain, gyda Hefina Jones yn cyfeilio. Pwrpas sefydlu'r côr oedd canu o ran pleser ym mhentref Llanberis a'r cylch. Fodd bynnag, gyda rhaglen amrywiol wedi'i llunio a'i dysgu, daeth galwadau am wasanaeth y côr o ardaloedd ehangach.

Download XMLDownload textSentence viewDependency trees