cy-ccg-train-c26.txt.clean

Universal Dependencies - Welsh - CCG

LanguageWelsh
ProjectCCG
Corpus Parttrain
AnnotationHeinecke, Johannes; Tyers, Francis;

Javascript seems to be turned off, or there was a communication error. Turn on Javascript for more display options.

indexsentence 29 - 39 < sentence 40 - 50 > sentence 51 - 61

Os ydych wedi tyfu mwy o lysiau nag sydd eu hangen, mae'n rhaid eu storio nhw'n ofalus neu fel arall gallwch eu rhannu efo'ch cymdogion a theulu. Mae llawer o drafod wedi bod am yr Wyddfa yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ei enw, problemau parcio a chiwio ond ydych chi wedi ystyried yr Wyddfa yn ddi-blastig? Rydw i'n hynod falch fod Dafydd Gibbard wedi ei benodi yn Brif Weithredwr newydd Cyngor Gwynedd. Bydd y blynyddoedd nesaf yn cyflwyno sawl her i ni fel Cyngor. Ond rydw i'n gwybod fod y gwaith arloesol sydd wedi ei gyflawni i gynnal gwasanaethau drwy'r amseroedd anodd, yn golygu fod Gwynedd mewn lle da i gamu ymlaen yn hyderus i'r cyfnod nesaf yn ein hanes. Cymerwch y cyfle a gwnewch gais - mae gennych bopeth i ennill a dim i'w golli. Rydych chi wedi gweld y profiadau anhygoel a bythgofiadwy gafodd pobl yn y gyfres gyntaf felly ewch amdani ! Mae elusen leol yn chwilio am 500 o gefnogwyr i wneud gwahaniaeth i'w cymuned leol. Eleni, ni fydd Hosbis Dewi Sant yn gallu cynnal nifer o'n digwyddiadau codi arian graddfa fawr. Hyd yn oed ar ôl cymorth y Llywodraeth, bydd yr elusen yn dal i fod yn fyr o'r hyn sydd ei angen i gadw eu drysau ar agor, a dyna pam y mae ar Hosbis Dewi Sant eich angen chi. Os bydd 500 o bobl yn cymryd rhan yn yr ymgyrch 500 Calon, bydd yn codi o leiaf £50,000 ar gyfer gofal diwedd oes ar draws Gogledd-Orllewin Cymru.

Download XMLDownload textSentence viewDependency trees