cy-ccg-train-c18.txt.clean

Universal Dependencies - Welsh - CCG

LanguageWelsh
ProjectCCG
Corpus Parttrain
AnnotationHeinecke, Johannes; Tyers, Francis;

Javascript seems to be turned off, or there was a communication error. Turn on Javascript for more display options.

indexsentence 1 - 6 < sentence 7 - 17 > sentence 18 - 28

Mae archwilwyr allanol wedi cael ei benodi i ymchwilio i honiadau bod Llywodraeth Cymru wedi llwgrwobrwyo Comisiynydd y Gymraeg i gynnal llai o ymchwiliadau i gwynion, yn ôl gohebiaeth sydd newydd gael ei datgelu. Yn y chwe mis cyntaf ei swydd, ymchwiliodd y Comisiynydd newydd, Aled Roberts, i lai na 40% o'r cwynion a dderbynnir ganddo - bron hanner lefel ei ragflaenydd. Heb ymchwiliad statudol i gŵyn, nid oes modd i'r Comisiynydd ddefnyddio ei bwerau cyfreithiol i sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg cyrff yn gwella. Mae targedau wedi eu gosod ar golegau sy'n hyfforddi athrawon i recriwtio siaradwyr Cymraeg am y tro cyntaf erioed, yn ôl gohebiaeth sydd wedi dod i law ymgyrchwyr iaith. Ers pedair blynedd, mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn galw am newidiadau er mwyn sicrhau bod digon o athrawon cyfrwng Cymraeg er mwyn cyrraedd targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr erbyn 2050 gan gynnwys gosod targedau statudol ar golegau hyfforddi athrawon er mwyn cynyddu canrannau'r bobol fydd yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Lle bendigedig i wneud popeth yn Gymraeg. Mae'r ardal yn fwrlwm o weithgareddau, diwylliant ac anturiaethau. Yma mae'r môr a'r mynydd mor agos at ei gilydd. Mae criw mawr o blant a phobl ifanc y wlad a'r dref, o Aberdaron i Fangor yn cymysgu, yn chwarae ac yn cystadlu, a phawb yn mwynhau! Mae Meirionnydd yn ymestyn o Finffordd yn y Gogledd hyd at Bont Ddyfi yn y De. Yn y dwyrain mae Blaenau Ffestiniog a'r Bermo yn y Gorllewin!

Download XMLDownload textSentence viewDependency trees