cy-ccg-train-c18.txt.clean

Universal Dependencies - Welsh - CCG

LanguageWelsh
ProjectCCG
Corpus Parttrain
AnnotationHeinecke, Johannes; Tyers, Francis;

Javascript seems to be turned off, or there was a communication error. Turn on Javascript for more display options.

indexsentence 7 - 17 < sentence 18 - 28 > sentence 29 - 39

Gelli fynd i lan y môr, neu i siopa yn y trefi, ac mae digonedd o weithgareddau'r Urdd i ddifyrru pawb. Lle clên a Chymreig beth am edrych pa weithgareddau sydd gan yr Urdd yn y sir ar dy gyfer di? Mae bywyd yn y brifddinas yn llawn bwrlwm. Diddordeb mewn chwaraeon neu'r celfyddydau? Mae rhywbeth at ddant pawb gennym i'ch diddanu. Dewch i ymuno yn yr hwyl! Mae Ceredigion yn sir fywiog, llawn gweithgareddau. Os mai cystadlu ti am wneud mae digon o hynny o Chwaraeon i Steddfota! Os am gymdeithasu yn Gymraeg beth am ymuno ag Adran neu Uwch Adran lle gellid wneud amrywiol weithgareddau yn wythnosol! Neu ymuno ag un o glybiau chwaraeon yr Urdd yng Ngheredigion. Beth amdani dere i ymuno gyda ni!

Download XMLDownload textSentence viewDependency trees