cy-ccg-train-c28.txt.clean

Universal Dependencies - Welsh - CCG

LanguageWelsh
ProjectCCG
Corpus Parttrain
AnnotationHeinecke, Johannes; Tyers, Francis;

Javascript seems to be turned off, or there was a communication error. Turn on Javascript for more display options.

indexsentence 1 - 6 < sentence 7 - 17 > sentence 18 - 28

Ddydd Sadwrn, Mehefin 25, bydd canol tref Porthmadog yn cael ei thrawsnewid wrth i'r ardal ddathlu dyfodiad Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ymhen ychydig dros flwyddyn. Bydd y copi cyntaf o'r Rhestr Testunau'n cael ei gyflwyno i'r Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith lleol, Michael Strain, yn ystod seremoni draddodiadol yr Orsedd sy'n dilyn gorymdaith drwy dref Porthmadog yng nghwmni sefydliadau lleol. Y bwriad yw adlewyrchu'r croeso cynnes i'r Eisteddfod yn yr ardal, a hynny gyda thros flwyddyn i fynd tan y Brifwyl ei hun. Hefyd yn siarad fydd Cai, myfyriwr a fu'n arwain yn yr ymgyrch ar faes Eisteddfod yr Urdd i gasglu dros 200 o enwau pobl ifanc fydd yn chwilio cartref mewn blynyddoedd i ddod, ar alwad ar y Llywodraeth i greu strategaeth tai. Y Tafod yw cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Mae'n cael ei gyhoeddi tua phedair gwaith y flwyddyn, i gyd-daro gyda digwyddiadau pwysig megis Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Eisteddfod yr Urdd, a'r Eisteddfod Genedlaethol. Yr enw gwreiddiol oedd 'Tafod y Ddraig' a olygwyd yn gyntaf yn Hydref 1963 gan Owain Owain, Bangor. Ef hefyd a ddyluniodd fersiwn gwreiddiol o logo'r gymdeithas i gyd-fynd a'i bapur. Mae'r fersiwn cyntaf hwn i'w weld yn y Llyfrgell Genedlaethol. Yn Chwefror 1969 y gwnaed y fersiwn coch, cyfoes a hynny gan Elwyn Ioan a Robat Gruffudd (gweler 'Golwg' 21 Mehefin 2020). Roedd gan wasg y Lolfa gysylltiad agos ond anffurfiol â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg a bu'n gyfrifol am argraffu ei chylchgrawn misol, Tafod y Ddraig am gyfnod hir.

Download XMLDownload textSentence viewDependency trees