cy-ccg-train-c28.txt.clean

Universal Dependencies - Welsh - CCG

LanguageWelsh
ProjectCCG
Corpus Parttrain
AnnotationHeinecke, Johannes; Tyers, Francis;

Javascript seems to be turned off, or there was a communication error. Turn on Javascript for more display options.

indexsentence 7 - 17 < sentence 18 - 28 > sentence 29 - 39

Ymhlith y golygyddion eraill y mae Gareth Miles ac Angharad Tomos. Mae defnyddwyr trenau yn gobeithio bod cyswllt arfaethedig o Fangor i orllewin Cymru yn awgrymu bod ailagor rheilffyrdd yn bosib. Codwyd gobeithion pawb o'r posibilrwydd yn sgil cyhoeddi mapiau newydd gan Lywodraeth Cymru gyda saethau gwyrdd arnyn nhw i ddangos y bwriad i adeiladu rheilffordd rhwng Bangor a'r gorllewin a hefyd rhwng Bangor ac Amlwch, Ynys Môn. Yn ôl y gwybodusion, mae'n bellach yn bolisi gan Lywodraeth Cymru i ail-agor rheilffordd rhwng Bangor ac Afonwen a Phwllheli. 'Mae ysbryd newydd ar gerdded trwy Gymru, a'r teimlad yn cynyddu y gallwn ni wneud yn well dros bobol Cymru wrth reoli ein hunain,' meddai Dafydd Iwan, fu'n perfformio 'Yma O Hyd'. Dyna yw ystyr annibyniaeth, nid torri i ffwrdd, ond ymuno â'r holl wledydd eraill sy'n rheoli eu hunain. Mae Cymru yn dechrau credu ynddi ei hunan, a does dim all ein rhwystro bellach. Hon oedd y bedwaredd orymdaith mewn cyfres o Orymdeithiau dros Annibyniaeth, a'r gyntaf ers llacio cyfyngiadau Covid. Mae Heddlu'r Gogledd wedi cael cais i wneud sylw ar y nifer. Yn ôl un o'r trefnwyr, y Cynghorydd Marc Jones, roedd yr orymdaith yn gyfle i ddangos 'bod y mudiad dal mor gryf ag erioed'. Os rhywbeth mae pobl yn teimlo'n gryfach nag erioed, mae llanast San Steffan yn waeth nag erioed ac mae gennym ni ddewis sylfaenol, unai da ni am fod yn rhan o Loegr fwy neu Cymru annibynnol, does dim lle canol erbyn hyn.

Download XMLDownload textSentence viewDependency trees