cy-ccg-train-c18.txt.clean

Universal Dependencies - Welsh - CCG

LanguageWelsh
ProjectCCG
Corpus Parttrain
AnnotationHeinecke, Johannes; Tyers, Francis;

Javascript seems to be turned off, or there was a communication error. Turn on Javascript for more display options.

index sentence 1 - 6 > sentence 7 - 17

Bydd y rôl gyffrous hon yn addas ar gyfer siaradwr Cymraeg a Saesneg a fydd yn arwain gwaith cyfathrebu o ddydd i ddydd gyda'r cyhoedd ar ran Sustrans yng Nghymru, gyda'r nod o godi proffil yr elusen gyda'i chynulleidfaoedd dylanwadu allweddol a'i defnyddwyr. Mae disgwyl gwyntoedd cryfion ar draws Cymru ddydd Sadwrn yn dilyn y glaw trwm a ddaeth gyda Storm Jorge. Daeth y statws hwnnw i ben ganol y bore, gyda'r heddlu'n dweud eu bod nhw'n 'barod i ymateb i unrhyw lifogydd' ac yn rhybuddio pobl unwaith eto i beidio â gyrru i mewn i ddŵr llonydd. Mae nifer o reilffyrdd yn parhau ar gau fore Sadwrn, ar ôl i ddwsinau o deithwyr wynebu trafferthion nos Wener wedi i lifogydd effeithio ar y rheilffyrdd yn y de. Dywedodd Jeremy Parr o Gyfoeth Naturiol Cymru: 'Rydym yn bryderus yn enwedig am y rhagolygon o law sylweddol yn y de, yn enwedig mor fuan wedi Storm Dennis. Ychwanegodd y dylai pawb gymryd gofal a pheidio gyrru na cherdded drwy lifogydd.

Download XMLDownload textSentence viewDependency trees