Dependency Tree

Universal Dependencies - Welsh - CCG

LanguageWelsh
ProjectCCG
Corpus Parttest

Select a sentence

Showing 701 - 800 of 953 • previousnext

s-701 Mae'r geiriau wedi eu ysgrifennu gan John Howel (1774-1830) sef bardd a golygydd llenyddol.
s-702 Roedd yn hwyl gwylio'r ymateb i sylwadau Donald Trump ynghylch erthyliad ychydig ddyddiau yn ôl.
s-703 Wrth geisio egluro ei safbwynt ynghylch erthyliad, dywedodd y dylid cosbi menywod sy'n dewis difa'u ffetws.
s-704 Fe dynnodd y sylwadau'n ôl yn fuan wedyn.
s-705 Ein problem yw bod pawb, yn naturiol, ar lwybr sy'n mynd oddi wrth Dduw.
s-706 Y problem yw bod y Steddfod yn pwysleisio'r cyswllt gyda'r broydd lleol.
s-707 Ein problem yw bod ein gofalwyr maeth arbennig a phrofiadol yn llawn.
s-708 Maen nhw'n gofalu am blant hirdymor eisoes ac mae gennym blant newydd yn dod i ofal maeth sydd angen cartref cariadus, diogel a gofalgar.
s-709 Mae ein gofalwyr maeth profiadol yn ymddeol hefyd, ac mae angen gofalwyr newydd arnom i ddechrau maethu.
s-710 Meddai'r Cynghorydd Jones.
s-711 Rydym yn chwilio am bobl sydd â phrofiad o weithio gyda phlant yn ddelfrydol efallai yn eu swydd mewn ysgol, nyrsio neu hyd yn oed fel arweinydd sgowtiaid neu brofiad o fagu eu plant eu hunain.
s-712 Bydd hyn yn caniatáu i ni roi ystyriaeth i chi i ofalu am lawer o wahanol blant.
s-713 Nid oes ots a ydych yn sengl, priod, ifanc neu hen.
s-714 Na feddyliwch ei fod yn ddigon eich bod wedi bod yn sylla gyda hyfrydwch a syndod, ar y darluniad o Dduw yn eistedd ar orsedd yr eangder.
s-715 Dywed Marian Gray o Aberystwyth ei bod wedi bod yn anodd parhau i weithio.
s-716 Fe ofynnodd merch ifanc i fi'n ddiweddar pam fy mod yn casáu Margaret Thatcher cymaint, gan ei bod newydd fod yn y sinema yn gweld y ffilm The Iron Lady.
s-717 Weithiau, cysylltir hyn â Tenesmus; teimlad eich bod eisiau cael eich gweithio'n barhaus, er eich bod newydd fod.
s-718 Newydd fod yn gwylio'r ffilm yng nghell b ym Mlaenau Ffestiniog.
s-719 Mae'r merched o Bangor Uni Boob Team newydd fod yn y swyddfa.
s-720 Rwy 'n siŵr y byddem ni wedi hen weld datrysiad i'r broblem erbyn hyn.
s-721 Mae eich amser wedi hen ddod i ben, Weinidog.
s-722 Gyda Chalan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt wedi hen fynd heibio, yn naturiol, rydym yn dechrau meddwl am y Nadolig.
s-723 Mae'r gwaith wedi hen fynd, ynghyd â'r gofeb, mae'n debyg.
s-724 Efa, rwy 'n gwybod eich bod am fod yn gyfrifol.
s-725 Os gwyddoch eich bod am fod yn rhoddwr organau yna gallwch gofrestru penderfyniad fel heddiw i fod yn rhoddwr (optio i mewn) neu dewis gwneud dim - ystyrir eich bod wedi rhoi eich cydsyniad.
s-726 Unwaith iddi ddod yn amlwg eich bod am fod yn absennol am fwy na 13 wythnos bydd eich Budd-dal Tai a Threth Cyngor yn peidio.
s-727 Mae Cadno yn poeni bod am fod yn y ar ei phen ei hun.
s-728 Hefyd, bydd angen i amgueddfeydd sydd newydd fod yn gymwys gwblhau achos busnes strategol fel rhan y broses ymgeisio.
s-729 nid yw'n rhywbeth newydd fod yn cael ei dargedu gan hacwyr bob dydd.
s-730 Mewn llawer o achosion, mae cyhoeddwyr wedi galw ar unigolion a oedd newydd fod yn gweddïo am help!
s-731 Gall y trefniant newydd fod yn arwyddocaol.
s-732 Yn ffodus i'r mynachod yn yr Abaty a oedd newydd ei sefydlu, bu'n noddwr hael a chadarn.
s-733 Yn 1909, symudwyd Amgueddfa'r Ddinas i ystafelloedd a oedd newydd eu hadeiladu y tu ôl i'r llyfrgell newydd yn Ffordd Gwynedd (sydd wrthi 'n cael ei hadnewyddu ar hyn o bryd).
s-734 Bu gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr a bu'r Amgueddfa ar gau yn ystod yr 1920au a'r 1930au.
s-735 Ac wrth i chi jyst yn gweld pan oeddwn newydd symud fy llaw naid dal cynnig cylch.
s-736 Byddai'r swyddog gwrol hwn, a oedd heb ei gomisiynu, yn mynd allan drosodd a throsodd o dan danio trwm gan ddod â'r anafedig yn ôl i ddiogelwch, gan achub llawer o fywydau felly.
s-737 Diolch i FanglaCymru cafodd dau glaf ar bymtheg ar hugain eto gyfle newydd i grafu byw a chael eu derbyn yn un o wledydd mwyaf anghenus y byd
s-738 O Nafftali, mil o dywysogion, a chyda hwy, yn cario tarian a gwaywffon, dwy fil ar bymtheg ar hugain.
s-739 Mae Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu cyhuddo o fod yn 'wrth-Gymraeg' yn sgil eu hymateb i arwydd 'Cofiwch Dryweryn' ar ochr siop losin yn y dref.
s-740 Ond mewn llythyr at landlord oedrannus yr adeilad ym Mhen-y-bont ar Ogwr, dywed y cyngor eu bod yn ystyried yr arwydd yn 'hysbyseb'.
s-741 Bydd yr adeilad hefyd yn darparu swyddfeydd i Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, ffreutur a gofod cymdeithasol ar gyfer myfyrwyr, staff a'r gymuned leol.
s-742 'Dw i'n edrych ymlaen, ond mae o bach yn daunting hefyd,' meddai wrth golwg360.
s-743 Mae'n joban fawr rŵan fod Pantycelyn yn cau.
s-744 'Dw i isio gwneud yn siŵr fod pob dim yn cario ymlaen bod niferoedd ddim yn gwaethygu pan na fyddwn ym Mhantycelyn,' meddai wedyn.
s-745 Ond hefyd, dw i isio agor o allan fel bod mwy o bobol yn gwybod am be ydan ni'n ei wneud.
s-746 Y Cymro Cymraeg fydd wythfed Is-Ganghellor neu Bennaeth Prifysgol Bangor, a gafodd ei sefydlu yn 1884.
s-747 Mae'n olynu'r Athro Graham Upton yn y swydd, a gafodd ei benodi'n Is-Ganghellor Dros Dro yn dilyn ymddeoliad yr Athro John G Hughes ddiwedd y llynedd, a hynny wedi naw mlynedd wrth y llyw.
s-748 Mae'n gam yn ôl rhyw 30 o flynyddoedd.
s-749 Bod rhywun yn coleddu'r fath agwedd at y Gymraeg yng Nghymru.
s-750 Roedd yn siom yn fwy nad dim.
s-751 Ar ôl tanysgrifio ers blynyddoedd i'r cylchgrawn, dyma'r tro cyntaf i neges o'r fath gael ei hysgrifennu ar yr amlen er bod y cod post yn amlwg ar y cyfeiriad.
s-752 Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd rhwng 27 Mai 1 Mehefin, ac mae'n cynnig mynediad rhad ac am ddim am y tro cyntaf yn ei hanes.
s-753 Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cyhoeddi y bydd tair ysgol gynradd yn ne'r sir yn cau yn yr haf.
s-754 Mewn cyfarfod llawn o'r cyngor ddoe (dydd Gwener, Mai 24), gwnaed penderfyniadau i gau ysgolion cynradd Beulah, Cilcennin a Threwen.
s-755 Daw hyn er gwaethaf galwadau gan rieni a chynghorwyr lleol i gadw'r ysgolion ar agor.
s-756 Yr addysg gorau i blentyn yn aml yw addysg mewn ysgol leol.
s-757 Geiriau'r Cynghorydd Miles yn swnio fel robot yn darllen brawddeg wedi ei baratoi ar ei chyfer.
s-758 Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu penderfyniad Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn heddiw i ddiddymu'r penderfyniad i gau ysgolion Bodffordd, Talwrn a Biwmares.
s-759 Gallasai'r Pwyllgor Gwaith fod wedi penderfynu oedi'n unig neu ailgyflwyno eu cynigion, ond diolchwn eu bod wedi gwneud y peth iawn o ddiddymu'r penderfyniadau a rhoi sicrwydd i'r cymunedau y byddai pob ystyriaeth yn y dyfodol o dan egwyddor y Côd Trefniadaeth newydd sydd â rhagdyb o blaid ysgolion gwledig.
s-760 Yr ydym heddiw yn diolch yn arbennig hefyd i'r Cynghorydd Carwyn Jones am ei gyfraniad at y drafodaeth heddiw.
s-761 Yn ei eiriau ef 'rhaid i bawb symud ymlaen efo'i gilydd yn awr.
s-762 Dyma gyfle llechen lân, heb densiwn.
s-763 Nid brwydr ddylai hyn fod.
s-764 Mae Cymdeithas yr Iaith yn barod iawn i fod yn rhan adeiladol o'r drafodaeth ar gyfer ysgolion ardaloedd Llangefni, Seiriol ac Amlwch gan gredu'n ffyddiog fod modd canfod atebion o fodelau cydweithio sydd yn creu unedau addysgol cryf, yn sicrhau arbedion ac yn harneisio holl egni rhieni a chymunedau sydd wedi dangos y fath ofal am ddyfodol eu hysgolion a'u cymunedau.
s-765 Yn wir, hoffem fel Cymdeithas ddiolch o galon i'r cymunedau hyn sydd wedi gosod esiampl i gymunedau gwledig Cymraeg ledled y wlad, ac yn enwedig esiampl i'w plant.
s-766 Yn olaf, mae'n gwbl briodol i ni fel Cymdeithas ddiolch i'r Gweinidog Addysg Kirsty Williams gan fod ei pharodrwydd hi i ymchwilio o ddifri i gŵyn wedi anfon neges glir i awdurdodau lleol ledled Cymru y bydd yn rhaid iddynt gymryd o ddifri'r Côd newydd sydd â rhagdyb o blaid ysgolion gwledig.
s-767 Fe gawn ni gyfle i ddiolch yn bersonol iddi mewn cyfarfod bore fory rhwng y Gweinidog a'i swyddogion a dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith.
s-768 Wrth ymateb i gyhoeddiad Cyngor Sir Gâr eu bod yn dechrau cyfnod o ymgynghori i newid darpariaeth Cyfnod Sylfaen ysgolion Y Ddwylan, Griffith Jones, Llangynnwr a Llys Hywel i fod yn Gymraeg a newid Ysgol Rhys Pritchard o fod yn ddwy ffrwd i fod yn ysgol Gymraeg dywedodd Sioned Elin ar ran Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin:
s-769 'Rydyn ni'n llongyfarch y cyngor am ddechrau ymgynghoriad er mwyn gosod pump o ysgolion y sir ar lwybr tuag at addysg Gymraeg, a hyderwn y bydd cefnogaeth eang i hynny.'
s-770 Daeth ymgyrchwyr ynghyd ym Mhenrhyndeudraeth heddiw i drafod camau polisi i ddelio ag effaith ail gartrefi ar y Gymraeg.
s-771 Yn siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Robat Idris o Gymdeithas yr Iaith:
s-772 Os oes yna un pwnc llosg sy'n crisialu argyfwng y Gymru gyfoes, yna 'Tai' yw hwnnw.
s-773 Pwy sy'n berchen arnyn nhw?
s-774 Pwy sy'n medru fforddio eu prynu?
s-775 Pwy sy'n methu fforddio eu prynu?
s-776 Mae'r annhegwch presennol yn rhemp mae rhai yn berchen mwy nag un , eraill heb yr un, a rhai heb do o gwbl uwch eu pennau.
s-777 Mae yna ddadl am edrych tuag at beth mae ardaloedd yng Nghernyw wedi gwneud, o ran cyfyngu ar y nifer o ail gartrefi mewn ardal, ac mae hynny'n un pwynt sydd angen ei drafod.
s-778 Fe gychwynnodd y tymor newydd gyda llawer o gyffro, gan fod tri dosbarth a neuadd newydd yn barod i'w defnyddio, gan ddyblu maint yr ysgol!
s-779 Mae'r gwaith yn parhau ar ddwy ystafell ddosbarth arall, a fydd yn agor yn fuan.
s-780 Mae'r holl waith adeiladu yn dilyn yr holl waith caled gan aelodau Cymdeithas Gymreig Trevelin i werthu darnau o dir er mwyn ariannu'r prosiect.
s-781 Mae'r ysgol yn ddiolchgar dros ben i'n holl ffrindiau o Gymru sydd wedi cyfrannu dros y blynyddoedd, ac sydd yn dal i gyfrannu hyd heddiw.
s-782 Un o'n prif gymwynaswyr yw Cymdeithas Hoelion Wyth, sydd wedi casglu dros £15,000 hyd yn hyn drwy werthu gwin o'r Ariannin nol yng Nghymru a gweddill y DU.
s-783 Pa Arlywydd Americanaidd a ymwelodd ag Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 1938?
s-784 Ble yng Nghaerdydd roedd Saunders Lewis yn byw pan ddechreuodd ysgrifennu ei ddrama Blodeuwedd?
s-785 Ym mha dafarn yng Nghaerdydd y byddai Iolo Morganwg yn cyfarfod â'i gyfeillion barddol?
s-786 Sut y cafodd Parc yr Arfau ei enw?
s-787 Pa gantores bop Gymraeg a Chernyweg a fagwyd yn Despenser St?
s-788 Annogir pawb i wisgo coch, gwyn a gwyrdd ar y diwrnod, ac wrth gwrs bydd nwyddau Eisteddfod 2019 ar werth ar stondin yr Urdd gan gynnwys hwdis a chrysau-T.
s-789 Nid yw'n orymdaith heb faneri, felly cynnigir gwobr ariannol i enillwyr cystadleuaeth creu ac arddangos baner ar y diwrnod, sy'n hyrwyddo'r ysgol/adran ac yn tynnu sylw at ddyfodiad yr Eisteddfod.
s-790 Gellir chwifio baner Cymru, Triban yr Urdd neu faner Owain Glyndŵr ar yr orymdaith hefyd.
s-791 Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl.
s-792 Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.
s-793 Gall Brexit achosi niwed anhygoel i Gymru.
s-794 Mae Plaid Cymru yn gwneud popeth y gallwn i amddiffyn ein gwlad.
s-795 Rydym yn aml yn clywed am yr 'argyfwng tai' ac mae wedi dod yn gyffredin i feddwl mai'r ateb i'r broblem eang a chymhleth hon yw 'mae angen i ni adeiladu mwy o dai'.
s-796 Dyma mae datblygwyr tai yn ei ddweud yn aml er mwyn gwanhau cyfyngiadau cynllunio a rheoliadau adeiladu.
s-797 Mae datblygiadau yn cael eu gwthio trwyddo hefyd heb fuddsoddiad digonol mewn seilwaith, gan achosi straen ar adnoddau a gwasanaethau cymunedau lleol.
s-798 Mae Patagonia yn lle rhyfeddol sy'n cynnig nifer o brofiadau i deithwyr gan gynnwys gweithgarwch antur, atyniadau naturiol, hanes a diwylliant brodorol - ac wrth gwrs, y Wladfa Gymreig.
s-799 Oedd y gydfodolaeth heddychol rhwng brodorion y Tehuelche a'r Gwladfawyr Cymreig yn ddigwyddiad anghyffredin os nad yn unigryw yn hanes gwladychu cyfandiroedd America?
s-800 Cwmni teithio â chysylltiadau gyda'r Wladfa, Patagonia yw Andes Celtig.

Text viewDownload CoNNL-U