s-501
| Rydym wedi gwneud hyn drwy hyfforddi pobl i ddefnyddio peiriannau arbenigol megis lli gadwyn er gwneud gwaith amgylcheddol yn yr ardal. |
s-502
| Bellach mae gwaith wedi ei wneud i ddiogelu cynefinoedd ac afonydd, datblygu mannau gwyrdd, a rheoli rhododendron ymysg nifer o weithgareddau eraill. |
s-503
| Yn sgil hyn mae nifer o bobl ifanc wedi datblygu sgiliau a derbyn cymwysterau sy'n eu galluogi i gael gwaith parhaol yn y maes. |
s-504
| Ym Mangor, mae partneriaeth unigryw rhwng aelodau etholedig Cyngor Gwynedd, Cyngor y Ddinas, y Brifysgol a chyrff eraill wedi cael ei sefydlu i adnabod a gweithredu ar y prif flaenoriaethau i wella delwedd y ddinas. |
s-505
| Mewn amser eithaf byr mae'r bartneriaeth wedi llwyddo i gyflwyno gwelliannau amlwg yn y ddinas, er enghraifft cyflogi gweithiwr efo cert ysgafn fydd yn codi ysbwriel ar y stryd fawr, a chael gwared o gannoedd o arwyddion 'Ar Osod' ar eiddo myfyrwyr. |
s-506
| Oes gennych chi fwy o gwestiynau i Williams? |
s-507
| Pam na ddewch chi i un o'r cyfarfodydd cyhoeddus |
s-508
| i'w holi'n bersonol? |
s-509
| Er gwaethaf yr hinsawdd ariannol hynod o anodd sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus, mae Cyngor Gwynedd yn dal i lwyddo i gyflwyno gwelliannau. |
s-510
| Mae llawer o sôn wedi bod am benderfyniad Llywodraeth San Steffan i newid budd-daliadau lles. |
s-511
| O fis Rhagfyr, bydd y Credyd Cynhwysol, i gefnogi pobl sydd ar incwm isel neu'n ddi-waith, yn cychwyn cael ei gyflwyno fesul cam yma yng Ngwynedd. |
s-512
| Oeddach chi'n gwybod y gall eich plentyn fod yn gymwys am ginio ysgol am ddim os ydych chi'n derbyn rhai budd-daliadau? |
s-513
| Oes rhywun wedi dweud wrthych chi eich bod wedi ennill cystadleuaeth na wnaethoch chi erioed gymryd rhan ynddi ? |
s-514
| Ydych chi wedi derbyn llythyr yn eich llongyfarch ar ennill loteri, neu e-bost, neges testun neu alwad ffôn yn pwyso arnoch i fuddsoddi i wneud elw cyflym? |
s-515
| Os ydych chi'n ansicr, neu'n teimlo y gallech chi fod yn cael eich targedu gan werthwyr digywilydd, dilynwch y cynllun tri cham. |
s-516
| Rhown bwys mawr fel Ysgol ar ofalu am fuddiannau ein myfyrwyr. |
s-517
| I'r perwyl hwnnw, drwy gydol eich amser yma cewch Diwtor Personol a fydd ar gael i'ch cynorthwyo gyda materion yn ymwneud â'ch cynnydd academaidd a'ch lles personol. |
s-518
| Yn ogystal, er mwyn ei gwneud hi'n haws ichi setlo yn ystod eich semester cyntaf, rhoddir Arweinydd Cyfoed i bob glasfyfyriwr: hynny yw, myfyriwr o'r ail neu'r drydedd flwyddyn a fydd yn barod i roi gair o gyngor ichi am faterion yn ymwneud â bywyd myfyriwr nodweddiadol. |
s-519
| Mae gan Fangor y stryd fawr hiraf yng Nghymru, gyda chymysg o siopau cenedlaethol a busnesau lleol bychan. |
s-520
| Mae'r mwyafrif o adeiladau'r Brifysgol a neuaddau o fewn pellter cerdded o ganol y ddinas. |
s-521
| Ym Mangor, mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnig canolbwynt ar gyfer gweithgareddau ac adloniant ac mae ein holl glybiau a chymdeithasau am ddim i ymuno â nhw. |
s-522
| Mae rhaglen fuddsoddi gwerth miliynau eisoes wedi arwain at neuaddau preswyl newydd i fyfyrwyr a chlwb nos newydd Undeb y Myfyrwyr a chyfleusterau academaidd. |
s-523
| Wnewch chi gadarnhau a yw'r dyddiad yn gyfleus os gwelwch yn dda? |
s-524
| Wnewch chi roi gwybod i mi os nad ydych yn gallu dod i'r cyfarfod mor fuan â phosib os gwelwch yn dda? |
s-525
| Oddi ar hynny, mae Steffan wedi perfformio'n helaeth yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, yr Iseldiroedd, yr Almaen, Awstria, yr Eidal, Cercyra (Corfu), Rwsia a Japan. |
s-526
| Mae Steffan yn chwarae 'cello a wnaethpwyd iddo yn 2006 gan ei daid, Clive Morris. |
s-527
| Sut rydym ni'n defnyddio Cwcis. |
s-528
| Rydym ni'n defnyddio dau fath o gwci yn y gwasanaethau arlein rydych chi wedi gofyn amdanynt . |
s-529
| Nid yw'r cwcis yn casglu gwybodaeth bersonol ac ni chaiff unrhyw wybodaeth bersonol ei hanfon i drydydd parti. |
s-530
| Crynodeb dealladwy o'r iaith lafar safonol, sy'n gyflwyniad arbennig i ddechreuwyr ac i ddysgwyr canolradd. |
s-531
| Saesneg yw cyfrwng y gyfrol, ond cynigir enghreifftiau buddiol i egluro'r gramadeg yn gryno ac yn effeithiol. |
s-532
| Nid yw'n cynnwys gormod o gymhlethdod nac amrywiadau llafar, felly mae'r dull yn addas i bron unrhyw ddysgwr cyhyd ag y gwŷr ychydig dermau gramadegol. |
s-533
| Mae canu yn iachus a chynhyrfiol, ac mae'n ymarferion yn cynnig cyfle gwych i wneud cyfeillion newydd. |
s-534
| Mae croeso i bob myfyriwr, aelod staff a graddedig diweddar, pa un a ydych wedi canu mewn côr o'r blaen neu beidio. |
s-535
| Nid oes clyweliadau. |
s-536
| Cynhelir ymarferion bob nos Fercher am 7.30 yn Neuadd Prichard-Jones. |
s-537
| Ymunwch â ni yn yr ymarfer cyntaf ar nos Fercher yr Wythnos Groeso (19 Medi), ac wedyn â pharti caws a gwin am ddim. |
s-538
| Mae croeso i'r offerynwyr lleol gorau gael clyweliad ar gyfer lle yng Ngherddorfa Symffoni'r Brifysgol hefyd. |
s-539
| Lleolir yr ysgol yn Ystum Taf ac mae'n gwasanaethu canolbarth dinas Caerdydd o'r gogledd i'r de. |
s-540
| Mae canolfan adnoddau i ddisgyblion ag anghenion dysgu dwys o bob rhan o'r awdurdod addysg lleol wedi ei lleoli yn yr ysgol. |
s-541
| Adlewyrchir prif ddyheadau'r ysgol yn arwyddair yr ysgol: 'Coron Gwlad ei Mamiaith' ac yn y datganiad 'Cymreictod, Cwrteisi, Parch'. |
s-542
| Y nod yn syml ydy creu cymuned ysgol croesawgar, cynhaliol a chyfeillgar a dinasyddion cyflawn, parchus a Chymreig. |
s-543
| Mae Ysgol Glantaf yn derbyn disgyblion 11 oed sy'n abl i dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg. |
s-544
| Pwysleisir wrth rieni a disgyblion mai Ysgol Gymraeg yw Ysgol Glantaf. |
s-545
| Rydym yn dilyn trefniadau'r Sir wrth dderbyn disgyblion sydd yn derbyn gofal. |
s-546
| Ein nod yw datblygu hyfedredd a hyder y disgyblion i ddefnyddio'r iaith drwy ystyried y gwaith o hybu'r Gymraeg yn waith i'r ysgol gyfan. |
s-547
| Ceisiwn sicrhau nid yn unig bod y disgyblion yn gyfan gwbl ddwyieithog pan fyddant yn gadael yr ysgol, ond hefyd eu bod yn ymwybodol o'u Cymreictod ac yn ymfalchïo ynddo . |
s-548
| Darparwn gyfleoedd i gyfoethogi defnydd y disgyblion o'r iaith Gymraeg fel cyfrwng yfathrebu. |
s-549
| Anelwn at ennyn brwdfrydedd cynyddol ymhlith y disgyblion drwy eu galluogi i weld perthnasedd yr iaith Gymraeg i fywyd beunyddiol yr ysgol a'r gymdeithas. |
s-550
| Pwy all dy gredu di? |
s-551
| Rwyt ti'n cymryd mantais ar gydymdeimlad pobl tuag at athrawon pentre a myfyrwyr. |
s-552
| Fel mae rhai sy'n fy nabod i'n bersonol yn gwbod, wnes i symud i fyw i Gaerdydd ar ddiwedd fis Medi eleni. |
s-553
| Buodd rhai o'r staff allan eto bore ma, yng nghanolfan ymwelwyr Betws y Coed tro hwn yn edrych yn nghwmni John Harold o Gymdeithas Eryri. |
s-554
| Croesawyd aelodau'r cyhoedd i ddod i edrych ar wyfynnod megis y crwbach cleisiog (marbled brown) a'r crwbach gwelw a gafodd eu dal yn Nhŷ Hyll neithiwr. |
s-555
| Tybed allwch ddarganfod y gwyfyn yn y llun yma a'i enwi? |
s-556
| Y Nadolig hwn mae disgyblion Ysgol Eifionydd wedi derbyn her i ddangos cefnogaeth i'w cymuned a chasglu 1000 o eitemau i fanciau bwyd lleol sy'n gwasanaethu'r ardal (Banc Bwyd Blaenau Ffestiniog a Phwllheli). |
s-557
| Mae'r disgyblion wedi ymateb yn hael a gyda brwdfrydedd i'r her ac mae cryn gasglu, cyfri a phacio wedi digwydd yn yr ysgol. |
s-558
| Hoffai'r ysgol ddiolch o galon i bawb sydd wedi cefnogi mor hael. |
s-559
| Y peth anodd am fyw mewn dinas fawr fel Lerpwl ydi'r ffaith bod rhaid i mi fyw ar ben fy hun. |
s-560
| A tydi o heb fod yn help fy mod i'n gorfod byw i ffwrdd o adre. |
s-561
| Mae'r cyfrifiadur yn ei gwneud hi'n bosib i gofnodi y cyfan o wybodaeth yr hil ddynol drwy'r oesau mewn un lle. |
s-562
| Enw ei fam oedd Angharad Jones a Saesneg oedd ei hiaith hi. |
s-563
| Roedd ei pherfformiad hi o'r gân yn solo lleisiol am rannau helaeth o'r gân. |
s-564
| Yn dilyn ei marwolaeth hi, mae'n ailbriodi ei gyfnither, sy'n cydymdeimlo ag achos y Crynwyr. |
s-565
| Mae astudiaeth Arendt o Dotalitariaeth wedi ei seilio ar ei hymgais hi i ddeall ei brif actorion a'i brif gynhwysion. |
s-566
| Yna mae'n rhedeg ar hyd y ffin rhwng Louisiana a Mississippi ond am ran olaf ei thaith hir rhed drwy Louisiana yn unig, gan fynd heibio i Baton Rouge. |
s-567
| Portreadodd yr hanesion am ei phlentyndod hi mewn ffordd gadarnhaol. |
s-568
| Mae fy nghyfnod i ar ben, ond mae'r freuddwyd yn fyw. |
s-569
| Dywedodd, 'addysgwyd fy nghenhedlaeth i o actorion i allu creu gwahanol bobl – dyna y dylai actor ei wneud'. |
s-570
| Maen nhw'n gallu darparu gwasanaeth pwrpasol sy'n ateb eich gofynion chi. |
s-571
| Ab urbe condita oedd y cymal yr oedd yr hen Rufeinwyr yn ei ddefnyddio ar gyfer cyfri'r blynyddoedd yn eu calendr nhw. |
s-572
| Yn y gaeaf neu'r gwanwyn mae'r blodau'n ymddangos a gall eu lliwiau nhw amrywio: gwyn, pinc, porffor neu las. |
s-573
| Yr wahaniaeth rhwng eu gwaith nhw a gwaith Mendeleev oedd ei lwyddiant wrth ragfynegi priodweddau elfennau newydd. |
s-574
| Yn hanesyddol er enghraifft, fe allwn gymharu olion dealltwriaeth cymdeithasau cynt er mwyn adnabod gwahaniaethau rhwng eu hesboniadau nhw am y byd. |
s-575
| Yn dilyn hyn, ailagorodd heddlu Portiwgal eu hymchwiliad nhw. |
s-576
| Diddorol sylwi bod T. Llew Jones, a hanai o'r un ardal â Caradoc Evans, wedi galw ei hunangofiant o fwriad yn 'Fy Mhobol I'. |
s-577
| Mae'r ddeuddyn ifanc yn cwympo mewn cariad ac mae hi'n beichiogi, ond wedyn mae hi'n dod i adnabod ei ethnigrwydd fe. |
s-578
| Yn ystod ei yrfa fe chwaraeodd fel mewnwr i glybiau Scarlets Llanelli. |
s-579
| Llofruddiwyd ef gan ei ddau hanner-brawd a chuddiwyd ei gorff fe na ellid dod o hyd iddo . |
s-580
| Yn ein hamser ni mae arlunwyr eraill wedi bod yn enwog. |
s-581
| Beth ydy eich enw chi? |
s-582
| Nid yn unig yw ein gwaith ni i geisio dod o hyd i atebion arbed ein hinsawdd, mae'n ddyletswydd arnom i ysbrydoli ac addysgu gwyddonwyr y dyfodol |
s-583
| Egwyddorion Rheolaeth Gynaliadwy sy'n diffinio ein dull ni o weithio. |
s-584
| Sut a phryd fyddwch chi'n cael eich talu |
s-585
| I gael gwybod mwy am ansawdd dŵr yn eich ardal chi, ewch i'n tudalen ar ansawdd dŵr. |
s-586
| Mae pryderon am ddyfodol gwasanaethau cerdd yng Ngheredigion, wrth i'r Cyngor Sir fwriadu torri'r gyllideb o 68%. |
s-587
| Mae'r cyngor eisoes wedi dechrau'r broses ymgynghori ar ddiswyddiadau gwirfoddol athrawon cerdd yn y sir. |
s-588
| Ond maen nhw'n cael eu cyhuddo o fethu â chynllunio dyfodol y gwasanaethau ar ôl y toriadau, yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan Gyfeillion Cerddorion Ifanc Ceredigion. |
s-589
| Gwnaethoch alw am ymchwiliad, ac ar yr achlysur hwnnw, roeddech yn llygad eich lle: dylem gynnal yr ymchwiliad hwnnw. |
s-590
| Darllenais yr erthygl roeddech wedi ei hysgrifennu yn 'Wales Home' gyda diddordeb. |
s-591
| Mae'r gwaith roeddech chi wedi'i gomisiynu gan McKinsey wedi dangos diffygion difrifol a diffyg arweiniad strategol yn eich gweinyddiaeth. |
s-592
| Roeddwn yn gwerthfawrogi'r modd y gwnaethoch gynnig y gwelliannau. |
s-593
| Roeddwn yn falch o'u gweld yn dod at ei gilydd. |
s-594
| Rydw i wedi siarad ag Elinor ac mae'r ddwy ohonom yn rhydd unrhyw ddiwrnod rhwng y 24ain o Orffennaf ac wythnos y Steddfod. |
s-595
| Beth a wnaeth y fath chwyldro sylfaenol yn bosibl? |
s-596
| Drwy agor siop roddion, caiff y plant gyfle i ymarfer y sgiliau. |
s-597
| Caiff manylion y busnes sydd i'w drafod yn y cyfarfod eu hanfon atoch yn nes ymlaen. |
s-598
| Erbyn mis Mawrth 1406, pan ysgrifennwyd y llythyr, roedd Glyndŵr wedi profi llwyddiannau aruthrol. |
s-599
| Wedi dechreuadau siomedig ym 1400 ysgubodd y gwrthryfel trwy'r holl wlad gan ennill buddugoliaethau milwrol, cipio nifer o brif gestyll Edward I a denu cefnogaeth gan frenin Ffrainc. |
s-600
| Coronwyd Glyndŵr yn dywysog Cymru ac fe gynhaliodd senedd gyda chynrychiolwyr o bob cwr o'r wlad. |