Dependency Tree

Universal Dependencies - Welsh - CCG

LanguageWelsh
ProjectCCG
Corpus Parttest

Select a sentence

Showing 402 - 501 of 953 • previousnext

s-402 Rwyf wedi cael mwynhad o ddarllen dyrnaid o lyfrau Cymraeg diweddar, yn nofelau a straeon.
s-403 O ran crefft, dawn a dyfais maent yn amrywio o'r da i'r ardderchog.
s-404 Daw'r llyfr bach hwn i ben ag ymarfer o 120 llinell fer.
s-405 Os gallwch gwblhau hwn yn llwyddiannus, gallwch ysgrifennu Cymraeg yn iawn.
s-406 Yng nghorff y llyfr ymdrinir â rhai materion ieithyddol, gan ganolbwyntio ar wendidau a welir heddiw oherwydd sefyllfa'r Cymro, ond gwendidau y gellir eu cywiro i gyd, dim ond arfer ychydig o synnwyr.
s-407 Dydi hiwmor a llyfrau gramadeg ddim yn mynd efo'i gilydd fel rheol.
s-408 Mae'n canolbwyntio ar y prif wendidau a welir mewn llawer o sgrifennu Cymraeg y dyddiau hyn.
s-409 Ei gyngor am y termau hunan-bwysig a chyfieithiedig a welir yn amlach ac amlach, ydi y gellir eu defnyddio'n gynnil iawn mewn cyd-destunau arbenigol yn unig, a hynny gyda phapur doctor.
s-410 Ond gall y Cymro call fynd drwy fywyd heb eu defnyddio o gwbl.
s-411 Ond mae oglau drwg arall hefyd, a gobeithio y daw chwa o wynt iachus i'w sgubo ymaith er lles yr Eisteddfod a lles pawb ohonom .
s-412 Yn fyr: rhaid torri'r cysylltiad rhwng yr Eisteddfod a chwmni niwclear Horizon.
s-413 Mae'r llyfr yn wyn.
s-414 Mae'r botel yn llawn.
s-415 Mae Alun mor dal â Siân.
s-416 Roedd ei ffrog hi mor wyn ag eira.
s-417 Rwyt ti cyn gryfed â fo.
s-418 Ydy'r ymenyn yma cyn rhated â'r ymenyn yna?
s-419 Oes chwaraewyr cystal â chi yn y tîm?
s-420 Mae'r ferch cynddrwg â'r bachgen.
s-421 Mae e'n fwy tal na thi.
s-422 Mae hi'n gryfach na fi.
s-423 Dydw i ddim wedi gweld merch harddach erioed.
s-424 Hi ydy'r ferch fwyaf prydferth yn yr ysgol.
s-425 Wnaeth hi chwerthin mor uchel.
s-426 Gwelais i nhw.
s-427 Glywoch chi fi?
s-428 Hi sy'n canu heno.
s-429 Hwn yw'r bachgen gorau yn y dosbarth.
s-430 Hon yw'r ferch sy'n medru siarad pump iaith.
s-431 Maen nhw wedi lladd eu hunain.
s-432 Tu hwnt i'r arwydd, yn wynebu pawb sy'n cyrraedd y dref, mae canolfan wybodaeth a thair baner yn chwifio.
s-433 Fydd yna ddim tâl mynediad i Faes Eisteddfod yr Urdd y flwyddyn nesaf pan fydd hi'n ymweld â Bae Caerdydd.
s-434 Mae trefnwyr prifwyl ieuenctid Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw am ddilyn yr un patrwm â'r Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd eleni.
s-435 Mae dau fyfyriwr yn Rhydychen wedi sefydlu rhwydwaith er mwyn annog myfyrwyr i ddychwelyd i Gymru a chyfrannu at ei dyfodol.
s-436 Nid yw defnydd yr iaith wedi treiddio'r boblogaeth cystal ag yn Tansanïa, yn rhannol oherwydd mai Saesneg yw cyfrwng addysg Cenia.
s-437 Ni chyrhaeddodd yr eira mawr mor belled a Thywyn ar y 21 Ionawr.
s-438 Rhoddodd hyn gryfder i de Gaulle yn nhrafodaethau Évian ym Mai 1961, ond oherwydd ei fynegiadau cyhoeddus niferus o'i ddymuniad i ddod â therfyn i'r rhyfel mor gynted ag oedd yn bosib, bu rhaid iddo wneud nifer o gonsesiynau i'r FLN.
s-439 Ar 8 Ebrill 1962, cadarnhawyd cytundebau Évian gan 90% o bleidleiswyr yn Ffrainc fetropolitanaidd, ac ym 1962 enillodd Algeria ei hannibyniaeth.
s-440 Os ydych am weld pa mor ddrwg yw hi a chyrraedd y storïau arswyd, ystyriwch hyn.
s-441 Nid oes rhyfedd fod llawer o bobl o'r gogledd yn teimlo mor elyniaethus tuag at y sefydliad hwn.
s-442 Yr ydym wedi cael dadl ganolbwyntiol ar fferyllfeydd yng Nghymru, ac mae'n flin gennyf eich bod wedi dod â chwestiwn mor ddadleuol ymlaen yn awr mewn ymgais i boliticeiddio'r mater.
s-443 Mae'r Llywodraeth wedi bod cystal â'i gair, ac yr wyf yn ddiolchgar bod John Griffiths wedi gallu sicrhau'r buddsoddiad ychwanegol hwnnw.
s-444 Dyma ble bydd ein strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg mor bwysig.
s-445 Mae un bore o salwch yn rhywbeth i rolio dy lygaid arni .
s-446 Cilwenu hyd yn oed, mewn ffordd eironig.
s-447 Heddiw, dwi angen swnio'n gall am un alwad efo cyhoeddwr mawr.
s-448 Chwe mlynedd yn ôl ces gyflwyniad i'r byd hwn am gyfnod sylweddol iawn.
s-449 Nid y fi oedd yn glaf ond fy Mam a Nhad, a dderbyniodd ddiagnosis canser o fewn misoedd i'w gilydd.
s-450 Ymhen dwy flynedd clywais i bod na ddrama Gymraeg ar y gweill ynglyn â nyrsys - a nyrsys canser yn benodol.
s-451 Mae ymgyrchwyr iaith wedi gosod sticeri ar wyth deg o arwyddion ffyrdd Cyngor Wrecsam dros y penwythnos.
s-452 Mae cannoedd o arwyddion 'Ildiwch' yn sefyll ar hyd a lled y sir wedi eu gosod yn uniaith Saesneg, 'Give Way', ac felly hefyd yn anghyfreithlon, yn ôl cadeirydd Cell Wrecsam o Gymdeithas yr Iaith, Aled Powell.
s-453 Esboniodd Aled Powell pam fod un math o arwydd wedi ei drin yn wahanol: 'Dyw siâp unigryw'r arwyddion hyn ddim yn caniatáu gosod y gair Cymraeg islaw'r term Saesneg felly roedd yn rhaid i Gyngor Wrecsam gwneud eithriad i'w gynllun iaith Gymraeg.'
s-454 Ond yn hytrach na rhoi'r Gymraeg yn gyntaf, penderfynodd y Cyngor peidio â rhoi'r Gymraeg o gwbl.
s-455 Mae canolfan gelfyddydol ym Mlaenau Ffestiniog wedi codi digon o arian er mwyn achub eu sinema.
s-456 Bu dyfodol Cellb yn y fantol ers i dywydd garw achosi difrod yno'r llynedd, ac wedi i gais am daliad yswiriant gael ei wrthod.
s-457 Ond bellach mae grŵp a gafodd ei sefydlu er mwyn achub y sinema y Gwallgofiaid wedi llwyddo i godi £10,000 i'w achub trwy ymgyrchu ar-lein.
s-458 'Rydan ni wedi cyrraedd y targed!' meddai neges ar gyfrif Facebook Cellb.
s-459 'Gwych, diolch am eich cefnogaeth dros y pedair wythnos diwethaf.'
s-460 Mae rhaid i athrawon sydd am addysgu mewn ysgolion cynradd yn rhai ardaloedd awdurdod lleol yng Nghymru fedru'r Gymraeg i ryw lefel, hyd yn oed os mai mewn ysgolion Saesneg ydyn nhw am addysgu.
s-461 Astudiaeth wyddonol o hanes a diwylliant dyn drwy ddatguddio a dadansoddi olion ffisegol yw archaeoleg.
s-462 Gall yr olion fod yn bensaernïol, yn olion dynol, neu'r tirlun hyd yn oed.
s-463 Nod yr archaeolegydd yw rhoi goleuni ar hanes ac ymddygiad dyn dros dymor hir.
s-464 Dyma restr o wledydd a ddaeth yn annibynnol oddi wrth Sbaen, ac a nodir ar y map isod.
s-465 Daeth y gwledydd hyn yn annibynnol dros ystod eang o amser, gan gychwyn yn y 17 g (Portiwgal).
s-466 Mae'n gwahanu yr IJsselmeer oddi wrth y Waddenzee ac yn cysylltu taleithiau Noord-Holland a Friesland ar hyd y briffordd Rijksweg 7.
s-467 Mae troeth yn dod i mewn oddi wrth yr arennau, ac yn gadael trwy'r wrethra.
s-468 Mynydd yn y Carneddau yn Eryri yw Pen yr Helgi Du; saif yn sir Conwy, ar y grib sy'n ymestyn tua'r de-ddwyrain oddi wrth brif grib y Carneddau, gan gychwyn ar ochr ddwyreiniol Carnedd Llywelyn ac arwain dros gopa Pen yr Helgi Du a gorffen gyda Pen Llithrig y Wrach uwchben Llyn Cowlyd.
s-469 Caiff y copa ei wahanu oddi wrth Garnedd Llywelyn gan Fwlch Eryl Farchog, gyda chlogwyni Craig yr Ysfa islaw.
s-470 I'r gorllewin o'r copa mae Ffynnon Llugwy, ac ar yr ochr ddwyreiniol mae Cwm Eigiau.
s-471 I'r de-ddwyrain mae Bwlch y Tri Marchog yn ei wahanu oddi wrth gopa Pen Llithrig y Wrach.
s-472 Gan ddefnyddio offer, gellir ei wneud trwy godi'r corff oddi ar stand a'i godi'n ôl oddi ar gadair Rufeinig, neu drwy ddefnyddio peiriant ymestyn y cefn pan fo'r corff yn gwthio pwysau am i fyny.
s-473 Fe'i lleolir oddi ar flaen deheuol Gorynys Malaya, 137 km i'r gogledd o'r Cyhydedd.
s-474 Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wedi anfon neges at holl aelodau ei phlaid yn eu hannog i ddal i gredu yn nyfodol Cymru yn Ewrop.
s-475 'Er bod y Ceidwadwyr a Llafur fel ei gilydd yn chwarae gemau yn lle cynnig atebion, dyw popeth ddim ar ben,' meddai.
s-476 Mi ddylai Llywodraeth Cymru fod yn dechrau rŵan ar ymgyrch i gael statws treftadaeth byd i Gynghanedd a Cherdd Dant ac, efallai, yr Eisteddfod hefyd.
s-477 Ddechrau'r mis, roedd yna lot o sylw wrth i gerddoriaeth reggae gael ei chynnwys ar restr UNESCO o enghreifftiau rhyngwladol i Dreftadaeth Ddiwylliannol Na Allwch ei Chyffwrdd mi ddylai ein diwylliant ninnau gael ei gynnwys.
s-478 Mae yna gannoedd o enghreifftiau o bob cornel o'r byd eisoes wedi eu cynnwys ar y rhestr sy'n cyfateb i Safleoedd Treftadaeth Byd ym mae adeiladau, safleoedd hanesyddol a mannau naturiol eithriadol.
s-479 Mewn cyfnod gwleidyddol cyffrous, dyma eich cyfle chi i wneud gwahaniaeth go iawn drwy weithio i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
s-480 Cewch roi eich brwdfrydedd a'ch sgiliau trefnu ar waith i alluogi ymgyrchoedd a fydd yn cryfhau'r Gymraeg a chymunedau yng Ngogledd Cymru.
s-481 Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda'r nod o dynnu aelodau i mewn i'n hymgyrchoedd ac yn cynorthwyo swyddogion eraill i gyflawni'r nod hwn.
s-482 Bydd yn gyfrifol am hybu ymgyrchoedd lleol y Gymdeithas, lledaenu ein neges a chynyddu aelodaeth ar hyd y rhanbarthau, gan annog aelodau i sefydlu a chynorthwyo celloedd lleol (sef canghennau lleol y mudiad) a grwpiau ymgyrch, gan gynnwys ysgolion a phrifysgolion.
s-483 Mae bron hanner o'r holl fyfyrwyr sy'n astudio cwrs gradd trwy gyfrwng y Gymraeg bellach yn gwneud hynny ym Mhrifysgol Bangor.
s-484 Meddai'r Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-gangellor Prifysgol Bangor: 'Mae cael cyfundrefn addysg cyfrwng Cymraeg gyflawn, sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc Cymru ddysgu ac astudio drwy'r Gymraeg o'r cyfnod meithrin hyd at gyfnod addysg uwch, yn gwbl allweddol at ffyniant yr iaith.'
s-485 Gwelwyd yn ddiweddar fod Prifysgol Bangor yn arwain mewn sawl maes sy'n ymwneud â'r Gymraeg.
s-486 Yn ogystal â bod yn ddarparwr addysg uwch cyfrwng Cymraeg o bwys, mae'n wych gweld Prifysgol Bangor yn arwain ar yr holl elfennau atodol hynny ymchwil, polisi a thechnoleg sy'n cyfrannu at gyrraedd nod Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
s-487 Nid agweddau ar wahân mo rhain, yn bodoli mewn gwagleoedd, ond yn hytrach y seilwaith sydd ei hangen arnom wrth i ni gyrchu'r nod uchelgeisiol hwn.
s-488 Pont, pontydd a mwy o bontydd.
s-489 Mae 2018 wedi bod yn flwyddyn gyda mwy na'i siâr o bontydd.
s-490 O ailenwi un dros Afon Hafren i ddymchwel hen un reilffordd yn Llangefni.
s-491 Ac yna ychydig fisoedd yn ôl daeth y cawr o gyhoeddiad bod trydydd pont i fod ar draws Y Fenai.
s-492 Lleihau tagfeydd traffig rhwng Ynys Môn a'r tir mawr ydy'r bwriad.
s-493 Byddai trydydd pont yn gwella amseroedd teithio, yn caniatáu i'r traffig lifo'n well ac yn sicrhau bod yr A55 yn gallu ymdopi'n well, yn ogystal â sicrhau bod mwy o gyfleoedd i deithio yn llesol.
s-494 Byddai'n sicrhau bod y rhan yma o'r ffordd yn addas at y diben am sawl blwyddyn i ddod.
s-495 Beth sydd ar fwydlen Cegin Arfon?
s-496 Mae'r caffi yng Nghanolfan Hamdden Arfon yng Nghaernarfon wedi ailagor yn ddiweddar ar ôl gwaith adnewyddu.
s-497 Yn ogystal â byrbrydau iach, mae Cegin Arfon yn cynnig cyfleoedd profiad gwaith a hyfforddiant i oedolion ag anableddau dysgu o'r ardal.
s-498 Bydd yr hyn a ddywedwch yn helpu Cynghorwyr Gwynedd i wneud y dewisiadau gorau bosib wrth benderfynu sut i wario'r swm cyfyngedig o arian a fydd ar gael iddyn nhw i dalu am wasanaethau Cyngor Gwynedd o 2019 ymlaen.
s-499 Mae copïau papur o'r holiadur hefyd ar gael o'r tair Siop Gwynedd - Swyddfa Dwyfor ym Mhwllheli, Swyddfa Penarlag yn Nolgellau a Stryd y Castell yng Nghaernarfon - ac o'ch llyfrgell neu ganolfan hamdden leol.
s-500 Ym Mlaenau Ffestiniog mae Cyngor Gwynedd wedi cefnogi Y Dref Werdd - menter gymdeithasol sy'n gweithio er lles yr amgylchedd a'r gymuned leol.
s-501 Rydym wedi gwneud hyn drwy hyfforddi pobl i ddefnyddio peiriannau arbenigol megis lli gadwyn er gwneud gwaith amgylcheddol yn yr ardal.

Text viewDownload CoNNL-U