cy-ccg-test-c14.txt.clean
Universal Dependencies - Welsh - CCG
Language | Welsh |
---|
Project | CCG |
---|
Corpus Part | test |
---|
Annotation | Heinecke, Johannes; Tyers, Francis; |
---|
View options
Text: - Show: - Tags:
Javascript seems to be turned off, or there was a communication error. Turn on Javascript for more display options.
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
Ond hefyd, dw i isio agor o allan fel bod mwy o bobol yn gwybod am be ydan ni'n ei wneud. Y Cymro Cymraeg fydd wythfed Is-Ganghellor neu Bennaeth Prifysgol Bangor, a gafodd ei sefydlu yn 1884. Mae'n olynu'r Athro Graham Upton yn y swydd, a gafodd ei benodi'n Is-Ganghellor Dros Dro yn dilyn ymddeoliad yr Athro John G Hughes ddiwedd y llynedd, a hynny wedi naw mlynedd wrth y llyw. Mae'n gam yn ôl rhyw 30 o flynyddoedd. Bod rhywun yn coleddu'r fath agwedd at y Gymraeg yng Nghymru. Roedd yn siom yn fwy nad dim. Ar ôl tanysgrifio ers blynyddoedd i'r cylchgrawn, dyma'r tro cyntaf i neges o'r fath gael ei hysgrifennu ar yr amlen er bod y cod post yn amlwg ar y cyfeiriad. Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd rhwng 27 Mai – 1 Mehefin, ac mae'n cynnig mynediad rhad ac am ddim am y tro cyntaf yn ei hanes. Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cyhoeddi y bydd tair ysgol gynradd yn ne'r sir yn cau yn yr haf. Mewn cyfarfod llawn o'r cyngor ddoe (dydd Gwener, Mai 24), gwnaed penderfyniadau i gau ysgolion cynradd Beulah, Cilcennin a Threwen. Daw hyn er gwaethaf galwadau gan rieni a chynghorwyr lleol i gadw'r ysgolion ar agor.
Download XML • Download text
• Sentence view • Dependency trees