cy-ccg-train-c24.txt.clean

Universal Dependencies - Welsh - CCG

LanguageWelsh
ProjectCCG
Corpus Parttrain
AnnotationHeinecke, Johannes; Tyers, Francis;

Javascript seems to be turned off, or there was a communication error. Turn on Javascript for more display options.

index sentence 1 - 6 > sentence 7 - 17

Mae'r Cyngor Celfyddydau yn chwilio am Gyfarwyddwr fydd yn gyfrifol am yr iaith Gymraeg o fewn y sefydliad, ond fydd dim rheidrwydd ar y swyddog hwnnw i fedru siarad yr iaith. Dywed y Cyngor Celfyddydau mewn swydd ddisgrifiad: Rydyn ni'n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, felly mae rhuglder yn y Gymraeg (wrth ysgrifennu ac wrth siarad) yn ddymunol, er nad yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae ymgyrchwyr iaith wedi disgrifio'r sefyllfa fel 'dipyn o ffars' ac yn mynnu bod angen i Gyfarwyddwr sy'n gyfrifol am y Gymraeg fedru siarad yr iaith, neu fynd ati i'w dysgu yn dilyn penodiad. Byddwn i'n dweud bod agwedd tuag at y Gymraeg yn mynd yn bell iawn, er bod y peth ar y wyneb yn ffars. Dyw e ddim yn ddigon da i ddweud bod gallu'r Gymraeg yn ddymunol, dylai ddweud ei fod yn hanfodol neu fod y person yn dysgu o fewn blwyddyn.

Download XMLDownload textSentence viewDependency trees