cy-ccg-train-c17.txt.clean

Universal Dependencies - Welsh - CCG

LanguageWelsh
ProjectCCG
Corpus Parttrain
AnnotationHeinecke, Johannes; Tyers, Francis;

Javascript seems to be turned off, or there was a communication error. Turn on Javascript for more display options.

indexsentence 7 - 17 < sentence 18 - 28 > sentence 29 - 39

Dyw union leoliad y digwyddiad ddim wedi cael ei gyhoeddi ac mae'r nifer cyfyngedig o lefydd ar gyfer y digwyddiad eisoes wedi eu llenwi. O Fangor, mi fydd Jeremy Corbyn yn ymweld ag Aberconwy am ddau y prynhawn, cyn cynnal digwyddiad tebyg ym Mae Colwyn am 3.30. Dyw union leoliadau'r digwyddiadau hyn ddim wedi'u datgelu chwaith. Derbyniodd Comisiynydd y Gymraeg gerdyn Nadolig dychanol oddi wrth ymgyrchwyr heddiw sy'n honni bod Llywodraeth Cymru wedi ei lwgrwobrwyo i wanhau hawliau iaith. Yn gynharach eleni, darganfuwyd gohebiaeth oddi wrth Weinidog y Gymraeg at y Comisiynydd yn pwyso arno i gynnal llai o ymchwiliadau. Yn ôl rhagor o ddogfennau a ryddhawyd drwy geisiadau rhyddid gwybodaeth, ym mis Awst eleni anfonodd y Comisiynydd lythyr at Weinidog y Gymraeg yn brolio ei fod yn cynnal llai o ymchwiliadau i gwynion gan ddweud ei fod 'ddiolchgar' i'r Gweinidog am ei 'harweiniad ar y mater'. Ymatebodd y Gweinidog gan ddweud ei bod yn 'croesawu' yr ystadegau 'calonogol'. Roedd Merêd yn arbenigwr ym maes cerddoriaeth werin Gymraeg, a bu wrthi , ynghyd â'i wraig Phyllis Kinney, am ddegawdau yn gwneud gwaith diwyd yn casglu ac yn cofnodi caneuon gwerin. Nawr, bwriad y llyfrgell yw i ddatblygu cronfa o gerddoriaeth werin yn seiliedig ar y gwaith ymchwil yma, a'i gwneud ar gael i bobl allu pori drwyddi . Pan es i yno, oeddwn i'n teimlo mod i eisiau misoedd, os nad blynyddoedd, i gael fy mhen rownd y cyfan. Ar ôl i mi fynd adre y diwrnod cyntaf, oedd fy mhen i'n troi.

Download XMLDownload textSentence viewDependency trees