cy-ccg-test-c15.txt.clean

Universal Dependencies - Welsh - CCG

LanguageWelsh
ProjectCCG
Corpus Parttest
AnnotationHeinecke, Johannes; Tyers, Francis;

Javascript seems to be turned off, or there was a communication error. Turn on Javascript for more display options.

index sentence 1 - 6 > sentence 7 - 17

Eisteddwn ar y bont yn nhref Llanrwst a chofio am brotestwyr Pont Trefechan ym 1963. Safwn ar bont arall, wrth ymyl y maes, yn ysgwyd y strwythur metal fel teyrnged i brotestwyr Hong Kong 2019. Mae'r naws yn llac ac yn ysgafn ond hefyd yn gyfoethog â chydnabyddiaeth o frwydrau hanesyddol lleol a rhyngwladol. Trwy gydol y daith, ry'n ni'n cael ein cymell i ystyried gwahanol ffyrdd o ymyrryd mewn gofodau cyhoeddus er mwyn gorfodi newid, i ystyried sut y gall protest fod yn theatr, a theatr yn brotest, a'r graddau y gall y dychymyg torfol fod yn arf, dim ots beth yw'r frwydr. Ar y maes eleni mae stondin Yes Cymru yn brysur. Dyma'r Eisteddfod gyntaf ers i sticeri coch y mudiad ddod yn rhan eiconig ac anochel o wead gweledol strydoedd ein dinasoedd a'n ffyrdd gwledig.

Download XMLDownload textSentence viewDependency trees