cy-ccg-test-c13.txt.clean

Universal Dependencies - Welsh - CCG

LanguageWelsh
ProjectCCG
Corpus Parttest
AnnotationHeinecke, Johannes; Tyers, Francis;

Javascript seems to be turned off, or there was a communication error. Turn on Javascript for more display options.

indexsentence 1 - 6 < sentence 7 - 17 > sentence 18 - 28

Ni yw'r anifeiliaid sy'n siarad. Dim ond trwy siarad â'n gilydd ydyn ni wedi llwyddo creu'r byd anhygoel, prydferth a pheryglus tu hwnt yma. Y Gyngres Astudiaethau Celtaidd Ryngwladol yw'r prif gynulliad rhyngwladol ar gyfer ysgolheigion sy'n ymchwilio i ieithoedd, llenyddiaethau a thraddodiadau diwylliannol y bobloedd hynny sydd ac a fu'n siarad ieithoedd Celtaidd. Fe'i cynhelir bob pedair blynedd ac mae'n cynnig llwyfan ar gyfer arbenigwyr yn holl ystod Astudiaethau Celtaidd sy'n cynnwys llenyddiaeth, ieithyddiaeth, hanes, archaeoleg, cerddoreg a hanes celf i ddod ynghyd i rannu ffrwyth eu llafur academaidd. Ar 9 Mai bydd y Brifysgol, ynghyd â llawer iawn o sefydliadau eraill ar draws y DU ac Ewrop, yn nodi Diwrnod Ewrop gyda nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau. Mae'r Undeb Ewropeaidd yn dathlu'r diwrnod hwn i nodi cyhoeddi Datganiad Schumann a wnaed yn 1950, sy'n cael ei ystyried fel un o'r camau cyntaf swyddogol yng nghreadigaeth yr Undeb fel y mae hi heddiw. Mae'r trydydd pennill yn codi pwynt gwleidyddol sydd dal yn berthnasol heddiw. Mae'n dweud bod y ddaear yn creu digon o fwyd i bawb ond y problem yw bod dynion ddim yn gallu byw ochr yn ochr a'u gilydd 'mewn cyflwr heddychlon'. Mae fy ymchwil wedi dweud wrthai bod y geiriau i gyd wedi eu ysgrifennu gan yr un person. Gan fod y pennill yn cynnwys neges cryf baswn i ddim yn synnu tasau'n dod fyny mewn caneuon eraill byddai'n cadw fy llygaid allan amdani o hyn ymlaen! Cafodd yr alaw ei gasglu gan John Owen o Ddwyrain Sir Fôn oddi wrth ganu Robert (Robyn) Hughes, y crydd o Rhengc Fawr, Dwyrain Sir Fôn.

Download XMLDownload textSentence viewDependency trees