Dependency Tree

Universal Dependencies - Welsh - CCG

LanguageWelsh
ProjectCCG
Corpus Parttrain
AnnotationHeinecke, Johannes; Tyers, Francis;

Select a sentence

s-1 Allaf i ddim credu bod rhywun wedi bod mor garedig â meddwl amdanaf i a rhoi'r bwyd bendigedig yma i fi.
s-2 Mae atgofion annwyl amdanat ti am byth.
s-3 Beth oeddech chi'n chwilio amdano ?
s-4 Beth os oes angen atgyweirio rhywbeth nad yw ateb yn gyfrifol amdano fo?
s-5 Rwyf yn rhyfeddu at ba mor wych y bu Hosbis Dewi Sant yn gofalu amdani hi.
s-6 Mae angen pobl arnon ni gyd er mwyn meithrin, arwain a gofalu amdanon ni ar wahanol adegau o'n bywydau.
s-7 Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch chi pan fyddwch chi'n cwblhau ffurflen neu yn gofyn cwestiwn i ni trwy ein gwefan.
s-8 Bob mis mae ein timau'n ysgrifennu blog am y llefydd arbennig maen nhw'n gofalu amdanyn nhw.
s-9 Gwnaeth y cyfeillgarwch a wnaed a charedigrwydd a haelioni'r bobl a'r cymunedau Cymreig traddodiadol ar hyd y daith argraff ddofn arnaf i
s-10 Gallet ti hefyd hawlio lwfansau am fod yn gynghorydd, fel cael ad-daliad am gostau gofal plant neu bobl hŷn sy'n ddibynnol arnat ti yn ogystal â chostau teithio.
s-11 Dyn wedi'i ymosod arno fo ym Mhrestatyn.
s-12 Cerdyn sydd wedi ei ddylunio er mwyn ei osod mewn pwrs neu mewn poced, ac yn cynnwys rhif cyswllt sydd ar gael 24 awr y dydd yn nodi bod deiliad y cerdyn yn Ofalwr ac yn rhoi gwybod bod rhywun yn dibynnu arno ef neu arni hi.
s-13 Pam mae arnon ni angen rhagor o goed?
s-14 A yw llifogydd yn effeithio arnoch chi?
s-15 Bydd y dyraniad ychwanegol o gyllid yn ein galluogi ni i symud ymlaen â nifer o brosiectau y cytunwyd arnyn nhw yn flaenorol ar safleoedd ledled y Fwrdeistref Sirol.
s-16 Dim gobaith gan Blaid Cymru o gipio sedd hebdda' i.
s-17 Nid wyf yn deud gormod wrth ddweud na hebdda ti ni buaswn wedi cyrraedd yr lle.
s-18 Ni allwn fyw hebddo fo.
s-19 Ymddiriedaeth yw conglfaen hanfodol ein sefydliad, oherwydd hebddi ni fydd pethau gystal.
s-20 Oedd bron iawn i Mererid fynd hebddon ni.
s-21 Mae'r gêm wedi dechrau hebddoch chi.
s-22 Bydd y trên wedi mynd hebddyn nhw.
s-23 Ni ddôf yn ôl atat ti.
s-24 Dwi 'di tyfu fyny yn edrych fyny ato fo.
s-25 Mae Gethin yn flin gyda Sheryl am gyhuddo Ffion o anfon y llythyr cas ati hi a Hywel
s-26 Gallwch chi ennill £ 150 drwy anfon eich adborth aton ni!
s-27 Ble bynnag yr ydych, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru'n ceisio bod â swyddfa yn agos atoch chi.
s-28 Mae'r manylion cyflwyno y cyfeirir atyn nhw wedi dod i ben.
s-29 Fedrwn i ddim credu beth oeddwn i'n ei deimlo o dana i.
s-30 Fe glywais i'r bom yn gwneud sŵn cloncian o danon ni.
s-31 Mae'n amhosib osgoi galw draw i deimlo'r tywod rhwng bodiau eich traed wrth i chi gerdded Llwybr Arfordir Cymru pan fydd y traeth rhagorol hwn yn ymddangos o danoch chi.
s-32 Mae tad yn talu drosta fi.
s-33 Peidiwch a phoeni drosta i, na wnewch?
s-34 Byddwn i'n gwneud unrhyw beth drostat ti.
s-35 Mae'n rhywbeth dydyn nhw ddim yn mynd i ddod drosto fo.
s-36 Rydw i dal yn teimlo'n flin drosto fe!
s-37 Fi'n teimlo'n sorri drosto fe.
s-38 A bydd y Gweinidog yn ateb drosti hi'i hun.
s-39 Allet ti fynd i'r siop droston ni?
s-40 Mae'n ddrwg gan fy nghalon i drostoch chi!
s-41 Os na allwch chi fforddio ad-dalu'r ddyled yn llawn, mae gwneud cytundeb nwyddau a reolirgyda'r beili yn ei atal rhag cymryd y nwyddau y mae wedi cymryd rheolaeth drostyn nhw.
s-42 Mae'n ddrwg gen i.
s-43 Mae gen ti ddewis.
s-44 Mae ganddo fo wallt cyrliog.
s-45 Does dim hawliau ganddo fe.
s-46 Mae disgwyl datganiad ganddi hi yfory yn cydnabod y bu gorlwytho ar fyfyrwyr dosbarth chwech ac ar athrawon.
s-47 Dyma'r straeon gorau sydd ganddon ni.
s-48 A mae gennym ni fwydlen arbennig ar eich cyfer.
s-49 Mae gennon ni rai straeon gwych am y tywydd.
s-50 Fydd fy nghyfnod i ar y bwrdd yn dod i ben cyn hir ond mae'r elusen yn mynd i gario mlaen ac yn mynd i fod yn ran mawr ohona fi am byth dwi'n meddwl.
s-51 Ond mae'n rhaid i ti gofio cymaint o feddwl oedd ganddo fo ohonat ti.
s-52 Mae'r ŵyl yn dathlu cynnyrch Cymreig, ac mae llawer ohono 'n gynnyrch lleol.
s-53 Cenhadaeth ein cenedl yng Nghymru yw codi safonau, gwella cyrhaeddiad ein plant a sicrhau bod gennym system addysg y gall y genedl fod yn falch ohoni ac y gall y cyhoedd hyderu ynddi .
s-54 Mae pob un ohonon ni yn hoffi paned da gyda thipyn o gacen.
s-55 Llwyddodd hwn dwyllo llawer ohonoch chi.
s-56 A dweud y gwir mae 'na ormod ononyn nhw.
s-57 Mi ddaeth fy merch arall, Lisa, nôl o Lundain i fagu ei phlant hi hefyd ac mae hi'n byw chwech oddi wrthaf fi, yn hen mam.
s-58 Bydd e'n brofiad da i ti, a dwed wrthof fi be ti'n 'i weld.
s-59 Ga' i ofyn rywbeth wrthot ti?
s-60 Dwi'n siŵr bod dy fam wedi esbonio'r cyfan wrthot ti.
s-61 Doedd Non ddim wedi deud gair wrtho fo.
s-62 Fel hyn, gallwn i addurno'r stori y cyfan pan ddywedais wrthi hi ac ni fyddai'n gwybod os yw'n i gyd yn wir.
s-63 Os na ddywedwch chi wrthon ni am newidiadau, mae'n bosibl y byddwch chi'n derbyn gormod o fudd-dal.
s-64 Anghofiais i ddweud wrthoch chi.
s-65 Dwedith e wrthoch chi yfory.
s-66 Os ydyn nhw'n dweud eu bod nhw'n 'gasglwr dyledion', dywedwch wrthyn nhw am adael.
s-67 Wrth edrych yn ôl, fedrai weld sut oedd fy meddwl i'n creu'r problemau a'r pellter rhyngdda fi a'm ffrindiau.
s-68 Mi stwffiodd ei hun i eistedd rhyngddo fo a'i ffrindiau.
s-69 Roedd pethau rhyngddo fe a Mam ddim wedi bod yn dda ers amser.
s-70 Ond dydy hi ddim yn ymwybodol bod Macs yn gwybod am yr affer rhyngddi hi a Cai.
s-71 Aeth pethau'n flêr rhyngddon ni ond mae'r pethau ma'n digwydd, onid ydyn nhw?
s-72 Mae'n deg casglu felly bod yna gyfeillgarwch rhyngddoch chi.
s-73 Ni all dim fod yn well na sgwrsio gyda'ch plentyn a chadw llinellau cyfathrebu yn agored rhyngddoch chi a'ch plentyn.
s-74 Mae cynnydd ym Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles (Maes) yn aflinol ac yn dilyn gwahanol lwybrau yn ystod y camau cynnydd a rhyngddyn nhw.

Text viewDownload CoNNL-U