Dependency Tree

Universal Dependencies - Welsh - CCG

LanguageWelsh
ProjectCCG
Corpus Parttrain
AnnotationHeinecke, Johannes; Tyers, Francis;

Select a sentence

s-1 Mae'r Cyngor Celfyddydau yn chwilio am Gyfarwyddwr fydd yn gyfrifol am yr iaith Gymraeg o fewn y sefydliad, ond fydd dim rheidrwydd ar y swyddog hwnnw i fedru siarad yr iaith.
s-2 Dywed y Cyngor Celfyddydau mewn swydd ddisgrifiad:
s-3 Rydyn ni'n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, felly mae rhuglder yn y Gymraeg (wrth ysgrifennu ac wrth siarad) yn ddymunol, er nad yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
s-4 Mae ymgyrchwyr iaith wedi disgrifio'r sefyllfa fel 'dipyn o ffars' ac yn mynnu bod angen i Gyfarwyddwr sy'n gyfrifol am y Gymraeg fedru siarad yr iaith, neu fynd ati i'w dysgu yn dilyn penodiad.
s-5 Byddwn i'n dweud bod agwedd tuag at y Gymraeg yn mynd yn bell iawn, er bod y peth ar y wyneb yn ffars.
s-6 Dyw e ddim yn ddigon da i ddweud bod gallu'r Gymraeg yn ddymunol, dylai ddweud ei fod yn hanfodol neu fod y person yn dysgu o fewn blwyddyn.
s-7 Does dim eisiau gwahanu rhwng pobol ddi-Gymraeg a Chymraeg, ond mae angen gofyn iddyn nhw ddysgu.
s-8 Dylai'r Gymraeg fod yn hanfodol, naill ai nawr neu eu bod nhw yn gallu ymdrin â'r iaith o fewn blwyddyn.
s-9 Mae'n rhaid parchu'r pobl sy'n gweithio yng nghefn gwlad achos dyma eu lle gwaith nhw ac hefyd parchu'r anifeiliaid sy'n byw yng nghefn gwlad.
s-10 Mae 99 y cant o bobl yn iawn ac ni'n croesawu nhw achos maen nhw'n dod â lot o arian i gefn gwlad.
s-11 Ni wedi gweld cynnydd yn naturiol mewn pethe fel ymosodiadau ar ddefaid gan gŵn.
s-12 Bydd Cyngor Dinas Bangor yn neilltuo £5,000 i gefnogi 'Y nyth', y ganolfan gelfyddydol yn eglwys y Santes Fair.
s-13 Rhoddir gwahoddiad i gynrychiolydd cwmni y Frân Wen i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cyllid i ddweud sut bydd yr arian yn cael ei fuddsoddi.
s-14 Mae cyfranogwyr yn astudio trwy raglen dysgu o bell â chymorth a does dim angen cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith.
s-15 Mae pob modiwl yn para tua 14 wythnos ac yn cael eu cyflwyno mewn rhaglen dreigl gyda dyddiadau cychwyn blynyddol ym mis Chwefror, Mehefin a Hydref, gan roi cyfle i gyfranogwyr y cwrs ddewis pob modiwl yn ei dro.
s-16 Dwi erioed wedi llwyddo i ddod o hyd i gwrs sy'n cyd-fynd â'r hyn rydw i eisiau dysgu yn ei gylch a hefyd yn fy helpu gyda fy ngwaith beunyddiol fel athro.
s-17 Pan welais yr unedau oedd ar gael o fewn Cynhyrchu Cyfryngau Uwch roeddwn yn eiddgar i ddechrau!
s-18 Gallaf wneud popeth o gartref!
s-19 Mae'r holl ddarlithoedd ar-lein yn ogystal â'r taflenni gwaith a'r tasgau ymarferol.
s-20 Mae'r darlithwyr a'r tiwtorialau byw ar-lein a gynhelir unwaith yr wythnos yn help mawr i'ch paratoi ar gyfer yr aseiniadau.
s-21 Yn Awst 1894 y rhoddwyd caniatâd i'w godi.
s-22 Roedd Bil Pier Bangor yn achlysur i'w ddathlu yn y ddinas gyda gorymdaith o gloc y dref tuag at Fferi'r Garth a'r cyngor yn derbyn agoriad arian i giatiau'r fferi.
s-23 Gofynnwyd am dendrau i'w adeiladu a rhoddwyd y contract i Alfred Thorne o Westminster, a oedd wedi gweithio ar nifer o bierau yn y Deyrnas unedig a thramor.
s-24 Dechreuodd y gwaith yn hydref 1894 a chymerodd ddeunaw mis i'w gwblhau.
s-25 Cofiwch fod gan bobol ifanc 16 ac 17 oed yr hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd ym mis Mai.
s-26 Mae'n bwysicach nag erioed bod
s-27 llais ein hieuenctid yn cael ei glywed yn glir.
s-28 Mae'n bwysig hefyd bod rhieni ac aelodau hŷn y teulu yn eu hannog i gofrestru.
s-29 Mae'n cymryd llai na 3 munud i gofrestru i bleidleisio, a gallwch wneud hynny yn Gymraeg drwy ddilyn y ddolen hon.
s-30 Mewn cyfarfod o Gyngor Dinas Bangor dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid wrth y Cyngor fod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn defnyddio'r term 'De Bangor', wrth drafod ffigyrau brechu Covid-19.
s-31 Penderfynwyd fod y Cyfarwyddwr Dinesig yn gofyn am eglurhad ar frys am y term daearyddol hwn, gan nad yw wedi'i ddefnyddio o'r blaen nac yn gyfarwydd i'r aelodau.
s-32 Ers i ddisgyblion hŷn Ysgol Friars orffen yr ysgol ar ôl hanner tymor, mae rhai wedi gweld eu stryd yn dipyn tawelach.
s-33 Byddai'n dda pe byddent yn cael parcio ar iard yr ysgol neu gerdded yno wrth gwrs.
s-34 Gall organ hynafol Eglwys Dewi Sant, Glanadda fynd i goleg dri chan milltir o Fangor.
s-35 Mae Prifysgol Caerwysg wedi gwneud cais amdani i'w gosod mewn capel coffa yno.
s-36 Mae'n rhaid mynd drwy'r drefn gywir gan fod yr adeilad yn rhestredig.
s-37 Llongyfarchiadau mawr i ddisgyblion blwyddyn 11 Mabon, Wil, Guto a Meilyr ar lwyddo i ddod yn Enillwyr Cenedlaethol Her Gwyddorau Bwyd, yr Ysgol Feddygaeth.
s-38 Ein hwythnos olaf o ymarfer, ac mae hi wedi bod yn wythnos go wahanol i'r rheiny ddaeth gynt.
s-39 Lle buom yn eistedd o amgylch bwrdd rai wythnosau yn ôl yn ceisio cyrraedd at bopeth oedd gan y sgript i'w gynnig, ry'n ni nawr yn eistedd mewn tywyllwch, â thraciau sain a golau'n cael eu gosod yn eu lle'n ofalus, a'r actorion prin yn symud o'r llwyfan.
s-40 Ces i'n rhyfeddu ganddo .
s-41 Fel yr haul wrth droed ffiordydd Norwy, galw mewn yn achlysurol ar yr ystafell ymarfer dwi wedi bod yn gwneud yr wythnos yma.
s-42 Y rheswm nad ydw i wedi bod yn yr ystafell ymarfer trwy gydol yr wythnos hon yw bod sgript y ddrama heddiw yn mynd i'r wasg.
s-43 Pwrpas y grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru yw i mi barhau i ddysgu a datblygu fy sgiliau o fewn y diwydiant trwy weithio gyda chwmnïau gwahanol yn y diwydiant.
s-44 Gyda thair wythnos arall i fynd tan i ni agor yn Aberdaugleddau, mae hi'n teimlo'n wythnos o bwys yma.
s-45 Serch hynny, rhag colli golwg ar le y'n ni nawr, mae hi'n bwysig i beidio ag edrych yn rhy bell ymlaen.
s-46 Fu hi'n wythnos brysur yma.
s-47 Gan i mi ddechrau gyda'r rhif tri, mae hi'n addas hefyd i mi orffen gydag e, a dweud wrthym ni ddechrau gweithio ar y drydedd act ddoe, gan fwriadu cyrraedd ei diwedd hi erbyn diwedd y dydd heddiw.
s-48 Dan gyfyngiadau covid, roedd hi'n wyrth bod nifer cyfyngedig wedi cael y fraint o weld y ddrama 'Faust a Greta', cydgynhyrchiad rhwng Cwmni'r Fran Wen, Theatr Genedlaethol Cymru a chanolfan Pontio.
s-49 Addasiad cyfoes yw'r cynhyrchiad o fersiwn T Gwynn Jones o ddrama Goethe.
s-50 Hon yw'r siop fydd yn agor ar Stryd Fawr, Bangor ddechrau mis Awst.
s-51 Maent wedi bod wrthi 'n ddiwyd yn ei pharatoi.
s-52 Bydd yn arbenigo ar werthu cynnyrch organig lleol.
s-53 Poundland oedd yma nes iddi gau y llynedd.
s-54 O'r diwedd mae'r Stryd Fawr wedi ailagor.
s-55 Ar fore Gorffennaf 7 roedd cerbydau yn cael mynd ar hyd-ddi eto.
s-56 Er mae peth gwaith ar ôl i orffen y lle gwag a adawyd gan yr adeiladau a losgodd.
s-57 Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi cadarnhau bod llygredd sylweddol o ficro-plastigion wedi ei ddarganfod ar gopa'r Wyddfa.
s-58 Yn ddiweddar, mae'r Wyddfa wedi gweld cynnydd mawr yn nifer y dringwyr a cherddwyr, ac mae hynny wedi golygu bod mwy yn ymgynnull wrth y copa, gan arwain at giwiau o hyd at dri chwarter awr ar adegau.
s-59 Gyda phrisiau gwlân Cymru yn cyrraedd lefel is nag erioed y tymor hwn, mae prosiect newydd wedi'i lansio i ychwanegu gwerth at wlân.
s-60 Yn ogystal, maen nhw'n bwriadu defnyddio'r gwlân fel ynyswr mewn pecynnau bwyd ar gyfer y sector hunanarlwyo.
s-61 Mae 'na alwadau ar gerddwyr ar Yr Wyddfa i 'barchu'r mynydd' wrth i effaith cynnydd yn nifer ymwelwyr ddod i'r amlwg.
s-62 Erbyn hyn mae tua 700,000 o bobl yn ymweld â'r Wyddfa bob blwyddyn ac ym mis Gorffennaf roedd adroddiadau fod ciwiau o hyd at 45 munud i gyrraedd copa'r mynydd.
s-63 Dywedodd John Harold, cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, sy'n helpu i gynnal a chadw'r mynyddoedd, fod y lleoliad wedi dod yn 'bot mêl' i gerddwyr.
s-64 Os ewch chi i fyny mynydd fel Yr Wyddfa heb baratoi, heb offer priodol, neu gyda disgwyliadau amhriodol, dydych chi ddim yn mynd i'w fwynhau cymaint ag y gallech chi, ac rydych chi o bosib yn mynd i'w adael mewn cyflwr gwaeth nag y dylech chi.
s-65 Roedd Deddf Cau Tafarnau ar y Sul (Cymru) 1881 yn Ddeddf Senedd y Deyrnas Unedig.
s-66 Roedd yn un o nifer o ddeddfau trwyddedu i'w cyflwyno rhwng 1828 a 1886.
s-67 O dan y ddeddf roedd yn ofynnol i bob tafarn yng Nghymru aros ar gau ar Ddydd Sul.
s-68 Roedd gan y Ddeddf bwysigrwydd gwleidyddol sylweddol fel cydnabyddiaeth ffurfiol o gymeriad gwahanol Gymru i weddill y Deyrnas Unedig, gan osod cynsail ar gyfer deddfwriaeth a phenderfyniadau yn y dyfodol.
s-69 Fe'i diddymwyd ym 1961.
s-70 Cafodd y Ddeddf ei diddymu gan Ddeddf Trwyddedu 1961, a oedd yn caniatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru i gynnal polau o'u trigolion ar barhad y gwaharddiad os oedd o leiaf 500 o bleidleiswyr yn gofyn am bôl.
s-71 Disgwylir i nifer y disgyblion ysgol cynradd sy'n cael eu haddysgu drwy'r Wyddeleg gyrraedd y nifer uchaf erioed eleni.
s-72 Yn ôl adroddiad yn yr Irish Times, mae tair gaelscoileanna newydd wedi agor yn ardal Dulyn yn unig ym mlwyddyn academaidd 2021-22.
s-73 Dywedodd Caoimhín Ó hEaghra, ysgrifennydd cyffredinol An Foras Pátrúnachta noddwr mwyaf ysgolion cyfrwng Gwyddelig fod mwy o rieni'n fwy ymwybodol o fanteision addysg ddwyieithog ac amlieithog.
s-74 Yn ogystal â bod yn gyd-ed ac aml-genedlaethol, bydd yr ysgolion hyn hefyd yn amlieithog.
s-75 Bydd plant yn dysgu pwnc drwy iaith Ewropeaidd fawr fel cerddoriaeth drwy Ffrangeg neu Addysg Gorfforol drwy Almaeneg.
s-76 Ni fydd plant sy'n ymuno â'r ysgol yn clywed unrhyw Saesneg yn yr ystafell ddosbarth am ddwy flynedd gyntaf addysg.
s-77 Fodd bynnag, dywedodd fod ymchwil yn dangos bod disgyblion yn perfformio cystal yn Saesneg o gymharu ag ysgolion eraill mewn profion safonedig.

Text viewDownload CoNNL-U