Dependency Tree

Universal Dependencies - Welsh - CCG

LanguageWelsh
ProjectCCG
Corpus Parttrain
AnnotationHeinecke, Johannes; Tyers, Francis;

Select a sentence

s-1 Y rhaglen a wrandais arno .
s-2 Mae Dug Caeredin wedi cael ei roi i orffwys mewn angladd yng Nghapel San Siôr.
s-3 Roedd y gynulleidfa yn gwisgo masgiau ac roedden nhw wedi'u pellhau'n gymdeithasol yn unol â rheolau Covid, gyda'r Frenhines yn eistedd ar ei phen ei hun.
s-4 Cyn hynny, bu aelodau o'r Teulu Brenhinol yn cerdded y tu ôl i arch Dug Caeredin mewn gorymdaith.
s-5 Fel ei chwaer, ychydig iawn a wyddom amdani .
s-6 Dyma, felly, un o asidau mwynau a wyddwn amdano .
s-7 Dyna'r cyfan a feddyliai amdano .
s-8 Dim ond neges fach i ddweud sori i glywed bod chdi ddim yn dda.
s-9 'S gen ti ddim llun i ni weld sut oeddach chdi yn edrych.
s-10 Gest ti'r tecst nes i yrru i chdi ddoe?
s-11 Ro i ganiad i chdi hwyrach ymlaen i'w drafod.
s-12 Doedd dim rhaid i chdi o gwbl, felly diolch am wneud.
s-13 Pam bo' chdi 'di deud hynna?
s-14 Doeddach chdi ddim yn licio'r lle bwyd Mecsicanaidd?
s-15 Dw i'n sbïo ar luniau ohonach chdi yn blentyn.
s-16 Mae yna le i chdi yn lle fi os mai angan.
s-17 Watsia rhag ofn i chdi fynd yn sownd.
s-18 Torcha dy lewys cyn i chdi olchi'r llestri.
s-19 Gofyn i dy deulu a ffrindiau helpu chdi i gael hyd i gyfleoedd lleol.
s-20 Llawer o ddiolch i chdi am dy help.
s-21 Cofia bod rhaid i chdi ddechrau bob brawddeg gyda phrif lythyren.
s-22 Pam oedda chdi isio cymryd rhan yn y gyfres.
s-23 Dw i 'di bod yn witsiad amdanach chdi trwy dydd.
s-24 Ai i nôl rhai i chdi hwyrach ymlaen.
s-25 Mae rhaid i chdi gael burum i neud toes pitsa neis.
s-26 Dwi 'n gwerthfawrogi'n fawr - dwi 'n gwybod bod dim rhaid i chdi wneud.
s-27 Credai'r archaeolegwyr mai safle seremonïol bach oedd yno.
s-28 Dywedodd y fam yn awdurdodol mai eu tro hwy oedd nesaf.
s-29 Mae Cadw ar y llaw arall yn dweud mai crug crwn ydyw.
s-30 Os mai ar y dyn y dibynna ei les, pa les yw Undeb?
s-31 Wn i ddim os mai cyfnewid cod oedd e chwaith.
s-32 Gan mai pobl anaml ydym , yn preswylio parth bychan o Ynys Brydain.
s-33 Roedd hi mor hapus fel mai prin y medrai anadlu.
s-34 Cwynent mai ychydig iawn o longau ddaeth i chwilio am datws eleni.
s-35 Ceisiodd ei pherswadio ei hun mai dychymyg oedd y cwbl.
s-36 Cyhoeddodd Gwilym Hiraethog mai awdl gan Emrys oedd yr orau.
s-37 Pan ofynasom am de, deallasant yn union mai Prydeinwyr oeddem.
s-38 Y canfyddiad poblogaidd oedd mai Saesneg oedd iaith briodol bywyd cyhoeddus.
s-39 Y gwir oedd mai bywyd caled iawn a gawsai.
s-40 Ffrangeg yn unig siaredir yn y seneddau, oherwydd mai hi yw iaith yr ynys.
s-41 Ofnaf mai gwastraff llwyr o arian fydd hyn eto.
s-42 Ceir Llansadwrn ar Ynys Môn a chredir mai yno mae gweddillion y sant.
s-43 Wnes i weld hi'n croesi lôn, wn i ddim lle mai 'di mynd.
s-44 Ydi Llywodraeth Cymru yn meddwl mai ffyliaid ydi pobol y gogledd?
s-45 Byddech chi'n gwybod mai dyna oedd diwedd y mater.
s-46 Cred rhai mai fersiwn wedi'i Seisnigeiddio o Arthur yw'r trydydd.
s-47 Efallai mai hon yw'r allwedd i'r ardd.
s-48 Mewn mathemateg, mae'r ansoddair cysonyn yn ddisgrifiad o rywbeth nad yw'n amrywio.
s-49 Pam nad yw'r llwfryn yn derbyn fy her?
s-50 Problem weithiau yw nad yw'r ystyr wastad yn glir i ni chwaith.
s-51 Credaf nad ydyw yn rhy ddiweddar apelio atoch chi i amddiffyn eich dinasyddiaeth.
s-52 Mae'n hynod bwysig, felly, nad yw hyn yn amharu ar y darllediad.
s-53 I Gymro nid oes ynddi unrhyw beth nad yw'n ei wybod eisoes.
s-54 Bydd hyn yn sicrhau nad yw hunaniaeth y cyfranogwyr yn cael ei datgelu.
s-55 Ceir defnyddiau eraill mewn bywyd pob dydd, nad ydynt yn fathemategol.
s-56 Mae angen iddo ofalu nad yw'n cael ei ynysu.
s-57 Does dim dwywaith nad yw'r hinsawdd yn newid.
s-58 Newydd sylweddoli nad ydw i wedi cael cyfle i siarad gyda ti eto.
s-59 Mae defnydd gwrtaith yn golygu nad yw'r tir mor gynhyrchiol chwaith.
s-60 Heddiw ymhlith ei aelodau mae llawer o bobl nad ydynt yn arddel crefydd benodol.
s-61 Digon teg yw dweud nad yw hi'n cefnogi'r cynllun.
s-62 Pan nad yw'n hydoddi, gall yr asid hwn grisialu gan greu cerrig.
s-63 Mi wna i ei atgoffa nad ydym ni eto wedi cael adborth eto.
s-64 Yn dilyn, fe welir gwledydd nad ydynt yn aelodau.
s-65 Ceir hefyd cystadleuaeth gyffelyb i ddynion, er nad yw mor boblogaidd.
s-66 Mae hefyd llawer nad ydym ni fel cymdeithas yn ymwybodol ohono .
s-67 Ni ddaethom oddi yno unwaith ar ein cythlwng nac yn waglaw.
s-68 Dyw hwn ddim yn arian nac yn grantiau newydd.
s-69 Dydy un taten ddim yn mynd i fod yn ddigon, nac ydy?
s-70 Dyw hyn ddim yn gywir, nac ydy?
s-71 Gyda golwg ar fy ngwybodaeth, nid wyf nac yma nac acw.
s-72 Ydi'r bêl wedi mynd yn farw nac ydi.
s-73 Nac ydyw, gyfaill, nac ydyw.
s-74 Mae mwy ohono 'n cael ei greu fin nos nac yn y bore.
s-75 Yn ardal Morfa Nefyn lle dw i'n byw, rydan ni'n gweld y gymuned yn newid o'n blaenau ni o fis i fis.
s-76 Does dim angen mwy o beilots, does dim angen mwy o ymchwilio neu ymgynghori, rydan ni'n gwybod fod yna broblem.
s-77 Ond mae jyst gohirio yn teimlo fel cyfleustra gwleidyddol i'r Blaid Lafur, a dydi o ddim yn dangos ewyllys mewn gwirionedd i wneud unrhyw beth i'r argyfwng sy'n wynebu ein cymunedau gwledig, Cymraeg eu hiaith unigryw rŵan hyn.
s-78 Roedd yr Uplands yn un o ardaloedd mwyaf llewyrchus y ddinas a gadwodd Thomas i ffwrdd o ardaloedd diwydiannol y ddinas.
s-79 Roedd ei dad, David John Thomas, yn dysgu llenyddiaeth Saesneg yn yr ysgol ramadeg leol.
s-80 Roedd ei fam, Florence Hannah Thomas, yn wniadwraig a anwyd yn Abertawe.
s-81 Ym mis Hydref 1925, mynychodd Thomas ysgol i fechgyn sef Ysgol Ramadeg Abertawe, yn ardal Mount Pleasant y ddinas.
s-82 Yn wreiddiol, arferai porthladd Abertawe fasnachu mewn gwin, gwlân, ffabrig ac yn ddiweddarach, glo.
s-83 Wrth i'r Chwyldro Diwydiannol gyrraedd Cymru, ystyriwyd Abertawe yn lleoliad synhwyrol i leoli safle mwyndoddfeydd copr oherwydd y cyfuniad o borthladd, glo lleol a chysylltiadau masnachu gyda De-orllewin Lloegr, Cernyw a Dyfnaint.
s-84 Gweithredodd mwyndoddfeydd yno o 1720 ymlaen.
s-85 Dros y ganrif a hanner a ddilynodd, sefydlwyd gweithfeydd i brosesu arsenig, sinc, a thun ac er mwyn creu tunplat a chrochenwaith.
s-86 Ehangodd y ddinas yn gyflym iawn yn y 18fed a'r 19g a chafodd y ddinas y ffugenw 'Copperopolis'.

Text viewDownload CoNNL-U