Dependency Tree

Universal Dependencies - Welsh - CCG

LanguageWelsh
ProjectCCG
Corpus Parttest
AnnotationHeinecke, Johannes; Tyers, Francis;

Select a sentence

s-1 Mae Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu cyhuddo o fod yn 'wrth-Gymraeg' yn sgil eu hymateb i arwydd 'Cofiwch Dryweryn' ar ochr siop losin yn y dref.
s-2 Ond mewn llythyr at landlord oedrannus yr adeilad ym Mhen-y-bont ar Ogwr, dywed y cyngor eu bod yn ystyried yr arwydd yn 'hysbyseb'.
s-3 Bydd yr adeilad hefyd yn darparu swyddfeydd i Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, ffreutur a gofod cymdeithasol ar gyfer myfyrwyr, staff a'r gymuned leol.
s-4 'Dw i'n edrych ymlaen, ond mae o bach yn daunting hefyd,' meddai wrth golwg360.
s-5 Mae'n joban fawr rŵan fod Pantycelyn yn cau.
s-6 'Dw i isio gwneud yn siŵr fod pob dim yn cario ymlaen bod niferoedd ddim yn gwaethygu pan na fyddwn ym Mhantycelyn,' meddai wedyn.
s-7 Ond hefyd, dw i isio agor o allan fel bod mwy o bobol yn gwybod am be ydan ni'n ei wneud.
s-8 Y Cymro Cymraeg fydd wythfed Is-Ganghellor neu Bennaeth Prifysgol Bangor, a gafodd ei sefydlu yn 1884.
s-9 Mae'n olynu'r Athro Graham Upton yn y swydd, a gafodd ei benodi'n Is-Ganghellor Dros Dro yn dilyn ymddeoliad yr Athro John G Hughes ddiwedd y llynedd, a hynny wedi naw mlynedd wrth y llyw.
s-10 Mae'n gam yn ôl rhyw 30 o flynyddoedd.
s-11 Bod rhywun yn coleddu'r fath agwedd at y Gymraeg yng Nghymru.
s-12 Roedd yn siom yn fwy nad dim.
s-13 Ar ôl tanysgrifio ers blynyddoedd i'r cylchgrawn, dyma'r tro cyntaf i neges o'r fath gael ei hysgrifennu ar yr amlen er bod y cod post yn amlwg ar y cyfeiriad.
s-14 Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd rhwng 27 Mai 1 Mehefin, ac mae'n cynnig mynediad rhad ac am ddim am y tro cyntaf yn ei hanes.
s-15 Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cyhoeddi y bydd tair ysgol gynradd yn ne'r sir yn cau yn yr haf.
s-16 Mewn cyfarfod llawn o'r cyngor ddoe (dydd Gwener, Mai 24), gwnaed penderfyniadau i gau ysgolion cynradd Beulah, Cilcennin a Threwen.
s-17 Daw hyn er gwaethaf galwadau gan rieni a chynghorwyr lleol i gadw'r ysgolion ar agor.
s-18 Yr addysg gorau i blentyn yn aml yw addysg mewn ysgol leol.
s-19 Geiriau'r Cynghorydd Miles yn swnio fel robot yn darllen brawddeg wedi ei baratoi ar ei chyfer.
s-20 Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu penderfyniad Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn heddiw i ddiddymu'r penderfyniad i gau ysgolion Bodffordd, Talwrn a Biwmares.
s-21 Gallasai'r Pwyllgor Gwaith fod wedi penderfynu oedi'n unig neu ailgyflwyno eu cynigion, ond diolchwn eu bod wedi gwneud y peth iawn o ddiddymu'r penderfyniadau a rhoi sicrwydd i'r cymunedau y byddai pob ystyriaeth yn y dyfodol o dan egwyddor y Côd Trefniadaeth newydd sydd â rhagdyb o blaid ysgolion gwledig.
s-22 Yr ydym heddiw yn diolch yn arbennig hefyd i'r Cynghorydd Carwyn Jones am ei gyfraniad at y drafodaeth heddiw.
s-23 Yn ei eiriau ef 'rhaid i bawb symud ymlaen efo'i gilydd yn awr.
s-24 Dyma gyfle llechen lân, heb densiwn.
s-25 Nid brwydr ddylai hyn fod.
s-26 Mae Cymdeithas yr Iaith yn barod iawn i fod yn rhan adeiladol o'r drafodaeth ar gyfer ysgolion ardaloedd Llangefni, Seiriol ac Amlwch gan gredu'n ffyddiog fod modd canfod atebion o fodelau cydweithio sydd yn creu unedau addysgol cryf, yn sicrhau arbedion ac yn harneisio holl egni rhieni a chymunedau sydd wedi dangos y fath ofal am ddyfodol eu hysgolion a'u cymunedau.
s-27 Yn wir, hoffem fel Cymdeithas ddiolch o galon i'r cymunedau hyn sydd wedi gosod esiampl i gymunedau gwledig Cymraeg ledled y wlad, ac yn enwedig esiampl i'w plant.
s-28 Yn olaf, mae'n gwbl briodol i ni fel Cymdeithas ddiolch i'r Gweinidog Addysg Kirsty Williams gan fod ei pharodrwydd hi i ymchwilio o ddifri i gŵyn wedi anfon neges glir i awdurdodau lleol ledled Cymru y bydd yn rhaid iddynt gymryd o ddifri'r Côd newydd sydd â rhagdyb o blaid ysgolion gwledig.
s-29 Fe gawn ni gyfle i ddiolch yn bersonol iddi mewn cyfarfod bore fory rhwng y Gweinidog a'i swyddogion a dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith.
s-30 Wrth ymateb i gyhoeddiad Cyngor Sir Gâr eu bod yn dechrau cyfnod o ymgynghori i newid darpariaeth Cyfnod Sylfaen ysgolion Y Ddwylan, Griffith Jones, Llangynnwr a Llys Hywel i fod yn Gymraeg a newid Ysgol Rhys Pritchard o fod yn ddwy ffrwd i fod yn ysgol Gymraeg dywedodd Sioned Elin ar ran Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin:
s-31 'Rydyn ni'n llongyfarch y cyngor am ddechrau ymgynghoriad er mwyn gosod pump o ysgolion y sir ar lwybr tuag at addysg Gymraeg, a hyderwn y bydd cefnogaeth eang i hynny.'
s-32 Daeth ymgyrchwyr ynghyd ym Mhenrhyndeudraeth heddiw i drafod camau polisi i ddelio ag effaith ail gartrefi ar y Gymraeg.
s-33 Yn siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Robat Idris o Gymdeithas yr Iaith:
s-34 Os oes yna un pwnc llosg sy'n crisialu argyfwng y Gymru gyfoes, yna 'Tai' yw hwnnw.
s-35 Pwy sy'n berchen arnyn nhw?
s-36 Pwy sy'n medru fforddio eu prynu?
s-37 Pwy sy'n methu fforddio eu prynu?
s-38 Mae'r annhegwch presennol yn rhemp mae rhai yn berchen mwy nag un , eraill heb yr un, a rhai heb do o gwbl uwch eu pennau.
s-39 Mae yna ddadl am edrych tuag at beth mae ardaloedd yng Nghernyw wedi gwneud, o ran cyfyngu ar y nifer o ail gartrefi mewn ardal, ac mae hynny'n un pwynt sydd angen ei drafod.
s-40 Fe gychwynnodd y tymor newydd gyda llawer o gyffro, gan fod tri dosbarth a neuadd newydd yn barod i'w defnyddio, gan ddyblu maint yr ysgol!
s-41 Mae'r gwaith yn parhau ar ddwy ystafell ddosbarth arall, a fydd yn agor yn fuan.
s-42 Mae'r holl waith adeiladu yn dilyn yr holl waith caled gan aelodau Cymdeithas Gymreig Trevelin i werthu darnau o dir er mwyn ariannu'r prosiect.
s-43 Mae'r ysgol yn ddiolchgar dros ben i'n holl ffrindiau o Gymru sydd wedi cyfrannu dros y blynyddoedd, ac sydd yn dal i gyfrannu hyd heddiw.
s-44 Un o'n prif gymwynaswyr yw Cymdeithas Hoelion Wyth, sydd wedi casglu dros £15,000 hyd yn hyn drwy werthu gwin o'r Ariannin nol yng Nghymru a gweddill y DU.
s-45 Pa Arlywydd Americanaidd a ymwelodd ag Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 1938?
s-46 Ble yng Nghaerdydd roedd Saunders Lewis yn byw pan ddechreuodd ysgrifennu ei ddrama Blodeuwedd?
s-47 Ym mha dafarn yng Nghaerdydd y byddai Iolo Morganwg yn cyfarfod â'i gyfeillion barddol?
s-48 Sut y cafodd Parc yr Arfau ei enw?
s-49 Pa gantores bop Gymraeg a Chernyweg a fagwyd yn Despenser St?
s-50 Annogir pawb i wisgo coch, gwyn a gwyrdd ar y diwrnod, ac wrth gwrs bydd nwyddau Eisteddfod 2019 ar werth ar stondin yr Urdd gan gynnwys hwdis a chrysau-T.
s-51 Nid yw'n orymdaith heb faneri, felly cynnigir gwobr ariannol i enillwyr cystadleuaeth creu ac arddangos baner ar y diwrnod, sy'n hyrwyddo'r ysgol/adran ac yn tynnu sylw at ddyfodiad yr Eisteddfod.
s-52 Gellir chwifio baner Cymru, Triban yr Urdd neu faner Owain Glyndŵr ar yr orymdaith hefyd.
s-53 Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl.
s-54 Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.
s-55 Gall Brexit achosi niwed anhygoel i Gymru.
s-56 Mae Plaid Cymru yn gwneud popeth y gallwn i amddiffyn ein gwlad.
s-57 Rydym yn aml yn clywed am yr 'argyfwng tai' ac mae wedi dod yn gyffredin i feddwl mai'r ateb i'r broblem eang a chymhleth hon yw 'mae angen i ni adeiladu mwy o dai'.
s-58 Dyma mae datblygwyr tai yn ei ddweud yn aml er mwyn gwanhau cyfyngiadau cynllunio a rheoliadau adeiladu.
s-59 Mae datblygiadau yn cael eu gwthio trwyddo hefyd heb fuddsoddiad digonol mewn seilwaith, gan achosi straen ar adnoddau a gwasanaethau cymunedau lleol.
s-60 Mae Patagonia yn lle rhyfeddol sy'n cynnig nifer o brofiadau i deithwyr gan gynnwys gweithgarwch antur, atyniadau naturiol, hanes a diwylliant brodorol - ac wrth gwrs, y Wladfa Gymreig.
s-61 Oedd y gydfodolaeth heddychol rhwng brodorion y Tehuelche a'r Gwladfawyr Cymreig yn ddigwyddiad anghyffredin os nad yn unigryw yn hanes gwladychu cyfandiroedd America?
s-62 Cwmni teithio â chysylltiadau gyda'r Wladfa, Patagonia yw Andes Celtig.
s-63 Mae ein profiad yn y maes teithio a thwristiaeth yn y Wladfa a gweddill Patagonia yn ymestyn o 1998 ac mae ein tîm yn cynnwys disgynyddion y gwladfawyr gwreiddiol a siaradwyr rhugl eu Cymraeg, Sbaeneg a Saesneg.
s-64 Yn y pedwar darn bach a ddyfynnais, mae o leiaf bump o ffeithiau hollol newydd am hanes llenyddiaeth Gymraeg.
s-65 Fel rwyf wedi dweud droeon ar y blog, bydd Rhagluniaeth, yn weddol reolaidd, yn gyrru pethau i geisio gwylltio'r Cymry a'u deffro i wneud rhywbeth ohoni .
s-66 I'r pwrpas hwn, un dyn y mae'n defnyddio ychydig arno y dyddiau hyn yw'r colofnydd Roger Lewis.
s-67 Dechreuais i'r flog Linux Cymraeg achos fy mod i wedi clywed am y prosiect Pethau Bychain.
s-68 Wel mae'r prosiect eisiau bod pobl yn dechrau neu wneud rhywbeth ar-lein yn Gymraeg i annog mwy o bobol i gymryd rhan yn y diwylliant Cymraeg digidol.
s-69 Wel gobeithio y bydda i'n parhau i flogio yn yr iaith Cymraeg er mwyn helpu'r statws Cymraeg ar y we.
s-70 Gyfeillion, cofiwch am ddigwyddiad Hacio'r Iaith a gynhelir yn y ‘Steddfod ddydd Llun ar stondin Prifysgol Aberystwyth rhwng 1:30 a 5:00.
s-71 Cyfle gwych i drafod technoleg a'r Gymraeg dros banad.
s-72 Fe fydd yna hefyd Wi-Fi a bara brith.
s-73 Pwy sydd angen mwy?
s-74 Ymddiheuriadau unwaith eto am fod ychydig yn araf yn ysgrifennu eto aeth bron i tair wythnos heibio fel y gwynt, a dyma fi ar drothwy fy wythnos olaf yn Harvard.
s-75 Rhyfedd o deimlad, yn enwedig gan fod pawb o'm hamgylch yn gweithio yn galetach nag arfer yn ceisio ysgrifennu traethodau lu cyn y gwyliau.
s-76 Chwerwfelys yw'r gair: mae adre a'i gysur cyfarwydd yn agosâu, ond trist fydd gadael yr hyn a fu'n bedwar mis arbennig yma'n Harvard.
s-77 Daeth ac aeth y cyngerdd cerddorfa.
s-78 Ges i brofiad braidd yn annifyr gyda'r gerddorfa, mewn gwirionedd roedd yr awyrgylch braidd yn anghyfeillgar.
s-79 Ond mwynheais y gyngerdd, wrth gwrs does dim teimlad gwell na chwarae darn gwych o gerddoriaeth i gynulleidfa.
s-80 Roeddem ni'n chwarae nawfed symffoni Dvořák ('From the New World' addas iawn!) a nifer o ddarnau gan Ravel.
s-81 Wedi misoedd o waith caled roedd y gyngerdd yn llwyddiant.
s-82 Cafodd y gyngerdd ei recordio pe baech chi, am ryw reswm, eisiau gwrando ac esgus eich bod chi yno, croeso i chi wneud yma.
s-83 Y penwythnos hwnnw, es i i un o fy ngigs cynta ers bod 'ma.
s-84 Roedd ffrind i mi yma wedi prynu dau docyn i fynd i weld Frank Turner, ac wedi gofyn i mi fynd gyda hi.
s-85 Mae cariad Gwyneth at iaith, a'i chrefft a'i dawn fel cyfansoddwraig yn amlwg yn y caneuon grymus hyn.
s-86 Hefyd yn ymddangos ar yr albwm mae Seckou Keita, y chwaraewr adnabyddus o Senegal, a Rowan Rheinigans, enillydd Gwobr Werin BBC Radio 2.
s-87 Trydydd diwrnod yr Wyl yn barod a'r dyddiau'n carlamu heibio!
s-88 Cynulleidfaoedd brwd yn gwrando'n astud ac yn llawn diddordeb yng Nghymru a'r Cymry.
s-89 Rydan ni'n rhannu pabell efo Hawaiiaid hawddgar ac mae'r Hwngariaid hynaws yn ein diddanu ni efo'u halawon gwerin bob nos.
s-90 Mae datblygiad newydd o 600 o ystafelloedd wedi agor ym Mhentref Santes Fair, gydag amrywiaeth o lety gan gynnwys fflatiau stiwdio a tai tref, bar caffi, siop, golchdy, ystafelloedd cyffredin a chyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd.
s-91 Ynys Môn yw un o'r llefydd mwyaf poblogaidd gan ymwelwyr sy'n dod i ogledd Cymru, yn bennaf oherwydd y milltiroedd o draethau a llwybrau arfordirol a cheir yno.
s-92 Roedd y pwnc penodol y bûm yn gweithio arno o ddiddordeb ar yr un pryd i SHTG ac rydw i wedi gweithredu fel cyswllt, gan rannu gwybodaeth i'r ddau gyfeiriad ac arbed amser.
s-93 Rydw i wedi dod yn gyfarwydd â rhaglen waith adolygu tystiolaeth Technoleg Iechyd Cymru ac wedi rhannu dysgu y ddwy ffordd ar effaith arfarnu a chynhyrchu Gweithdrefnau Gweithredu Safonol.
s-94 Yn aml mae'r manteision hyn wedi deillio drwy achub ar y cyfle, drwy fod o gwmpas pan fo sgwrs benodol yn digwydd.
s-95 Dylech gyflwyno eich cwyn yn ysgrifenedig yn uniongyrchol i'r unigolyn y buoch yn ymdrin â hwy.
s-96 Mae'n bosibl y gallant unioni'r sefyllfa ar unwaith.
s-97 Gellir sefyll am drydydd tymor neu fwy.
s-98 Mae hanner un o ynysoedd yr afon Menai, sy'n eiddo i Brifysgol Bangor, wedi cael ei rhoi ar y farchnad am bris o filiwn o bunnau.
s-99 Mae Ynys Faelog oddi ar arfordir de-ddwyrain Ynys Môn ac mae'n un o bedair ynys fechan rhwng trefi Porthaethwy a Biwmares.
s-100 Mae'r darn o'r ynys sydd ar werth wedi bod yn nwylo Prifysgol Bangor ers yr 1970au, a than yn ddiweddar bu'n lleoliad ar gyfer canolfan ymchwil gwyddonol.

Text viewDownload CoNNL-U