Dependency Tree

Universal Dependencies - Welsh - CCG

LanguageWelsh
ProjectCCG
Corpus Parttest
AnnotationHeinecke, Johannes; Tyers, Francis;

Select a sentence

s-1 Mae pryderon am ddyfodol gwasanaethau cerdd yng Ngheredigion, wrth i'r Cyngor Sir fwriadu torri'r gyllideb o 68%.
s-2 Mae'r cyngor eisoes wedi dechrau'r broses ymgynghori ar ddiswyddiadau gwirfoddol athrawon cerdd yn y sir.
s-3 Ond maen nhw'n cael eu cyhuddo o fethu â chynllunio dyfodol y gwasanaethau ar ôl y toriadau, yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan Gyfeillion Cerddorion Ifanc Ceredigion.
s-4 Gwnaethoch alw am ymchwiliad, ac ar yr achlysur hwnnw, roeddech yn llygad eich lle: dylem gynnal yr ymchwiliad hwnnw.
s-5 Darllenais yr erthygl roeddech wedi ei hysgrifennu yn 'Wales Home' gyda diddordeb.
s-6 Mae'r gwaith roeddech chi wedi'i gomisiynu gan McKinsey wedi dangos diffygion difrifol a diffyg arweiniad strategol yn eich gweinyddiaeth.
s-7 Roeddwn yn gwerthfawrogi'r modd y gwnaethoch gynnig y gwelliannau.
s-8 Roeddwn yn falch o'u gweld yn dod at ei gilydd.
s-9 Rydw i wedi siarad ag Elinor ac mae'r ddwy ohonom yn rhydd unrhyw ddiwrnod rhwng y 24ain o Orffennaf ac wythnos y Steddfod.
s-10 Beth a wnaeth y fath chwyldro sylfaenol yn bosibl?
s-11 Drwy agor siop roddion, caiff y plant gyfle i ymarfer y sgiliau.
s-12 Caiff manylion y busnes sydd i'w drafod yn y cyfarfod eu hanfon atoch yn nes ymlaen.
s-13 Erbyn mis Mawrth 1406, pan ysgrifennwyd y llythyr, roedd Glyndŵr wedi profi llwyddiannau aruthrol.
s-14 Wedi dechreuadau siomedig ym 1400 ysgubodd y gwrthryfel trwy'r holl wlad gan ennill buddugoliaethau milwrol, cipio nifer o brif gestyll Edward I a denu cefnogaeth gan frenin Ffrainc.
s-15 Coronwyd Glyndŵr yn dywysog Cymru ac fe gynhaliodd senedd gyda chynrychiolwyr o bob cwr o'r wlad.
s-16 Roedd wedi llwyddo i greu tywysogaeth Gymreig oedd yn rhydd o reolaeth brenin Lloegr.

Text viewDownload CoNNL-U