Dependency Tree

Universal Dependencies - Welsh - CCG

LanguageWelsh
ProjectCCG
Corpus Partdev
AnnotationHeinecke, Johannes; Tyers, Francis;

Select a sentence

Showing 1 - 100 of 138 • previousnext

s-1 Mae angen difrifoli a thyfu fyny.
s-2 Nid yw dychan wedi marw, o reidrwydd, ond mae angen iddo fod yn llawer iawn craffach, miniocach a chasach.
s-3 Wrth i'r byd go iawn droi'n wirionach bob dydd, mae'n wir bod dychan yn mynd yn anos.
s-4 Ond os rhoi cynnig arni , herio gwleidyddion a'u dal i gyfrif o ddifrif ddylai fod y nod.
s-5 Y gwrthwyneb llwyr ddigwyddodd yn achos Johnson, ac rydym i gyd ar fin talu'r pris.
s-6 Dylid pwysleisio nad yw hyn yn golygu bod Johnson yn athrylith o fath yn y byd.
s-7 Nid yw pob un dim a wna wedi'i gynllunio'n ofalus; ystyrier ffars ei ymgais i olynu David Cameron yn 2016.
s-8 Ond nid oes rhaid iddo fod.
s-9 Nid yw torri system wleidyddol yn arbennig o anodd, cyn belled nad ydych yn berson sy'n teimlo embaras.
s-10 Nid yw'n gymeriad hollol ffug chwaith; mae cnewyllyn o wirionedd i'r shambls.
s-11 Ond mae'n sicr wedi deall sut i fanteisio ar y cnewyllyn hwnnw, a'i or-ddweud i eithafion.
s-12 Mae Johnson, Trump a Putin yn bobl wahanol, ond mae ganddynt yn gyffredin y gallu yma i fynd i hwyl tra'n datgymalu'r cysyniad o wirionedd.
s-13 Nid oes modd gor-bwysleisio pa mor beryglus yw hyn, yn fy marn i.
s-14 Rydym yn llithro i le tywyll dros ben.
s-15 Pob hyn a hyn, mae rhywun yn penderfynu paentio dros y graffiti enwog 'Cofiwch Dryweryn' ar ddarn o hen wal ger Llanrhystud, ac mae rhywun arall wedyn yn mynd ati i adfer y geiriau gwreiddiol.
s-16 Fe ddigwyddodd eto ddoe, ar ôl i ryw jôcar baentio 'Elvis' dros y cwbl.
s-17 O fewn dim o dro, ail-baentiwyd yr hen eiriau a sicrhawyd bod gyrrwyr yr A487 yn cael eu hatgoffa drachefn i gofio am foddi Capel Celyn yn hytrach nag am Mr Presley.
s-18 Dyma erthygl gennyf yn Nation Cymru ynghylch agwedd ffwrdd-a-hi a pheryglus y chwith tuag at Brexit.
s-19 Mae'r chwith yn gywir i fynnu bod y mudiad cenedlaethol yng Nghymru'n bod yn ofalus a manwl ynghylch ei chynlluniau, ond maent wedi bod yn rhyfeddol o ddi-hid am fater mwyaf argyfyngus ein hanes diweddar.
s-20 Galwaf am gysondeb.
s-21 Brexit yw'r broses wleidyddol ryfeddaf i mi ei chofio erioed, ac efallai mai'r peth iachaf i ni gyd fyddai i ni roi'r gorau i geisio gwneud synnwyr o beth sy'n digwydd.
s-22 Er bod pob diwrnod unigol yn draed moch, fodd bynnag, mae'n dechrau ymddangos mai dau ganlyniad mwyaf tebygol hyn i gyd fydd naill ai ail refferendwm neu adael heb gytundeb o gwbl.
s-23 Rwy 'n teimlo erbyn hyn mai'r ail sydd fwyaf tebygol.
s-24 Rwyf wedi teimlo ers peth amser bod y posibilrwydd o adael heb gytundeb yn uwch nag a werthfawrogwyd.
s-25 Y ddadl fwyaf cyffredin yn erbyn y posibilrwydd hwnnw oedd - ac yw - na fuasen 'nhw' yn caniatáu i'r fath beth ddigwydd oherwydd byddai'r goblygiadau mor drychinebus.
s-26 Hanner-wir yw'r ddadl honno: mi fyddai gadael heb gytundeb yn drychinebus, byddai.
s-27 Ond fy mantra i yn ddiweddar yw nad yw'r ffaith bod rhywbeth yn sicr o fod yn drychinebus yn golygu na allai ddigwydd.
s-28 Yn ddisgynydd i dywysogion Powys, Owain Glyn Dŵr neu Owain ap Gruffudd (1354 - tua 1416) oedd y Cymro olaf i gael ei alw'n Dywysog Cymru.
s-29 Ymddangosodd comed yn ystod misoedd Chwefror a Mawrth 1402, a ystyrid gan lawer yn argoel o fuddugoliaeth Owain ac felly, rhoddwyd iddo 'r llysenw Y Mab Darogan.
s-30 Ym mis Medi 1400, flwyddyn ar ôl i Harri feddiannu gorsedd Lloegr, daeth ffrae rhwng Glyndŵr a'i gymydog Reginald Grey, 3ydd Barwn Grey de Ruthyn i'w anterth, a ddatblygodd yn gyflym i fod yn wrthryfel dros annibyniaeth Cymru.
s-31 Roedd Hedd Wyn yn frodor o Drawsfynydd, yn yr hen Sir Feirionydd, lle cafodd ei eni yn 1887, yn fab i Mary ac Evan Evans, yr hynaf o unarddeg o blant.
s-32 Cafodd ei eni ym mwthyn Penlan a symudodd y teulu fferm Yr Ysgwrn pan oedd yn 4 mis oed.
s-33 Ar ôl cyfnod yn yr ysgol leol gweithiodd gartref ar fferm ei dad.
s-34 Treuliodd ei fywyd yno, ac eithrio cyfnod byr iawn yn gweithio yn ne Cymru.
s-35 Aeth yn filwr yn 15fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig yn Ionawr 1917.
s-36 Treuliodd gyfnod byr yn ymarfer yn Litherland ger Lerpwl ac aeth i Fflandrys erbyn yr haf.
s-37 Erbyn diwedd mis Gorffennaf, roedd Ellis a'r gatrawd ger Cefn Pilkem lle bu brwydr Passchendaele.
s-38 Fe'i lladdwyd ym Mrwydr Cefn Pilkem a oedd yn rhan o Frwydr Passchendaele a elwir hefyd yn Drydedd Frwydr Ypres, ar 31 Gorffennaf yn yr un flwyddyn.
s-39 Actor yw Huw Garmon (ganwyd Hydref 1966 ar Ynys Môn), a adnabyddir yn bennaf am actio'r brif ran yn y ffilm lwyddiannus Hedd Wyn.
s-40 Bu hefyd yn un o'r cymeriadau sefydlog ar Pobol y Cwm am gyfnod.
s-41 Mae'n fab i'r hanesydd Richard Cyril Hughes.
s-42 Offeryn cerdd gyda thannau a genir â'r bysedd yw telyn.
s-43 Mae'n offeryn cerdd hynafol y cyfeirir ato yn y Beibl, mewn hen lawysgrifau Cymraeg canoloesol a ffynonellau cynnar eraill, a cheir tystiolaeth archaeolegol sy'n dangos fod telynau i'w cael ym Mesopotamia yng nghyfnod gwareiddiad Sumer, rai milflynyddau Cyn Crist.
s-44 Fe fydd Cronfa Achub yn cael ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys Mon er mwyn cefnogi'r ymgyrch genedlaethol i atgyfodi unig bapur newydd Cymraeg Cymru.
s-45 'Mae'n gyfle i Gymry Cymraeg gymryd cam positif i gefnogi lansiad gwasg annibynnol Gymreig a Chymraeg fydd yn rhoi llais cryf i Gymru,' meddai Wyn Williams sy'n un o'r Cyfeillion.
s-46 Bydd grŵp Cyfeillion Y Cymro yn lansio'r Gronfa yn yr Eisteddfod ac yn galw am gefnogaeth gan bobl o bob cwr o'r gymdeithas Gymraeg er mwyn sicrhau bod gennym amrywiaeth ac ystod o sgiliau ac oedran er mwyn adlewyrchu'r Gymru fodern.
s-47 Cytunodd nifer mai merched oedd yn waeth na bechgyn gyda llanast.
s-48 Cyn symud i Gaerdydd, nes i ddewis fflat gyda merched a bechgyn, fi fy hun yn ferch.
s-49 Y rheswm tu ôl hwn oedd oherwydd mae merched yn gallu anghytuno a chwympo mas yn aml, ond s'dim lawer o gweryla rhwng merched a bechgyn.
s-50 Felly'r unig beth ar fy meddwl oedd y llanast sy'n gysylltiedig â bechgyn.
s-51 Roedd yr wythnos gyntaf yn ardderchog.
s-52 Chwerthin trwy'r amserau, coginio fel fflat i gael bwyd gyda'n gilydd, mynd allan bob nos tan oriau cynnar y bore.
s-53 Ond, yn fuan iawn ar ôl yr wythnos o feddwi, newidodd y straeon o rai meddw i straeon afiach am ein fflat bach ni.
s-54 Ar ôl sawl rhybudd am lanast y gegin, mae'r bois yn dal i adael y llestri brwnt am ddyddie hir.
s-55 Maen nhw'n prynu a choginio bwyd i'w gilydd pob nos, fel pâr hen briod; ond yn gadael y llestri ym mhob man.
s-56 Ble i ni fod coginio a bwyta?
s-57 Rwyf am bleidleisio i ni aros fel aelod o'r Undeb Ewropeaidd.
s-58 A dweud y gwir, rwyf am bleidleisio'n gryf iawn i ni wneud hynny.
s-59 Fel ymhob etholiad, rwyf wedi ystyried y pwyntiau a gyflwynywd gan bob ochr o'r ddadl.
s-60 Ac, fel gyda sawl etholiad arall, mae'n amhosib gwybod pwy sy'n iawn pan ddaw at ambell i fater holl-bwysig.
s-61 Er enghraifft, beth fyddai'r effaith ar economi Prydain yn y tymor byr a'r tymor hir pe byddem yn gadael, neu pe byddem yn aros.
s-62 Ac, i mi, iechyd ein heconomi yw un o'r pethau mwyaf pwysig.
s-63 Dyma fydd yn rheoli faint o arian fydd gennym i wario ar wasanaethau hanfodol, megis iechyd ac addysg.
s-64 Felly, heb i mi fedru ymddiried ym marn unrhyw un arall, dyma fy rhesymau am aros:
s-65 Rwy 'n ffond iawn o'r syniad o wledydd Ewrop yn cydweithio, er lles pobl y cyfandir.
s-66 Rwy 'n hoffi'r syniad ein bod yn trafod, yn hytrach nac ymladd.
s-67 Rwy 'n hoffi'r syniad fod Ewrop yn ceisio codi safonau byw ar draws y cyfandir, er lles pawb.
s-68 Rwy 'n hoffi'r syniad ein bod yn cydweithio ar brosiectau difyr, megis y Large Hadron Collider, a fydd yn cyfoethogi ein dealltwriaeth o'r byd a'r bydysawd.
s-69 Rwy 'n hoffi bod yn aelod o glwb a chael ffrindiau ymhob cornel o Ewrop.
s-70 Nid wyf yn derbyn mai'r UE yw'r prif gorff a chyfrifoldeb am ein boddi mewn biwrocratiaeth.
s-71 Gyfeillion, rwyf wedi gweithio i Lywodraeth Cymru!
s-72 Mae honno'n giamster o'r safon uchaf pan ddaw'n fater o greu biwrocratiaeth.
s-73 Pob tro mae archwilydd, ymgynghorydd, aseswr risg, neu swyddog cydraddoldeb (ayb) yn edrych ar unrhyw broses neu bolisi sy'n gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru, dim ond un peth sy'n digwydd sef cyflwyno mwy o brosesau gweinyddol, mwy o fiwrocratiaeth a mwy o rwystrau i bawb eu brwydro.
s-74 Wrth ystyried difrifoldeb rhai o'r digwyddiadau hanesyddol sy'n cael eu cyfeirio atynt , megis y rhyfel yng Ngogledd Iwerddon, trychinebau pyllau glo Cymru, a'r frwydr yn erbyn Ffasgaeth thema ganolog y ddrama mae'r defnydd annisgwyl o hiwmor i ysgafnhau'r testunau ac yn cyferbynnu gyda thrymder y digwyddiad yn hynod effeithiol.
s-75 Techneg ddefnyddiol ydyw o sefydlu perthynas gyda'r gynulleidfa o eiliad cychwynnol y ddrama.
s-76 Yn ddiddorol, mae'r ddrama yn cyfathrebu nid oes un ymgyrch wleidyddol, er gwaethaf ei hamcanion egwyddorol, sy'n amddifad o waed ar eu dwylo.
s-77 Ceir ymdeimlad bod pob ymgyrch wleidyddol yn gallu cael ei chamddefnyddio, hyd yn oed y rhai sy'n honni ewyllys da.
s-78 Ymunwch â ni am noson i ddathlu un o gasglwyr mwyaf craff Cymru a'i lyfrgell hynod, mewn digwyddiad bywiog yn Archifau'r Brifysgol.
s-79 Ganed y casglwr llyfrau, aelod seneddol, dyn busnes a chyfreithiwr, Enoch Salisbury, ar y 7ed o Dachwedd, 1819.
s-80 Ar ôl derbyn llyfr Cymraeg yn anrheg pen blwydd pan yn blentyn bach, fe dreuliodd weddill ei oes yn casglu, a darllen, pob math o lyfrau am Gymru.
s-81 Mewn partneriaeth â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru a gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae'r Urdd yn falch iawn o gyhoeddi'r elfen ryngwladol newydd hon i'r Ysgoloriaeth ac yn ddiolchgar i Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru am gydweithio er mwyn darparu cyfleoedd bythgofiadwy wrth feithrin talent ifanc Cymru.
s-82 Mae pobol yn cael eu hannog i ganu 'Hen Wlad Fy Nhadau' am 8 o'r gloch heno i ddiolch i'r Gwasanaeth Iechyd.
s-83 Fe fydd aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Pontsiân yn cerdded, rhedeg neu seiclo yr holl ffordd o Gaerdydd i Gaergybi heb adael eu cartrefi er mwyn codi arian at ddau ysbyty yn y de-orllewin.
s-84 Ynghyd â nifer o wynebau adnabyddus, fe fydd yr aelodau'n cymryd troeon i gerdded rhan o'r daith ('drwy' Bontsiân) o 218 o filltiroedd mewn un diwrnod ar ddydd Llun.
s-85 Bydd eu holl gamau'n cael eu cofnodi gan dechnoleg Strava, a'r holl arian yn mynd i ysbytai Glangwili a Bronglais.
s-86 Rydyn ni'n hoff iawn o gael hwyl yng Nghlwb Ffermwyr Ifanc Pontsiân, a bydd yr her ar ddydd Llun y Pasg yn gyfle i ddod ag aelodau a ffrindiau'r clwb ynghyd er nad yn gorfforol yn ystod y cyfnod anodd hwn.
s-87 Mi ddaw yna adeg fodd bynnag pan fydd angen inni feddwl yn ddyfnach am ddyfodol ein hardaloedd ac ystyried yr achosion sydd wrth wraidd y mathau o olygfeydd a welsom yn Eryri ac ar hyd a lled arfordir Cymru.
s-88 Ar ôl colli yn Nulyn yn erbyn y Gwyddelod bydd Cymru yn wynebu'r Ffrancwyr yng Nghaerdydd y penwythnos yma.
s-89 Er nad yw Ffrainc wedi ennill yng Nghaerdydd ers deng mlynedd, maen nhw wedi ennill 50% o'u gemau oddi cartref yn erbyn Cymru yn y Chwe Gwlad.
s-90 Mae Cymru hefyd yn un o'r gwledydd sy'n perfformio waethaf gartref, gan ennill 66% o'u gemau cartref yn y bencampwriaeth.
s-91 Bydd y Ffrancwyr felly, ynghyd â chyn-hyfforddwr amddiffynnol Cymru Shaun Edwards, yn awyddus iawn i brofi pwynt y penwythnos hwn yn enwedig ar ôl i Gymru guro Ffrainc o drwch blewyn yn rownd yr wyth olaf yng Nghwpan y Byd y llynedd.
s-92 Am unwaith, do'n i ddim ymhell ohoni .
s-93 Mi wnes i ddarogan mai tacteg Boris Johnson fyddai cael newid bach yn y cytundeb i adael ac wedyn ceisio clochdar ei fod o'n newid mawr.
s-94 Mi wnes i ddarogan o lot o bethau eraill sydd heb ddod yn wir ond, o ran y pwynt yma, dyna sydd wedi digwydd.
s-95 Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig a'i gefnogwyr yn ceisio rhoi'r argraff ei fod o wedi cael buddugoliaeth ac wedi gorfodi 'ein ffrindiau a'n cymdeithion' i blygu trwy ail-agor y trafodaethau.
s-96 Dechreuodd diwydiant llechi Cymru yn y cyfnod Rhufeinig, pan ddefnyddiwyd llechi ar do caer Segontium, Caernarfon.
s-97 Tyfodd y diwydiant yn araf hyd ddechrau'r 18g, yna bu tŵf cyflym hyd ddiwedd y 19g.
s-98 Roedd yr ardaloedd cynhyrchu llechi pwysicaf yng ngogledd-orllewin Cymru, gan gynnwys Chwarel y Penrhyn ger Bethesda, Chwarel Dinorwig ger Llanberis, Dyffryn Nantlle a Blaenau Ffestiniog, lle roedd y llechi yn dod o gloddfeydd tanddaearol yn hytrach na chwareli agored.
s-99 Sefydlydd teulu diwylliedig o sipsiwn oedd Abram Wood.
s-100 Ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael am Abram ei hun ac ni ddylid ei gymysgu gyda gŵr arall o'r un enw a hanodd o Frome, yng Ngwlad yr Haf.

Text viewDownload CoNNL-U