s-1
| Allaf i ddim credu bod rhywun wedi bod mor garedig â meddwl amdanaf i a rhoi'r bwyd bendigedig yma i fi. |
s-2
| Mae atgofion annwyl amdanat ti am byth. |
s-3
| Beth oeddech chi'n chwilio amdano ? |
s-4
| Beth os oes angen atgyweirio rhywbeth nad yw ateb yn gyfrifol amdano fo? |
s-5
| Rwyf yn rhyfeddu at ba mor wych y bu Hosbis Dewi Sant yn gofalu amdani hi. |
s-6
| Mae angen pobl arnon ni gyd er mwyn meithrin, arwain a gofalu amdanon ni ar wahanol adegau o'n bywydau. |
s-7
| Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch chi pan fyddwch chi'n cwblhau ffurflen neu yn gofyn cwestiwn i ni trwy ein gwefan. |
s-8
| Bob mis mae ein timau'n ysgrifennu blog am y llefydd arbennig maen nhw'n gofalu amdanyn nhw. |
s-9
| Gwnaeth y cyfeillgarwch a wnaed a charedigrwydd a haelioni'r bobl a'r cymunedau Cymreig traddodiadol ar hyd y daith argraff ddofn arnaf i |
s-10
| Gallet ti hefyd hawlio lwfansau am fod yn gynghorydd, fel cael ad-daliad am gostau gofal plant neu bobl hŷn sy'n ddibynnol arnat ti yn ogystal â chostau teithio. |
s-11
| Dyn wedi'i ymosod arno fo ym Mhrestatyn. |
s-12
| Cerdyn sydd wedi ei ddylunio er mwyn ei osod mewn pwrs neu mewn poced, ac yn cynnwys rhif cyswllt sydd ar gael 24 awr y dydd yn nodi bod deiliad y cerdyn yn Ofalwr ac yn rhoi gwybod bod rhywun yn dibynnu arno ef neu arni hi. |
s-13
| Pam mae arnon ni angen rhagor o goed? |
s-14
| A yw llifogydd yn effeithio arnoch chi? |
s-15
| Bydd y dyraniad ychwanegol o gyllid yn ein galluogi ni i symud ymlaen â nifer o brosiectau y cytunwyd arnyn nhw yn flaenorol ar safleoedd ledled y Fwrdeistref Sirol. |
s-16
| Dim gobaith gan Blaid Cymru o gipio sedd hebdda' i. |
s-17
| Nid wyf yn deud gormod wrth ddweud na hebdda ti ni buaswn wedi cyrraedd yr lle. |
s-18
| Ni allwn fyw hebddo fo. |
s-19
| Ymddiriedaeth yw conglfaen hanfodol ein sefydliad, oherwydd hebddi ni fydd pethau gystal. |
s-20
| Oedd bron iawn i Mererid fynd hebddon ni. |
s-21
| Mae'r gêm wedi dechrau hebddoch chi. |
s-22
| Bydd y trên wedi mynd hebddyn nhw. |
s-23
| Ni ddôf yn ôl atat ti. |
s-24
| Dwi 'di tyfu fyny yn edrych fyny ato fo. |
s-25
| Mae Gethin yn flin gyda Sheryl am gyhuddo Ffion o anfon y llythyr cas ati hi a Hywel |
s-26
| Gallwch chi ennill £ 150 drwy anfon eich adborth aton ni! |
s-27
| Ble bynnag yr ydych, mae Blynyddoedd Cynnar Cymru'n ceisio bod â swyddfa yn agos atoch chi. |
s-28
| Mae'r manylion cyflwyno y cyfeirir atyn nhw wedi dod i ben. |
s-29
| Fedrwn i ddim credu beth oeddwn i'n ei deimlo o dana i. |
s-30
| Fe glywais i'r bom yn gwneud sŵn cloncian o danon ni. |
s-31
| Mae'n amhosib osgoi galw draw i deimlo'r tywod rhwng bodiau eich traed wrth i chi gerdded Llwybr Arfordir Cymru pan fydd y traeth rhagorol hwn yn ymddangos o danoch chi. |
s-32
| Mae tad yn talu drosta fi. |
s-33
| Peidiwch a phoeni drosta i, na wnewch? |
s-34
| Byddwn i'n gwneud unrhyw beth drostat ti. |
s-35
| Mae'n rhywbeth dydyn nhw ddim yn mynd i ddod drosto fo. |
s-36
| Rydw i dal yn teimlo'n flin drosto fe! |
s-37
| Fi'n teimlo'n sorri drosto fe. |
s-38
| A bydd y Gweinidog yn ateb drosti hi'i hun. |
s-39
| Allet ti fynd i'r siop droston ni? |
s-40
| Mae'n ddrwg gan fy nghalon i drostoch chi! |
s-41
| Os na allwch chi fforddio ad-dalu'r ddyled yn llawn, mae gwneud cytundeb nwyddau a reolirgyda'r beili yn ei atal rhag cymryd y nwyddau y mae wedi cymryd rheolaeth drostyn nhw. |
s-42
| Mae'n ddrwg gen i. |
s-43
| Mae gen ti ddewis. |
s-44
| Mae ganddo fo wallt cyrliog. |
s-45
| Does dim hawliau ganddo fe. |
s-46
| Mae disgwyl datganiad ganddi hi yfory yn cydnabod y bu gorlwytho ar fyfyrwyr dosbarth chwech ac ar athrawon. |
s-47
| Dyma'r straeon gorau sydd ganddon ni. |
s-48
| A mae gennym ni fwydlen arbennig ar eich cyfer. |
s-49
| Mae gennon ni rai straeon gwych am y tywydd. |
s-50
| Fydd fy nghyfnod i ar y bwrdd yn dod i ben cyn hir ond mae'r elusen yn mynd i gario mlaen ac yn mynd i fod yn ran mawr ohona fi am byth dwi'n meddwl. |
s-51
| Ond mae'n rhaid i ti gofio cymaint o feddwl oedd ganddo fo ohonat ti. |
s-52
| Mae'r ŵyl yn dathlu cynnyrch Cymreig, ac mae llawer ohono 'n gynnyrch lleol. |
s-53
| Cenhadaeth ein cenedl yng Nghymru yw codi safonau, gwella cyrhaeddiad ein plant a sicrhau bod gennym system addysg y gall y genedl fod yn falch ohoni ac y gall y cyhoedd hyderu ynddi . |
s-54
| Mae pob un ohonon ni yn hoffi paned da gyda thipyn o gacen. |
s-55
| Llwyddodd hwn dwyllo llawer ohonoch chi. |
s-56
| A dweud y gwir mae 'na ormod ononyn nhw. |
s-57
| Mi ddaeth fy merch arall, Lisa, nôl o Lundain i fagu ei phlant hi hefyd ac mae hi'n byw chwech tŷ oddi wrthaf fi, yn hen dŷ mam. |
s-58
| Bydd e'n brofiad da i ti, a dwed wrthof fi be ti'n 'i weld. |
s-59
| Ga' i ofyn rywbeth wrthot ti? |
s-60
| Dwi'n siŵr bod dy fam wedi esbonio'r cyfan wrthot ti. |
s-61
| Doedd Non ddim wedi deud gair wrtho fo. |
s-62
| Fel hyn, gallwn i addurno'r stori y cyfan pan ddywedais wrthi hi ac ni fyddai'n gwybod os yw'n i gyd yn wir. |
s-63
| Os na ddywedwch chi wrthon ni am newidiadau, mae'n bosibl y byddwch chi'n derbyn gormod o fudd-dal. |
s-64
| Anghofiais i ddweud wrthoch chi. |
s-65
| Dwedith e wrthoch chi yfory. |
s-66
| Os ydyn nhw'n dweud eu bod nhw'n 'gasglwr dyledion', dywedwch wrthyn nhw am adael. |
s-67
| Wrth edrych yn ôl, fedrai weld sut oedd fy meddwl i'n creu'r problemau a'r pellter rhyngdda fi a'm ffrindiau. |
s-68
| Mi stwffiodd ei hun i eistedd rhyngddo fo a'i ffrindiau. |
s-69
| Roedd pethau rhyngddo fe a Mam ddim wedi bod yn dda ers amser. |
s-70
| Ond dydy hi ddim yn ymwybodol bod Macs yn gwybod am yr affer rhyngddi hi a Cai. |
s-71
| Aeth pethau'n flêr rhyngddon ni ond mae'r pethau ma'n digwydd, onid ydyn nhw? |
s-72
| Mae'n deg casglu felly bod yna gyfeillgarwch rhyngddoch chi. |
s-73
| Ni all dim fod yn well na sgwrsio gyda'ch plentyn a chadw llinellau cyfathrebu yn agored rhyngddoch chi a'ch plentyn. |
s-74
| Mae cynnydd ym Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles (Maes) yn aflinol ac yn dilyn gwahanol lwybrau yn ystod y camau cynnydd a rhyngddyn nhw. |