s-103
| Roeddwn yn siomedig iawn fod y daith wedi gorfod cael ei chanslo oherwydd byddai wedi bod yn brofiad gwych. |
s-104
| Roeddwn i'n ffodus iawn o gael fy newis o blith dros 100 o ymgeiswyr. |
s-105
| Roedd yn mynd i fod yn drip unwaith mewn oes ac yn rhywbeth roeddwn wedi breuddwydio amdano ers blynyddoedd. |
s-106
| Byddai wedi bod yn gyflawniad aruthrol i gael y cyfle i gyfathrebu a gweithio ochr yn ochr â'r diwylliant Cymreig yno. |
s-107
| Diolch o waelod calon i ti Elain a phob dymuniad da pan fyddi di'n penderfynu ar dy ddyfodol academaidd/astudiaethau. |
s-108
| Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. |
s-109
| Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. |
s-110
| Aeth cynrychiolwyr dosbarth blwyddyn 7 i lansiad dathliadau hannercanmlwyddiant Amgueddfa Lechi Llanberis ar ddiwedd mis Mai. |
s-111
| Roedd hyn yn dilyn wythnosau o gydweithio rhwng disgyblion blwyddyn 7 a'r Amgueddfa mewn gwersi Cymraeg a Chelf. |
s-112
| Roedd hi'n fendigedig bod Eisteddfod yr Urdd yn ei hôl ar ôl blynyddoedd llwm y pandemig. |
s-113
| Teithiodd sawl un o'r ysgol draw i safle braf yr eisteddfod yn Nyffryn Clwyd i gystadlu. |
s-114
| Trefnwyd cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer Mehefin a Gorffennaf. |
s-115
| Bydd yr elw o'r digwyddiadau hyn yn mynd tuag at Gronfa Apêl Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, 2023. |
s-116
| Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor yw UMCB ac mae'n gofalu am les myfyrwyr Cymraeg eu hiaith, dysgwyr ac unrhyw un arall sydd â diddordeb yn yr iaith a'r diwylliant Cymraeg a Chymreig yn ystod eu cyfnod yma ym Mangor. |
s-117
| Dros y blynyddoedd mae perthynas UMCB gyda'r Undeb a'r Brifysgol wedi datblygu ac erbyn heddiw mae gan UMCB berthynas cadarn efo Undeb Bangor a'r Brifysgol sy'n sicrhau bod cynrychioli myfyrwyr Cymraeg yn fwy effeithiol. |
s-118
| Ers sefydlu'r Brifysgol, roedd cymdeithas y 'Cymric' yn weithredol fel cymdeithas Gymraeg y Brifysgol gan gynnal digwyddiadau llenyddol, dadlau a chymdeithasol. |
s-119
| Mewn hinsawdd gyfnewidiol gydag aflonyddwch cynyddol y Cymry yn y 70au, sylweddolodd aelodau o'r gymdeithas nad oedd 'Y Cymric' yn ddigon cryf i gynrychioli'r myfyrwyr Cymraeg, fel oedd y sefydliad ar y pryd. |
s-120
| Yn sgil hynny, sefydlwyd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) fel undeb newydd ac annibynnol yn 1976 ond llwyddwyd cyn hynny i sicrhau Neuadd Gymraeg I breswylwyr y brifysgol, sef Neuadd John Morris-Jones. |
s-121
| Mae gwaddol y Neuadd a'r Cymric yn bodoli hyd heddiw gyda Neuadd John Morris-Jones yn parhau i fod yn breswylfan i fyfyrwyr Cymraeg ac yn ganolbwynt i weithgareddau UMCB ac mae'r Cymric wedi parhau fel cymdeithas gymdeithasol, a'r pwyllgor hwnnw sy'n gyfrifol am galendr cymdeithasol ein cymuned. |
s-122
| Rydym am sicrhau bod y system addysg yn ei gwneud hi'n bosibl i fwy o ddysgwyr o bob oedran feithrin amrywiaeth eang o sgiliau yn y Gymraeg. |
s-123
| Bydd hyn yn eu galluogi i ddefnyddio'r iaith yn eu bywydau personol, yn gymdeithasol ac yn y gweithle. |
s-124
| Nod ychwanegol y Strategaeth hon yw sicrhau bod pob dysgwr a myfyriwr mewn lleoliad cyfrwng Saesneg yn manteisio ar gyfleoedd i ddatblygu sgiliau iaith sy'n cyfoethogi eu profiad o fyw mewn gwlad ddwyieithog. |
s-125
| Wedi gwylio'r ffilm a throi eich sylw at y Gymraeg yn yr ysgol, dyma rai cwestiynau i chi eu hystyried. |
s-126
| A yw galwadau ffôn yn cael eu hateb yn ddwyieithog? |
s-127
| A oes gan yr ysgol bolisi o safbwynt datblygu'r Gymraeg? |
s-128
| A oes gennym weledigaeth glir o safbwynt y Gymraeg? |
s-129
| Roedd darlledu'r ddarlith hon yn Chwefror 1962 yn her newydd i'r Cymry ond o ochr y darlithydd ei hun doedd dim ynddi a oedd yn newydd. |
s-130
| Yr un pryd credai'n bendant nad ymatebai Llywodraeth Prydain i hawl gyfiawn y Cymry i'w rheoli eu hunain heb iddi gael ei gorfodi gan amrywiol amgylchiadau i wneud hynny, yn y pendraw. |
s-131
| Felly doedd dim osgoi ar ddulliau o anufudd-dod dinesig. |
s-132
| Credem yng Nghymdeithas yr Iaith mai'r deyrnged orau a allem dalu er cof am Saunders Lewis oedd cyhoeddi argraffiad newydd o'i ddarlith Tynged yr Iaith, a ysbrydolodd sefydlu'r Gymdeithas, ac sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth i'w haelodau byth er hynny. |
s-133
| Traddodwyd y ddarlith radio hon ddeng mlynedd yn ôl. |
s-134
| Yn fuan wedyn sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a dechreuodd efrydwyr ifainc Cymru frwydro o ddifrif dros einioes y genedl, canys dyna ystyr ymladd i gadw'r iaith. |
s-135
| Galwodd Saunders Lewis ar Gymry i wrthod llenwi ffurflenni a thalu trethi a thrwyddedau os nad oedd yn bosibl i wneud hynny drwy'r Gymraeg. |