s-1
| Yn dilyn cyhoeddiad am lacio cyfyngiadau Covid-19, mae Llyfrgelloedd ac Archifdai Gwynedd bellach ar agor i'r cyhoedd trwy drefn apwyntiad ymlaen llaw. |
s-2
| Os ydych am fynd i ymchwilio yn yr archifdy bydd angen diwrnod neu fwy o rybudd fel bod modd estyn y dogfennau a sicrhau fod y dogfennau hynny ar gael. |
s-3
| Gellir archebu deunydd drwy bori drwy'r catalog ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd - os ydych yn ansicr pa ddogfennau yr ydych eu hangen, cysylltwch â'r archifdy i holi. |
s-4
| Mae i godi argae er mwyn cronni dŵr gysylltiadau poenus i ni yma yng Nghymru. |
s-5
| Nid mater o hanes ydyw chwaith; mae'n gallu brifo o hyd. |
s-6
| Mae'r dywediad 'Cofiwch Dryweryn' yn parhau i gorddi teimladau negyddol ynom . |
s-7
| Am inni wybod fod gweithred anghyfiawn wedi ei chyflawni yn erbyn trigolion Cwm Celyn. |
s-8
| Am fod corfforaeth fawr wedi sathru ar hawliau, dyheadau a theimladau pentrefwyr. |
s-9
| Am fod dymuniad cenedl gyfan wedi ei hanwybyddu. |
s-10
| Ganol fis Mawrth ymddangosodd baner y Ddraig Goch yn y gysgodfa ar gopa Moel Eilio. |
s-11
| Bu yno am rai dyddiau – ac yna, diflannodd. |
s-12
| Roedd ei diflaniad yn cyd-fynd â datganiad Llywodraeth Llundain y bydd yn orfodol cyhwfan baner Jac yr Undeb ar adeiladau swyddogol o'r haf ymlaen. |
s-13
| Mae'n siwr fod y Ddraig wedi hedfan i ffwrdd i wrthsefyll y frech Brydeinig. |
s-14
| Byddai chwarelwyr yr ardal yn cyfrannu ceiniog o'u cyflog wythnosol i ariannu'r Band. |
s-15
| Cyfrannodd Stad y Faenol gyrn i Fand Llanrug ym 1895, ond adeg y Streic ym 1901 fe gymron nhw'r cyrn yn ôl am ryw chwe mis! |
s-16
| Wrth i brotest Nid Yw Cymru Ar Werth gael ei chynnal yng Nghonwy heddiw (dydd Sadwrn, Rhagfyr 4), mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Eiddo yn ystod tymor presennol y Senedd. |
s-17
| Offeryn cerdd gyda rhes o dannau yw'r delyn, er fod gan y delyn deires dair rhes o dannau. |
s-18
| Mae nifer o feirdd wedi disgrifio'r delyn yn eu barddoniaeth, ac arferid canu cerddi i gyfeiliant y delyn. |
s-19
| Mae'n ymddangos fod y delyn Gymreig yn y bymthegfed a'r unfed ganrif ar bymtheg â cholofn syth iddi gyda'r seinflwch wedi ei naddu o un darn o gelynen neu ywen. |
s-20
| Dwy yn hoffi cerdded mynyddoedd. |
s-21
| Pan ga' i amser dwi 'n hoffi seiclo ar y lôn. |
s-22
| Wedi deud fy mod am seiclo i'r gwaith bob dydd os fedra i o hynny ymlaen, ac wedi rhoi cawod yn yr practis newydd i ganiatau imi allu gwneud hyn. |
s-23
| Ydych chi 'n credu mewn bwyta'n iach? |
s-24
| Dwi 'n credu ynddo , a dwi yn trio cadw fy ngharbohydrau i lawr. |
s-25
| I neud hynny mae angen dyw fath o drefn arnoch , ac ar hyn o bryd dwi mor brysur mae'n anodd cadw ato , ond dwy'n trio! |
s-26
| Mae'r geiriau 'argyfwng tai haf' wedi bod yn gyfarwydd ers degawdau i ni yng Nghymru, ond ydi 'r ymadrodd yn baradocs chwerw? |
s-27
| Ystyr argyfwng neu emergency yw sefyllfa ddifrifol sydd angen sylw brys; ac eto mae'r awdurdodau wedi difrïo neu anwybyddu protestiadau mudiadau a chymunedau sy'n poeni am ddyfodol broydd a'r iaith Gymraeg dro ar ôl tro ar hyd y blynyddoedd. |
s-28
| Beth ydi tai haf felly? |
s-29
| Mae dau ystyr erbyn hyn, sef ail gartrefi a llety gwyliau. |
s-30
| Dwy broblem wahanol sy'n cael effaith debyg, effaith negyddol iawn o gau pobl leol o'r farchnad dai ac o sugno bywyd allan o gymunedau. |
s-31
| Ydych chi, fel fi, wedi clywed straeon brawychus yn ddiweddar am arwerthwyr tai yn creu deunydd marchnata ar gyfer gwerthu tai lleol i ddenu prynwyr cefnog o Loegr? |
s-32
| Yn y rhifyn hwn clywn gan Nia George sy'n astudio cwrs meistr mewn newyddiaduriaeth darlledu. |
s-33
| Cawn hanes disgyblion Ysgol Brynrefail sydd wedi bod wrthi 'n mynychu gweithdai creu rhaglen deledu, yn sgriptio ffilmiau ac yn dysgu technegau cynhyrchu. |
s-34
| Tybed daw'r Steven Spielberg neu Fiona Bruce nesaf o fro'r Eco? |
s-35
| Sut mae Cyngor Gwynedd yn mynd i sicrhau na fyddai denu mwy o ymwelwyr yn cynyddu'r mewnlifiad Saesneg ac felly'n gwanychu'r Gymraeg fel iaith gymdeithasol? |
s-36
| Mae astudiaeth yn dangos bod nifer dda o ymwelwyr i ardal yn prynu tai i fyw yno'n barhaol. |
s-37
| Ymhellach, cafwyd astudiaeth gan Bwyllgor Cludiant a Thwristiaeth Senedd Ewrop yn cyflwyno tystiolaeth fod Safleoedd Treftadaeth y Byd yn dioddef effeithiau gordwristiaeth, a bod Cymru eisoes yn un o'r lleoedd yn Ewrop sy'n amlygu hynny. |
s-38
| Mae bwyd hylifol yn llesol i blanhigion sydd mewn potiau fel nad ydych yn gwastraffu dŵr. |
s-39
| Bydd hefyd angen cadw llygaid ar lefel y dŵr yn y bath adar. |
s-40
| Os ydych wedi tyfu mwy o lysiau nag sydd eu hangen, mae'n rhaid eu storio nhw'n ofalus neu fel arall gallwch eu rhannu efo'ch cymdogion a theulu. |
s-41
| Mae llawer o drafod wedi bod am yr Wyddfa yn ystod y flwyddyn ddiwethaf – ei enw, problemau parcio a chiwio – ond ydych chi wedi ystyried yr Wyddfa yn ddi-blastig? |
s-42
| Rydw i'n hynod falch fod Dafydd Gibbard wedi ei benodi yn Brif Weithredwr newydd Cyngor Gwynedd. |
s-43
| Bydd y blynyddoedd nesaf yn cyflwyno sawl her i ni fel Cyngor. |
s-44
| Ond rydw i'n gwybod fod y gwaith arloesol sydd wedi ei gyflawni i gynnal gwasanaethau drwy'r amseroedd anodd, yn golygu fod Gwynedd mewn lle da i gamu ymlaen yn hyderus i'r cyfnod nesaf yn ein hanes. |
s-45
| Cymerwch y cyfle a gwnewch gais - mae gennych bopeth i ennill a dim i'w golli. |
s-46
| Rydych chi wedi gweld y profiadau anhygoel a bythgofiadwy gafodd pobl yn y gyfres gyntaf – felly ewch amdani ! |
s-47
| Mae elusen leol yn chwilio am 500 o gefnogwyr i wneud gwahaniaeth i'w cymuned leol. |
s-48
| Eleni, ni fydd Hosbis Dewi Sant yn gallu cynnal nifer o'n digwyddiadau codi arian graddfa fawr. |
s-49
| Hyd yn oed ar ôl cymorth y Llywodraeth, bydd yr elusen yn dal i fod yn fyr o'r hyn sydd ei angen i gadw eu drysau ar agor, a dyna pam y mae ar Hosbis Dewi Sant eich angen chi. |
s-50
| Os bydd 500 o bobl yn cymryd rhan yn yr ymgyrch 500 Calon, bydd yn codi o leiaf £50,000 ar gyfer gofal diwedd oes ar draws Gogledd-Orllewin Cymru. |
s-51
| I ddangos eich cefnogaeth i Hosbis Dewi Sant, cofrestrwch heddiw ar ein safle gwe. |
s-52
| Yn ôl ym mis Chwefror wrth droedio Cwm Brwynog cefais syniad a fyddai'n plethu fy niddordeb mewn anturiaethau a gofal diwedd oes, sef cerdded Llwybr y Pererinion o Lanberis i Aberdaron yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Cymru Garedig 10fed – 16eg Mai, er mwyn codi arian at Hosbis Dewi Sant. |
s-53
| Diolch i'r drefn, 'roedd yr antur hefyd yn apelio at fy ffrind a chydymaith droeon, Gareth Roberts, a dyma fynd ati i droi'r cysyniad yn realiti. |
s-54
| Gadael Penygroes fore Mawrth a dilyn llwybrau blodau gwylltion a phorthmyn heibio ffermydd a dolydd i Gapel Uchaf. |
s-55
| Galw gyda theulu am banad yng Nghlynnog Fawr cyn ymweld ag eglwys a ffynnon Beuno Sant, a chromlech Bachwen. |
s-56
| Yna dilyn llwybr hudolus, llawn garlleg gwyllt cyn ymuno â'r lôn i Drefor... a gweld lle 'roeddan ni'n mynd drennydd: sef Bwlch yr Eifl. |
s-57
| 'Roedd Bwlch yr Eifl fore Iau yn tipyn o her ond 'roedd y golygfeydd o'r top yn werth pob ymdrech, a throsodd â ni wedyn am eglwys Pistyll, sydd bellach wedi'i llyncu gan unedau gwyliau. |
s-58
| Sefydlwyd Côr Meibion Dyffryn Peris ym mis Mawrth 1989, gyda 22 aelod. |
s-59
| Y diweddar John Huw Hughes, cyn-brifathro Ysgol Dolbadarn, Llanberis, wynebodd y dasg o'u harwain, gyda Hefina Jones yn cyfeilio. |
s-60
| Pwrpas sefydlu'r côr oedd canu o ran pleser ym mhentref Llanberis a'r cylch. |
s-61
| Fodd bynnag, gyda rhaglen amrywiol wedi'i llunio a'i dysgu, daeth galwadau am wasanaeth y côr o ardaloedd ehangach. |
s-62
| Llongyfarchiadau mawr i Jasmine ar ddod yn ail ac i Gethin, Ella, Efa, Iwan, Cynan, Leo a Violet. |
s-63
| I ddathlu Diwrnod Mathemateg bu'r disgyblion yn brysur un ai yn gwneud gwahanol weithgareddau neu'n cystadlu yn erbyn disgyblion eraill ar draws y byd mewn adnodd o'r enw Mathletics. |
s-64
| Llongyfarchiadau mawr i Jac a ddaeth yn y cant uchaf ar draws y byd. |
s-65
| Ac mi ddaeth yr ysgol yn y 150 uchaf hefyd ar draws y byd. |
s-66
| Da iawn chi! |
s-67
| Cawsom fis Ebrill braf a heulog er bod y gwynt yn oer yn y cysgod. |
s-68
| Y ffermwyr yn galw am law, ac fe ddaeth, yn ddi-baid hyd ganol Mai, a gwyntoedd cryfion, eira, cenllysg a therfysg i'w ganlyn. |
s-69
| Daeth ag oerni hefyd; anarferol am fis Mai, llawer dan annwyd a gwresogyddion ymlaen yn ein cartrefi. |
s-70
| Er hynny, clywyd y gôg yn ein hysbysu fod y gwanwyn wedi cyrraedd. |
s-71
| Ges i fy nghusan gyntaf erioed ar deledu, ar y gyfres Gwaith Cartref...roedd hi'n gusan dda iawn hefyd! |
s-72
| Beth sydd ar y gweill eleni? |
s-73
| Rydw i ar fin cychwyn ymarferion ar gyfer sioe gerdd newydd o'r enw Anthem gan Llinos Mai, sydd ymlaen yng Nghanolfan y Mileniwm ac mae hwnna am fod yn gyffroes iawn. |
s-74
| Beth wnaethoch chi'r llynedd? |
s-75
| Heblaw am fwyta a chysgu lots yn ystod y pandemig, wnes i recordio'r gân 'Pan ddo'i adre'n ôl' gyda Ciwb. |
s-76
| Ydach chi'n actores sy'n canu, neu yn gantores sy'n actio?! |
s-77
| Yn bendant cantores sy'n actio – cerddoriaeth yw'r peth mwyaf pwysig i fi. |
s-78
| Rydw i'n caru sgrifennu ac adrodd straeon, a drwy gerddoriaeth dw i'n teimlo y mwyaf cyfforddus yn gwneud hynny. |
s-79
| A pan ddaw hi at actio, y peth mwyaf pwysig i mi yw gweld wynebau newydd, yn enwedig yn y cyfryngau Cymraeg, yn cael eu gweld ar deledu. |
s-80
| Sut brofiad oedd canu gydag Eadyth o flaen y Frenhines yn agoriad swyddogol y Senedd y llynedd? |
s-81
| Sut fagwraeth gawsoch chi? |
s-82
| Fi yw'r person cyntaf yn fy nheulu i allu siarad Cymraeg – anfonodd Mam a Dad fi i gylch meithrin Cymraeg, ac rwy 'n hapus iawn am hynny. |
s-83
| Ges i blentyndod hyfryd ac rwyf dal yn agos iawn at fy rhieni. |
s-84
| Man claddu cynhanesyddol a wnaed o dair maen neu ragor ar eu sefyll ac un maen yn gorwedd ar eu traws yw cromlech (gair Cymraeg sydd wedi'i fenthyg i'r Saesneg); defnyddir yr enw Llydaweg cyfatebol dolmen yn amlach yn yr iaith honno. |
s-85
| Codwyd y rhan fwyaf ohonynt yn Oes Newydd y Cerrig (neu'r Neolithig). |
s-86
| Fe geir cromlechi (neu gromlechau) yn eithaf cyffredin yng Nghymru, Cernyw a'r Alban hefyd, ond yn llai cyffredin yn ne-ddwyrain Lloegr. |
s-87
| Tueddir i gysylltu cromlechi â thirwedd y gwledydd Celtaidd (yn arbennig Cymru, Llydaw ac Iwerddon), ond ceir cromlechi mewn nifer o lefydd ar draws Ewrop, gogledd Affrica a rhannau o Asia. |
s-88
| Ceir cromlechi ar gyfandir Ewrop yn yr Iseldiroedd, Sbaen a'r Almaen a lleoedd eraill. |
s-89
| Ceir nifer fawr o gromlechi mewn rhannau o Rwsia. |
s-90
| Yng ngogledd Affrica ceir enghreifftiau da ar yr arfordir yn Nhunisia ac Algeria. |
s-91
| Yn Asia mae'r enghreifftiau mwyaf trawiadol i'w cael mor bell i ffwrdd â De India a Corea. |
s-92
| Chwedl Branwen ferch Llŷr yw'r ail o Bedair Cainc y Mabinogi. |
s-93
| Mae'r chwedl yn agor gyda Bendigeidfran fab Llŷr yn sefyll ar graig yn Harlech yn edrych tua'r môr, lle gwelir llongau yn dynesu. |
s-94
| Yr ymwelydd yw Matholwch brenin Iwerddon, sydd wedi dod i ofyn am chwaer Bendigeidfran, Branwen, yn wraig iddo . |
s-95
| Cytunir i'r briodas, ond yn ystod y wledd i'w dathlu mae Efnysien, hanner brawd Branwen, yn cyrraedd y llys. |
s-96
| Mae'n ddig na ofynwyd am ei ganiatâd ef cyn trefnu'r briodas, ac mae'n anffurfio meirch Matholwch fel dial. |
s-97
| Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Penfro wedi caniatáu cais i godi ysgol gynradd Gymraeg newydd yn nhref Penfro. |
s-98
| Y bwriad yw datblygu llecyn o dir 3.3 hectar o faint wrth ymyl Ysgol Harri Tudur, ger fferm Glanymôr, ar gyfer yr ysgol newydd. |
s-99
| Yn ystod y cyfarfod ddydd Mawrth fe gadarnhawyd mai enw'r ysgol newydd fydd Ysgol Bro Penfro. |
s-100
| Fe fyddai lle i 210 o blant rhwng 5 ac 11 oed yn yr ysgol, ynghyd â lle i 30 yn y meithrin a chylch meithrin ar gyfer plant dan dair oed. |