s-1
| Bydd y rôl gyffrous hon yn addas ar gyfer siaradwr Cymraeg a Saesneg a fydd yn arwain gwaith cyfathrebu o ddydd i ddydd gyda'r cyhoedd ar ran Sustrans yng Nghymru, gyda'r nod o godi proffil yr elusen gyda'i chynulleidfaoedd dylanwadu allweddol a'i defnyddwyr. |
s-2
| Mae disgwyl gwyntoedd cryfion ar draws Cymru ddydd Sadwrn yn dilyn y glaw trwm a ddaeth gyda Storm Jorge. |
s-3
| Daeth y statws hwnnw i ben ganol y bore, gyda'r heddlu'n dweud eu bod nhw'n 'barod i ymateb i unrhyw lifogydd' ac yn rhybuddio pobl unwaith eto i beidio â gyrru i mewn i ddŵr llonydd. |
s-4
| Mae nifer o reilffyrdd yn parhau ar gau fore Sadwrn, ar ôl i ddwsinau o deithwyr wynebu trafferthion nos Wener wedi i lifogydd effeithio ar y rheilffyrdd yn y de. |
s-5
| Dywedodd Jeremy Parr o Gyfoeth Naturiol Cymru: 'Rydym yn bryderus yn enwedig am y rhagolygon o law sylweddol yn y de, yn enwedig mor fuan wedi Storm Dennis. |
s-6
| Ychwanegodd y dylai pawb gymryd gofal a pheidio gyrru na cherdded drwy lifogydd. |
s-7
| Mae archwilwyr allanol wedi cael ei benodi i ymchwilio i honiadau bod Llywodraeth Cymru wedi llwgrwobrwyo Comisiynydd y Gymraeg i gynnal llai o ymchwiliadau i gwynion, yn ôl gohebiaeth sydd newydd gael ei datgelu. |
s-8
| Yn y chwe mis cyntaf ei swydd, ymchwiliodd y Comisiynydd newydd, Aled Roberts, i lai na 40% o'r cwynion a dderbynnir ganddo - bron hanner lefel ei ragflaenydd. |
s-9
| Heb ymchwiliad statudol i gŵyn, nid oes modd i'r Comisiynydd ddefnyddio ei bwerau cyfreithiol i sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg cyrff yn gwella. |
s-10
| Mae targedau wedi eu gosod ar golegau sy'n hyfforddi athrawon i recriwtio siaradwyr Cymraeg am y tro cyntaf erioed, yn ôl gohebiaeth sydd wedi dod i law ymgyrchwyr iaith. |
s-11
| Ers pedair blynedd, mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn galw am newidiadau er mwyn sicrhau bod digon o athrawon cyfrwng Cymraeg er mwyn cyrraedd targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr erbyn 2050 gan gynnwys gosod targedau statudol ar golegau hyfforddi athrawon er mwyn cynyddu canrannau'r bobol fydd yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. |
s-12
| Lle bendigedig i wneud popeth yn Gymraeg. |
s-13
| Mae'r ardal yn fwrlwm o weithgareddau, diwylliant ac anturiaethau. |
s-14
| Yma mae'r môr a'r mynydd mor agos at ei gilydd. |
s-15
| Mae criw mawr o blant a phobl ifanc y wlad a'r dref, o Aberdaron i Fangor yn cymysgu, yn chwarae ac yn cystadlu, a phawb yn mwynhau! |
s-16
| Mae Meirionnydd yn ymestyn o Finffordd yn y Gogledd hyd at Bont Ddyfi yn y De. |
s-17
| Yn y dwyrain mae Blaenau Ffestiniog a'r Bermo yn y Gorllewin! |
s-18
| Gelli fynd i lan y môr, neu i siopa yn y trefi, ac mae digonedd o weithgareddau'r Urdd i ddifyrru pawb. |
s-19
| Lle clên a Chymreig – beth am edrych pa weithgareddau sydd gan yr Urdd yn y sir ar dy gyfer di? |
s-20
| Mae bywyd yn y brifddinas yn llawn bwrlwm. |
s-21
| Diddordeb mewn chwaraeon neu'r celfyddydau? |
s-22
| Mae rhywbeth at ddant pawb gennym i'ch diddanu. |
s-23
| Dewch i ymuno yn yr hwyl! |
s-24
| Mae Ceredigion yn sir fywiog, llawn gweithgareddau. |
s-25
| Os mai cystadlu ti am wneud – mae digon o hynny o Chwaraeon i Steddfota! |
s-26
| Os am gymdeithasu yn Gymraeg beth am ymuno ag Adran neu Uwch Adran lle gellid wneud amrywiol weithgareddau yn wythnosol! |
s-27
| Neu ymuno ag un o glybiau chwaraeon yr Urdd yng Ngheredigion. |
s-28
| Beth amdani dere i ymuno gyda ni! |
s-29
| Beth yw Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd? |
s-30
| Mae'n unigryw i Gymru. |
s-31
| Mae'n adlewyrchiad o ddyheadau pobl ifanc yn ein cymdeithas heddiw. |
s-32
| Mae'n alwad i weithredu i arweinwyr, i gyfoedion, i ddylanwadwyr. |
s-33
| Mae'n gyfle i wneud gwahaniaeth, i hwyluso'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr i ni allu gwrando, dysgu a pharatoi'r llwybr iddyn nhw ein harwain i ddyfodol gwell. |
s-34
| Ar ddiwrnod olaf Eisteddfod Yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019 mae Sian Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, wedi diolch i athrawon a hyfforddwyr Cymru am sicrhau bod safon a nifer y cystadlu yn yr Eisteddfod eleni yn uwch nag erioed. |
s-35
| Nhw, meddai, yw 'asgwrn cefn y mudiad'. |
s-36
| Ugain mlynedd ers ei sefydlu, mae ysgoloriaeth fawreddog Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel wedi helpu nifer o artistiaid ifanc i gyrraedd llwyfan proffesiynol ac, mewn sawl achos, wedi arwain at yrfa ryngwladol. |
s-37
| Ymchwil sy'n gyrru Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ac mae ein staff yn arbenigo ar iaith a llên Cymru a'r gwledydd Celtaidd eraill: Iwerddon, yr Alban, Ynys Manaw a Llydaw. |
s-38
| Mae ein hymchwil ar agweddau o Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd yn rhychwantu'r canrifoedd, ac yn cwmpasu'r meysydd arbenigol canlynol: |
s-39
| Adran gyfeillgar a chroesawgar dros ben yw'r adran Gymraeg ym Mangor. |
s-40
| Wedi'i llenwi gyda staff anhygoel, y maent yn gwneud ymdrech ardderchog i wneud yn siwr bod pawb yn teimlo'n gartrefol wrth iddyn nhw symud i Fangor. |
s-41
| Y mae gan yr adran feysydd eang rhyngddynt yn ymestyn o Lenyddiaeth yr Oesoedd Canol hyd at Weithdai Cynganeddu – mae 'na fodiwl ar gyfer pawb. |
s-42
| Ar ddechrau fy mlwyddyn gyntaf ym Mangor, ges i lawer o gymorth oddi wrth yr adran. |
s-43
| Roedden nhw'n sicrhau fy mod i'n iawn, ac yn cynnig llawer o help gyda rhannau o'r cwrs nad oeddwn yn deall yn iawn. |
s-44
| Y mae'r cwrs yn ddiddorol dros ben. |
s-45
| Hyd yn oed os yr ydych yn dod i Fangor yn astudio gradd sengl, neu radd cyd-anrhydedd, y mae amrywiaeth o fodiwlau i ddewis rhyngddyn nhw. |
s-46
| Yn y flwyddyn gyntaf, ceir y cyfle i ddilyn y modiwl Beirniadaeth Lenyddol Ymarferol, sydd yn eich dysgu sut i edrych ar farddoniaeth mewn ffordd wahanol, ac i edrych trwy'r cerddi i weld negeseuon cudd sydd yn bodoli. |
s-47
| Hefyd, ceir y cyfle i ddilyn y modiwl 'Theatr Fodern Ewrop' sydd yn canolbwyntio ar ddramâu Ewropaidd dros gyfnod o amser. |
s-48
| Y mae'n hynod o ddiddorol i gael asesu'r wahanol fathau o ddamcaniaethau theatraidd a fodolir ers canrifoedd, a sut yr oedd yn datblygu wedi i nifer o ddigwyddiadau hanesyddol. |
s-49
| Mae Seminar Ieithyddiaeth y Gymraeg yn gyfarfod blynyddol sy'n dod ag ymchwilwyr sy'n gweithio ar ieithyddiaeth y Gymraeg at ei gilydd. |
s-50
| Fe'i cynhaliwyd yn adran Ieithyddiaeth Prifysgol Cymru Bangor rhwng 1992 a 1996, ac mae wedi ymgartrefu yng nghanolfan gynadledda Prifysgol Cymru, Plas Gregynog, ers 1999. |
s-51
| O bryd i'w gilydd mae'r Seminar wedi cynnwys sgyrsiau ar agweddau o'r ieithoedd Celtaidd eraill. |
s-52
| Os hoffech ragor o wybodaeth ynghylch y Seminar, gweler y tudalennau hyn neu mae croeso ichi gysylltu ag un o'r trefnwyr. |
s-53
| Yn y bôn, cronfa ddata o eiriau yw corpws. |
s-54
| Nid yw corpws yr un fath â geiriadur. |
s-55
| Pan fydd defnyddwyr yn chwilio am air mewn corpws, maent yn gallu gweld llawer o enghreifftiau o'r geiriau yn eu cyd-destunau gwreiddiol, fel eu bod wedi cael eu defnyddio gan yr awdur neu'r siaradwr gwreiddiol. |
s-56
| Gan fod corpws yn adnodd electronig, gall defnyddwyr hefyd gael gwybod, er enghraifft, pa mor aml y mae gair penodol yn cael ei ddefnyddio, neu greu cwisiau wedi'u teilwra i helpu gyda dysgu ieithoedd. |
s-57
| Yn gryno, mae corpws yn offeryn electronig gwerthfawr sy'n caniatáu i ni ddeall ein hiaith yn well. |
s-58
| Pwy yw'r bachgen y mae ei dad yn glaf? |
s-59
| Mae ef yn awdur y darllenaf ei gerddoriaeth. |
s-60
| Mae'n flin gennyf dros y teulu y llosgwyd eu tŷ. |
s-61
| Dyma'r ferch y rhoddodd hi wobr iddi . |
s-62
| Rwdy i'n hoffi dramâu y mae canu ynddynt . |
s-63
| Roedd ef yn gwylio'r tŷ y rhedodd y plentyn allan ohono . |
s-64
| Gellwch adnabod y tai nad oes plant ynddynt . |
s-65
| Tynnwch yr afalau sy'n aeddfed. |
s-66
| Codwch y papur sydd ar y llawr. |
s-67
| Dyma'r pethau a gredwn. |
s-68
| Dyma'r pethau rydyn ni'n eu credu. |
s-69
| Pwy yw'r sawl yr ydych yn ei weld? |
s-70
| Mae o'n ddyn na welais i mo 'i debyg erioed. |
s-71
| Un o'r pethau rhwystredig am y cyhoeddiad bod y Tywysog Harri a Meghan Markle yn 'camu'n ôl' o'r rhan fwyaf o'u dyletswyddau brenhinol yw cael fy ngorfodi, fel gweriniaethwr rhonc, i gydymdeimlo ychydig. |
s-72
| Mae agwedd y tabloids Llundeinig tuag at Markle yn gwbl hiliol, fel mae cymharu'r penawdau hyn ochr yn ochr â'u hymdriniaeth â Kate Middleton yn ei wneud yn glir. |
s-73
| Nid oes ryfedd eu bod, i bob pwrpas, yn codi dau fys ar y wasg. |
s-74
| Buaswn i'n dadlau y dylai Harri fod wedi gwneud y cyhoeddiad flynyddoedd yn ôl, ar y sail bod y frenhiniaeth yn gysyniad hollol dwp ac anfoesol, ond gwn fy mod yn gofyn gormod. |
s-75
| Eto i gyd, nid yw'n eglur sut mae modd iddynt ddod yn 'annibynnol' oddi wrth y teulu brenhinol. |
s-76
| Nid yw hyd yn oed yn glir iawn beth fyddai hynny'n ei olygu yn ymarferol. |
s-77
| Yn ôl eu gwefan newydd, maent am barhau i dderbyn 95% o'u hincwm. |
s-78
| Mae cario ymlaen i fwynhau'r holl arian yna tra'n osgoi gwneud y gwaith (os galw beth maent yn ei wneud yn 'waith') yn swnio fel trefniant cyfleus iawn i mi. |
s-79
| A beth bynnag, royals swyddogol neu beidio, maent am barhau i elwa ar eu statws fel selebs byd enwog, statws sy'n deillio o ddim mwy na'r ffaith bod Harri wedi digwydd cael ei eni'n fab i'w rieni. |