s-2
| Mae un rhan o bump o'r ardal wedi'i ddynodi'n statudol oherwydd hynodrwydd y bywyd gwyllt, geomorffoleg a daeareg. |
s-3
| Yn ogystal gwarchodir rhai rhywogaethau yn statudol a gwelir llawer ohonynt yn Eryri. |
s-4
| Mae diogelu safleoedd a rhywogaethau yn ystyriaethau cynllunio materol pryd yn penderfynu ar gais cynllunio. |
s-5
| Mae'n bwysig felly deall effaith datblygiadau a sut y gellid ei leihau. |
s-6
| Saif y dref ar lain o dir arfordirol tua 2 milltir o hyd a hanner milltir o led yn wynebu Bae Conwy a Môr Iwerddon i'r gogledd. |
s-7
| Mae'r bae yn cael ei gysgodi gan bwynt de-ddwyreiniol Ynys Môn (Penmon) ac Ynys Seiriol yn y gogledd-orllewin a phenrhyn calchfaen Pen y Gogarth yn y gogledd-ddwyrain. |
s-8
| Yn ôl traddodiad, yn Oes y Seintiau roedd gan Sant Seiriol, yr enwir Ynys Seiriol ar ei ôl, gell meudwy yng Nghwm Graiglwyd. |
s-9
| Dechreuwyd chwarelu ithfaen ar raddfa diwydiannol ym Mhenmaenmawr yn gynnar yn y 19ed ganrif. |
s-10
| Wrth i'r chwarel dyfu tyrrodd gweithwyr a'u teuluoedd i Benmaenmawr o bob cwr o ogledd-orllewin Cymru a thu hwnt. |
s-11
| Roedd y cysylltiad â phentref Trefor, sydd hefyd yn gartref i chwarel gwenithfaen sylweddol ar lethrau Yr Eifl, yn arbennig o agos. |
s-12
| Oes y Seintiau yw'r enw traddodiadol am y cyfnod ar ôl ymadawiad y Rhufeiniaid o Ynys Brydain pan ymledwyd Cristnogaeth gan genhadon brodorol ymhlith pobloedd Celtaidd Prydain ac Iwerddon. |
s-13
| Gellir dweud ei bod yn parhau o tua dechrau'r pumed ganrif hyd ddiwedd y seithfed ganrif. |
s-14
| Fe fu John Davies yn ymgyrchu yn ardal Clydach gyda Bethan Sayed ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 7), gan rybuddio am 'ddiffyg gweledigaeth' Llafur a'r Ceidwadwyr. |
s-15
| Fe fu'r sedd yng ngofal Llafur rhwng 1908 a 2015, cyn i'r Ceidwadwyr ei hennill gyda mwyafrif o ddim ond 27. |
s-16
| Cefnogais alwadau yn y Senedd i ddatgan ein bod mewn 'Argyfwng Hinsawdd', a bu i mi wrthwynebu'n llwyddiannus yr arolwg seismig ym Mae Ceredigion ynghyd â chydweithio gyda gwleidyddion trawsbleidiol yn Nhŷ'r Cyffredin i hyrwyddo deddfwriaeth ar blastig. |
s-17
| Pe bawn i'n ddigon ffodus i gael fy ailethol, byddwn yn parhau i gefnogi ymdrechion i weithredu ar frys wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd - cyn ei bod hi'n rhy hwyr. |
s-18
| Dyw union leoliad y digwyddiad ddim wedi cael ei gyhoeddi ac mae'r nifer cyfyngedig o lefydd ar gyfer y digwyddiad eisoes wedi eu llenwi. |
s-19
| O Fangor, mi fydd Jeremy Corbyn yn ymweld ag Aberconwy am ddau y prynhawn, cyn cynnal digwyddiad tebyg ym Mae Colwyn am 3.30. |
s-20
| Dyw union leoliadau'r digwyddiadau hyn ddim wedi'u datgelu chwaith. |
s-21
| Derbyniodd Comisiynydd y Gymraeg gerdyn Nadolig dychanol oddi wrth ymgyrchwyr heddiw sy'n honni bod Llywodraeth Cymru wedi ei lwgrwobrwyo i wanhau hawliau iaith. |
s-22
| Yn gynharach eleni, darganfuwyd gohebiaeth oddi wrth Weinidog y Gymraeg at y Comisiynydd yn pwyso arno i gynnal llai o ymchwiliadau. |
s-23
| Yn ôl rhagor o ddogfennau a ryddhawyd drwy geisiadau rhyddid gwybodaeth, ym mis Awst eleni anfonodd y Comisiynydd lythyr at Weinidog y Gymraeg yn brolio ei fod yn cynnal llai o ymchwiliadau i gwynion gan ddweud ei fod 'ddiolchgar' i'r Gweinidog am ei 'harweiniad ar y mater'. |
s-24
| Ymatebodd y Gweinidog gan ddweud ei bod yn 'croesawu' yr ystadegau 'calonogol'. |
s-25
| Roedd Merêd yn arbenigwr ym maes cerddoriaeth werin Gymraeg, a bu wrthi , ynghyd â'i wraig Phyllis Kinney, am ddegawdau yn gwneud gwaith diwyd yn casglu ac yn cofnodi caneuon gwerin. |
s-26
| Nawr, bwriad y llyfrgell yw i ddatblygu cronfa o gerddoriaeth werin yn seiliedig ar y gwaith ymchwil yma, a'i gwneud ar gael i bobl allu pori drwyddi . |
s-27
| Pan es i yno, oeddwn i'n teimlo mod i eisiau misoedd, os nad blynyddoedd, i gael fy mhen rownd y cyfan. |
s-28
| Ar ôl i mi fynd adre y diwrnod cyntaf, oedd fy mhen i'n troi. |
s-29
| Fe wnaeth Arfon gyfarfod Merêd gyntaf ddechrau'r 70au, a bu'r ddau mewn cysylltiad agos ar hyd y blynyddoedd. |
s-30
| Cafodd Arfon weld â'i lygaid ei hun pa mor weithgar ac ymroddgar oedd y ddau wrth geisio diogelu'r caneuon gwerin yma. |
s-31
| Ar 6 Tachwedd 1961, sefydlwyd Cyngor Llyfrau Cymru, ac yn 2011 dathlwyd 50 mlynedd o wasanaethu'r fasnach lyfrau a chyfrannu'n sylweddol at ddatblygiad y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. |
s-32
| Sefydlwyd y Cyngor Llyfrau mewn ymateb i waith arloesol y Cymdeithasau Llyfrau ar draws Cymru ac ymroddiad diflino Alun R. Edwards, Llyfrgellydd Sir Aberteifi ar y pryd, a fu'n gweithio'n ddyfal am gyfnod maith i wireddu'r freuddwyd. |
s-33
| Yn 1965 y dechreuodd Alun Creunant Davies yn ei swydd fel y Cyfarwyddwr cyntaf ac mae'r Cyngor wedi glynu at y weledigaeth wreiddiol o weithio mewn partneriaeth gyda'r cyhoeddwyr, llyfrwerthwyr a llyfrgellwyr i ehangu'r dewis o lyfrau a sicrhau cynnyrch o'r safon orau. |
s-34
| Hoffwn feddwl bod gwir werth y datblygiadau hyn i'w gweld yn y cynnyrch safonol a gyhoeddir bob blwyddyn a'r ystod o lyfrau sydd bellach ar gael i adlewyrchu diddordebau darllen y Gymru gyfoes. |
s-35
| Bydd nifer o ddigwyddiadau'n cael eu cynnwys o fewn rhaglen ddathliadau'r Cyngor, gan ddechrau â'r Cyfarfod Blynyddol ym mis Rhagfyr ac yn cynnwys dathliadau Diwrnod y Llyfr a chyfarfod arbennig o Gyfeillion y Cyngor Llyfrau. |
s-36
| Bydd yn rhaid i chi gynnal eich ymchwil dwys eich hun, sef cyfres o brosiectau ymchwil bychain neu un prif brosiect ymchwil, ac yna traethawd ymchwil a chyflwyniad llafar. |
s-37
| Bydd y rhaglen yn helpu i loywi eich sgiliau ymchwil a'ch gwybodaeth am y dulliau ymchwil diweddaraf yn eich maes dewisol. |
s-38
| Er y bydd aelod academaidd uwch o'r staff yn goruchwylio rhywfaint arnoch , mae hunanddisgyblaeth, cymhelliant a bod yn drefnus yn elfennau hanfodol i gwblhau rhaglen ymchwil. |
s-39
| Yn Aberystwyth, rydym yn falch o'r gymuned fywiog y mae ein myfyrwyr yn ei mwynhau yn ein neuaddau. Rydym yn cynnig amrywiaeth o steiliau a lleoliadau fel y gallwch ddod o hyd i'r ardal sy'n addas ar eich cyfer chi, gyda'r mwyafrif o breswylfeydd o fewn taith cerdded fer i'r campws. |
s-40
| Mae symud i Brifysgol yn gam mawr i chi, a dyma pam rydym am eich helpu i wneud y trawsnewidiad mor hwylus â phosib. |
s-41
| Rydym yn cydnabod bod rhai cyrsiau Uwchraddedig yn parhau am 52 wythnos felly rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfnodau trwydded, ond byddwch yn ymwybodol mai'r cyfnod hwyaf y gallwn gynnig yw 50 wythnos. |
s-42
| Drwy ddewis Prifysgol Aberystwyth byddwch yn dewis canolfan ddysg mewn lleoliad heb ei ail. |
s-43
| Ar lannau arfordir y gorllewin rhwng Bae Ceredigion a Mynyddoedd y Cambria, byddwch yn rhan o gymuned gyfeillgar, eang ei gorwelion, lle mae'r gorwel pell yn ysgogi uchelgais a dyhead. |
s-44
| Mae myfyrwyr yn dod yma ers 1872, wedi'u denu gan ein henw da am ddysgu rhagorol a phrofiad eithriadol ein myfyrwyr. |
s-45
| Er mwyn gwneud yn siŵr bod plant yn ddiogel mewn lleoliad gofal plant, rhaid sicrhau eu bod yn cael eu goruchwylio gydol yr amser. |
s-46
| Bod yr offer a'r deunyddiau a ddefnyddir gyda hwy, a ganddynt hwy, mewn cyflwr diogel; bod digon o gyfleusterau cymorth cyntaf ar gael. |
s-47
| Bod staff wedi dilyn hyfforddiant cymorth cyntaf sylfaenol. |
s-48
| Bod archwiliadau diogelwch yn cael eu cynnal fel rhan o'r drefn yn yr ardaloedd mewnol yn ogystal â'r tu allan. |
s-49
| Bod ymarferion tân yn cael eu cynnal o leiaf unwaith bob chwe wythnos. |
s-50
| Bod plant ond yn cael eu rhyddhau i fynd adref yng nghwmni rhiant neu oedolyn ag awdurdod. |
s-51
| Rhaid i bob lleoliad gael dogfennau ysgrifenedig a elwir yn bolisïau a gweithdrefnau, a rhaid iddynt roi sylw i'r holl bwyntiau hyn yn ogystal â bodloni'r gofynion a bennir yn yr amrywiol ddarnau o ddeddfwriaeth. |
s-52
| Byddwch yn ymdrin â'r ddeddfwriaeth fwyaf perthnasol yng nghyswllt iechyd a diogelwch mewn lleoliadau gofal plant yn y bennod hon. |
s-53
| I ddathlu penblwydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, rydyn ni wedi cyhoeddi cynlluniau gwers newydd er mwyn helpu plant ifanc ddysgu am eu hawliau. |
s-54
| Rydyn ni hefyd wedi creu cân newydd i ysgolion. |
s-55
| Mae hyn gyd yn rhan o'n brosiect Bitw Bach. |
s-56
| Fel rhan o'r prosiect rydyn ni wedi gweithio gydag ysgolion ledled Cymru i ddatblygu adnoddau newydd i'n ddysgwyr ieuengaf. |
s-57
| Dyma ni bythefnos cyn yr Etholiad Cyffredinol. |
s-58
| Oherwydd fy ngwaith hefo'r BBC, yn cyflwyno'r sioe nos Lun, rwyf wedi cael cyfarwyddyd i gadw draw o'r maes gwleidyddol tan fod yr etholiad drosodd (yn yr ystyr datgan barn cyhoeddus). |
s-59
| A wyddoch chi beth, mae hyn fel cael gwyliau ger Fôr y Canoldir ar rhyw ynys fechan i ffwrdd o sŵn y byd. |
s-60
| Byddaf yn datgan yn aml ar nos Lun wrth ddarlledu yn fyw o BBC Bangor faint rwyf yn gwerthfawrogi'r cyfle i baratoi tair awr o gerddoriaeth ar gyfer y gwrandawyr. |
s-61
| Mae'r gwaith hefyd wedi ail-gynna'r tân i fynd allan i weld grwpiau ac artistiaid yn canu yn fyw. |
s-62
| Wythnos yn ôl fe es draw i'r Fic ym Mhorthaethwy i weld canwr o Appalachia o'r enw Riley Baugus. |
s-63
| Pwysleisiodd Riley ar ddechrau'r sioe mai o Appalachia oedd o yn dwad a nid yr Appalachians. |
s-64
| Rhwng pob cân roedd gan Riley storiau difyr oedd yn rhoi cefndir a chyd-destun i'r caneuon. |
s-65
| Wrth drafod hefo fo wedyn soniais fel roedd ei storiau yn creu darlun yn ein meddyliau - ond Duw a ŵyr os oedd y darlun yn un cywir. |
s-66
| Chwerthodd Riley, mewn gwerthfawrogiad. |
s-67
| A deud y gwir, roedd Trelew dan anfantais braidd, a'r 'mynadd yn brin wedi i ni gyrraedd y ddinas tua awr yn gynt na'r disgwyl, am chwech y bore: dim byd yn agored ond caffi oer, di-groeso yr orsaf fysiau, a hen grinc o hogan anserchog yn gwerthu coffi sâl wysg ei thîn i gwsmeriaid cynta'r dydd. |
s-68
| Ond ar ôl tri chan milltir, a noson di-gwsg mewn bws yn croesi'r paith hir, mae'r hostel yn hafan i roi pen i lawr am awr neu ddwy, a manteisio ar gysylltiad wi-ffi da i wneud trefniadau'r dyddiau i ddod. |
s-69
| Ar ôl cael ail wynt, mae canol y dref yn galw. |
s-70
| Mae'r amgueddfa baleontoleg newydd sgleiniog yn werth ei gweld, ac mae'r amgueddfa leol dafliad carreg i ffwrdd hefyd. |
s-71
| Dwi 'n diawlio fy niffyg Sbaeneg, ac yn drist am fethu gwerthfawrogi'r wybodaeth yn llawn. |
s-72
| Caban pren y ffreutur oedd canolbwynt y Gwersyll bryd hynny. |
s-73
| Cafwyd pedair wythnos o wersyll yn yr haf poeth hwnnw yn 1932, gyda lle i 150 o wersyllwyr. |
s-74
| Mynd o nerth i nerth fu hanes y Gwersyll yn 1936 gyda grantiau'r Cyngor Gwasanaeth Cymdeithasol a'r Jubilee Trust yn galluogi mwy o adnoddau a mwy o gabannau. |
s-75
| Yn 1938 cynhaliwyd y Gwersyll cymysg cyntaf yn Llangrannog, cyn hyn roedd un gwersyll i fechgyn ag un i ferched. |
s-76
| Hefyd yn yr haf hwnnw cafwyd gwersyll i oedolion oedd am ail fyw eu hieuenctid yma ar arfordir Ceredigion. |
s-77
| Yn 1939, gyda chymorth grantiau'r Cyngor Iechyd agorwyd campfa yn Llangrannog, a roddodd gyfle i'r Urdd ddatblygu cyrsiau addysg i blant ac ysgolion. |
s-78
| Dyma pryd cychwynnodd yr arfer o uno addysg, awyr agored a hamdden. |
s-79
| Yn yr un haf agorwyd capel newydd ar safle'r gwersyll. |
s-80
| Sefydlwyd Glan-llyn fel Gwersyll yr Urdd yn y flwyddyn 1950. |
s-81
| Yr oedd wedi bod yn freuddwyd gan Syr Ifan ab Owen Edwards sefydlu gwersyll parhaol yn y gogledd a gwelodd ei gyfle pan ddaeth plasdŷ Glan-llyn ar rent yn niwedd y 40au. |
s-82
| Cyn hynny yr oedd y plasdŷ wedi perthyn i deulu y Wynnstay o ardal Rhiwabon ac arferai ddefnyddio y lle fel llety gwyliau y teulu ar gyfer pysgota a saethu. |
s-83
| Ar y dechrau yr oedd y gwersyllwyr yn cyrraedd ar y trên yr ochor arall i'r llyn, gyda'r Brenin Arthur yn eu cludo draw i'r Gwersyll. |
s-84
| Sylfaenol iawn oedd yr adnoddau yn y gwersyll ar y dechrau, er hynny doedd dim trafferth denu cenedlaethau o blant a phobl ifanc a dyrrai yno i gymryd rhan yng ngweithgareddau awyr agored ar Lyn Tegid, ar y mynyddoedd o gwmpas ac wrth gwrs i wneud ffrindiau newydd o bob cwr o Gymru. |
s-85
| Yn ystod y blynyddoedd cynnar aelodau hŷn yr Urdd arferai ddod i Lan-llyn, gyda phlant iau yn mynychu Llangrannog. |
s-86
| Gwrthododd rhai protestwyr â phrynu trwyddedau teledu a bu eraill yn dringo mastiau darlledu ac yn ymyrryd â stiwdios teledu. |
s-87
| Roedd cynlluniau hefyd i sefydlu sianel deledu ar wahân ar gyfer rhaglenni Cymraeg ond yn 1979 cyhoeddodd y Llywodraeth Geidwadol na fyddai'n cadw ei addewid i sefydlu'r fath sianel. |
s-88
| Gan hynny, cyhoeddodd Gwynfor Evans y byddai'n dechrau ymprydio oni fyddai'r Llywodraeth yn anrhydeddu ei haddewid. |
s-89
| Achosodd y penderfyniad hwn gryn gynnwrf ac ofni y gallai arwain at ymgyrchu treisgar. |
s-90
| Cyn y 1960au tueddai'r Gymraeg fod yn iaith yr aelwyd a'r capel a phrin oedd y defnydd o'r iaith mewn cylchoedd eraill. |
s-91
| Ond gyda'r adfywiad yn y diddordeb yn y Gymraeg a'r ymgyrchu ar ei rhan, gwelwyd cynnydd yn y mudiadau a chymdeithasau a hyd yn oed busnesau a weithredai drwy gyfrwng y Gymraeg. |
s-92
| Cyhoeddwyd llawer mwy o lyfrau Cymraeg a sefydlwyd dwsinau o bapurau bro Cymraeg ledled Cymru. |
s-93
| Defnyddiwyd y Gymraeg fwyfwy mewn bywyd cyhoeddus ac yr oedd y Cynulliad Cenedlaethol a sefydlwyd yn 1999 wedi'i gyfundrefnu i weithredu'n ddwyieithog. |
s-94
| Y Senedd yw'r pwyllgor sy'n gyfrifol am oruchwylio holl waith Cymdeithas yr Iaith. |
s-95
| Bob blwyddyn, yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas ym mis Hydref, fe etholir swyddogion a fydd yn gwasanaethu fel aelodau o'r Senedd am gyfnod o flwyddyn. |
s-96
| Mae'r Swyddogion hyn yn gyfrifol am wahanol agweddau o waith y Gymdeithas megis trefniadau'r ymgyrchoedd canolog, gwaith gweinyddol neu ddigwyddiadau Codi Arian ac Adloniant. |
s-97
| Caiff y Swyddogion sy'n gyfrifol am ranbarthau'r Gymdeithas eu hethol yng Nghyfarfodydd blynyddol y rhanbarthau. |
s-98
| Mae hawl gan unrhyw aelod o Gymdeithas yr Iaith i enwebu unrhyw aelod arall i wasanaethu fel aelod o'r Senedd. |
s-99
| Cynhelir cyfarfod Senedd ar ddydd Sadwrn cynta'r mis (fel arfer). |
s-100
| Mae hawl gan unrhyw un o aelodau Cymdeithas yr Iaith i fynychu cyfarfodydd y Senedd fel 'sylwebydd'. |
s-101
| Aberystwyth ydy prif dref Canolbarth Cymru - mae afonydd Rheidol ac Ystwyth yn rhedeg i'r môr yn Aberystwyth. |