s-1
| Mae Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu cyhuddo o fod yn 'wrth-Gymraeg' yn sgil eu hymateb i arwydd 'Cofiwch Dryweryn' ar ochr siop losin yn y dref. |
s-2
| Ond mewn llythyr at landlord oedrannus yr adeilad ym Mhen-y-bont ar Ogwr, dywed y cyngor eu bod yn ystyried yr arwydd yn 'hysbyseb'. |
s-3
| Bydd yr adeilad hefyd yn darparu swyddfeydd i Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, ffreutur a gofod cymdeithasol ar gyfer myfyrwyr, staff a'r gymuned leol. |
s-4
| 'Dw i'n edrych ymlaen, ond mae o bach yn daunting hefyd,' meddai wrth golwg360. |
s-5
| Mae'n joban fawr rŵan fod Pantycelyn yn cau. |
s-6
| 'Dw i isio gwneud yn siŵr fod pob dim yn cario ymlaen – bod niferoedd ddim yn gwaethygu pan na fyddwn ym Mhantycelyn,' meddai wedyn. |
s-7
| Ond hefyd, dw i isio agor o allan fel bod mwy o bobol yn gwybod am be ydan ni'n ei wneud. |
s-8
| Y Cymro Cymraeg fydd wythfed Is-Ganghellor neu Bennaeth Prifysgol Bangor, a gafodd ei sefydlu yn 1884. |
s-9
| Mae'n olynu'r Athro Graham Upton yn y swydd, a gafodd ei benodi'n Is-Ganghellor Dros Dro yn dilyn ymddeoliad yr Athro John G Hughes ddiwedd y llynedd, a hynny wedi naw mlynedd wrth y llyw. |
s-10
| Mae'n gam yn ôl rhyw 30 o flynyddoedd. |
s-11
| Bod rhywun yn coleddu'r fath agwedd at y Gymraeg yng Nghymru. |
s-12
| Roedd yn siom yn fwy nad dim. |
s-13
| Ar ôl tanysgrifio ers blynyddoedd i'r cylchgrawn, dyma'r tro cyntaf i neges o'r fath gael ei hysgrifennu ar yr amlen er bod y cod post yn amlwg ar y cyfeiriad. |
s-14
| Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd rhwng 27 Mai – 1 Mehefin, ac mae'n cynnig mynediad rhad ac am ddim am y tro cyntaf yn ei hanes. |
s-15
| Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cyhoeddi y bydd tair ysgol gynradd yn ne'r sir yn cau yn yr haf. |
s-16
| Mewn cyfarfod llawn o'r cyngor ddoe (dydd Gwener, Mai 24), gwnaed penderfyniadau i gau ysgolion cynradd Beulah, Cilcennin a Threwen. |
s-17
| Daw hyn er gwaethaf galwadau gan rieni a chynghorwyr lleol i gadw'r ysgolion ar agor. |
s-18
| Yr addysg gorau i blentyn yn aml yw addysg mewn ysgol leol. |
s-19
| Geiriau'r Cynghorydd Miles yn swnio fel robot yn darllen brawddeg wedi ei baratoi ar ei chyfer. |
s-20
| Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu penderfyniad Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn heddiw i ddiddymu'r penderfyniad i gau ysgolion Bodffordd, Talwrn a Biwmares. |
s-21
| Gallasai'r Pwyllgor Gwaith fod wedi penderfynu oedi'n unig neu ailgyflwyno eu cynigion, ond diolchwn eu bod wedi gwneud y peth iawn o ddiddymu'r penderfyniadau a rhoi sicrwydd i'r cymunedau y byddai pob ystyriaeth yn y dyfodol o dan egwyddor y Côd Trefniadaeth newydd sydd â rhagdyb o blaid ysgolion gwledig. |
s-22
| Yr ydym heddiw yn diolch yn arbennig hefyd i'r Cynghorydd Carwyn Jones am ei gyfraniad at y drafodaeth heddiw. |
s-23
| Yn ei eiriau ef 'rhaid i bawb symud ymlaen efo'i gilydd yn awr. |
s-24
| Dyma gyfle llechen lân, heb densiwn. |
s-25
| Nid brwydr ddylai hyn fod. |
s-26
| Mae Cymdeithas yr Iaith yn barod iawn i fod yn rhan adeiladol o'r drafodaeth ar gyfer ysgolion ardaloedd Llangefni, Seiriol ac Amlwch gan gredu'n ffyddiog fod modd canfod atebion o fodelau cydweithio sydd yn creu unedau addysgol cryf, yn sicrhau arbedion ac yn harneisio holl egni rhieni a chymunedau sydd wedi dangos y fath ofal am ddyfodol eu hysgolion a'u cymunedau. |
s-27
| Yn wir, hoffem fel Cymdeithas ddiolch o galon i'r cymunedau hyn sydd wedi gosod esiampl i gymunedau gwledig Cymraeg ledled y wlad, ac yn enwedig esiampl i'w plant. |
s-28
| Yn olaf, mae'n gwbl briodol i ni fel Cymdeithas ddiolch i'r Gweinidog Addysg Kirsty Williams gan fod ei pharodrwydd hi i ymchwilio o ddifri i gŵyn wedi anfon neges glir i awdurdodau lleol ledled Cymru y bydd yn rhaid iddynt gymryd o ddifri'r Côd newydd sydd â rhagdyb o blaid ysgolion gwledig. |
s-29
| Fe gawn ni gyfle i ddiolch yn bersonol iddi mewn cyfarfod bore fory rhwng y Gweinidog a'i swyddogion a dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith. |
s-30
| Wrth ymateb i gyhoeddiad Cyngor Sir Gâr eu bod yn dechrau cyfnod o ymgynghori i newid darpariaeth Cyfnod Sylfaen ysgolion Y Ddwylan, Griffith Jones, Llangynnwr a Llys Hywel i fod yn Gymraeg a newid Ysgol Rhys Pritchard o fod yn ddwy ffrwd i fod yn ysgol Gymraeg dywedodd Sioned Elin ar ran Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin: |
s-31
| 'Rydyn ni'n llongyfarch y cyngor am ddechrau ymgynghoriad er mwyn gosod pump o ysgolion y sir ar lwybr tuag at addysg Gymraeg, a hyderwn y bydd cefnogaeth eang i hynny.' |
s-32
| Daeth ymgyrchwyr ynghyd ym Mhenrhyndeudraeth heddiw i drafod camau polisi i ddelio ag effaith ail gartrefi ar y Gymraeg. |
s-33
| Yn siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Robat Idris o Gymdeithas yr Iaith: |
s-34
| Os oes yna un pwnc llosg sy'n crisialu argyfwng y Gymru gyfoes, yna 'Tai' yw hwnnw. |
s-35
| Pwy sy'n berchen arnyn nhw? |
s-36
| Pwy sy'n medru fforddio eu prynu? |
s-37
| Pwy sy'n methu fforddio eu prynu? |
s-38
| Mae'r annhegwch presennol yn rhemp – mae rhai yn berchen mwy nag un tŷ, eraill heb yr un, a rhai heb do o gwbl uwch eu pennau. |
s-39
| Mae yna ddadl am edrych tuag at beth mae ardaloedd yng Nghernyw wedi gwneud, o ran cyfyngu ar y nifer o ail gartrefi mewn ardal, ac mae hynny'n un pwynt sydd angen ei drafod. |
s-40
| Fe gychwynnodd y tymor newydd gyda llawer o gyffro, gan fod tri dosbarth a neuadd newydd yn barod i'w defnyddio, gan ddyblu maint yr ysgol! |
s-41
| Mae'r gwaith yn parhau ar ddwy ystafell ddosbarth arall, a fydd yn agor yn fuan. |
s-42
| Mae'r holl waith adeiladu yn dilyn yr holl waith caled gan aelodau Cymdeithas Gymreig Trevelin i werthu darnau o dir er mwyn ariannu'r prosiect. |
s-43
| Mae'r ysgol yn ddiolchgar dros ben i'n holl ffrindiau o Gymru sydd wedi cyfrannu dros y blynyddoedd, ac sydd yn dal i gyfrannu hyd heddiw. |
s-44
| Un o'n prif gymwynaswyr yw Cymdeithas Hoelion Wyth, sydd wedi casglu dros £15,000 hyd yn hyn drwy werthu gwin o'r Ariannin nol yng Nghymru a gweddill y DU. |
s-45
| Pa Arlywydd Americanaidd a ymwelodd ag Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 1938? |
s-46
| Ble yng Nghaerdydd roedd Saunders Lewis yn byw pan ddechreuodd ysgrifennu ei ddrama Blodeuwedd? |
s-47
| Ym mha dafarn yng Nghaerdydd y byddai Iolo Morganwg yn cyfarfod â'i gyfeillion barddol? |
s-48
| Sut y cafodd Parc yr Arfau ei enw? |
s-49
| Pa gantores bop Gymraeg a Chernyweg a fagwyd yn Despenser St? |
s-50
| Annogir pawb i wisgo coch, gwyn a gwyrdd ar y diwrnod, ac wrth gwrs bydd nwyddau Eisteddfod 2019 ar werth ar stondin yr Urdd gan gynnwys hwdis a chrysau-T. |
s-51
| Nid yw'n orymdaith heb faneri, felly cynnigir gwobr ariannol i enillwyr cystadleuaeth creu ac arddangos baner ar y diwrnod, sy'n hyrwyddo'r ysgol/adran ac yn tynnu sylw at ddyfodiad yr Eisteddfod. |
s-52
| Gellir chwifio baner Cymru, Triban yr Urdd neu faner Owain Glyndŵr ar yr orymdaith hefyd. |
s-53
| Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. |
s-54
| Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni. |
s-55
| Gall Brexit achosi niwed anhygoel i Gymru. |
s-56
| Mae Plaid Cymru yn gwneud popeth y gallwn i amddiffyn ein gwlad. |
s-57
| Rydym yn aml yn clywed am yr 'argyfwng tai' ac mae wedi dod yn gyffredin i feddwl mai'r ateb i'r broblem eang a chymhleth hon yw 'mae angen i ni adeiladu mwy o dai'. |
s-58
| Dyma mae datblygwyr tai yn ei ddweud yn aml er mwyn gwanhau cyfyngiadau cynllunio a rheoliadau adeiladu. |
s-59
| Mae datblygiadau yn cael eu gwthio trwyddo hefyd heb fuddsoddiad digonol mewn seilwaith, gan achosi straen ar adnoddau a gwasanaethau cymunedau lleol. |
s-60
| Mae Patagonia yn lle rhyfeddol sy'n cynnig nifer o brofiadau i deithwyr gan gynnwys gweithgarwch antur, atyniadau naturiol, hanes a diwylliant brodorol - ac wrth gwrs, y Wladfa Gymreig. |
s-61
| Oedd y gydfodolaeth heddychol rhwng brodorion y Tehuelche a'r Gwladfawyr Cymreig yn ddigwyddiad anghyffredin os nad yn unigryw yn hanes gwladychu cyfandiroedd America? |
s-62
| Cwmni teithio â chysylltiadau gyda'r Wladfa, Patagonia yw Andes Celtig. |
s-63
| Mae ein profiad yn y maes teithio a thwristiaeth yn y Wladfa a gweddill Patagonia yn ymestyn o 1998 ac mae ein tîm yn cynnwys disgynyddion y gwladfawyr gwreiddiol a siaradwyr rhugl eu Cymraeg, Sbaeneg a Saesneg. |
s-64
| Yn y pedwar darn bach a ddyfynnais, mae o leiaf bump o ffeithiau hollol newydd am hanes llenyddiaeth Gymraeg. |
s-65
| Fel rwyf wedi dweud droeon ar y blog, bydd Rhagluniaeth, yn weddol reolaidd, yn gyrru pethau i geisio gwylltio'r Cymry a'u deffro i wneud rhywbeth ohoni . |
s-66
| I'r pwrpas hwn, un dyn y mae'n defnyddio ychydig arno y dyddiau hyn yw'r colofnydd Roger Lewis. |
s-67
| Dechreuais i'r flog Linux Cymraeg achos fy mod i wedi clywed am y prosiect Pethau Bychain. |
s-68
| Wel mae'r prosiect eisiau bod pobl yn dechrau neu wneud rhywbeth ar-lein yn Gymraeg i annog mwy o bobol i gymryd rhan yn y diwylliant Cymraeg digidol. |
s-69
| Wel gobeithio y bydda i'n parhau i flogio yn yr iaith Cymraeg er mwyn helpu'r statws Cymraeg ar y we. |
s-70
| Gyfeillion, cofiwch am ddigwyddiad Hacio'r Iaith a gynhelir yn y ‘Steddfod ddydd Llun ar stondin Prifysgol Aberystwyth rhwng 1:30 a 5:00. |
s-71
| Cyfle gwych i drafod technoleg a'r Gymraeg dros banad. |
s-72
| Fe fydd yna hefyd Wi-Fi a bara brith. |
s-73
| Pwy sydd angen mwy? |
s-74
| Ymddiheuriadau unwaith eto am fod ychydig yn araf yn ysgrifennu eto – aeth bron i tair wythnos heibio fel y gwynt, a dyma fi ar drothwy fy wythnos olaf yn Harvard. |
s-75
| Rhyfedd o deimlad, yn enwedig gan fod pawb o'm hamgylch yn gweithio yn galetach nag arfer yn ceisio ysgrifennu traethodau lu cyn y gwyliau. |
s-76
| Chwerwfelys yw'r gair: mae adre a'i gysur cyfarwydd yn agosâu, ond trist fydd gadael yr hyn a fu'n bedwar mis arbennig yma'n Harvard. |
s-77
| Daeth ac aeth y cyngerdd cerddorfa. |
s-78
| Ges i brofiad braidd yn annifyr gyda'r gerddorfa, mewn gwirionedd – roedd yr awyrgylch braidd yn anghyfeillgar. |
s-79
| Ond mwynheais y gyngerdd, wrth gwrs – does dim teimlad gwell na chwarae darn gwych o gerddoriaeth i gynulleidfa. |
s-80
| Roeddem ni'n chwarae nawfed symffoni Dvořák ('From the New World' – addas iawn!) a nifer o ddarnau gan Ravel. |
s-81
| Wedi misoedd o waith caled roedd y gyngerdd yn llwyddiant. |
s-82
| Cafodd y gyngerdd ei recordio – pe baech chi, am ryw reswm, eisiau gwrando ac esgus eich bod chi yno, croeso i chi wneud yma. |
s-83
| Y penwythnos hwnnw, es i i un o fy ngigs cynta ers bod 'ma. |
s-84
| Roedd ffrind i mi yma wedi prynu dau docyn i fynd i weld Frank Turner, ac wedi gofyn i mi fynd gyda hi. |
s-85
| Mae cariad Gwyneth at iaith, a'i chrefft a'i dawn fel cyfansoddwraig yn amlwg yn y caneuon grymus hyn. |
s-86
| Hefyd yn ymddangos ar yr albwm mae Seckou Keita, y chwaraewr adnabyddus o Senegal, a Rowan Rheinigans, enillydd Gwobr Werin BBC Radio 2. |
s-87
| Trydydd diwrnod yr Wyl yn barod a'r dyddiau'n carlamu heibio! |
s-88
| Cynulleidfaoedd brwd yn gwrando'n astud ac yn llawn diddordeb yng Nghymru a'r Cymry. |
s-89
| Rydan ni'n rhannu pabell efo Hawaiiaid hawddgar ac mae'r Hwngariaid hynaws yn ein diddanu ni efo'u halawon gwerin bob nos. |
s-90
| Mae datblygiad newydd o 600 o ystafelloedd wedi agor ym Mhentref Santes Fair, gydag amrywiaeth o lety gan gynnwys fflatiau stiwdio a tai tref, bar caffi, siop, golchdy, ystafelloedd cyffredin a chyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd. |
s-91
| Ynys Môn yw un o'r llefydd mwyaf poblogaidd gan ymwelwyr sy'n dod i ogledd Cymru, yn bennaf oherwydd y milltiroedd o draethau a llwybrau arfordirol a cheir yno. |
s-92
| Roedd y pwnc penodol y bûm yn gweithio arno o ddiddordeb ar yr un pryd i SHTG ac rydw i wedi gweithredu fel cyswllt, gan rannu gwybodaeth i'r ddau gyfeiriad ac arbed amser. |
s-93
| Rydw i wedi dod yn gyfarwydd â rhaglen waith adolygu tystiolaeth Technoleg Iechyd Cymru ac wedi rhannu dysgu y ddwy ffordd ar effaith arfarnu a chynhyrchu Gweithdrefnau Gweithredu Safonol. |
s-94
| Yn aml mae'r manteision hyn wedi deillio drwy achub ar y cyfle, drwy fod o gwmpas pan fo sgwrs benodol yn digwydd. |
s-95
| Dylech gyflwyno eich cwyn yn ysgrifenedig yn uniongyrchol i'r unigolyn y buoch yn ymdrin â hwy. |
s-96
| Mae'n bosibl y gallant unioni'r sefyllfa ar unwaith. |
s-97
| Gellir sefyll am drydydd tymor neu fwy. |
s-98
| Mae hanner un o ynysoedd yr afon Menai, sy'n eiddo i Brifysgol Bangor, wedi cael ei rhoi ar y farchnad am bris o filiwn o bunnau. |
s-99
| Mae Ynys Faelog oddi ar arfordir de-ddwyrain Ynys Môn ac mae'n un o bedair ynys fechan rhwng trefi Porthaethwy a Biwmares. |
s-100
| Mae'r darn o'r ynys sydd ar werth wedi bod yn nwylo Prifysgol Bangor ers yr 1970au, a than yn ddiweddar bu'n lleoliad ar gyfer canolfan ymchwil gwyddonol. |