Dependency Tree
Universal Dependencies - Welsh - CCG
Language | Welsh |
---|
Project | CCG |
---|
Corpus Part | test |
---|
Annotation | Heinecke, Johannes; Tyers, Francis; |
---|
Select a sentence
s-1
| Mae pryderon am ddyfodol gwasanaethau cerdd yng Ngheredigion, wrth i'r Cyngor Sir fwriadu torri'r gyllideb o 68%. |
s-2
| Mae'r cyngor eisoes wedi dechrau'r broses ymgynghori ar ddiswyddiadau gwirfoddol athrawon cerdd yn y sir. |
s-3
| Ond maen nhw'n cael eu cyhuddo o fethu â chynllunio dyfodol y gwasanaethau ar ôl y toriadau, yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan Gyfeillion Cerddorion Ifanc Ceredigion. |
s-4
| Gwnaethoch alw am ymchwiliad, ac ar yr achlysur hwnnw, roeddech yn llygad eich lle: dylem gynnal yr ymchwiliad hwnnw. |
s-5
| Darllenais yr erthygl roeddech wedi ei hysgrifennu yn 'Wales Home' gyda diddordeb. |
s-6
| Mae'r gwaith roeddech chi wedi'i gomisiynu gan McKinsey wedi dangos diffygion difrifol a diffyg arweiniad strategol yn eich gweinyddiaeth. |
s-7
| Roeddwn yn gwerthfawrogi'r modd y gwnaethoch gynnig y gwelliannau. |
s-8
| Roeddwn yn falch o'u gweld yn dod at ei gilydd. |
s-9
| Rydw i wedi siarad ag Elinor ac mae'r ddwy ohonom yn rhydd unrhyw ddiwrnod rhwng y 24ain o Orffennaf ac wythnos y Steddfod. |
s-10
| Beth a wnaeth y fath chwyldro sylfaenol yn bosibl? |
s-11
| Drwy agor siop roddion, caiff y plant gyfle i ymarfer y sgiliau. |
s-12
| Caiff manylion y busnes sydd i'w drafod yn y cyfarfod eu hanfon atoch yn nes ymlaen. |
s-13
| Erbyn mis Mawrth 1406, pan ysgrifennwyd y llythyr, roedd Glyndŵr wedi profi llwyddiannau aruthrol. |
s-14
| Wedi dechreuadau siomedig ym 1400 ysgubodd y gwrthryfel trwy'r holl wlad gan ennill buddugoliaethau milwrol, cipio nifer o brif gestyll Edward I a denu cefnogaeth gan frenin Ffrainc. |
s-15
| Coronwyd Glyndŵr yn dywysog Cymru ac fe gynhaliodd senedd gyda chynrychiolwyr o bob cwr o'r wlad. |
s-16
| Roedd wedi llwyddo i greu tywysogaeth Gymreig oedd yn rhydd o reolaeth brenin Lloegr. |
Text view
•
Download CoNNL-U