Dependency Tree

Universal Dependencies - Welsh - CCG

LanguageWelsh
ProjectCCG
Corpus Partdev
AnnotationHeinecke, Johannes; Tyers, Francis;

Select a sentence

Showing 101 - 200 of 169 • previous

s-101 Mae olion cloddfeydd copr o'r cyfnod yma wedi eu darganfod yng Nghwmystwyth, Mynydd Sygun, Mynydd Parys ar Ynys Môn ac yn arbennig ar Ben y Gogarth ger Llandudno, lle roedd siafftiau hyd at ddyfnder o 70 medr.
s-102 Dechreuwyd mwyngloddio copr ar Ben y Gogarth tua 4000 o flynyddoedd yn ôl, a chafodd mwy na phedair milltir o dwneli ac ogofâu eu cloddio yn ystod Oes yr Efydd, pan ddefnyddiwyd carreg igneaidd yn ogystal ag esgyrn gwartheg, defaid, geifr ac ati fel offer cloddio.
s-103 Mae'n bosibl fod copr wedi cael ei allforio o Ben y Gogarth i gyfandir Ewrop yn ystod yr Oes Efydd.
s-104 Cam yn nes at fwy o dyrbinau gwynt ar arfordir y gogledd.
s-105 Mae cynllun i gynyddu nifer y tyrbinau gwynt oddi ar arfordir y gogledd gam yn nes ar ôl i gwmni ynni sicrhau hawliau i ran o wely'r môr gan Ystadau'r Goron.
s-106 Y gobaith rŵan ydy sefydlu cynllun tebyg ar ochor orllewinol y datblygiad hwnnw, gan greu un o feysydd ynni gwynt y môr mwya'r byd.
s-107 Mae Awel y Môr yn gyfle gwych er mwyn symud helpu symud tuag at y targed yna, ond ar yr un pryd mae'n helpu'r ardal leol trwy helpu creu swyddi.
s-108 Does dim awgrym ar hyn o bryd faint o dyrbinau all gael eu codi ond mae'r cwmni wedi sicrhau hawliau ar gyfer ardal 106 cilomedr sgwâr.
s-109 Fydd y llithrffordd ddim yn gallu cael ei defnyddio rhwng 10yb a 4yp er mwyn sicrhau diogelwch yr holl ymwelwyr.
s-110 Gofynnwn i chi droedio'n ysgafn a chofio parchu'r tir, y gymuned a phobl eraill pan fyddwch yn ymweld â'r Parc Cenedlaethol.
s-111 Ein hwythnos olaf o ymarfer, ac mae hi wedi bod yn wythnos go wahanol i'r rheiny ddaeth gynt.
s-112 Lle buom yn eistedd o amgylch bwrdd rai wythnosau yn ôl yn ceisio cyrraedd at bopeth oedd gan y sgript i'w gynnig, ry'nni nawr yn eistedd mewn tywyllwch, â thraciau sain a golau'n cael eu gosod yn eu lle'n ofalus, a'r actorion prin yn symud o'r llwyfan.
s-113 Y rheswm nad ydw i wedi bod yn yr ystafell ymarfer trwy gydol yr wythnos hon yw bod sgript y ddrama heddiw yn mynd i'r wasg.
s-114 Wedi cysoni'r newidiadau i'r sgript a wnaethpwyd tra'n ei hymarfer gyda chopi diweddaraf Menna Elfyn, dwi wedi bod yn paratoi'r sgript ar gyfer ei drafft terfynol, a'r drafft bydd yn ymddangos o weisg Gomer ddiwedd y mis.
s-115 Ar Radio 4 dydd Mawrth diwethaf, 22ain Ebrill, cafwyd rhaglen yn trafod y gân Myfanwy, a'i harwyddocâd i ystod eang o unigolion.
s-116 Rhaglen digon hamddenol ac adloniadol ydoedd, un a drafodai beth yw cryfder emosiynol y geiriau a'r alaw i wahanol bobl.
s-117 Ar yr un orsaf ychydig wythnosau ynghynt neillteuwyd amser i drafod a oedd gwerth i'r Gymraeg, a beth oedd y goblygiadau ariannol a diwylliannol o'i chynnal.
s-118 Cymysg iawn fu'r ymateb i'r rhaglen hon, gyda sawl un yn teimlo bod naws y rhaglen yn negyddol tuag at yr iaith.
s-119 Yn yr un modd beirniadwyd Radio Wales yn ddiweddar am ddarlledu rhaglen a fentrodd ofyn y cwestiwn os oedd y Gymraeg yn 'irritating', ac os felly 'pam?'.
s-120 Wedyn yn goron ar y cyfan bu i'r comedïwr Michael McIntyre ddefnyddio ei raglen sgwrs ar BBC1 i gymharu'r iaith Gymraeg â Pingu, gan honni nad oedd neb ond Alex Jones yn ei siarad, gyda'r gynulleidfa yn morio chwerthin yn gefndirol ar ei sylwadau ffraeth.
s-121 Menter sy'n cymryd ei hanadl gynta' penwythnos 'ma yw Twrw Cymru, sef Radio'r Cymry ar ei ffurf newydd.
s-122 Huw Marshall sydd tu ôl i'r fenter, a'i fwriad yw nid yn unig cynnig cynnwys sain amgen i Gymru, ond darparu platfform er rhannu deunydd cyfrwng Cymraeg.
s-123 Bydd Twrw Cymru yn ategu at ei fenter arall sef Y Newyddion, sy'n cynnig ffrwd amgen i 'gynulleidfa iau a llai rhugl'.
s-124 Mae e'n grediniol bod yna gynulleidfa ar gyfer cynnwys da cyfrwng Cymraeg, ond nid ar ffurf gorsaf radio draddodiadol, fformat fel Netflix lle gall y defnyddiwr ddewis a dethol sydd ei angen.
s-125 Ein nod yw ennill annibyniaeth i Gymru er mwyn gwella'r ffordd mae'n gwlad yn cael ei llywodraethu.
s-126 Credwn mewn dinasyddiaeth gynhwysol, sy'n croesawu a dathlu'r ffaith fod pob un o ba bynnag gefndir sy'n dewis gwneud Cymru yn gartref iddynt yn ddinasyddion llawn y Gymru newydd.
s-127 Bydd ein mudiad yn hybu annibyniaeth i Gymru drwy amryw o weithgareddau, er mwyn gwneud yr achos bod Cymru, fel cenhedloedd bychain eraill y byd, yn well yn rheoli eu hunain fel rhan o deulu Ewropeaidd a rhyngwladol ehangach.
s-128 Mae'r mudiad yn agored i bawb sy'n credu mewn annibyniaeth i Gymru
s-129 Diwedd y Ceidwadwyr Unoliaethol?
s-130 Rhwyg ymysg Torïaid ynglŷn â pharhad yr undeb yn ôl arolwg barn newydd
s-131 Mae traean o bobl yn Lloegr wedi dweud nad ydynt yn dymuno i'r Deyrnas Unedig barhau.
s-132 Heb gynnwys y rhai nad oedd yn gwybod neu wrthododd ymateb, yn ôl pôl piniwn mae 35% o bobl yn Lloegr bellach yn ffafrio annibyniaeth i Loegr.
s-133 Mae tystiolaeth y pôl piniwn hwn yn dangos y byddai lleiafrif sylweddol o bleidleiswyr yn Lloegr yn pleidleisio dros ddod â'r Deyrnas Unedig i ben.
s-134 Mae'r darlun yn fwy diddorol byth o edrych ar bleidleiswyr yr amrywiol bleidiau.
s-135 Mae pleidleiswyr Ceidwadol ac Unoliaethol yn rhanedig ar ddyfodol y DU, mae bron i hanner am weld Lloegr yn mynd ei ffordd ei hun.
s-136 Mae'r canlyniadau yma yn gydnaws â'r diffyg pwysigrwydd sydd i gynnal yr Undeb ymysg pleidleiswyr Ceidwadol mewn polau piniwn am Brexit a'i effaith ar y berthynas rhwng Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
s-137 Mae Cyngor Gwynedd yn wynebu 'costau ychwanegol' wedi i griw o weithwyr allweddol orfod hunan-ynysu, ar ôl bod yn eistedd gyda'i gilydd mewn bws mini wrth fynd am noson allan.
s-138 Nid yw yn hysbys pwy yw'r gweithwyr allweddol dan sylw, ond mae'r Prif Weithredwr wedi dweud y bydd yna 'oblygiadau yn deillio i'r unigolion yma'.
s-139 Mae Dilwyn Williams y Prif Weithredwr wedi sgrifennu at staff Cyngor Gwynedd, er mwyn rhoi gwybod am y digwyddiad 'difrifol' ac i erfyn ar yr holl weithwyr i 'gadw at y rheolau' Covid-19.
s-140 O ddydd Llun 23 Mawrth 2020, ac am gyfnod amhenodol, bydd ein holl weithgarwch a'n gwasanaethau yn symud ar-lein.
s-141 Er na fydd hi'n bosib galw yn y swyddfa na ffonio yn ystod y cyfnod yma, byddwch yn gallu cysylltu â ni drwy e-bost a bydd ein holl systemau electronig yn parhau yn weithredol.
s-142 Byddwn hefyd yn defnyddio ein cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol i rannu gwybodaeth ac ateb ymholiadau.
s-143 Cafodd Prifysgol Bangor ei sefydlu o ganlyniad i ymgyrch yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg dros ddarparu gwell addysg uwch yng Nghymru.
s-144 Agwedd bwysig ar yr ymgyrch codi arian i sefydlu coleg statws prifysgol ym Mangor, oedd y cyfraniadau gwirfoddol a wnaed gan bobl lleol, gan gynnwys ffermwyr a chwarelwyr, o'u tâl wythnosol dros nifer o flynyddoedd.
s-145 Agor ei drysau yn 1884...
s-146 Agorwyd y Brifysgol mewn hen dafarn y goets fawr ym mis Hydref 1884.
s-147 Sefydlwyd fel Coleg Prifysgol Gogledd Cymru gyda 58 myfyriwr a 12 aelod o staff academaidd.
s-148 Darparwyd y graddau gan Brifysgol Llundain tan 1893 pan ddaeth Prifysgol Cymru Bangor yn un o dri aelod gwreiddiol Prifysgol Cymru.
s-149 Tref fwyaf Ceredigion, ar arfordir gorllewin Cymru yw Aberystwyth.
s-150 Rhoddwyd statws adnau cyfreithiol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru o dan Ddeddf Hawlfraint 1911.
s-151 Yn y lle cyntaf, fodd bynnag, deunydd a oedd o ddiddordeb Cymreig neu Geltaidd y gallai'r Llyfrgell ei hawlio yn achos cyhoeddiadau drud neu argraffiad cyfyngedig.
s-152 Yn 1987, cafodd yr olaf o'r cyfyngiadau hyn eu codi gan wneud statws adnau cyfreithiol Llyfrgell Genedlaethol Cymru yr un peth â Llyfrgell Bodleian, Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt, Llyfrgell Coleg y Drindod, Dulyn a Llyfrgell Genedlaethol yr Alban.
s-153 Mewn amser mor ansicr a phoenus a'r un gyda ni'n byw ynddi ar y funud, dydi ffasiwn ddim yn bwysig i ni yma yng Nghymru.
s-154 Felly, efo'r newid mawr a sydyn ym myd ffasiwn ni yma yng Nghymru, fyswch chi'n meddwl bysa huna'n beth da?
s-155 Wedi'r cwbl, efo llai o brynu ma' 'na llai o wastraff a mwy o bres yn ein pocedi.
s-156 Draw ym Mangladesh, mae dros 4 miliwn o bobl yn gweithio mewn ffatrïoedd ffasiwn yn gwneud dillad sy'n cael eu gwerthu ledled y byd.
s-157 Dydw i ddim yn gorfod egluro i chi fod yr amodau gweithio yn galad a'r tal yn dorcalonnus, er y galw mawr am newid.
s-158 Gyda miliyna'o deuluoedd yn dibynnu ar waith yn y ffatrïoedd yma, mae coronafeirws wedi troi sefyllfa oedd yn ofidus ac yn beryglus yn barod i fod yn un gwir trychinebus.
s-159 Mae nifer fawr o bobl wedi cael eu gyrru adra o'u gwaith heb dal gyda'r ffatrïoedd yn colli cytundebau.
s-160 Tra bod y contractwyr enfawr yn gwynebu diffyg elw, mae gweithwyr y ffatrïoedd ffasiwn yn gwynebu diffyg incwm, diffyg bwyd a diffyg meddyginiaeth.
s-161 Os ma' rhyddhau Y Platfform yn dymhorol wedi dysgu unrhyw beth i mi, hynny ydi for amser yn mynd mor sydyn mae e'n eitha sgêri.
s-162 Eiliad yn ôl roeddwn i'n rhoi rhifyn yr haf at ei gilydd, a rwan dyma fi'n cyflwyno rhifyn yr hydref i chi!
s-163 Mae Neuadd Pantycelyn yn ailagor ei drysau i fyfyrwyr am y tro cyntaf ers 2015.
s-164 Ar ôl buddsoddiad o £16.5m mae ' neuadd breswyl enwocaf Cymru ' yn cynnig llety en-suite newydd sbon ar gyfer hyd at 200 o fyfyrwyr ac mae rhai o ystafelloedd mwyaf adnabyddus y Neuadd, y Lolfa Fawr, y Lolfa Fach a'r Ystafelloedd Cyffredin Hŷn ac Iau wedi eu gweddnewid.
s-165 Yn ogystal â buddsoddiad gan y Brifysgol ei hun, derbyniodd y prosiect £ 5m gan raglen Addysg ac Ysgolion Llywodraeth Cymru.
s-166 Agorwyd Pantycelyn am y tro cyntaf yn 1951 fel neuadd i fechgyn, a daeth yn Neuadd Gymraeg yn 1974.
s-167 Fe fu'r neuadd yn gartref i'r hanesydd blaenllaw ac awdur Hanes Cymru, y diweddar Dr John Davies, a fu'n warden yno rhwng 1974 a 1992.
s-168 Bu'r Tywysog Charles hefyd yn aros yn y neuadd yn 1969 .
s-169 Yn wreiddiol, cyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth ei bod yn bwriadu cau Neuadd Pantycelyn a symud y myfyrwyr Cymraeg i lety newydd Fferm Penglais.

Text viewDownload CoNNL-U