s-101
| Tref hynafol yw Pwllheli ar arfordir deheuol Llŷn yng Ngwynedd, sy'n dyddio'n ôl i'r canol oesoedd. |
s-102
| Bu'r porthladd yn bwysig i'r dref ar hyd y canrifoedd. |
s-103
| Roedd yno ddiwydiant adeiladu llongau llewyrchus yn y 19g. |
s-104
| Tyfodd i fod yn dref marchnad i Lŷn gyfan, fel y tystia'r safle a adwaenir fel 'Y Maes' lle y cynhelid y ffeiriau, a 'Stryd Moch'. |
s-105
| Mae nifer o lynnoedd cuddiedig yn cuddio mewn gwahanol rannau o Eryri. |
s-106
| Faint o'r rhain allwch chi eu darganfod? |
s-107
| Nid yw llynnoedd cudd Eryri mor guddiedig na allwch ddod o hyd iddynt unwaith byddwch yn gwybod ble i edrych. |
s-108
| Ond nid ydynt o angenrheidrwydd yn hawdd iawn i'w darganfod, ac yn wahanol i lynnoedd mwy gweladwy megis Llyn Padarn a Llyn Tegid nid ydynt yn hawdd i'w gweld wrth i chi yrru heibio ar ddiwrnod allan. |
s-109
| Rydym wedi twyllo ychydig gyda'r llyn olaf – Llyn Geirionydd – gan nad yw yn gudd mewn gwirionedd. |
s-110
| Ond mae ychydig allan o'r ffordd felly rydym am ei gynnwys beth bynnag. |
s-111
| Mae Eryri yn adnabyddus am ei dirlun dramatig, a'r mynyddoedd yn arbennig. |
s-112
| A ble cewch fynyddoedd, yn aml iawn cewch raeadrau hefyd! |
s-113
| Dyma bump o raeadrau Eryri mae'n rhaid i chi eu gweld. |
s-114
| Mae rhywbeth hudolus am raeadr. |
s-115
| Hyd yn oed o bell, mae'r olygfa honno o ddŵr mynydd clir, crisialaidd yn tasgu yn wefreiddiol. |
s-116
| Mam, gawn ni stori Hedd Wyn? |
s-117
| Wrth deithio lawr o Benmynydd, Môn i Sir Gâr yn ystod saithdegau'r ganrif ddwethaf, erbyn cyrraedd Trawsfynydd mi roedd hi'n amser stopio wrth y cerflun yng nghanol y pentref a chael picnic. |
s-118
| Eistedd yn syllu ar y cerflun o Hedd Wyn a chael clywed y stori. |
s-119
| Dw i'n cofio gwirioni ar y stori rhyfel a dychmygu mai fi oedd Hedd Wyn, ond yn fy nychymyg, i roedd Hedd Wyn yn cyrraedd Pilckem Ridge ac yn dychwelyd adref yn arwr i dderbyn ei gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw. |
s-120
| Yn ôl i'r car ac yn ein blaenau yr aethom ni bob tro, ac aros yn ei unfan oedd y cerflun, ond fe arhosodd tamaid bach ohono yn nychymyg y plentyn. |
s-121
| Erbyn Haf 1991, mae'r ffyrdd heibio Trawsfynydd wedi gwella tipyn ac mae'r plentyn hwnnw o'r saithdegau'n cael gwireddu breuddwyd wrth gael esgus bod yn Hedd Wyn. |
s-122
| Byddech yn cael maddeuant am feddwl na all Eryri ond gael eu fwynhau yn iawn yn yr haf; wedi'r cyfan, dyna pan fydd y tywydd yn debygol o fod yn well (yn ddamcaniaethol o leiaf!). |
s-123
| Ond mae digon i'w garu am Eryri yn y gaeaf, hefyd – dyma ein pum prif reswm. |
s-124
| Os mai'r unig beth yr hoffech amdano mewn gwyliau yw torheulo yn heulwen boeth ar draeth, nid yw gaeaf yn Eryri yn ôl pob tebyg i chi. |
s-125
| Ond os ydych yn hapus i gael gwyliau mewn unrhyw hinsawdd, mae digon i'w garu am y gaeaf yn Eryri. |
s-126
| Roedd yn ddiwrnod gwych ar gyfer taith i fyny'r Wyddfa: llachar, heulog a chynnes, heb ormod o gwmwl i guddio'r golygfeydd bendigedig roeddem yn gwybod y byddem yn ei gael ar ôl i ni gyrraedd y copa. |
s-127
| Fel y gwelwch o'r fideo, fodd bynnag, rydym wedi lapio i fyny mewn dillad addas cynnes ar gyfer y tywydd ar ben y mynydd; hyd yn oed ym mis Mehefin mae wedi bod yn bwrw eira ar gopa'r Wyddfa, felly nid oeddem am gymryd unrhyw siawns! |
s-128
| Bu farw un o ddychanwyr gorau Cymru, yr awdur Dafydd Huws, heddiw yn hosbis Holme Towers ym Mhenarth. |
s-129
| Ef a greodd un o gymeriadau gorau ffuglen Gymraeg, sef Goronwy Jones, neu'r 'Dyn Dŵad'. |
s-130
| Roedd yn hanu'n wreiddiol o Lanberis yng Ngwynedd, ond bu'n byw am flynyddoedd lawer yng Ngwaelod-y-garth ger Caerdydd. |
s-131
| Bu'n athro Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Illtyd Sant, Caerdydd, ar ddechrau ei yrfa, cyn gadael y byd addysg am y BBC i sgriptio Pobol y Cwm. |
s-132
| Ymddangosodd Goronwy Jones gyntaf mewn colofn yn Y Dinesydd – colofn a greodd helynt ymhlith Cymry parchus Caerdydd. |
s-133
| Ond gwnaeth ei farc ar Gymru gyfan yn y nofel Dyddiadur Dyn Dŵad (Cyhoeddiadau Mei, 1978), sy'n dilyn anturiaethau 'Gron' yn symud o'r gogledd i fyw i Gaerdydd. |
s-134
| Trowyd y nofel yn ffilm yn hwyrach, gyda Llion Williams yn serennu yn y brif ran. |
s-135
| Sgwennwr proffesiynol Cymraeg oedd Dafydd, ac enillodd ei barch tuag at ei grefft ymhopeth yr oedd yn ymwneud ag o statws i'r alwedigaeth honno yng Nghymru. |
s-136
| Ond nid dychan er mwyn dychan yr oedd o – roedd egwyddorion cymdeithasol, gwleidyddol a Chymreig y tu ôl i'w gynnyrch, ac anelu at Gymru well a Chymry callach oedd ei nod. |
s-137
| Mae'r llyfr yn dilyn helyntion Goronwy Jones o Gaernarfon sy'n symud i Gaerdydd i chwilio am waith (fo yw 'Dyn Dŵad' y teitl), ond mae'n ffeindio'i hun yn nhafarn y 'New Ely' gan amlaf, gyda chymeriadau brith eraill fel Dai Siop, Bob Blaid Bach a Marx Merthyr. |
s-138
| Mae hefyd yn ysgrifennu colofn ddi-enw i'r Dinesydd am helyntion y Cofi yn y ddinas. |