cy-ccg-train-c17.txt.clean

Universal Dependencies - Welsh - CCG

LanguageWelsh
ProjectCCG
Corpus Parttrain

Javascript seems to be turned off, or there was a communication error. Turn on Javascript for more display options.

indexsentence 1 - 6 < sentence 7 - 17 > sentence 18 - 28

Mae'r bae yn cael ei gysgodi gan bwynt de-ddwyreiniol Ynys Môn (Penmon) ac Ynys Seiriol yn y gogledd-orllewin a phenrhyn calchfaen Pen y Gogarth yn y gogledd-ddwyrain. Yn ôl traddodiad, yn Oes y Seintiau roedd gan Sant Seiriol, yr enwir Ynys Seiriol ar ei ôl, gell meudwy yng Nghwm Graiglwyd. Dechreuwyd chwarelu ithfaen ar raddfa diwydiannol ym Mhenmaenmawr yn gynnar yn y 19ed ganrif. Wrth i'r chwarel dyfu tyrrodd gweithwyr a'u teuluoedd i Benmaenmawr o bob cwr o ogledd-orllewin Cymru a thu hwnt. Roedd y cysylltiad â phentref Trefor, sydd hefyd yn gartref i chwarel gwenithfaen sylweddol ar lethrau Yr Eifl, yn arbennig o agos. Oes y Seintiau yw'r enw traddodiadol am y cyfnod ar ôl ymadawiad y Rhufeiniaid o Ynys Brydain pan ymledwyd Cristnogaeth gan genhadon brodorol ymhlith pobloedd Celtaidd Prydain ac Iwerddon. Gellir dweud ei bod yn parhau o tua dechrau'r pumed ganrif hyd ddiwedd y seithfed ganrif. Fe fu John Davies yn ymgyrchu yn ardal Clydach gyda Bethan Sayed ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 7), gan rybuddio am 'ddiffyg gweledigaeth' Llafur a'r Ceidwadwyr. Fe fu'r sedd yng ngofal Llafur rhwng 1908 a 2015, cyn i'r Ceidwadwyr ei hennill gyda mwyafrif o ddim ond 27. Cefnogais alwadau yn y Senedd i ddatgan ein bod mewn 'Argyfwng Hinsawdd', a bu i mi wrthwynebu'n llwyddiannus yr arolwg seismig ym Mae Ceredigion ynghyd â chydweithio gyda gwleidyddion trawsbleidiol yn Nhŷ'r Cyffredin i hyrwyddo deddfwriaeth ar blastig. Pe bawn i'n ddigon ffodus i gael fy ailethol, byddwn yn parhau i gefnogi ymdrechion i weithredu ar frys wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd - cyn ei bod hi'n rhy hwyr.

Download XMLDownload textSentence viewDependency trees