cy-ccg-train-c16.txt.clean

Universal Dependencies - Welsh - CCG

LanguageWelsh
ProjectCCG
Corpus Parttrain

Javascript seems to be turned off, or there was a communication error. Turn on Javascript for more display options.

indexsentence 7 - 17 < sentence 18 - 28 > sentence 29 - 39

Mae'r corff yn cynnal ymgynghoriadau ar natur y cymwysterau fydd yn dod i rym yn dilyn newid cwricwlwm ysgolion yn 2022. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am beilota cymhwyster Cymraeg newydd cyn y dyddiad yna er mwyn hwyluso disodli Cymraeg ail iaith gydag un cymhwyster i bob disgybl. Mewn llythyr at Philip Blaker, pennaeth y corff sy'n rheoleiddio cymwysterau yng Nghymru, sy'n byw yn swydd Henffordd, meddai Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith Mabli Siriol: Hoffem fynegi pryder a siom o glywed nad oes dealltwriaeth na gwaith cychwynnol ar lunio un cymhwyster newydd wedi cychwyn gan eich sefydliad mewn ymateb i ymrwymiadau clir gan y cyn-Weinidog Addysg Huw Lewis, y cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones, y Gweinidog Addysg presennol Kirsty Williams a'r Prif Weinidog presennol Mark Drakeford i greu un continwwm dysgu a chyfundrefn asesu Cymraeg. Ers pedair blynedd mae dileu Cymraeg Ail Iaith wedi bod yn bolisi Llywodraeth, ond ymddengys nad ydych fel corff wedi gwneud dim byd i symud yr agenda ymlaen a gwireddu'r amcan. Yn wir, drwy ddiwygio'r cymhwyster ail iaith presennol yn ystod y cyfnod hwn, rydych chi wedi rhwystro newid go iawn. Mae Menter Caerdydd yn falch o gyhoeddi ar ôl llwyddiant ysgubol y digwyddiad eleni, bydd Gŵyl Tafwyl 2020 yn cael ei chynnal dros benwythnos Sefydlwyd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghwm Gwendraeth yn 1991, ac yn y blynyddoedd ers hynny mae cymunedau ar draws Cymru wedi gweithredu i ffurfio Mentrau eu hunain. Erbyn hyn mae 22 Menter Iaith yng Nghymru sy'n gwasanaethu pob rhan o Gymru. Y Mentrau Iaith yw'r ffordd mae cymunedau lleol Cymru yn gweithredu er budd y Gymraeg. Mae wedi bod yn fodel llwyddiannus dros y blynyddoedd ac yn cael ei gydnabod fel ffordd effeithiol o ddatblygu cymunedol sydd yn gwneud gwahaniaeth yn lleol.

Download XMLDownload textSentence viewDependency trees