Dependency Tree

Universal Dependencies - Welsh - CCG

LanguageWelsh
ProjectCCG
Corpus Parttrain

Select a sentence

Showing 1 - 100 of 135 • previousnext

s-1 Mae prosiect adfywio ardal Cei Llechi yng Nghaernarfon wedi cael ei agor yn swyddogol heddiw gan Dafydd Wigley.
s-2 Dyma brosiect adfywio gwerth £5.9m sydd wedi cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon mewn partneriaeth â Galeri Caernarfon.
s-3 Mae'r gwaith o adfywio wedi gweld Swyddfa'r Harbwr yn cael ei adnewyddu a'r unedau ac adeiladau oedd wedi dirywio yn sylweddol yn dod yn ôl i ddefnydd.
s-4 Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal rali fawr ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ddydd Iau, Awst 4.
s-5 Bydd yn rhan o'r ymgyrch 'Nid yw Cymru ar werth', ac mae disgwyl i gannoedd o bobol orymdeithio o uned Cymdeithas yr Iaith ar y Maes at uned Llywodraeth Cymru.
s-6 Bydd cyhoeddiad dyddiol am siaradwyr, cantorion a threfniadau hyd at y rali ymhen 50 diwrnod.
s-7 Ddydd Sadwrn, Mehefin 25, bydd canol tref Porthmadog yn cael ei thrawsnewid wrth i'r ardal ddathlu dyfodiad Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ymhen ychydig dros flwyddyn.
s-8 Bydd y copi cyntaf o'r Rhestr Testunau'n cael ei gyflwyno i'r Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith lleol, Michael Strain, yn ystod seremoni draddodiadol yr Orsedd sy'n dilyn gorymdaith drwy dref Porthmadog yng nghwmni sefydliadau lleol.
s-9 Y bwriad yw adlewyrchu'r croeso cynnes i'r Eisteddfod yn yr ardal, a hynny gyda thros flwyddyn i fynd tan y Brifwyl ei hun.
s-10 Hefyd yn siarad fydd Cai, myfyriwr a fu'n arwain yn yr ymgyrch ar faes Eisteddfod yr Urdd i gasglu dros 200 o enwau pobl ifanc fydd yn chwilio cartref mewn blynyddoedd i ddod, ar alwad ar y Llywodraeth i greu strategaeth tai.
s-11 Y Tafod yw cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
s-12 Mae'n cael ei gyhoeddi tua phedair gwaith y flwyddyn, i gyd-daro gyda digwyddiadau pwysig megis Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Eisteddfod yr Urdd, a'r Eisteddfod Genedlaethol.
s-13 Yr enw gwreiddiol oedd 'Tafod y Ddraig' a olygwyd yn gyntaf yn Hydref 1963 gan Owain Owain, Bangor.
s-14 Ef hefyd a ddyluniodd fersiwn gwreiddiol o logo'r gymdeithas i gyd-fynd a'i bapur.
s-15 Mae'r fersiwn cyntaf hwn i'w weld yn y Llyfrgell Genedlaethol.
s-16 Yn Chwefror 1969 y gwnaed y fersiwn coch, cyfoes a hynny gan Elwyn Ioan a Robat Gruffudd (gweler 'Golwg' 21 Mehefin 2020).
s-17 Roedd gan wasg y Lolfa gysylltiad agos ond anffurfiol â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg a bu'n gyfrifol am argraffu ei chylchgrawn misol, Tafod y Ddraig am gyfnod hir.
s-18 Ymhlith y golygyddion eraill y mae Gareth Miles ac Angharad Tomos.
s-19 Mae defnyddwyr trenau yn gobeithio bod cyswllt arfaethedig o Fangor i orllewin Cymru yn awgrymu bod ailagor rheilffyrdd yn bosib.
s-20 Codwyd gobeithion pawb o'r posibilrwydd yn sgil cyhoeddi mapiau newydd gan Lywodraeth Cymru gyda saethau gwyrdd arnyn nhw i ddangos y bwriad i adeiladu rheilffordd rhwng Bangor a'r gorllewin a hefyd rhwng Bangor ac Amlwch, Ynys Môn.
s-21 Yn ôl y gwybodusion, mae'n bellach yn bolisi gan Lywodraeth Cymru i ail-agor rheilffordd rhwng Bangor ac Afonwen a Phwllheli.
s-22 'Mae ysbryd newydd ar gerdded trwy Gymru, a'r teimlad yn cynyddu y gallwn ni wneud yn well dros bobol Cymru wrth reoli ein hunain,' meddai Dafydd Iwan, fu'n perfformio 'Yma O Hyd'.
s-23 Dyna yw ystyr annibyniaeth, nid torri i ffwrdd, ond ymuno â'r holl wledydd eraill sy'n rheoli eu hunain.
s-24 Mae Cymru yn dechrau credu ynddi ei hunan, a does dim all ein rhwystro bellach.
s-25 Hon oedd y bedwaredd orymdaith mewn cyfres o Orymdeithiau dros Annibyniaeth, a'r gyntaf ers llacio cyfyngiadau Covid.
s-26 Mae Heddlu'r Gogledd wedi cael cais i wneud sylw ar y nifer.
s-27 Yn ôl un o'r trefnwyr, y Cynghorydd Marc Jones, roedd yr orymdaith yn gyfle i ddangos 'bod y mudiad dal mor gryf ag erioed'.
s-28 Os rhywbeth mae pobl yn teimlo'n gryfach nag erioed, mae llanast San Steffan yn waeth nag erioed ac mae gennym ni ddewis sylfaenol, unai da ni am fod yn rhan o Loegr fwy neu Cymru annibynnol, does dim lle canol erbyn hyn.
s-29 Mae Morgan, sydd newydd dderbyn ei Lefel A mewn Drama, Llenyddiaeth Saesneg a Chymraeg Iaith o Ysgol Tryfan, Bangor, wedi ennill yr ysgoloriaeth i astudio'r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.
s-30 Sefydlwyd Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gan Gyngor Gwynedd.
s-31 Mae'n cael ei dyfarnu i unigolyn sydd wedi ymgeisio am un o brif ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg, sy'n byw yng Ngwynedd ac sydd am astudio cwrs yn 100% trwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol.
s-32 Mae'r ysgoloriaeth werth £1,000 y flwyddyn (neu £3,000 dros dair blynedd).
s-33 Meddai Morgan: 'Rwy 'n hynod o ddiolchgar i Gyngor Gwynedd a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am gael ennill yr ysgoloriaeth eleni'.
s-34 Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at fynd i Brifysgol Caerdydd i astudio'r Gymraeg.
s-35 Mae gen i ddiddordeb angerddol yn y pwnc a'r holl sgiliau llenyddol a phroffesiynol bydd yn ei gynnig i mi.
s-36 Bydd gradd yn y Gymraeg yn rhoi'r cyfle i mi wella fy hyder o ran ysgrifennu gan gynnig cyfleoedd i mi ar gyfer y dyfodol ac yn sicr bydd yr arian yn fy nghefnogi i dros y dair blynedd nesaf.
s-37 Wrth i fi fyw yn Lloegr a gwrando bob dydd ar Radio Cymru, mae'n hawdd twyllo fy hun i feddwl bod Cymru'n wlad uniaith Gymraeg
s-38 Ers dysgu siarad Cymraeg gwta chwe blynedd yn ôl, mae cyfreithiwr o Fanceinion wedi ysgrifennu nofel Gymraeg, meistroli'r gynghanedd, creu cynllun i ddiogelu enwau tai, a rhyddhau dwy albwm yn Iaith y Nefoedd.
s-39 Mae Llety Arall, menter gymunedol yn Dre wedi trefnu gig i leddfu'r hiraeth sydd gan bobol yr ardal am yr Eisteddfod Genedlaethol.
s-40 Mi gawson ni chwip o wythnos yn Nhregaron, ac mi fydd hi'n Eisteddfod fydd yn aros yn y cof yn hir iawn.
s-41 Ond mae nifer o Eisteddfodwyr yn gyfarwydd iawn â'r 'felan ôl-eisteddfodol.'
s-42 Mi ydach chi'n treulio wythnos neu fwy wedi eich trochi yn y Gymraeg: ei sŵn, ei diwylliant, a'i cherddoriaeth, a wedyn jest fel'na, mae'n rhaid i rywun ddychwelyd at realiti bywyd.
s-43 Byddwch yn gweithio ar newyddion lleol yn rhan o'r gwaith.
s-44 Mae hwn yn gyfle i ohebwyr brwd fynd ar ôl y straeon yna sydd angen ymchwilio iddyn nhw.
s-45 Y pethau sy'n digwydd dan y radar.
s-46 Y materion sy'n bwysig i'r gymdeithas leol.
s-47 Mae'n gyfle gwych i leisiau newydd roi cynnig ar ohebu, ac i newyddiadurwyr profiadol gael cefnogaeth i fynd ar ôl y stori fawr yna.
s-48 Mae mynyddoedd Wicklow yn Iwerddon wedi bod yn glir o ardd flaen yn y Groeslon, Dyffryn Nantlle, dros y dyddiau diwethaf.
s-49 Dyna leoliad Darren pan dynnodd o'r lluniau yma wrth iddi fachlud ar 9 Awst.
s-50 Mae'r tonnau'n torri ar draeth Dinas Dinlle a mynyddoedd Wicklow yn Iwerddon yn ymddangos yn rhyfeddol o agos ar y gorwel.
s-51 Ond dydi o ddim yn arferol i ni weld y mynyddoedd pan mae'r haul wedi bod mor gryf â'r dyddiau dwytha' felly mae'r lluniau fel arfer yn llwyd.
s-52 Does yr un o'r lluniau wedi eu golygu na'u newid oni bai am crop syml.
s-53 Mae Mynyddoedd Wicklow yn gadwyn o fynyddoedd sydd wedi eu lleoli yn nwyrain Iwerddon, islaw Dulyn.
s-54 Maent yn rhedeg o'r gogledd i'r de o Swydd Dulyn trwy Swydd Wicklow cyn dod i ben yn Swydd Wexford.
s-55 Y mynydd uchaf yn y gadwyn yw Lugnaquilla sydd ag uchder o 925m, ac yr ail fynydd uchaf yw Mullaghcleevaun sydd ag uchder o 847m.
s-56 Mae 'na luniau trawiadol o'r Wyddfa a'i chriw o dan eira wedi eu tynnu dros y dyddiau diwethaf - ond o Ddulyn?!
s-57 Dyna leoliad y ffotograffydd pan dynnodd o'r llun yma, a Môr Iwerddon nid Afon Menai sydd rhyngddo fo ac Eryri.
s-58 Roedd Niall wedi mynd am dro i gopa'r bryn sydd ar benrhyn Howth, ger Dulyn, ar bnawn Mawrth a sylweddoli bod posib gweld holl fynyddoedd Eryri, arfordir Caergybi a Phenrhyn Llŷn ac Ynys Manaw.
s-59 Achos bod hi wedi chwarae mae hi'n deall falle yn well nag eraill - mae hi'n gadael y gêm i lifo ac efo dau dîm arbennig o dda sy'n enjoio chwarae pêl-droed da heno dwi'n siŵr fydd yn gêm ac achlysur arbennig.
s-60 Fi'n credu bydd hi'n ysbrydoli eraill a dyna pam mae'n haeddu'r sylw.
s-61 Mae gymaint o rolau gwahanol o fewn pêl-droed, dim jest bod yn chwaraewr neu gefnogwr, ac mae'n hyfryd i weld y llwybr yna (o fynd i'r byd dyfarnu ar ôl chwarae'r gêm) yn cael y sylw hefyd.
s-62 Ar ddiwedd wythnos o ddathlu chwe deg mlynedd o ymgyrchu rydyn ni'n edrych o'r newydd ar yr heriau fydd yn wynebu'r Gymraeg dros y ddegawd i ddod wrth gyhoeddi maniffesto newydd: Cymru Rydd, Cymru Werdd, Cymru Gymraeg: Cymdeithasiaeth i'r 21ain Ganrif.
s-63 Lansiwyd cynllun Diogelwn yn 2021 er mwyn i berchnogion allu diogelu'r enwau Cymraeg ar eu tai, ond mae e bellach wedi ei ehangu i gynnwys enwau ar dir, a bydd y cynllun ar ei newydd wedd yn cael ei gyflwyno mewn digwyddiad ar stondin Cymdeithas yr Iaith ar faes yr Eisteddfod heddiw.
s-64 Daeth yn amlwg yn gynharach eleni bod angen ymestyn ystod y cynllun i enwau tiroedd hefyd ar ôl i'r enw Banc y Cornicyll gael ei golli oddi ar y map ordnans a'i ddisodli gan yr enw Hakuna Mattata.
s-65 Mae'r cynllun yn bodoli oherwydd bod 'na alw amdano , ac oherwydd bod gan y Cymry draddodiad hir o hunangymorth.
s-66 'Dyn ni i gyd yn pryderu am golli enwau Cymraeg, ac 'dyn ni i gyd yn ysu am weld deddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru i warchod yr enwau hynny'n statudol.
s-67 Roedd Cymdeithas yr Iaith yn awyddus iddi fod mor hawdd â phosibl i unrhyw un ddiogelu'r enw ar eu cartref neu ar eu tir naill ai cyn neu wrth iddyn nhw ei werthu.
s-68 Felly, mae cymalau a dogfennau sy'n cynnwys cyfamodau safonol ar gael ar wefan y Gymdeithas i'w lawrlwytho.
s-69 Dim ond perchennog all newid yr enw ar eu tir neu ei ddiogelu trwy ddefnyddio Diogelwn, ond mae enwau twristaidd yn disodli enwau naturiol fel Carreg Edwen, Coed Llyn Celanedd, Coed Cerrig y Frân a Ffos Clogwyn y Geifr.
s-70 Un o gadarnleoedd Edward 1af oedd Castell Conwy, ac fe'i adeiladwyd rhwng 1283 a 1287.
s-71 Yn ystod ' Y Daith byddaf yn mynd heibio i'r pedair o'i gestyll, Biwmares, Caernarfon a Harlech y cyfan yn ôl UNESCO yn un o Safleoedd Treftadaeth y Byd.
s-72 Mae Wici yn llawn gwybodaeth pellach, gan gynnwys cyfeiriad at Owain Glyndŵr yn cipio'r castell a'r dref ym 1401.
s-73 Bellach, ni piau fo; y Ddraig Goch sy'n chwifio uwchben y twr a'r cyfan yng ngofal Cadw.
s-74 Beicio ymlaen dan gysgod Pencadlys y Cyngor Sir ym Mhlasdy Bodlondeb, gan bitio drostynt yn llafurio ar ddiwrnod mor braf!
s-75 Mae'r llwybr yn mynd heibio marina (arall!) a godwyd ar safle ble adeiladwyd caissons ar gyfer eu cludo ar draws y sianel i fod yn rhan o harbwr Mulberry yn y 'D-Day Landings'.
s-76 Heibio i dafarn y Mulberry a safle garafanau foethus Aberconwy.
s-77 Fe fydd lle teilwng i'r iaith Wyddeleg unwaith eto mewn gŵyl gerddorol penwythnos nesaf, diolch i waith diflino'r mudiad Conradh na Gaeilge.
s-78 Ar ôl dwy flynedd o drefnu arlwy yn yr iaith Wyddeleg, bydd Croí Na Féile yn rhan annatod o'r Electric Picnic yn sir Laois, gŵyl gerddorol fawr fydd yn gweld enwau mawr fel Arctic Monkeys, Snow Patrol, Anne-Marie a The Kooks yn perfformio yn Saesneg.
s-79 Bydd storïwyr a chantorion yn perfformio o amgylch y tân ar gyrion y brif ŵyl, a bydd darllediad radio byw yn ystod y penwythnos, yn ogystal â chyfle ac ardal benodol i siaradwyr yr iaith ymgasglu ac ymarfer eu Gwyddeleg.
s-80 Yn ogystal, mae'r ŵyl yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod hi'n ŵyl werdd sy'n cyfrannu at faterion amgylcheddol.
s-81 Eleni, bydd pwyslais arbennig yn yr ardal Wyddeleg ar ailgylchu ac ymwybyddiaeth o'r amgylchedd yn gyffredinol er mwyn cadw'r byd yn lân wrth i bobol ymgynnull i sgwrsio.
s-82 Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Hywel Williams (Plaid Cymru).
s-83 Ar un adeg yr oedd Bontnewydd yn cael ei rannu rhwng plwyfi Llanbeblig a Llanwnda, gydag Afon Gwyrfai fel ffin rhyngddynt .
s-84 Y hynaf yma yw Plas Dinas, a adeiladwyd yn y 17g, sydd a gweddillion caer Dinas Dinoethwy o Oes yr Haearn o'i gwmpas.
s-85 Yn y Bontnewydd y magwyd y gwleidydd adnabyddus Dafydd Wigley.
s-86 Y Bontnewydd yw'r ffurf cywir o ysgrifennu'r enw yn gywir, treigliad o Pontnewydd.
s-87 Mae yna son mai Bodellog oedd yr hen enw, ond efallai bod hwnnw'n enw ar ardal rhwng Afon Gwyrfai a Dinas ym mhlwyf Llanwnda.
s-88 Ers dros 200 mlynedd y mae'r Ysgol Sul Gymraeg wedi chwarae rhan bwysig ym mywydau plant a ieuenctid ein gwlad, yn eu twf ysbrydol, moesol a chymdeithasol a hynny trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.
s-89 Bydd llawer ohonom yn ddyledus am ddylanwad yr Ysgol Sul ar ein bywydau, ac yn ein datblygiad fel personau cyflawn.
s-90 Mae Cymru yn ail-gylchu bron i 57% o wastraff cartrefi un o'r goreuon yn y byd.
s-91 Amcangyfrifir fod hyn wedi atal 400,000 tunnell o garbon deuocsid rhag cael ei ollwng i'r atmosffer.
s-92 Mae'r haint wedi cael effaith ddifrifol ar fwydydd traddodiadol de-orllewin Ffrainc, gyda phrinder eithriadol o hwyaid a gwyddau.
s-93 Mae'r planhigyn mwyaf wedi ei ddarganfod o dan y môr yng Ngorllewin Awstralia.
s-94 Mae'r 'ddôl' o wair môr yn gorchuddio 180 cilomedr sgwâr.
s-95 Rhybudd y bydd 3 gorsaf heddlu lleol yn cau cyn hir, gan mai dyma'r argymhellion ger bron Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru.
s-96 Roedd gorsafoedd heddlu Deiniolen, Llanrug a Waunfawr ymysg 62 o orsafoedd gwledig oedd ar fin cau.
s-97 Cawn hanes a lluniau'r gwasanaethau olaf cyn cau capeli Preswylfa a Gorffwysfa yn Llanberis.
s-98 Caewyd y ddau gapel ym mis Mehefin, gan uno'r aelodaeth a dechrau achos newydd yng Nghapel Coch.
s-99 Roedd Capel Gorffwysfa eisoes yn mynd o nerth i nerth pan agorwyd Capel Preswylfa yn 1882.
s-100 Yn wir, un o'r rhesymau dros godi capel newydd oedd prinder lle yng Ngorffwysfa.

Text viewDownload CoNNL-U