Dependency Tree

Universal Dependencies - Welsh - CCG

LanguageWelsh
ProjectCCG
Corpus Parttrain

Select a sentence

Showing 1 - 100 of 148 • previousnext

s-1 Cynhaliwyd cyngerdd haf yr ysgol yn y Miwni, nos Fercher Mehefin 21ain.
s-2 Cafwyd nifer o eitemau amrywiol gan roi cyfle i'r disgyblion i ddangos eu talentau amryddawn.
s-3 Roedd y gynulleidfa a'r perfformwyr wedi mwynhau y noson.
s-4 Pa Arlywydd Ffrengig a ymwelodd ag Eisteddfod Genedlaethol?
s-5 Ble yng Nghymru roedd Islwyn Ffowc Elis yn byw pan ddechreuodd ysgrifennu ei ddrama Wythnos yng Cymru Fydd ?
s-6 Sut y cafodd Parc y Ddraig ei enw?
s-7 Pa gantores bop Gymraeg a Chernyweg a fagwyd yn Despenser Street?
s-8 Cewch yr ateb i'r cwestiynau hynny a llawer mwy yma.
s-9 Gellir prynu copïau mewn nifer o siopau neu ganolfannau.
s-10 Gweler rhestr isod.
s-11 A ydych yn barod i amddiffyn ein hiaith a'n hunaniaeth fel cenedl o siaradwyr Cymraeg?
s-12 Mae'r iaith Gymraeg wedi'i gwreiddio yn ein cymdeithas a system gwleidyddol, peidiwch a gadael iddo ddiflannu o'n gafael.
s-13 Mae cynnal tua 100 o berfformiadau yn gofyn am lawer o wirfoddolwyr.
s-14 Beth am gynnig help am fore/pnawn neu ddiwrnod naill ai fel stiwardiaid, actorion (dim angen dysgu llinellau!) neu i edrych ar ôl y ddau asyn y tu allan i'r Tabernacl.
s-15 Ar fore neu brynhawn Sadwrn byddai cyfle i rieni a phlant actio pobl Nasareth a Bethlehem.
s-16 Mae mudiad iaith yn dweud nad oes gyda nhw 'ffydd' ym mhennaeth Cymwysterau Cymru yn dilyn cyfarfod gyda fe, gan nad yw wedi addo dileu Cymraeg ail iaith, er gwaethaf cyfres o addewidion polisi gan Lywodraeth Cymru.
s-17 Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddisodli Cymraeg ail iaith gydag un continwwm o ddysgu Cymraeg ac un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl ers 2015.
s-18 Mae'r corff yn cynnal ymgynghoriadau ar natur y cymwysterau fydd yn dod i rym yn dilyn newid cwricwlwm ysgolion yn 2022.
s-19 Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am beilota cymhwyster Cymraeg newydd cyn y dyddiad yna er mwyn hwyluso disodli Cymraeg ail iaith gydag un cymhwyster i bob disgybl.
s-20 Mewn llythyr at Philip Blaker, pennaeth y corff sy'n rheoleiddio cymwysterau yng Nghymru, sy'n byw yn swydd Henffordd, meddai Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith Mabli Siriol:
s-21 Hoffem fynegi pryder a siom o glywed nad oes dealltwriaeth na gwaith cychwynnol ar lunio un cymhwyster newydd wedi cychwyn gan eich sefydliad mewn ymateb i ymrwymiadau clir gan y cyn-Weinidog Addysg Huw Lewis, y cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones, y Gweinidog Addysg presennol Kirsty Williams a'r Prif Weinidog presennol Mark Drakeford i greu un continwwm dysgu a chyfundrefn asesu Cymraeg.
s-22 Ers pedair blynedd mae dileu Cymraeg Ail Iaith wedi bod yn bolisi Llywodraeth, ond ymddengys nad ydych fel corff wedi gwneud dim byd i symud yr agenda ymlaen a gwireddu'r amcan.
s-23 Yn wir, drwy ddiwygio'r cymhwyster ail iaith presennol yn ystod y cyfnod hwn, rydych chi wedi rhwystro newid go iawn.
s-24 Mae Menter Caerdydd yn falch o gyhoeddi ar ôl llwyddiant ysgubol y digwyddiad eleni, bydd Gŵyl Tafwyl 2020 yn cael ei chynnal dros benwythnos
s-25 Sefydlwyd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghwm Gwendraeth yn 1991, ac yn y blynyddoedd ers hynny mae cymunedau ar draws Cymru wedi gweithredu i ffurfio Mentrau eu hunain.
s-26 Erbyn hyn mae 22 Menter Iaith yng Nghymru sy'n gwasanaethu pob rhan o Gymru.
s-27 Y Mentrau Iaith yw'r ffordd mae cymunedau lleol Cymru yn gweithredu er budd y Gymraeg.
s-28 Mae wedi bod yn fodel llwyddiannus dros y blynyddoedd ac yn cael ei gydnabod fel ffordd effeithiol o ddatblygu cymunedol sydd yn gwneud gwahaniaeth yn lleol.
s-29 Mae'r Mentrau Iaith yn cael eu rheoli gan bwyllgorau rheoli gwirfoddol ac maent yn gweithio mewn partneriaeth gydag amryw o sefydliadau eraill.
s-30 Prydain Byd-eang dyna'r cysyniad mwyaf twp a welwyd erioed.
s-31 Mae'n slogan sydd wedi ei fyffro gan y brecsidiers er mwyn ein hargyhoeddi bod hi'n bosib osgoi effaith negyddol ar farchnata o adael yr Undeb Ewropeaidd (UE).
s-32 Yn ôl y brecsidiers yr UE oedd yn ein hatal o wneud fargen da ar farchnata gan fod rhai o'r gwledydd yn yr Undeb yn edrych ar ôl eu budd eu hunain ac yn sefyll yn erbyn unrhyw fargen ar farchnata bydd o fantais i Brydain.
s-33 Dadl heb fawr o sylfaen.
s-34 Yn gyntaf mae gan y UE cytundeb masnachau gyda 50 gwlad gyda llawer mwy yn y lein pibell.
s-35 Yn sicr mae gwledydd eraill yn fwy awyddus i gael cytundeb gyda'r UE na gyda Phrydain gan fod e yn farchnad llawer mwy nag un Prydain.
s-36 Pan benderfynodd yr Undeb Ewropeaidd i gefnogiGweriniaeth Iwerddon I wrthod unrhyw ddel oedd yn rhoi unrhyw isadeiledd ar y ffin rhwng y weriniaeth a Gogledd Iwerddon, roedd waeth I Brydain rhoi'r ffidil yn y to am gael cytundeb masnachu rhydd rhwng y Deyrnas a'r Undeb.
s-37 Er nad yw'r llywodraeth yn San Steffan wedi derbyn y ffaith eto ond mae bron yn anochel bydd yn rhaid i'r wlad aros i mewn yn yr Undeb Tollau (UT) ac yn y Farchnad Sengl (FS).
s-38 Unwaith mae gwleidyddion wedi cytuno i fynd gyda 'ewyllys y werin', maen nhw yn ffeindio hi'n anodd mynd yn ôl at y 52% a dweud bod eich credau chwi yn rhithdyb.
s-39 I ennill mwyafrif i ffurfio llywodraeth mae'n rhaid ennill dros 326 sedd yn y Cyffredin.
s-40 Fel y gwelwn ni methu ddaru bob plaid a dyna pam mae Teresa May yn ceisio gwneud cytundeb gyda'r 10 aelod o'r DUP er mwyn sicrhau ei gallu i reoli.
s-41 Mae glaw trwm a gwyntoedd cryfion wedi effeithio ar drefniadau teithio wrth i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi dau rybudd ar gyfer rhannau o Gymru ddydd Sadwrn.
s-42 Mae yna rybudd melyn am law trwm mewn 17 sir yng Nghymru ond mae disgwyl i ran helaeth o'r gogledd osgoi'r tywydd gwaethaf wrth i'r glaw barhau rhwng 06:00 a 23:59.
s-43 Rhybuddir y gallai'r gwynt achosi niwed i goed ac eiddo a thonnau uchel mewn mannau arfordirol, ynghyd â thrafferthion ar y ffyrdd a'r posibilrwydd o orfod canslo gwasanaethau trên a fferi.
s-44 Bu rhybudd oren mewn grym ar gyfer rhannau o Gymru y penwythnos diwethaf, gyda nifer o ardaloedd yn gorfod delio â llifogydd.
s-45 Mae'r rheilffordd rhwng Casnewydd a'r Fenni eisoes ar gau nes 4 Tachwedd oherwydd y llifogydd diweddar.
s-46 Cafodd trigolion sy'n byw mewn parc preswyl yn Sir Fynwy hefyd eu cynghori i adael y safle am fod lefel y dŵr yn afon Gwy wedi codi cymaint.
s-47 Mae Prifysgol Aberystwyth 'ar fin' penodi Athro i'r Adran Gymraeg.
s-48 Aeth swydd Athro yn Adran y Gymraeg heb ei llenwi ers 2008, a bu ofnau bod hynny wedi niweidio gallu'r adran i ddenu myfyrwyr.
s-49 Mi wnaeth yr hysbyseb ailgodi'r cwynion am fethiant y Brifysgol i benodi Athro i'r Adran Gymraeg.
s-50 Gruffydd Aled Williams oedd Athro ola'r Gymraeg yn Aberystwyth, a hynny rhwng 1995 a 2008, ac mae yn credu ei bod yn 'hen bryd' cael un arall.
s-51 Pan mae academydd yn cael ei benodi yn Athro mae yn cael cadair.
s-52 Mewn ymateb i bryderon Gruffydd Aled Williams, mae Prifysgol Aberystwyth wedi cadarnhau ei bod yn fwriad i lenwi'r Gadair wag.
s-53 Dywedodd llefarydd: 'Mae'r Brifysgol yn falch o nodi ei bod nawr ar fin hysbysebu am Gadair i Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.'
s-54 Bydd tair o ferched o Batagonia yn dod i Gymru dros yr haf er mwyn astudio'r Gymraeg, diolch i ysgoloriaethau gwerth £2000 yr un gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
s-55 Enillodd yr athrawes chwaraeon o'r Gaiman ysgoloriaeth yr Urdd y llynedd, a bu'n byw yng Nghymru am fis ac yn gwirfoddoli gyda'r Urdd.
s-56 'Rydyn ni'n llongyfarch y tair ar eu llwyddiant, ac yn edrych ymlaen at eu croesawu yma i Gymru dros yr haf,' meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
s-57 Rydyn ni'n ymfalchïo yn y berthynas unigryw sydd rhwng Cymru a'r Wladfa, ac yn falch iawn o fedru cynnig cymorth i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau yn rhan o fywyd cymunedau yn y Wladfa.
s-58 Pob parch ond dyw pawb yng Nghymru ddim yn ffermwyr?
s-59 Neu'n bobl sy'n hoffi tractors?
s-60 Y rhan fwyaf ohonom yn byw mewn trefi?
s-61 Yn gyffredinol, maent yn penderfynu peidio â rhoi datganiad i blant ar sail costau, ac mae'n gwbl annerbyniol gorfodi rhieni i fynd at dribiwnlys dim ond i sicrhau bod y trefniadau cludiant yn cael eu cynnwys mewn datganiad.
s-62 Dyna pam y gwnaethom yn glir yn y cyhoeddiad nad peidio â bwrw ymlaen â'r ffordd liniaru yn unig yr oeddem, ond ein bod am fwrw ymlaen â mesurau lliniaru o amgylch yr M4, yn enwedig yr ardal o amgylch Casnewydd.
s-63 Derbyniaf ei bod yn rhaid peidio â chael dim mwy o oedi diangen cyn symud ymlaen, ond cofiaf hefyd rai o weithredoedd eich Llywodraeth chi, pan welsom gwtogi gwasanaethau flwyddyn ar ôl blwyddyn.
s-64 Mae gan bŵer gwynt ran i'w chwarae, ac mae prosiectau gwynt ar raddfa fechan sy'n cael eu codi gyda chefnogaeth cymunedau lleol i'w hannog yn frwd, ond rhaid peidio â rhoi ein hwyau i gyd mewn un fasged.
s-65 Nid wyf yn dweud bod pob cynllun sydd â rhyw gymaint o dai ynddo 'n cael ei eithrio, ond rhaid peidio â chynnwys tai'n brif elfen mewn ceisiadau am gyllid cydgyfeirio.
s-66 Dyma ni, mae paratoadau ar gyfer y Nadolig wedi hen ddechrau, ac rydym yn dechrau agosáu at derfyn ein hamser fel llysgenhadon i'r Coleg Cymraeg.
s-67 Ers dechrau'r swydd, mae'r cyfle i amlygu arwyddocâd addysg Gymraeg mewn sawl gosodiad amrywiol wedi bod yn brofiad hynod werthfawr.
s-68 Efallai ei bod hi'n rhan o'r broses o aeddfedu, neu o bosib ei fod yn ganlyniad o'r ymosodiadau parhaus mae'r iaith yn ei dioddef yn y cyfryngau torfol, ond mae fy ngwladgarwch a chydnabyddiaeth o bwysigrwydd y Gymraeg wedi cynyddu'n sylweddol ers dechrau fy nghyfnod yn astudio yn y brifysgol.
s-69 Felly, credaf ei bod hi'n briodol i gyfeirio'n fras am y manteision sy'n deillio o astudio yn y Gymraeg.
s-70 Nid pregeth, neu orfodaeth yw hyn, onid mewnwelediad gan fyfyriwr sy'n derbyn addysg trwy'r Gymraeg ac yn y Saesneg.
s-71 O ganlyniad i'r ddarpariaeth Gymraeg, rwyf wedi derbyn rhagor o brofiadau yn y Gymraeg wrth gymharu â myfyrwyr uniaith Saesneg.
s-72 Rwyf wedi bod yn ffodus i fod ar nifer o ymweliadau, ynghyd a magu sgiliau mwy ymarferol, yn ogystal ag asesiadau mwy rhyngweithiol.
s-73 Pryd bynnag bydda i'n clywed y ffôn yn canu wrth iddo ddangos pwy sydd yn fy ngalw, dw i'n ddiolchgar am y dechnoleg fodern.
s-74 Does dim rhaid ateb galwadau annifyr rhai sydd eisiau gwerthu pethau.
s-75 Dw i'n cofio'n iawn pan oeddwn i'n meddwl pa mor braf byddai hi pe byddwn i'n medru gwybod pwy sydd yn fy ngalw heb godi'r ffôn.
s-76 Gwireddwyd fy mreuddwyd!
s-77 Am ryw naw o'r gloch cyhoeddwyd y dedfrydau i'r Catalaniaid sydd wedi bod yn y ddalfa ers dwy flynedd am fod yn rhan o'r mudiad dros annibyniaeth Catalonia ar Sbaen (er gwaetha'r rhesymau 'swyddogol', mae'r Catalaniaid yn gwybod taw yn y bôn hyn oedd eu bai).
s-78 O flaen y panel o farnwyr bu deuddeg o wleidyddion Catalonia a phenaethiaid cymdeithasau gwerin gwlad (hynny yw, nad ydynt yn rhan o'r byd gwleidyddol).
s-79 Daw'r dedfrydau llym ar ôl achos fu'n llawn camweddau o du'r barnwyr, yr oll â chysylltiadau â thair plaid gwleidyddol goruchafiaethol Sbaenaidd (y Blaid Sosialaidd, Plaid y Bobl, a'r blaid Ffasgaidd Vox), ar gyhuddiadau na fyddai'n dal dŵr mewn llys barn gwerth yr enw.
s-80 Un o gamweithrediau'r Goruchel Lys fu rhoi gwahardd ar siarad Catalaneg, a rhybuddwyd y rhai fu'n sefyll eu prawf bod rhaid, yn ôl cyfraith Sbaen, siarad iaith swyddogol Sbaen.
s-81 Ar y llaw arall bu pob cyfleuster i dystion o Slofenia, Awstria a'r Unol Daleithiau siarad yn eu hieithoedd hwythau â chyfieithiad olynol.
s-82 Cafodd naw ohynynt eu dedfrydu am, yn bennaf oll, sedisiwn, sef anogaeth i wrthryfela yn erbyn llywodraeth y wladwriaeth, ac hefyd am gamwario arian y wladwriaeth.
s-83 Dirwyon o 60000 ewro fu'r dyfarniad i'r tri arall.
s-84 Mae yna gilfachau - a chilfachau mawr ar hynny - hynod dywyll yn hanes yr Ymerodraeth Brydeinig.
s-85 Does yna ddim ymwybyddiaeth eang o hynny yn y DU, ac mae agweddau'r gwledydd oedd yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig yn dra gwahanol i'r profiad o fod yn rhan o ymerodraeth nag ydi agwedd Prydeinwyr.
s-86 Does ddim rhaid mynd cyn belled a Kenya neu India i ddeall hyn - byddai taith fyrach o lawer i Ddulyn yn gwneud y tro'n iawn.
s-87 Ac mae'r ffaith nad yw Prydain wedi cymryd golwg gwrthrychol ar ei hanes yn creu pob math o ffwlbri chwerthinllyd.
s-88 Er enghraifft dyna i ni Gavin Williamson, pan oedd yn Weinidog Amddiffyn yn egluro wrthym syniad mor dda fyddai anfon llongau rhyfel i For De China yn dilyn Brexit.
s-89 Mae'n anodd gwybod ymhle i ddechrau efo hon.
s-90 Mae llywodraeth Williamson yn dweud ein bod yn gadael yr UE i bwrpas gallu dod i gytundebau masnach efo gwledydd mewn rhannau o'r Byd megis y gwledydd ym Mor De China ar yr un llaw, tra bod Williamson eisiau eu bygwth ar y llaw arall.
s-91 Mae'r dyddiau pan roedd Prydain yn ddigon pwerus i anfon llongau rhyfel i fomio Ting-ha er mwyn gorfodi'r Tseiniaid i dderbyn opiwm o India wedi mynd, a 'dydyn nhw ddim yn debygol o ddychwelyd.
s-92 Wel dyna i ni Eisteddfod wych arall wedi mynd a dod!
s-93 Diolch yn ofnadwy i holl gwsmeriaid ein siop ar hyd yr wythnos.
s-94 Gwerthfawrogwn eich cefnogaeth yn fawr iawn.
s-95 Welwn ni chi yn Llanelli flwyddyn nesaf!
s-96 A dyna i ni broblem bach arall gyda hwn.
s-97 Fodd bynnag, gadewch inni edrych ar hyn mewn termau caled:
s-98 dyna i chi'r gost i'r gwasanaeth iechyd o ddelio ag anafiadau a darparu triniaeth; y gost i'r gwasanaethau cymdeithasol neu'r adran tai - a gwelsoch fel yr oedd y yn y fideo wedi ei ddifrodi'n llwyr - a dyna'r gost o ailgartrefu teuluoedd, a'u cynnal ar ôl y difrod hwnnw.
s-99 Felly, mae sawl cynllun ar y gweill, a dyna i chi rai enghreifftiau o blith nifer.
s-100 Pump peth doeddech chi heb feddwl amdanyn nhw.

Text viewDownload CoNNL-U