Dependency Tree

Universal Dependencies - Welsh - CCG

LanguageWelsh
ProjectCCG
Corpus Parttrain

Select a sentence

Showing 1 - 100 of 105 • previousnext

s-1 Yn dilyn cyhoeddiad am lacio cyfyngiadau Covid-19, mae Llyfrgelloedd ac Archifdai Gwynedd bellach ar agor i'r cyhoedd trwy drefn apwyntiad ymlaen llaw.
s-2 Os ydych am fynd i ymchwilio yn yr archifdy bydd angen diwrnod neu fwy o rybudd fel bod modd estyn y dogfennau a sicrhau fod y dogfennau hynny ar gael.
s-3 Gellir archebu deunydd drwy bori drwy'r catalog ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd - os ydych yn ansicr pa ddogfennau yr ydych eu hangen, cysylltwch â'r archifdy i holi.
s-4 Mae i godi argae er mwyn cronni dŵr gysylltiadau poenus i ni yma yng Nghymru.
s-5 Nid mater o hanes ydyw chwaith; mae'n gallu brifo o hyd.
s-6 Mae'r dywediad 'Cofiwch Dryweryn' yn parhau i gorddi teimladau negyddol ynom .
s-7 Am inni wybod fod gweithred anghyfiawn wedi ei chyflawni yn erbyn trigolion Cwm Celyn.
s-8 Am fod corfforaeth fawr wedi sathru ar hawliau, dyheadau a theimladau pentrefwyr.
s-9 Am fod dymuniad cenedl gyfan wedi ei hanwybyddu.
s-10 Ganol fis Mawrth ymddangosodd baner y Ddraig Goch yn y gysgodfa ar gopa Moel Eilio.
s-11 Bu yno am rai dyddiau ac yna, diflannodd.
s-12 Roedd ei diflaniad yn cyd-fynd â datganiad Llywodraeth Llundain y bydd yn orfodol cyhwfan baner Jac yr Undeb ar adeiladau swyddogol o'r haf ymlaen.
s-13 Mae'n siwr fod y Ddraig wedi hedfan i ffwrdd i wrthsefyll y frech Brydeinig.
s-14 Byddai chwarelwyr yr ardal yn cyfrannu ceiniog o'u cyflog wythnosol i ariannu'r Band.
s-15 Cyfrannodd Stad y Faenol gyrn i Fand Llanrug ym 1895, ond adeg y Streic ym 1901 fe gymron nhw'r cyrn yn ôl am ryw chwe mis!
s-16 Wrth i brotest Nid Yw Cymru Ar Werth gael ei chynnal yng Nghonwy heddiw (dydd Sadwrn, Rhagfyr 4), mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Eiddo yn ystod tymor presennol y Senedd.
s-17 Offeryn cerdd gyda rhes o dannau yw'r delyn, er fod gan y delyn deires dair rhes o dannau.
s-18 Mae nifer o feirdd wedi disgrifio'r delyn yn eu barddoniaeth, ac arferid canu cerddi i gyfeiliant y delyn.
s-19 Mae'n ymddangos fod y delyn Gymreig yn y bymthegfed a'r unfed ganrif ar bymtheg â cholofn syth iddi gyda'r seinflwch wedi ei naddu o un darn o gelynen neu ywen.
s-20 Dwy yn hoffi cerdded mynyddoedd.
s-21 Pan ga' i amser dwi 'n hoffi seiclo ar y lôn.
s-22 Wedi deud fy mod am seiclo i'r gwaith bob dydd os fedra i o hynny ymlaen, ac wedi rhoi cawod yn yr practis newydd i ganiatau imi allu gwneud hyn.
s-23 Ydych chi 'n credu mewn bwyta'n iach?
s-24 Dwi 'n credu ynddo , a dwi yn trio cadw fy ngharbohydrau i lawr.
s-25 I neud hynny mae angen dyw fath o drefn arnoch , ac ar hyn o bryd dwi mor brysur mae'n anodd cadw ato , ond dwy'n trio!
s-26 Mae'r geiriau 'argyfwng tai haf' wedi bod yn gyfarwydd ers degawdau i ni yng Nghymru, ond ydi 'r ymadrodd yn baradocs chwerw?
s-27 Ystyr argyfwng neu emergency yw sefyllfa ddifrifol sydd angen sylw brys; ac eto mae'r awdurdodau wedi difrïo neu anwybyddu protestiadau mudiadau a chymunedau sy'n poeni am ddyfodol broydd a'r iaith Gymraeg dro ar ôl tro ar hyd y blynyddoedd.
s-28 Beth ydi tai haf felly?
s-29 Mae dau ystyr erbyn hyn, sef ail gartrefi a llety gwyliau.
s-30 Dwy broblem wahanol sy'n cael effaith debyg, effaith negyddol iawn o gau pobl leol o'r farchnad dai ac o sugno bywyd allan o gymunedau.
s-31 Ydych chi, fel fi, wedi clywed straeon brawychus yn ddiweddar am arwerthwyr tai yn creu deunydd marchnata ar gyfer gwerthu tai lleol i ddenu prynwyr cefnog o Loegr?
s-32 Yn y rhifyn hwn clywn gan Nia George sy'n astudio cwrs meistr mewn newyddiaduriaeth darlledu.
s-33 Cawn hanes disgyblion Ysgol Brynrefail sydd wedi bod wrthi 'n mynychu gweithdai creu rhaglen deledu, yn sgriptio ffilmiau ac yn dysgu technegau cynhyrchu.
s-34 Tybed daw'r Steven Spielberg neu Fiona Bruce nesaf o fro'r Eco?
s-35 Sut mae Cyngor Gwynedd yn mynd i sicrhau na fyddai denu mwy o ymwelwyr yn cynyddu'r mewnlifiad Saesneg ac felly'n gwanychu'r Gymraeg fel iaith gymdeithasol?
s-36 Mae astudiaeth yn dangos bod nifer dda o ymwelwyr i ardal yn prynu tai i fyw yno'n barhaol.
s-37 Ymhellach, cafwyd astudiaeth gan Bwyllgor Cludiant a Thwristiaeth Senedd Ewrop yn cyflwyno tystiolaeth fod Safleoedd Treftadaeth y Byd yn dioddef effeithiau gordwristiaeth, a bod Cymru eisoes yn un o'r lleoedd yn Ewrop sy'n amlygu hynny.
s-38 Mae bwyd hylifol yn llesol i blanhigion sydd mewn potiau fel nad ydych yn gwastraffu dŵr.
s-39 Bydd hefyd angen cadw llygaid ar lefel y dŵr yn y bath adar.
s-40 Os ydych wedi tyfu mwy o lysiau nag sydd eu hangen, mae'n rhaid eu storio nhw'n ofalus neu fel arall gallwch eu rhannu efo'ch cymdogion a theulu.
s-41 Mae llawer o drafod wedi bod am yr Wyddfa yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ei enw, problemau parcio a chiwio ond ydych chi wedi ystyried yr Wyddfa yn ddi-blastig?
s-42 Rydw i'n hynod falch fod Dafydd Gibbard wedi ei benodi yn Brif Weithredwr newydd Cyngor Gwynedd.
s-43 Bydd y blynyddoedd nesaf yn cyflwyno sawl her i ni fel Cyngor.
s-44 Ond rydw i'n gwybod fod y gwaith arloesol sydd wedi ei gyflawni i gynnal gwasanaethau drwy'r amseroedd anodd, yn golygu fod Gwynedd mewn lle da i gamu ymlaen yn hyderus i'r cyfnod nesaf yn ein hanes.
s-45 Cymerwch y cyfle a gwnewch gais - mae gennych bopeth i ennill a dim i'w golli.
s-46 Rydych chi wedi gweld y profiadau anhygoel a bythgofiadwy gafodd pobl yn y gyfres gyntaf felly ewch amdani !
s-47 Mae elusen leol yn chwilio am 500 o gefnogwyr i wneud gwahaniaeth i'w cymuned leol.
s-48 Eleni, ni fydd Hosbis Dewi Sant yn gallu cynnal nifer o'n digwyddiadau codi arian graddfa fawr.
s-49 Hyd yn oed ar ôl cymorth y Llywodraeth, bydd yr elusen yn dal i fod yn fyr o'r hyn sydd ei angen i gadw eu drysau ar agor, a dyna pam y mae ar Hosbis Dewi Sant eich angen chi.
s-50 Os bydd 500 o bobl yn cymryd rhan yn yr ymgyrch 500 Calon, bydd yn codi o leiaf £50,000 ar gyfer gofal diwedd oes ar draws Gogledd-Orllewin Cymru.
s-51 I ddangos eich cefnogaeth i Hosbis Dewi Sant, cofrestrwch heddiw ar ein safle gwe.
s-52 Yn ôl ym mis Chwefror wrth droedio Cwm Brwynog cefais syniad a fyddai'n plethu fy niddordeb mewn anturiaethau a gofal diwedd oes, sef cerdded Llwybr y Pererinion o Lanberis i Aberdaron yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Cymru Garedig 10fed 16eg Mai, er mwyn codi arian at Hosbis Dewi Sant.
s-53 Diolch i'r drefn, 'roedd yr antur hefyd yn apelio at fy ffrind a chydymaith droeon, Gareth Roberts, a dyma fynd ati i droi'r cysyniad yn realiti.
s-54 Gadael Penygroes fore Mawrth a dilyn llwybrau blodau gwylltion a phorthmyn heibio ffermydd a dolydd i Gapel Uchaf.
s-55 Galw gyda theulu am banad yng Nghlynnog Fawr cyn ymweld ag eglwys a ffynnon Beuno Sant, a chromlech Bachwen.
s-56 Yna dilyn llwybr hudolus, llawn garlleg gwyllt cyn ymuno â'r lôn i Drefor... a gweld lle 'roeddan ni'n mynd drennydd: sef Bwlch yr Eifl.
s-57 'Roedd Bwlch yr Eifl fore Iau yn tipyn o her ond 'roedd y golygfeydd o'r top yn werth pob ymdrech, a throsodd â ni wedyn am eglwys Pistyll, sydd bellach wedi'i llyncu gan unedau gwyliau.
s-58 Sefydlwyd Côr Meibion Dyffryn Peris ym mis Mawrth 1989, gyda 22 aelod.
s-59 Y diweddar John Huw Hughes, cyn-brifathro Ysgol Dolbadarn, Llanberis, wynebodd y dasg o'u harwain, gyda Hefina Jones yn cyfeilio.
s-60 Pwrpas sefydlu'r côr oedd canu o ran pleser ym mhentref Llanberis a'r cylch.
s-61 Fodd bynnag, gyda rhaglen amrywiol wedi'i llunio a'i dysgu, daeth galwadau am wasanaeth y côr o ardaloedd ehangach.
s-62 Llongyfarchiadau mawr i Jasmine ar ddod yn ail ac i Gethin, Ella, Efa, Iwan, Cynan, Leo a Violet.
s-63 I ddathlu Diwrnod Mathemateg bu'r disgyblion yn brysur un ai yn gwneud gwahanol weithgareddau neu'n cystadlu yn erbyn disgyblion eraill ar draws y byd mewn adnodd o'r enw Mathletics.
s-64 Llongyfarchiadau mawr i Jac a ddaeth yn y cant uchaf ar draws y byd.
s-65 Ac mi ddaeth yr ysgol yn y 150 uchaf hefyd ar draws y byd.
s-66 Da iawn chi!
s-67 Cawsom fis Ebrill braf a heulog er bod y gwynt yn oer yn y cysgod.
s-68 Y ffermwyr yn galw am law, ac fe ddaeth, yn ddi-baid hyd ganol Mai, a gwyntoedd cryfion, eira, cenllysg a therfysg i'w ganlyn.
s-69 Daeth ag oerni hefyd; anarferol am fis Mai, llawer dan annwyd a gwresogyddion ymlaen yn ein cartrefi.
s-70 Er hynny, clywyd y gôg yn ein hysbysu fod y gwanwyn wedi cyrraedd.
s-71 Ges i fy nghusan gyntaf erioed ar deledu, ar y gyfres Gwaith Cartref...roedd hi'n gusan dda iawn hefyd!
s-72 Beth sydd ar y gweill eleni?
s-73 Rydw i ar fin cychwyn ymarferion ar gyfer sioe gerdd newydd o'r enw Anthem gan Llinos Mai, sydd ymlaen yng Nghanolfan y Mileniwm ac mae hwnna am fod yn gyffroes iawn.
s-74 Beth wnaethoch chi'r llynedd?
s-75 Heblaw am fwyta a chysgu lots yn ystod y pandemig, wnes i recordio'r gân 'Pan ddo'i adre'n ôl' gyda Ciwb.
s-76 Ydach chi'n actores sy'n canu, neu yn gantores sy'n actio?!
s-77 Yn bendant cantores sy'n actio cerddoriaeth yw'r peth mwyaf pwysig i fi.
s-78 Rydw i'n caru sgrifennu ac adrodd straeon, a drwy gerddoriaeth dw i'n teimlo y mwyaf cyfforddus yn gwneud hynny.
s-79 A pan ddaw hi at actio, y peth mwyaf pwysig i mi yw gweld wynebau newydd, yn enwedig yn y cyfryngau Cymraeg, yn cael eu gweld ar deledu.
s-80 Sut brofiad oedd canu gydag Eadyth o flaen y Frenhines yn agoriad swyddogol y Senedd y llynedd?
s-81 Sut fagwraeth gawsoch chi?
s-82 Fi yw'r person cyntaf yn fy nheulu i allu siarad Cymraeg anfonodd Mam a Dad fi i gylch meithrin Cymraeg, ac rwy 'n hapus iawn am hynny.
s-83 Ges i blentyndod hyfryd ac rwyf dal yn agos iawn at fy rhieni.
s-84 Man claddu cynhanesyddol a wnaed o dair maen neu ragor ar eu sefyll ac un maen yn gorwedd ar eu traws yw cromlech (gair Cymraeg sydd wedi'i fenthyg i'r Saesneg); defnyddir yr enw Llydaweg cyfatebol dolmen yn amlach yn yr iaith honno.
s-85 Codwyd y rhan fwyaf ohonynt yn Oes Newydd y Cerrig (neu'r Neolithig).
s-86 Fe geir cromlechi (neu gromlechau) yn eithaf cyffredin yng Nghymru, Cernyw a'r Alban hefyd, ond yn llai cyffredin yn ne-ddwyrain Lloegr.
s-87 Tueddir i gysylltu cromlechi â thirwedd y gwledydd Celtaidd (yn arbennig Cymru, Llydaw ac Iwerddon), ond ceir cromlechi mewn nifer o lefydd ar draws Ewrop, gogledd Affrica a rhannau o Asia.
s-88 Ceir cromlechi ar gyfandir Ewrop yn yr Iseldiroedd, Sbaen a'r Almaen a lleoedd eraill.
s-89 Ceir nifer fawr o gromlechi mewn rhannau o Rwsia.
s-90 Yng ngogledd Affrica ceir enghreifftiau da ar yr arfordir yn Nhunisia ac Algeria.
s-91 Yn Asia mae'r enghreifftiau mwyaf trawiadol i'w cael mor bell i ffwrdd â De India a Corea.
s-92 Chwedl Branwen ferch Llŷr yw'r ail o Bedair Cainc y Mabinogi.
s-93 Mae'r chwedl yn agor gyda Bendigeidfran fab Llŷr yn sefyll ar graig yn Harlech yn edrych tua'r môr, lle gwelir llongau yn dynesu.
s-94 Yr ymwelydd yw Matholwch brenin Iwerddon, sydd wedi dod i ofyn am chwaer Bendigeidfran, Branwen, yn wraig iddo .
s-95 Cytunir i'r briodas, ond yn ystod y wledd i'w dathlu mae Efnysien, hanner brawd Branwen, yn cyrraedd y llys.
s-96 Mae'n ddig na ofynwyd am ei ganiatâd ef cyn trefnu'r briodas, ac mae'n anffurfio meirch Matholwch fel dial.
s-97 Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Penfro wedi caniatáu cais i godi ysgol gynradd Gymraeg newydd yn nhref Penfro.
s-98 Y bwriad yw datblygu llecyn o dir 3.3 hectar o faint wrth ymyl Ysgol Harri Tudur, ger fferm Glanymôr, ar gyfer yr ysgol newydd.
s-99 Yn ystod y cyfarfod ddydd Mawrth fe gadarnhawyd mai enw'r ysgol newydd fydd Ysgol Bro Penfro.
s-100 Fe fyddai lle i 210 o blant rhwng 5 ac 11 oed yn yr ysgol, ynghyd â lle i 30 yn y meithrin a chylch meithrin ar gyfer plant dan dair oed.

Text viewDownload CoNNL-U