Dependency Tree

Universal Dependencies - Welsh - CCG

LanguageWelsh
ProjectCCG
Corpus Parttrain

Select a sentence

s-1 Bydd y rôl gyffrous hon yn addas ar gyfer siaradwr Cymraeg a Saesneg a fydd yn arwain gwaith cyfathrebu o ddydd i ddydd gyda'r cyhoedd ar ran Sustrans yng Nghymru, gyda'r nod o godi proffil yr elusen gyda'i chynulleidfaoedd dylanwadu allweddol a'i defnyddwyr.
s-2 Mae disgwyl gwyntoedd cryfion ar draws Cymru ddydd Sadwrn yn dilyn y glaw trwm a ddaeth gyda Storm Jorge.
s-3 Daeth y statws hwnnw i ben ganol y bore, gyda'r heddlu'n dweud eu bod nhw'n 'barod i ymateb i unrhyw lifogydd' ac yn rhybuddio pobl unwaith eto i beidio â gyrru i mewn i ddŵr llonydd.
s-4 Mae nifer o reilffyrdd yn parhau ar gau fore Sadwrn, ar ôl i ddwsinau o deithwyr wynebu trafferthion nos Wener wedi i lifogydd effeithio ar y rheilffyrdd yn y de.
s-5 Dywedodd Jeremy Parr o Gyfoeth Naturiol Cymru: 'Rydym yn bryderus yn enwedig am y rhagolygon o law sylweddol yn y de, yn enwedig mor fuan wedi Storm Dennis.
s-6 Ychwanegodd y dylai pawb gymryd gofal a pheidio gyrru na cherdded drwy lifogydd.
s-7 Mae archwilwyr allanol wedi cael ei benodi i ymchwilio i honiadau bod Llywodraeth Cymru wedi llwgrwobrwyo Comisiynydd y Gymraeg i gynnal llai o ymchwiliadau i gwynion, yn ôl gohebiaeth sydd newydd gael ei datgelu.
s-8 Yn y chwe mis cyntaf ei swydd, ymchwiliodd y Comisiynydd newydd, Aled Roberts, i lai na 40% o'r cwynion a dderbynnir ganddo - bron hanner lefel ei ragflaenydd.
s-9 Heb ymchwiliad statudol i gŵyn, nid oes modd i'r Comisiynydd ddefnyddio ei bwerau cyfreithiol i sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg cyrff yn gwella.
s-10 Mae targedau wedi eu gosod ar golegau sy'n hyfforddi athrawon i recriwtio siaradwyr Cymraeg am y tro cyntaf erioed, yn ôl gohebiaeth sydd wedi dod i law ymgyrchwyr iaith.
s-11 Ers pedair blynedd, mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn galw am newidiadau er mwyn sicrhau bod digon o athrawon cyfrwng Cymraeg er mwyn cyrraedd targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr erbyn 2050 gan gynnwys gosod targedau statudol ar golegau hyfforddi athrawon er mwyn cynyddu canrannau'r bobol fydd yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
s-12 Lle bendigedig i wneud popeth yn Gymraeg.
s-13 Mae'r ardal yn fwrlwm o weithgareddau, diwylliant ac anturiaethau.
s-14 Yma mae'r môr a'r mynydd mor agos at ei gilydd.
s-15 Mae criw mawr o blant a phobl ifanc y wlad a'r dref, o Aberdaron i Fangor yn cymysgu, yn chwarae ac yn cystadlu, a phawb yn mwynhau!
s-16 Mae Meirionnydd yn ymestyn o Finffordd yn y Gogledd hyd at Bont Ddyfi yn y De.
s-17 Yn y dwyrain mae Blaenau Ffestiniog a'r Bermo yn y Gorllewin!
s-18 Gelli fynd i lan y môr, neu i siopa yn y trefi, ac mae digonedd o weithgareddau'r Urdd i ddifyrru pawb.
s-19 Lle clên a Chymreig beth am edrych pa weithgareddau sydd gan yr Urdd yn y sir ar dy gyfer di?
s-20 Mae bywyd yn y brifddinas yn llawn bwrlwm.
s-21 Diddordeb mewn chwaraeon neu'r celfyddydau?
s-22 Mae rhywbeth at ddant pawb gennym i'ch diddanu.
s-23 Dewch i ymuno yn yr hwyl!
s-24 Mae Ceredigion yn sir fywiog, llawn gweithgareddau.
s-25 Os mai cystadlu ti am wneud mae digon o hynny o Chwaraeon i Steddfota!
s-26 Os am gymdeithasu yn Gymraeg beth am ymuno ag Adran neu Uwch Adran lle gellid wneud amrywiol weithgareddau yn wythnosol!
s-27 Neu ymuno ag un o glybiau chwaraeon yr Urdd yng Ngheredigion.
s-28 Beth amdani dere i ymuno gyda ni!
s-29 Beth yw Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd?
s-30 Mae'n unigryw i Gymru.
s-31 Mae'n adlewyrchiad o ddyheadau pobl ifanc yn ein cymdeithas heddiw.
s-32 Mae'n alwad i weithredu i arweinwyr, i gyfoedion, i ddylanwadwyr.
s-33 Mae'n gyfle i wneud gwahaniaeth, i hwyluso'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr i ni allu gwrando, dysgu a pharatoi'r llwybr iddyn nhw ein harwain i ddyfodol gwell.
s-34 Ar ddiwrnod olaf Eisteddfod Yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019 mae Sian Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, wedi diolch i athrawon a hyfforddwyr Cymru am sicrhau bod safon a nifer y cystadlu yn yr Eisteddfod eleni yn uwch nag erioed.
s-35 Nhw, meddai, yw 'asgwrn cefn y mudiad'.
s-36 Ugain mlynedd ers ei sefydlu, mae ysgoloriaeth fawreddog Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel wedi helpu nifer o artistiaid ifanc i gyrraedd llwyfan proffesiynol ac, mewn sawl achos, wedi arwain at yrfa ryngwladol.
s-37 Ymchwil sy'n gyrru Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ac mae ein staff yn arbenigo ar iaith a llên Cymru a'r gwledydd Celtaidd eraill: Iwerddon, yr Alban, Ynys Manaw a Llydaw.
s-38 Mae ein hymchwil ar agweddau o Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd yn rhychwantu'r canrifoedd, ac yn cwmpasu'r meysydd arbenigol canlynol:
s-39 Adran gyfeillgar a chroesawgar dros ben yw'r adran Gymraeg ym Mangor.
s-40 Wedi'i llenwi gyda staff anhygoel, y maent yn gwneud ymdrech ardderchog i wneud yn siwr bod pawb yn teimlo'n gartrefol wrth iddyn nhw symud i Fangor.
s-41 Y mae gan yr adran feysydd eang rhyngddynt yn ymestyn o Lenyddiaeth yr Oesoedd Canol hyd at Weithdai Cynganeddu mae 'na fodiwl ar gyfer pawb.
s-42 Ar ddechrau fy mlwyddyn gyntaf ym Mangor, ges i lawer o gymorth oddi wrth yr adran.
s-43 Roedden nhw'n sicrhau fy mod i'n iawn, ac yn cynnig llawer o help gyda rhannau o'r cwrs nad oeddwn yn deall yn iawn.
s-44 Y mae'r cwrs yn ddiddorol dros ben.
s-45 Hyd yn oed os yr ydych yn dod i Fangor yn astudio gradd sengl, neu radd cyd-anrhydedd, y mae amrywiaeth o fodiwlau i ddewis rhyngddyn nhw.
s-46 Yn y flwyddyn gyntaf, ceir y cyfle i ddilyn y modiwl Beirniadaeth Lenyddol Ymarferol, sydd yn eich dysgu sut i edrych ar farddoniaeth mewn ffordd wahanol, ac i edrych trwy'r cerddi i weld negeseuon cudd sydd yn bodoli.
s-47 Hefyd, ceir y cyfle i ddilyn y modiwl 'Theatr Fodern Ewrop' sydd yn canolbwyntio ar ddramâu Ewropaidd dros gyfnod o amser.
s-48 Y mae'n hynod o ddiddorol i gael asesu'r wahanol fathau o ddamcaniaethau theatraidd a fodolir ers canrifoedd, a sut yr oedd yn datblygu wedi i nifer o ddigwyddiadau hanesyddol.
s-49 Mae Seminar Ieithyddiaeth y Gymraeg yn gyfarfod blynyddol sy'n dod ag ymchwilwyr sy'n gweithio ar ieithyddiaeth y Gymraeg at ei gilydd.
s-50 Fe'i cynhaliwyd yn adran Ieithyddiaeth Prifysgol Cymru Bangor rhwng 1992 a 1996, ac mae wedi ymgartrefu yng nghanolfan gynadledda Prifysgol Cymru, Plas Gregynog, ers 1999.
s-51 O bryd i'w gilydd mae'r Seminar wedi cynnwys sgyrsiau ar agweddau o'r ieithoedd Celtaidd eraill.
s-52 Os hoffech ragor o wybodaeth ynghylch y Seminar, gweler y tudalennau hyn neu mae croeso ichi gysylltu ag un o'r trefnwyr.
s-53 Yn y bôn, cronfa ddata o eiriau yw corpws.
s-54 Nid yw corpws yr un fath â geiriadur.
s-55 Pan fydd defnyddwyr yn chwilio am air mewn corpws, maent yn gallu gweld llawer o enghreifftiau o'r geiriau yn eu cyd-destunau gwreiddiol, fel eu bod wedi cael eu defnyddio gan yr awdur neu'r siaradwr gwreiddiol.
s-56 Gan fod corpws yn adnodd electronig, gall defnyddwyr hefyd gael gwybod, er enghraifft, pa mor aml y mae gair penodol yn cael ei ddefnyddio, neu greu cwisiau wedi'u teilwra i helpu gyda dysgu ieithoedd.
s-57 Yn gryno, mae corpws yn offeryn electronig gwerthfawr sy'n caniatáu i ni ddeall ein hiaith yn well.
s-58 Pwy yw'r bachgen y mae ei dad yn glaf?
s-59 Mae ef yn awdur y darllenaf ei gerddoriaeth.
s-60 Mae'n flin gennyf dros y teulu y llosgwyd eu .
s-61 Dyma'r ferch y rhoddodd hi wobr iddi .
s-62 Rwdy i'n hoffi dramâu y mae canu ynddynt .
s-63 Roedd ef yn gwylio'r y rhedodd y plentyn allan ohono .
s-64 Gellwch adnabod y tai nad oes plant ynddynt .
s-65 Tynnwch yr afalau sy'n aeddfed.
s-66 Codwch y papur sydd ar y llawr.
s-67 Dyma'r pethau a gredwn.
s-68 Dyma'r pethau rydyn ni'n eu credu.
s-69 Pwy yw'r sawl yr ydych yn ei weld?
s-70 Mae o'n ddyn na welais i mo 'i debyg erioed.
s-71 Un o'r pethau rhwystredig am y cyhoeddiad bod y Tywysog Harri a Meghan Markle yn 'camu'n ôl' o'r rhan fwyaf o'u dyletswyddau brenhinol yw cael fy ngorfodi, fel gweriniaethwr rhonc, i gydymdeimlo ychydig.
s-72 Mae agwedd y tabloids Llundeinig tuag at Markle yn gwbl hiliol, fel mae cymharu'r penawdau hyn ochr yn ochr â'u hymdriniaeth â Kate Middleton yn ei wneud yn glir.
s-73 Nid oes ryfedd eu bod, i bob pwrpas, yn codi dau fys ar y wasg.
s-74 Buaswn i'n dadlau y dylai Harri fod wedi gwneud y cyhoeddiad flynyddoedd yn ôl, ar y sail bod y frenhiniaeth yn gysyniad hollol dwp ac anfoesol, ond gwn fy mod yn gofyn gormod.
s-75 Eto i gyd, nid yw'n eglur sut mae modd iddynt ddod yn 'annibynnol' oddi wrth y teulu brenhinol.
s-76 Nid yw hyd yn oed yn glir iawn beth fyddai hynny'n ei olygu yn ymarferol.
s-77 Yn ôl eu gwefan newydd, maent am barhau i dderbyn 95% o'u hincwm.
s-78 Mae cario ymlaen i fwynhau'r holl arian yna tra'n osgoi gwneud y gwaith (os galw beth maent yn ei wneud yn 'waith') yn swnio fel trefniant cyfleus iawn i mi.
s-79 A beth bynnag, royals swyddogol neu beidio, maent am barhau i elwa ar eu statws fel selebs byd enwog, statws sy'n deillio o ddim mwy na'r ffaith bod Harri wedi digwydd cael ei eni'n fab i'w rieni.

Text viewDownload CoNNL-U