Dependency Tree

Universal Dependencies - Welsh - CCG

LanguageWelsh
ProjectCCG
Corpus Partdev

Select a sentence

Showing 1 - 100 of 169 • previousnext

s-1 Rydw i'n cysgu'n drwm.
s-2 Rydw i wedi cerdded yn gyflym.
s-3 Rwi'n canu.
s-4 Rwi wedi cyrraedd neithiwr.
s-5 Dwi ar fynd.
s-6 Rwi ar ddechrau.
s-7 Roeddwn ni ar gyflwyno'r darlluniad.
s-8 Rydw i newydd fwyta fy nghacen.
s-9 Byddaf i'n gwerthu ein .
s-10 Ni fyddaf i ddim yn gadael.
s-11 Yr ydwyf i'n eich gwrando.
s-12 Rydwi 'n sgwennu erthygl.
s-13 Rydw i ar brynu car newydd.
s-14 Dwi wedi prynu ffrwythau yn y siop.
s-15 Dwi 'n prynu ffrwythau yn y siop.
s-16 Ydw'n rhedeg yn gyflym?
s-17 Ydw i wedi colli fy swydd?
s-18 Dydw i ddim yn hoffi cwrw.
s-19 Dwi ddim ar golli gobaith.
s-20 Mi wnes i wrando.
s-21 Roeddwn i'n cefnogi fy mhlant.
s-22 Roeddwn i wedi paratoi fy mwyd pan ffoniodd Ifan.
s-23 Oeddwn i'n terfyn'r gwaith?
s-24 Rwyt ti'n gwerthu hen lyfrau.
s-25 Wyt ti'n hoffi gwin?
s-26 Wyt ti ar goginio y pryd?
s-27 Ni fyddi ti ddim yn teithio.
s-28 Roeddet ti'n creu cynllun.
s-29 Oeddet ti'n clywed y myfyrwyr?
s-30 Ydy hi'n mynd heddiw?
s-31 Ydy hi wedi paratoi brecwast y bore yma?
s-32 Mi wnaeth hi siarad yn dda.
s-33 A eith hi yfori?
s-34 A fydd hi'n syrthio?
s-35 A ganodd hi neithiwr?
s-36 A wnaeth hi feddwl am ei phlant?
s-37 Ni fydd ef ddim yn nofio.
s-38 Bydd o'n tynnu lluniau yn y mynyddoedd.
s-39 Bydd e wedi yfed gwin coch.
s-40 Roedd e ar reoli'r prosiect.
s-41 Mae e ar ennill y marathon.
s-42 Oes prês ganddwch chi?
s-43 Fydd prês gennyn ni?
s-44 Oes syniad da ganddo ?
s-45 Mae hi ar bostio parsel.
s-46 Does dim prês ganddi hi.
s-47 Does dim ganddo fo.
s-48 Doedd hi ddim yn gallu clywed yn y sinema.
s-49 Roedden ni newydd brynu stampiau.
s-50 Rydyn ni'n byw ar yr ynys.
s-51 Rydyn ni wedi trafod.
s-52 Ydych chi wedi troi yn ôl?
s-53 Rydych chi'n gweithio yma?
s-54 Ydych chi'n siarad Gwyddeleg?
s-55 Rydych chi wedi paratoi.
s-56 Byddwch chi'n yfed gormod.
s-57 Roeddech chi yn arddangos y peth.
s-58 Dydych chi ddim yn cysgu.
s-59 Doeddech chi ddim yn bwyta cig.
s-60 Maen nhw'n mynd i Dregaron.
s-61 Maen nhw'n sefydlu ym Nolgellau.
s-62 Maen nhw wedi cymryd tocyn.
s-63 Ydyn nhw'n medru siarad Llydaweg?
s-64 Maen nhw ar gysylltu'r rheolwr.
s-65 Dydyn nhw ddim yn siarad.
s-66 Dydyn nhw ddim wedi gweld y twll.
s-67 Mae hi'n brydferth.
s-68 Roedd e'n araf.
s-69 Oeddet ti'n sâl?
s-70 Dydych chi ddim yn gyflym.
s-71 Bûm i'n ddu.
s-72 Byddan nhw'n gryfach na ni.
s-73 Oedd hi'n fer?
s-74 Buodd o'n gynnar.
s-75 Bu o'n hwyr iawn.
s-76 Dydy hi ddim yn rhy fudr.
s-77 Mae hi'n dywysoges.
s-78 Rydw i'n feddyg.
s-79 Roedd o'n brifathro.
s-80 Byddaf i'n weinidog.
s-81 Byddi ti'n lywydd.
s-82 Mae Blaenau Ffestiniog yn lle diddorol iawn.
s-83 Mae'r gymuned lechi agos hon ym Mro Ffestiniog wedi bod yn destun sbort dros y blynyddoedd, mae'n wir; un jôc yw nad ydy hi byth yn stopio glawio ym Mlaenau, cyhuddiad mae'r preswylwyr yn ei wadu'n chwyrn ac yn siriol.
s-84 Un stori arall a glywir yn aml am Flaenau Ffestiniog yw mai defaid sydd yn ôl y sôn yn cael blaenoriaeth ar y ffyrdd.
s-85 Os yw dyfynnu'r geiriau hyn i weld yn rhyfedd mewn erthygl yn hybu cyrchfan twristiaeth: mae pwynt i hyn i gyd.
s-86 A'r pwynt yw bod ysbryd y gymuned ym Mlaenau a'r pentrefi cyfagos yn y 'Fro' mor gryf, ac yn gymaint o ganolbwynt bywyd yn yr ardal, fel na fydd yn eich synnu fod adfywio'r ardal wedi'i arwain yn bennaf gan y preswylwyr eu hunain.
s-87 Mae Eryri Mynyddoedd a Môr heddiw, wedi esblygu o gymysgedd egnïol o hanes, diwylliant a thirlun sydd yn dyddio'n ôl i ddyddiau cyn pagan a ddilynwyd gan feddiannaeth Rufeinig a dyrchafiad Cristnogaeth.
s-88 Mae'r ardal wedi profi oes y tywysogion canoloesol, gormes y Llychlynwyr, ymgyrchoedd rhyfelgar y Sacsoniaid Eingl ar Normaniaid a thrwy flynyddoedd y chwyldro diwydiannol i'r cyfnod modern.
s-89 Mae tystiolaeth lawn o'r cyfnodau hanesyddol yma i'w gweld yn glir ar dirlun godidog ein mynyddoedd, dyffrynnoedd a'n harfordir.
s-90 O gaer i ucheldir Celtaidd, lleoliadau cysegredig crefyddol, cylchoedd cerrig, cadwyn o gestyll unigryw, eglwysi a chapeli ynghyd a gweddillion diwydiannol diddorol.
s-91 Mae cannoedd o fannau cyn hanes wedi eu gwasgaru o amgylch yr ardal, un o'r mannau mwyaf enwog yw Tre'r Ceiri, aneddiad Oes Haearn arwyddocaol sydd yn dominyddu Penrhyn Llŷn ar lethrau'r Eifl, 400 troedfedd uwchben môr yr Iwerydd.
s-92 Mae'r aneddiad yn cynnwys cryn dipyn o weddillion gan gynnwys 150 o gytiau cared a rhagfur enfawr a gafodd eu hadeiladu yn 200 CC.
s-93 Mae nifer o'r waliau sydd yn weddill dal dros 4 medr o uchder mewn rhai llefydd.
s-94 Dros y canrifoedd mae nifer o unigolion a theuluoedd wedi ymfudo o ardal Eryri Mynyddoedd a Môr i chwilio am waith, ceisio ei ffortiwn a dilyn eu breuddwydion.
s-95 Mae nifer wedi penderfynu cartrefu ar draws Prydain mewn dinasoedd megis Lerpwl, Manceinion, Birmingham a Llundain.
s-96 Mae eraill wedi mynd ymhellach dros y dŵr i wledydd megis yr UDA, Canada, Patagonia, Awstralia a Seland Newydd.
s-97 Os penderfynwch ddod i ymweld â chartref eich cyndadau, mae nifer o wahanol gyfleon ar gael yn yr ardal ar gyfer datgloi'r gorffennol a darganfod mwy am eich hanes.
s-98 Mae dau archifdy - wedi ei leoli yng Nghaernarfon a Dolgellau, nifer o lyfrgelloedd lleol sydd ar agored i'r cyhoedd ynghyd ac eglwysi a chapeli sydd yn lleoliadau gwych i ddarganfod gwybodaeth.
s-99 Gellir olrhain diwydiant copr Cymru yn ôl i Oes yr Efydd.
s-100 Copr yw'r prif fetel mewn efydd, gydag ychydig o dun wedi ei ychwanegu i'w galedu.

Text viewDownload CoNNL-U