Dependency Tree

Universal Dependencies - Welsh - CCG

LanguageWelsh
ProjectCCG
Corpus Partdev

Select a sentence

Showing 1 - 100 of 102 • previousnext

s-1 Rhybudd pellach am eira a rhew yng Nghymru.
s-2 Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi ail rybudd am eira a rhew yn y gogledd a'r canolbarth.
s-3 Mae'r rhybudd cyntaf yn dod i ben am 6 o'r gloch heno (nos Sadwrn, Ionawr 2), ond fe fydd yr ail rybudd mewn grym am weddill y dydd.
s-4 Cafodd yr awdur ei fagu yn Llanfairpwllgwyngyll i rieni o'r Wyddgrug a Chaerwys.
s-5 Astudiodd ambell iaith Geltaidd ym Mhrifysgol Bangor ac yna dal ati i ymhél ag ieithoedd dros y degawdau wedyn, a dysgu'r ieithoedd y gwledydd y buodd yn byw ynddyn nhw Llydaw, Sbaen a Gwlad Belg.
s-6 Mae Llywodraeth y DU a'r UE yn awr wedi dod i gytundeb ar eu perthynas.
s-7 Fel llywodraeth gyfrifol, rydym wedi paratoi ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE, gan gymryd camau i ddiogelu buddiannau Cymru a'i phobl.
s-8 O 1 Ionawr 2021 bydd newidiadau'n digwydd a fydd yn effeithio ar bob un ohonom o'r ffordd yr ydym yn trafod busnes i'r ffordd rydym yn teithio.
s-9 Bydd y wefan yn parhau i gynnwys cyngor ac yn eich cyfeirio at wybodaeth gyfredol er mwyn eich helpu chi, eich teuluoedd a'ch busnesau i baratoi ar gyfer y newidiadau hyn.
s-10 Bydd angen i ddinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU wneud cais am Statws Preswylydd Sefydlog - gweler Dinasyddion yr UE rydym ni am i chi aros yng Nghymru.
s-11 Does dim amheuaeth bod 2020 wedi bod flwyddyn fel dim un arall.
s-12 Mae iechyd meddwl wedi dod yn bwnc y mae pawb yn sôn amdano ac yn meddiannu tiriogaeth cyfryngau byd-eang fel na fu erioed o'r blaen.
s-13 Er mai dim ond peth da y gall y proffil cynyddol hwn o iechyd meddwl fod, mae hefyd yn ein hatgoffa'n amserol na ddylid gadael mynd i'r afael â stigma y tu ôl.
s-14 Ond a ydym wedi rhoi'r un lefel o ofal a sylw i'n hiechyd meddwl a'n lles?
s-15 Yr wyf yn amau'n gryf nad ydym.
s-16 Nid yw ein hymddygiad unigol erioed wedi cael cymaint o effaith ar ganlyniadau ehangach iechyd y cyhoedd a byddwn yn dadlau bod yr un peth yn wir am stigma iechyd meddwl.
s-17 Mae ein harolwg diweddaraf o unigolion sydd â phrofiad byw yn dweud wrthym fod hunan-stigma wedi cynyddu'n sylweddol ymhlith y rhai sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl ers i'r cyfnod clo gael gymryd effaith yng Nghymru.
s-18 Diolch am eich gwaith caled yn cymryd cofnodion tywydd dros y wythnosau diwethaf.
s-19 Byddwch yn cymryd darlleniad tywydd nesaf yr wythnos o'r 4-8 Ionawr.
s-20 Wrth gofnodi eich darlleniadau i'r wefan, plîs nodwch ' dim cofnod ' ar gyfer y dyddiau rydych i fwrdd o'r ysgol.
s-21 Does dim rhaid cymryd eich potiau adra dros y gwyliau.
s-22 Os yw'r potiau mewn lle saf, bydda nhw'n iawn.
s-23 Mae'r pridd yn cadw'r bylbiau yn ddwfn yn erbyn y tywydd oer.
s-24 Mae'r tywydd wedi bod yn eithaf cynnes am y gaeaf, a bydd o'n ddiddorol i weld yr effaith mae hyn yn cael ar ein bylbiau!
s-25 Dechreuodd y cyfan pan des i'r Diwrnod Agored ar gyfer astudio Celf Gain.
s-26 Roedd yr adeilad a chyfleusterau yn anhygoel ac roeddwn wedi disgyn mewn cariad gyda'r lle ond roedd rhywbeth yn fy nal yn ôl.
s-27 Wrth eistedd i lawr a siarad gyda phobl des i ar draws dynes lyfli ac yn Gymraes.
s-28 Dywedais wrthi sut yr oeddwn yn ei deimlo, a fy mod eisiau gallu gwneud amryw o bethau gwahanol gyda chelf a gwaith llaw.
s-29 Ond, digwyddodd un peth ar y penwythnos hynny wnaeth fostio'r balwn yma o hapusrwydd pur.
s-30 Fel y gallwch chi ddychmygu, un rhan o'r parti plu oedd noson mas!
s-31 Roedden ni'n aros yn agos iawn at Ddinbych y Pysgod ac felly dyma ni'n cael pryd o fwyd mewn bwyta ar y traeth.
s-32 Halodd hwn i fi feddwl am gwpwl o bethe sydd wedi bod yn mynd rownd a rownd yn fy mhen yn ddiweddar.
s-33 Sai'n gwybod os taw achos 'mod i'n ddi-waith ers ychydig yw e, felly mae lot mwy o amser gyda fi i adael i fy meddyliau grwydro, neu achos ' mod i'n aeddfedu, ond, dwi wedi bod yn meddwl lot mwy am ddod yn berson 'gwell'.
s-34 Rhan o hyn yw derbyn fy hun fel ydw i, edrych ar ôl fy hun, bod yn fwy ymwybodol o wleidyddiaeth a diwylliant ond hefyd, dwi 'n trio bod yn garedicach ac yn berson 'neisach'.
s-35 Dros yr wythnosau diwethaf mae Pontio, ar y cyd â Chyngor Dinas Bangor, wedi bod yn cydweithio ar ffilm Nadolig sy'n dathlu Bangor.
s-36 Rydym wedi derbyn cyfraniadau gan llu o fusnesau, sefydliadau, cymunedau a chwmnïoedd ym Mangor.
s-37 Fe weithiodd y gantores Alys Williams gydag Elise Jones, cantores ifanc o Fangor, i ddod â'r gymuned ynghyd i ddathlu Nadolig sy'n wahanol iawn inni gyd, ac i orffen 2020 ar nodyn uchel!
s-38 Dyma fersiwn Elise o'r gân Un Seren gan Delwyn Siôn.
s-39 Bydd y 6 llyfrgell ar gael i chi archebu a chasglu eitemau - bydd y llyfrgell yn cysylltu gyda chi pan fydd yr eitemau yn barod i'w casglu, a threfnu amser ar gyfer gwneud hynny.
s-40 Ar gyfer y sawl sy'n methu ag ymweld â'u llyfrgell i gasglu llyfrau - am ba bynnag reswm - bydd modd archebu llyfrau ar gyfer eu cludo i'r cartref.
s-41 Y Llyfrgelloedd a fydd yn darparu gwasanaeth fydd: Llyfrgell Caernarfon, Llyfrgell Bangor, Llyfrgell Pwllheli, Llyfrgell Blaenau Ffestiniog, Llyfrgell Dolgellau a Llyfrgell Tywyn.
s-42 Bydd yr oriau arferol wedi newid.
s-43 Rydym hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadw at eu gair y byddent yn datblygu un continwwm dysgu Cymraeg go iawn, ac i roi cyfarwyddyd clir i Cymwysterau Cymru i ddatblygu un cymhwyster fydd yn rhoi cyfle cyfartal i bob disgybl adael yr ysgol yn medru cyfathrebu a siarad Cymraeg yn hyderus a rhugl.
s-44 Dros y pedair blynedd diwethaf, mae'r Llywodraeth wedi pwysleisio eu hymrwymiad i gyflwyno un continwwm o ddysgu'r Gymraeg yng Nghymru, gan roi diwedd ar Gymraeg ail iaith.
s-45 Mae cael un continwwm yn golygu cael un cymhwyster: un cwricwlwm, un cymhwyster a chyfle cyfartal i bob disgybl yng Nghymru.
s-46 Ond er gwaethaf bwriad clir y Llywodraeth i symud tuag at un continwwm, rydym yn deall na fydd Cymwysterau Cymru hyd yn oed yn cynnwys yr opsiwn o greu un cymhwyster Cymraeg yn eu hymgynghoriad nesaf.
s-47 Rhaid symud i ffwrdd o'r anghyfiawnder presennol lle mae 80 % o'n disgyblion yn gadael yr ysgol yn rhugl mewn un iaith yn unig, sef Saesneg.
s-48 Yn hytrach na pharhau i laesu dwylo, dylai'r Llywodraeth ofyn i Brif Weithredwr presennol Cymwysterau Cymru gamu o'r neilltu a rhoi cyfarwyddyd clir i'r corff i fynd ati i ddatblygu un cymhwyster.
s-49 Dyma'r unig ffordd y gallwn ni sicrhau bod pob disgybl yn gadael yr ysgol yn medru cyfathrebu a siarad Cymraeg yn hyderus a rhugl.
s-50 Mae uchelwydd yn blanhigyn gwenwynig sy'n achosi problemau gastro-berfeddol difrifol gan gynnwys poen yn y bol a dolur rhydd ynghyd â churiad calon isel.
s-51 Paratowyd rhannau helaeth o'r canlynol gan grwp o naturiaethwyr Cymdeithas Edward Llwyd yn nechrau'r 1990au dan ochr rhagflaenydd Prosiect Llên Natur ar y pryd, sef Llên y Llysiau.
s-52 Yn 1945 daeth Gwynfor Evans yn arweinydd.
s-53 Cafwyd cynhadledd stormus ym 1949, gyda rhai aelodau adain-chwith yn teimlo fod gormod o bwyslais ar yr iaith Gymraeg a'r ardaloedd gwledig, a rhai yn beirniadu heddychaeth Gwynfor Evans.
s-54 Yn dilyn y gynhadledd hon, sefydlwyd Plaid Weriniaethol Cymru.
s-55 Ni chafodd y blaid newydd lawer o lwyddiant etholiadol, a daeth i ben tua chanol y 1950au, ond cafodd gryn ddylanwad ar bolisïau Plaid Cymru.
s-56 Erbyn 1959 llwyddodd y Blaid i ymladd ugain o seddi a chael 77,571o bleidleisiau yn yr Etholiad Cyffredinol.
s-57 Yn dilyn helynt boddi Cwm Tryweryn gan Gorfforaeth Lerpwl, er y gwrthwynebiad gan bron pob aelod seneddol o Gymru, cynyddodd y gefnogaeth i Blaid Cymru.
s-58 Mae'r Prif Weinidog wedi ymrwymo i gefnogi digwyddiadau sydd wedi cael eu gohirio oherwydd y coronafeirws.
s-59 Wythnos yma daeth y cadarnhad bod yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Llangollen a'r Sioe Frenhinol wedi eu gohirio am flwyddyn arall.
s-60 Cadarnhaodd y Prif Weinidog y bydd yr Eisteddfod Genedlaethol, er enghraifft, yn derbyn yr un gefnogaeth ariannol â'r arfer, a hynny er na fydd Prifwyl draddodiadol yn cael ei chynnal yn Nhregaron eleni.
s-61 Sut mae rhywun yn mynd ati i gyfarwyddo un o 'glasuron mawr' y theatr?
s-62 Wel, roedd yn gofyn am ddull ychydig bach yn wahanol i'r arfer.
s-63 Mae rhywun yn dod at y gwaith ychydig yn wahanol o gymharu â drama gyfoes neu ddrama naturiolaidd ac mi wnes i fwynhau'r elfen wahanol yna'n fawr iawn.
s-64 Beth am y farddoniaeth honno, felly, a chyfieithiad newydd Gwyn Thomas?
s-65 Oeddet ti wedi meddwl cynhyrchu Macbeth cyn i ti glywed bod Gwyn Thomas wedi bod yn gweithio ar ei gyfieithiad newydd?
s-66 Mynd ati i wneud cyfieithiad ffyddlon wnaeth Gwyn Thomas, nid cynnig addasiad neu ddehongliad o'r gwreiddiol.
s-67 Ond gyda phob cyfieithiad mae elfen o addasu yn anorfod oherwydd wrth fynd ati i gyfieithu drama, i gyfieithu unrhyw idiom yn wir, ac yn enwedig yng nghyd-destun barddoniaeth, mae angen gwneud i'r geiriau ffitio cyd-destun ieithyddol a diwylliannol newydd.
s-68 Ond y tu hwnt i hynny gellid dweud ei fod yn gyfieithiad mor bur ag y gall cyfieithiad fod.
s-69 Mae'r cwlwm sy'n clymu'r gwledydd Celtaidd yn bwysicach nag erioed, ac mae heddiw yn nodi dechrau partneriaeth newydd rhwng ieuenctid Cymru ac Iwerddon.
s-70 Dyma brosiect sy'n symbol o'r cysylltiadau diwylliannol sy'n rhwymo Iwerddon a Chymru.
s-71 Mae'n dangos sut y gallwn ddysgu oddi wrth ein gilydd ac yn pwysleisio cryfder a pherthnasedd cynyddol ein hieithoedd mewn byd gynyddol ddigidol.
s-72 Bydd y cydweithrediad a'r creadigrwydd hwn yn dod â ni'n nes at ein gilydd, ar adeg pan fo hynny'n bwysicach nag erioed.
s-73 Mae gan Gymru a'r Iwerddon orffennol ddiwylliannol gerddorol hynod gyfoethog, ond bob hyn a hyn, mae gofyn i ni fentro a thrio pethau newydd.
s-74 Nid ydym wedi mynd ati i gyhoeddi cân 'Geltaidd' draddodiadol.
s-75 Yn hytrach, rydym wedi rhyddhau fersiwn o gân gyfredol a hynny mewn arddull sydd i'w chlywed bob dydd.
s-76 Dyma'n ffordd o ddangos fod yr ieithoedd yn esblygu, fel ag yr ydym ni fel pobl yn esblygu.
s-77 Ers ei sefydlu yn 1922, mae'r Urdd wedi meithrin dros 4 miliwn o bobl ifanc i ymfalchïo yn eu gwlad, i fod yn agored i'r byd ac yn ymgorfforiad byw o'r iaith a'r diwylliant Cymraeg, ynghyd â'r gwerthoedd cyffredinol a goleddir yng Nghymru.
s-78 Mae deddfwriaeth Ewrop a'r Deyrnas Unedig yn diogelu rhai rhywogaethau a safleoedd; mae yna hefyd bolisi cynllunio a chanllawiau lleol a chenedlaethol ar ddiogelu bywyd gwyllt.
s-79 Mae lefel y warchodaeth yn amrywio rhwng rhywogaethau a chynefinoedd, ond rhoddir ystyriaeth berthnasol ym mhob rhan o'r broses cynllunio a datblygu.
s-80 Mae'n bwysig ystyried materion bywyd gwyllt ac arolygon comisiynu yn gynnar yn y broses gynllunio er mwyn osgoi oedi diangen i'ch cais cynllunio.
s-81 O'r diwedd mae'r Llywodraeth wedi gwneud datganiad mewn ymateb i'r ddeiseb a gyflwynon fis Tachwedd yn galw arnynt i roi grymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai.
s-82 Yn anffodus, di-sylwedd ydy'r datganiad hwn sydd ddim yn cynnwys y camau gweithredu mawr, a brys, sydd eu hangen os ydy'r Llywodraeth o ddifri ynghylch taclo'r argyfwng tai.
s-83 Mae'r ffaith nad yw'r Llywodraeth yn ymrwymo i unrhyw weithredoedd penodol yn destun pryder gan fod angen gweithredu nawr yn hytrach na chynnal rhagor o drafodaethau di-bendraw.
s-84 Magwyd Tom yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr ac yn y Cotswolds.
s-85 Ar ôl graddio mewn peirianneg gemegol, treuliodd wyth mlynedd yn gweithio yn y diwydiant olew yn yr Iseldiroedd ac yn y DU.
s-86 Yn nhymor y Nadolig, hoffwn ddechrau drwy ddymuno i chi i gyd Nadolig diogel, llawn llawenydd a hapusrwydd.
s-87 Mae'n annhebyg y cawn ni lawer o flynyddoedd fel yr un rydym wedi'i bod trwyddi , felly mae gan bob un o'r geiriau hyn ystyr ychwanegol: diogel a llawn llawenydd.
s-88 Rwyf yn gweddïo y bydd hynny'n wir i chi a'ch teuluoedd.
s-89 'Does dim digon o lyfrau cyfoes Cymraeg ar gael i bobl fel fi,' meddai wrth siarad â Cymru Fyw.
s-90 Fi'n cydnabod bod llyfrau ar gael ond maen nhw ar dâp neu CD a dwi 'n cydnabod gwaith gwirfoddolwyr ond byddai'n braf clywed llais actorion go iawn yn lleisio'r llyfrau fel bof fi'n gallu cael yr un mwynhad â phobl sy'n gallu darllen.
s-91 Dywed Cyngor Llyfrau Cymru eu bod yn croesawu'r sgwrs bwysig sy'n datblygu o gwmpas llyfrau llafar Cymraeg a dywed Llyfrau Llafar Cymru eu bod yn gobeithio cydweithio â Mared.
s-92 Fe fydd y gwaith o ddymchwel adeiladau ar Stryd Fawr Bangor gafodd eu difrodi mewn tân ym mis Rhagfyr 2019 yn dechrau ym mis Chwefror.
s-93 Dywed Cyngor Gwynedd y bydd y gwaith o ddymchwel adeiladau rhif 164 a 166 ar y stryd yn cychwyn ar 1 Chwefror, ac fe fydd yn cael ei gwblhau mewn dwy ran.
s-94 Pan fu farw'r actores a'r awdures Mirain Llwyd Owen yn 47 mlwydd oed, soniodd nifer ar y cyfryngau cymdeithasol am ddylanwad mawr ei rôl yn y gyfres am angst yr arddegau, Tydi Bywyd yn Boen.
s-95 Roedd ei phortread didwyll o Delyth Haf yn hollbwysig i ferched yn eu harddegau yn y 1990au, ac yn gwbl newydd yn y Gymraeg, meddai'r gomediwraig Esyllt Sears.
s-96 Fel actores deledu y dechreuodd Mirain ei gyrfa, a hynny'n 16 oed.
s-97 Ond ei phrif swmp o waith dros y blynyddoedd diwethaf, gwaith eto a roddodd bleser amheuthun iddi , oedd storïo a sgriptio Pobol y Cwm.
s-98 Blaenau Gwent yw'r unig sir yng Nghymru sydd â dim ond un ysgol Gymraeg, ond fe allai hynny newid dan gynlluniau newydd y cyngor i adeiladu ysgol newydd sbon yn Nhredegar.
s-99 Mae ymgyrch wedi bod i ehangu addysg Gymraeg yn y dref ers hanner canrif, a gyda'r ymgynghori wedi dod i ben ddiwedd mis Ionawr, dyma'r agosaf, yn ôl ymgyrchwyr, maen nhw wedi dod at wireddu'r nod.
s-100 Caerdydd yw dinas fwyaf Cymru a'i phrifddinas.

Text viewDownload CoNNL-U