s-102
| Dw'i wrth fy modd yn dŵdlo a chreu darluniau bach, felly'n hoffi cael pob math o feiros yn fy nghas pensiliau. |
s-103
| Mae batris ym mhob ystafell yn y tŷ - mewn teganau, ffonau symudol, clociau larwm a'r remote control. |
s-104
| Y broblem yw bod y mwyafrif o fatris yn cael eu rhoi mewn biniau sbwriel ac yna'n cael eu cludo i safleoedd tirlenwi. |
s-105
| Pan fydd batris yn dechrau pydru, gall y cemegau sydd ynddyn nhw ollwng i'r ddaear, ac achosi llygredd pridd a dŵr. |
s-106
| Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ailgylchu batris yn gywir (mae blychau penodol mewn archfarchnadoedd yn aml iawn), neu'n well fyth defnyddiwch fatris aildrydanadwy sy'n arbed tipyn o arian a lleihau gwastraff dros amser. |
s-107
| Roeddet ti'n nofio ddoe. |
s-108
| Roedd hi'n caru Sarah. |
s-109
| Roedden nhw'n sefyll tu allan y dafarn. |
s-110
| Doeddet ti ddim yn nofio ddoe. |
s-111
| Doedd hi ddim yn caru Sarah. |
s-112
| Doedden nhw ddim yn sefyll tu allan y dafarn. |
s-113
| Doedd y bocs ddim yn las. |
s-114
| Doeddwn i ddim yn feddyg. |
s-115
| Tri pheth doeddet ti (efallai) ddim yn gwybod am astudio'r Gymraeg. |
s-116
| Mae astudio llenyddiaeth Gymraeg yn rhoi nifer o sgiliau i ti yn ogystal â mwynhad. |
s-117
| Cyfuniad perffaith! |
s-118
| Mae'r gallu i ddadansoddi testunau llenyddol yn ddefnyddiol yn y gweithle. |
s-119
| Mae'n dangos dy allu i ddehongli'r hyn a ysgrifennwyd gan eraill, ynghyd â'th allu i'w roi yn dy eiriau dy hun. |
s-120
| Er mai Cymru sy'n cynnig y prif leoliadau er mwyn astudio'r Gymraeg, nid wyt ti wedi dy gyfyngu i dir a daear Cymru. |
s-121
| Addysgir y Gymraeg mewn prifysgolion yn Lloegr, yr Alban, Iwerddon, Llydaw, Awstria, Gwlad Pwyl, America ac Awstralia – gan enwi rhai yn unig. |
s-122
| Mae nifer o raddedigion yn mynd ymlaen i deithio i wahanol wledydd, gyda rhai'n cael swyddi dramor yn ymwneud â'r Gymraeg hyd yn oed! |
s-123
| Ceir cyfleoedd i drosglwyddo'r iaith ym Mhatagonia hefyd, wrth gwrs! |
s-124
| Mae galw yng Nghymru am weithlu a all ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg yn hyderus. |
s-125
| Fe ddaeth i'r amlwg fod tywydd gwael ar ddiwedd yr wythnos wedi costio'n ddrud i'r Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst, wrth i golled ariannol o £158,982 gael ei chyhoeddi. |
s-126
| Yn ôl y trefnwyr, cau Maes B a'r maes pebyll a'r costau yn sgil hynny oedd yn bennaf gyfrifol am y golled sylweddol i'r wyl. |
s-127
| Cafodd pawb a oedd wedi prynu tocyn am y penwythnos wneud cais am daliad, a chafodd y bandiau eu talu i gyd. |
s-128
| Er gwaethaf y colledion ariannol, mae'r trefnwyr yn disgrifio'r Eisteddfod eleni fel un hynod lwyddiannus gyda niferoedd 'ardderchog' yn cystadlu a'r Pafiliwn yn llawn am ran helaeth o'r wythnos. |
s-129
| Mae'r ymgeisydd Ceidwadol yn Ynys Môn wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg os ddaw hi'n Aelod Seneddol. |
s-130
| Byddai'n well gan Blaid Cymru beidio â thrafod o gwbl, am y rheswm eu bod nhw'n gwybod bod sgitsoffrenia tros y pwnc o fewn y Blaid, |
s-131
| Sefydlwyd Parc Cenedlaethol Eryri ym 1951 fel y trydydd parc cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr. |
s-132
| Mae'n un o dri pharc cenedlaethol yng Nghymru (gweler hefyd Bannau Brycheiniog a Phenfro). |
s-133
| Mae ffiniau'r parc yn cynnwys tua 214,159 hectar (840 milltir sgwâr), ardal llawer ehangach na'r ardal a adwaenid fel Eryri yn hanesyddol. |
s-134
| Mae Parc Cenedlaethol Eryri, sydd wedi ei leoli ar arfordir gorllewinol Prydain gan gwmpasu 823 milltir sgwâr o dir amrywiol, yn ardal fyw a gweithiol, ac yn gartref i 26,000 o bobl. |
s-135
| Yn ogystal â bod y Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru, mae Eryri'n meddu ar y mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr, a'r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru, ynghyd â chyfoeth o bentrefi prydferth fel Betws y Coed a Beddgelert. |
s-136
| Mae Eryri yn ardal llawn diwylliant a hanes lleol, ac mae mwy na hanner ei phoblogaeth yn siarad Cymraeg. |
s-137
| Mae Eryri yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn i fwynhau ei golygfeydd godidog a'r wledd o weithgareddau awyr agored a gynigir yma. |
s-138
| Nod Awdurdod y Parc Cenedlaethol yw gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal; hyrwyddo cyfleoedd i ddeall a mwynhau ei nodweddion arbennig; a meithrin lles economaidd a chymdeithasol ei chymunedau. |
s-139
| Mae Eryri yn le gwych i ddod i gerdded ac mae gennym rwydwaith o lwybrau ar gyfer pobl o bob gallu. |
s-140
| P'un a'i esgyn i ucheldiroedd Yr Wyddfa yw eich uchelgais neu gerdded ar un o lwybrau hamddenol yr arfordir, rydych yn siwr o gael golygfeydd godidog a thirlun amrywiol. |
s-141
| Mae'r tirlun ei hun yn amrywio o fynyddoedd garw, traethau tywynnog hir i lynnoedd ac afonydd clir. |
s-142
| Mae'r Parc Cenedlaethol yn parhau i ddatblygu rhwydwaith o lwybrau ar gyfer cerddwyr o bob gallu. |
s-143
| Er mwyn gweld manylion y llwybrau sy'n cael eu hyrwyddo ar ein gwefan, cliciwch ar un o'r marcwyr ar y map isod, neu defnyddiwch y dolenni ar y dde. |
s-144
| Os ydych eisiau cerdded un o'r chwe llwybr i gopa'r Wyddfa neu gerdded i gopa Cadair Idris yn ne Eryri, ar ddiwrnod clir, ni allwch guro'r golygfeydd panoramig a welir o'r copaon hyn! |
s-145
| Does neb yn rhy siŵr pam y gelwir y llwybr hwn yn Llwybr Pyg. |
s-146
| Eglurhad posib arall yw bod y llwybr wedi ei enwi ar ôl gwesty Pen y Gwryd gerllaw, man aros y dringwyr cynnar. |
s-147
| Yn y gwesty hwn y bu'r tîm a goncrodd Everest ym 1953 yn aros tra'r oeddent yn ymarfer ar yr Wyddfa. |
s-148
| Wedi iddynt ddychwelyd o'r Himalaya cafwyd aduniad yn y gwesty, a Syr Edmund Hillary gyda hwy. |