Dependency Tree

Universal Dependencies - Welsh - CCG

LanguageWelsh
ProjectCCG
Corpus Parttrain

Select a sentence

Showing 101 - 200 of 1189 • previousnext

s-101 Dim ond wythnos diwethaf, wrth fynd i'r cwpwrdd stoc yng ngwaith i nôl cwpwl o feiros, nes i sylweddoli mai jest tiwbinau bach o blastig ni'n taflu i ffwrdd mewn dim o dro ydyn nhw!
s-102 Dw'i wrth fy modd yn dŵdlo a chreu darluniau bach, felly'n hoffi cael pob math o feiros yn fy nghas pensiliau.
s-103 Mae batris ym mhob ystafell yn y - mewn teganau, ffonau symudol, clociau larwm a'r remote control.
s-104 Y broblem yw bod y mwyafrif o fatris yn cael eu rhoi mewn biniau sbwriel ac yna'n cael eu cludo i safleoedd tirlenwi.
s-105 Pan fydd batris yn dechrau pydru, gall y cemegau sydd ynddyn nhw ollwng i'r ddaear, ac achosi llygredd pridd a dŵr.
s-106 Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ailgylchu batris yn gywir (mae blychau penodol mewn archfarchnadoedd yn aml iawn), neu'n well fyth defnyddiwch fatris aildrydanadwy sy'n arbed tipyn o arian a lleihau gwastraff dros amser.
s-107 Roeddet ti'n nofio ddoe.
s-108 Roedd hi'n caru Sarah.
s-109 Roedden nhw'n sefyll tu allan y dafarn.
s-110 Doeddet ti ddim yn nofio ddoe.
s-111 Doedd hi ddim yn caru Sarah.
s-112 Doedden nhw ddim yn sefyll tu allan y dafarn.
s-113 Doedd y bocs ddim yn las.
s-114 Doeddwn i ddim yn feddyg.
s-115 Tri pheth doeddet ti (efallai) ddim yn gwybod am astudio'r Gymraeg.
s-116 Mae astudio llenyddiaeth Gymraeg yn rhoi nifer o sgiliau i ti yn ogystal â mwynhad.
s-117 Cyfuniad perffaith!
s-118 Mae'r gallu i ddadansoddi testunau llenyddol yn ddefnyddiol yn y gweithle.
s-119 Mae'n dangos dy allu i ddehongli'r hyn a ysgrifennwyd gan eraill, ynghyd â'th allu i'w roi yn dy eiriau dy hun.
s-120 Er mai Cymru sy'n cynnig y prif leoliadau er mwyn astudio'r Gymraeg, nid wyt ti wedi dy gyfyngu i dir a daear Cymru.
s-121 Addysgir y Gymraeg mewn prifysgolion yn Lloegr, yr Alban, Iwerddon, Llydaw, Awstria, Gwlad Pwyl, America ac Awstralia gan enwi rhai yn unig.
s-122 Mae nifer o raddedigion yn mynd ymlaen i deithio i wahanol wledydd, gyda rhai'n cael swyddi dramor yn ymwneud â'r Gymraeg hyd yn oed!
s-123 Ceir cyfleoedd i drosglwyddo'r iaith ym Mhatagonia hefyd, wrth gwrs!
s-124 Mae galw yng Nghymru am weithlu a all ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg yn hyderus.
s-125 Fe ddaeth i'r amlwg fod tywydd gwael ar ddiwedd yr wythnos wedi costio'n ddrud i'r Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst, wrth i golled ariannol o £158,982 gael ei chyhoeddi.
s-126 Yn ôl y trefnwyr, cau Maes B a'r maes pebyll a'r costau yn sgil hynny oedd yn bennaf gyfrifol am y golled sylweddol i'r wyl.
s-127 Cafodd pawb a oedd wedi prynu tocyn am y penwythnos wneud cais am daliad, a chafodd y bandiau eu talu i gyd.
s-128 Er gwaethaf y colledion ariannol, mae'r trefnwyr yn disgrifio'r Eisteddfod eleni fel un hynod lwyddiannus gyda niferoedd 'ardderchog' yn cystadlu a'r Pafiliwn yn llawn am ran helaeth o'r wythnos.
s-129 Mae'r ymgeisydd Ceidwadol yn Ynys Môn wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg os ddaw hi'n Aelod Seneddol.
s-130 Byddai'n well gan Blaid Cymru beidio â thrafod o gwbl, am y rheswm eu bod nhw'n gwybod bod sgitsoffrenia tros y pwnc o fewn y Blaid,
s-131 Sefydlwyd Parc Cenedlaethol Eryri ym 1951 fel y trydydd parc cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr.
s-132 Mae'n un o dri pharc cenedlaethol yng Nghymru (gweler hefyd Bannau Brycheiniog a Phenfro).
s-133 Mae ffiniau'r parc yn cynnwys tua 214,159 hectar (840 milltir sgwâr), ardal llawer ehangach na'r ardal a adwaenid fel Eryri yn hanesyddol.
s-134 Mae Parc Cenedlaethol Eryri, sydd wedi ei leoli ar arfordir gorllewinol Prydain gan gwmpasu 823 milltir sgwâr o dir amrywiol, yn ardal fyw a gweithiol, ac yn gartref i 26,000 o bobl.
s-135 Yn ogystal â bod y Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru, mae Eryri'n meddu ar y mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr, a'r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru, ynghyd â chyfoeth o bentrefi prydferth fel Betws y Coed a Beddgelert.
s-136 Mae Eryri yn ardal llawn diwylliant a hanes lleol, ac mae mwy na hanner ei phoblogaeth yn siarad Cymraeg.
s-137 Mae Eryri yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn i fwynhau ei golygfeydd godidog a'r wledd o weithgareddau awyr agored a gynigir yma.
s-138 Nod Awdurdod y Parc Cenedlaethol yw gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal; hyrwyddo cyfleoedd i ddeall a mwynhau ei nodweddion arbennig; a meithrin lles economaidd a chymdeithasol ei chymunedau.
s-139 Mae Eryri yn le gwych i ddod i gerdded ac mae gennym rwydwaith o lwybrau ar gyfer pobl o bob gallu.
s-140 P'un a'i esgyn i ucheldiroedd Yr Wyddfa yw eich uchelgais neu gerdded ar un o lwybrau hamddenol yr arfordir, rydych yn siwr o gael golygfeydd godidog a thirlun amrywiol.
s-141 Mae'r tirlun ei hun yn amrywio o fynyddoedd garw, traethau tywynnog hir i lynnoedd ac afonydd clir.
s-142 Mae'r Parc Cenedlaethol yn parhau i ddatblygu rhwydwaith o lwybrau ar gyfer cerddwyr o bob gallu.
s-143 Er mwyn gweld manylion y llwybrau sy'n cael eu hyrwyddo ar ein gwefan, cliciwch ar un o'r marcwyr ar y map isod, neu defnyddiwch y dolenni ar y dde.
s-144 Os ydych eisiau cerdded un o'r chwe llwybr i gopa'r Wyddfa neu gerdded i gopa Cadair Idris yn ne Eryri, ar ddiwrnod clir, ni allwch guro'r golygfeydd panoramig a welir o'r copaon hyn!
s-145 Does neb yn rhy siŵr pam y gelwir y llwybr hwn yn Llwybr Pyg.
s-146 Eglurhad posib arall yw bod y llwybr wedi ei enwi ar ôl gwesty Pen y Gwryd gerllaw, man aros y dringwyr cynnar.
s-147 Yn y gwesty hwn y bu'r tîm a goncrodd Everest ym 1953 yn aros tra'r oeddent yn ymarfer ar yr Wyddfa.
s-148 Wedi iddynt ddychwelyd o'r Himalaya cafwyd aduniad yn y gwesty, a Syr Edmund Hillary gyda hwy.
s-149 Mae cadw a gwella bioamrywiaeth Eryri yn gongl faen i gynaliadwyedd.
s-150 Mae un rhan o bump o'r ardal wedi'i ddynodi'n statudol oherwydd hynodrwydd y bywyd gwyllt, geomorffoleg a daeareg.
s-151 Yn ogystal gwarchodir rhai rhywogaethau yn statudol a gwelir llawer ohonynt yn Eryri.
s-152 Mae diogelu safleoedd a rhywogaethau yn ystyriaethau cynllunio materol pryd yn penderfynu ar gais cynllunio.
s-153 Mae'n bwysig felly deall effaith datblygiadau a sut y gellid ei leihau.
s-154 Saif y dref ar lain o dir arfordirol tua 2 milltir o hyd a hanner milltir o led yn wynebu Bae Conwy a Môr Iwerddon i'r gogledd.
s-155 Mae'r bae yn cael ei gysgodi gan bwynt de-ddwyreiniol Ynys Môn (Penmon) ac Ynys Seiriol yn y gogledd-orllewin a phenrhyn calchfaen Pen y Gogarth yn y gogledd-ddwyrain.
s-156 Yn ôl traddodiad, yn Oes y Seintiau roedd gan Sant Seiriol, yr enwir Ynys Seiriol ar ei ôl, gell meudwy yng Nghwm Graiglwyd.
s-157 Dechreuwyd chwarelu ithfaen ar raddfa diwydiannol ym Mhenmaenmawr yn gynnar yn y 19ed ganrif.
s-158 Wrth i'r chwarel dyfu tyrrodd gweithwyr a'u teuluoedd i Benmaenmawr o bob cwr o ogledd-orllewin Cymru a thu hwnt.
s-159 Roedd y cysylltiad â phentref Trefor, sydd hefyd yn gartref i chwarel gwenithfaen sylweddol ar lethrau Yr Eifl, yn arbennig o agos.
s-160 Oes y Seintiau yw'r enw traddodiadol am y cyfnod ar ôl ymadawiad y Rhufeiniaid o Ynys Brydain pan ymledwyd Cristnogaeth gan genhadon brodorol ymhlith pobloedd Celtaidd Prydain ac Iwerddon.
s-161 Gellir dweud ei bod yn parhau o tua dechrau'r pumed ganrif hyd ddiwedd y seithfed ganrif.
s-162 Fe fu John Davies yn ymgyrchu yn ardal Clydach gyda Bethan Sayed ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 7), gan rybuddio am 'ddiffyg gweledigaeth' Llafur a'r Ceidwadwyr.
s-163 Fe fu'r sedd yng ngofal Llafur rhwng 1908 a 2015, cyn i'r Ceidwadwyr ei hennill gyda mwyafrif o ddim ond 27.
s-164 Cefnogais alwadau yn y Senedd i ddatgan ein bod mewn 'Argyfwng Hinsawdd', a bu i mi wrthwynebu'n llwyddiannus yr arolwg seismig ym Mae Ceredigion ynghyd â chydweithio gyda gwleidyddion trawsbleidiol yn Nhŷ'r Cyffredin i hyrwyddo deddfwriaeth ar blastig.
s-165 Pe bawn i'n ddigon ffodus i gael fy ailethol, byddwn yn parhau i gefnogi ymdrechion i weithredu ar frys wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd - cyn ei bod hi'n rhy hwyr.
s-166 Dyw union leoliad y digwyddiad ddim wedi cael ei gyhoeddi ac mae'r nifer cyfyngedig o lefydd ar gyfer y digwyddiad eisoes wedi eu llenwi.
s-167 O Fangor, mi fydd Jeremy Corbyn yn ymweld ag Aberconwy am ddau y prynhawn, cyn cynnal digwyddiad tebyg ym Mae Colwyn am 3.30.
s-168 Dyw union leoliadau'r digwyddiadau hyn ddim wedi'u datgelu chwaith.
s-169 Derbyniodd Comisiynydd y Gymraeg gerdyn Nadolig dychanol oddi wrth ymgyrchwyr heddiw sy'n honni bod Llywodraeth Cymru wedi ei lwgrwobrwyo i wanhau hawliau iaith.
s-170 Yn gynharach eleni, darganfuwyd gohebiaeth oddi wrth Weinidog y Gymraeg at y Comisiynydd yn pwyso arno i gynnal llai o ymchwiliadau.
s-171 Yn ôl rhagor o ddogfennau a ryddhawyd drwy geisiadau rhyddid gwybodaeth, ym mis Awst eleni anfonodd y Comisiynydd lythyr at Weinidog y Gymraeg yn brolio ei fod yn cynnal llai o ymchwiliadau i gwynion gan ddweud ei fod 'ddiolchgar' i'r Gweinidog am ei 'harweiniad ar y mater'.
s-172 Ymatebodd y Gweinidog gan ddweud ei bod yn 'croesawu' yr ystadegau 'calonogol'.
s-173 Roedd Merêd yn arbenigwr ym maes cerddoriaeth werin Gymraeg, a bu wrthi , ynghyd â'i wraig Phyllis Kinney, am ddegawdau yn gwneud gwaith diwyd yn casglu ac yn cofnodi caneuon gwerin.
s-174 Nawr, bwriad y llyfrgell yw i ddatblygu cronfa o gerddoriaeth werin yn seiliedig ar y gwaith ymchwil yma, a'i gwneud ar gael i bobl allu pori drwyddi .
s-175 Pan es i yno, oeddwn i'n teimlo mod i eisiau misoedd, os nad blynyddoedd, i gael fy mhen rownd y cyfan.
s-176 Ar ôl i mi fynd adre y diwrnod cyntaf, oedd fy mhen i'n troi.
s-177 Fe wnaeth Arfon gyfarfod Merêd gyntaf ddechrau'r 70au, a bu'r ddau mewn cysylltiad agos ar hyd y blynyddoedd.
s-178 Cafodd Arfon weld â'i lygaid ei hun pa mor weithgar ac ymroddgar oedd y ddau wrth geisio diogelu'r caneuon gwerin yma.
s-179 Ar 6 Tachwedd 1961, sefydlwyd Cyngor Llyfrau Cymru, ac yn 2011 dathlwyd 50 mlynedd o wasanaethu'r fasnach lyfrau a chyfrannu'n sylweddol at ddatblygiad y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.
s-180 Sefydlwyd y Cyngor Llyfrau mewn ymateb i waith arloesol y Cymdeithasau Llyfrau ar draws Cymru ac ymroddiad diflino Alun R. Edwards, Llyfrgellydd Sir Aberteifi ar y pryd, a fu'n gweithio'n ddyfal am gyfnod maith i wireddu'r freuddwyd.
s-181 Yn 1965 y dechreuodd Alun Creunant Davies yn ei swydd fel y Cyfarwyddwr cyntaf ac mae'r Cyngor wedi glynu at y weledigaeth wreiddiol o weithio mewn partneriaeth gyda'r cyhoeddwyr, llyfrwerthwyr a llyfrgellwyr i ehangu'r dewis o lyfrau a sicrhau cynnyrch o'r safon orau.
s-182 Hoffwn feddwl bod gwir werth y datblygiadau hyn i'w gweld yn y cynnyrch safonol a gyhoeddir bob blwyddyn a'r ystod o lyfrau sydd bellach ar gael i adlewyrchu diddordebau darllen y Gymru gyfoes.
s-183 Bydd nifer o ddigwyddiadau'n cael eu cynnwys o fewn rhaglen ddathliadau'r Cyngor, gan ddechrau â'r Cyfarfod Blynyddol ym mis Rhagfyr ac yn cynnwys dathliadau Diwrnod y Llyfr a chyfarfod arbennig o Gyfeillion y Cyngor Llyfrau.
s-184 Bydd yn rhaid i chi gynnal eich ymchwil dwys eich hun, sef cyfres o brosiectau ymchwil bychain neu un prif brosiect ymchwil, ac yna traethawd ymchwil a chyflwyniad llafar.
s-185 Bydd y rhaglen yn helpu i loywi eich sgiliau ymchwil a'ch gwybodaeth am y dulliau ymchwil diweddaraf yn eich maes dewisol.
s-186 Er y bydd aelod academaidd uwch o'r staff yn goruchwylio rhywfaint arnoch , mae hunanddisgyblaeth, cymhelliant a bod yn drefnus yn elfennau hanfodol i gwblhau rhaglen ymchwil.
s-187 Yn Aberystwyth, rydym yn falch o'r gymuned fywiog y mae ein myfyrwyr yn ei mwynhau yn ein neuaddau. Rydym yn cynnig amrywiaeth o steiliau a lleoliadau fel y gallwch ddod o hyd i'r ardal sy'n addas ar eich cyfer chi, gyda'r mwyafrif o breswylfeydd o fewn taith cerdded fer i'r campws.
s-188 Mae symud i Brifysgol yn gam mawr i chi, a dyma pam rydym am eich helpu i wneud y trawsnewidiad mor hwylus â phosib.
s-189 Rydym yn cydnabod bod rhai cyrsiau Uwchraddedig yn parhau am 52 wythnos felly rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfnodau trwydded, ond byddwch yn ymwybodol mai'r cyfnod hwyaf y gallwn gynnig yw 50 wythnos.
s-190 Drwy ddewis Prifysgol Aberystwyth byddwch yn dewis canolfan ddysg mewn lleoliad heb ei ail.
s-191 Ar lannau arfordir y gorllewin rhwng Bae Ceredigion a Mynyddoedd y Cambria, byddwch yn rhan o gymuned gyfeillgar, eang ei gorwelion, lle mae'r gorwel pell yn ysgogi uchelgais a dyhead.
s-192 Mae myfyrwyr yn dod yma ers 1872, wedi'u denu gan ein henw da am ddysgu rhagorol a phrofiad eithriadol ein myfyrwyr.
s-193 Er mwyn gwneud yn siŵr bod plant yn ddiogel mewn lleoliad gofal plant, rhaid sicrhau eu bod yn cael eu goruchwylio gydol yr amser.
s-194 Bod yr offer a'r deunyddiau a ddefnyddir gyda hwy, a ganddynt hwy, mewn cyflwr diogel; bod digon o gyfleusterau cymorth cyntaf ar gael.
s-195 Bod staff wedi dilyn hyfforddiant cymorth cyntaf sylfaenol.
s-196 Bod archwiliadau diogelwch yn cael eu cynnal fel rhan o'r drefn yn yr ardaloedd mewnol yn ogystal â'r tu allan.
s-197 Bod ymarferion tân yn cael eu cynnal o leiaf unwaith bob chwe wythnos.
s-198 Bod plant ond yn cael eu rhyddhau i fynd adref yng nghwmni rhiant neu oedolyn ag awdurdod.
s-199 Rhaid i bob lleoliad gael dogfennau ysgrifenedig a elwir yn bolisïau a gweithdrefnau, a rhaid iddynt roi sylw i'r holl bwyntiau hyn yn ogystal â bodloni'r gofynion a bennir yn yr amrywiol ddarnau o ddeddfwriaeth.
s-200 Byddwch yn ymdrin â'r ddeddfwriaeth fwyaf perthnasol yng nghyswllt iechyd a diogelwch mewn lleoliadau gofal plant yn y bennod hon.

Text viewDownload CoNNL-U