Dependency Tree

Universal Dependencies - Welsh - CCG

LanguageWelsh
ProjectCCG
Corpus Parttest

Select a sentence

Showing 1 - 100 of 953 • previousnext

s-1 Aelod o'r gangen Frythonaidd o'r ieithoedd Celtaidd a siaredir yn frodorol yng Nghymru, gan Gymry a phobl eraill ar wasgar yn Lloegr, a chan gymuned fechan yn Y Wladfa, yr Ariannin yw'r Gymraeg.
s-2 Fel y mwyafrif o ieithoedd, mae cyfnodau canfyddadwy o fewn hanes y Gymraeg, ond mae'r ffiniau rhwng y rheiny yn aneglur fel arfer.
s-3 Tarddodd yr enw Saesneg ar yr iaith, sef 'Welsh', fel ecsonim a roddwyd i'w siaradwyr gan yr Eingl-Sacsoniaid, sy'n golygu 'iaith estron'.
s-4 Mae gan yr Ariannin adnoddau naturiol gwerthfawr, poblogaeth wybodus iawn, amaeth da, a sylfaen ddiwydiannol amrywiol.
s-5 Mae gan gerddoriaeth Cymru hanes hir, ond ychydig iawn o wybodaeth fanwl sydd gennym cyn y 18g pan ddechreuodd hynafiaethwyr ymddiddori yn y pwnc.
s-6 Dywedir yn aml taw rygbi'r undeb yw mabolgamp genedlaethol Cymru, er mae pêl-droed yn denu mwy o wylwyr i'r maes.
s-7 Cafodd Dylan Thomas ei wahardd o'r dafarn am helpu ei hunan i'r cwrw.
s-8 Adeiladodd Edmwnt, brawd y brenin Edward I gastell newydd yn 1277, wedi iddo gael ei ddinistrio gan y Cymry.
s-9 Etifeddodd arglwyddiaethau Glyndyfrdwy a Chynllaith gyda'i ganolfan yn Sycharth, ger Llansilin, Powys.
s-10 Sylweddolodd Llywelyn mai'r unig obaith i Gymru oedd iddo ef fod yn Dywysog Cymru cydnabyddiedig, a chasglodd ynghyd fyddin gref.
s-11 Bydd yn disgyn yn Damascus o'r nef ac yn byw gweddill ei oed naturiol yn ymladd drygioni.
s-12 Mae'r Deyrnas Unedig yn cynnwys tair gwlad - Yr Alban, Cymru, Lloegr - a thalaith Gogledd Iwerddon, sydd yn eu tro yn cynnwys yr israniadau canlynol.
s-13 Cyfansoddwyr sydd dal yn byw yw John Tavener, Harrison Birtwistle a Oliver Knussen.
s-14 Mae pob talaith yn anfon yr un nifer o etholwyr i'r coleg etholiadol ag sydd ganddynt o seneddwyr a chynrychiolwyr yng Nghyngres UDA.
s-15 Bydd siapiau yn ymddangos a diflannu o flaen y carcharorion, ac mi fydd y carcharorion yn eu trin ai trafod.
s-16 Rwy 'n eilio Elin Jones ar gyfer swydd y Llywydd.
s-17 Mae'n helpu os tynnwch eich clustffonau, wyddoch chi - nid ydych yn clywed eich hun.
s-18 Mae'n rhaid cael rhywbeth, neu fel arall byddai anawsterau o ran penderfynu sut y byddai cyffuriau'n cael eu neilltuo.
s-19 Yn amlwg, mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo ei hun bellach i gomisiynu'r prosiect hwn erbyn 2018 - gwanwyn 2018.
s-20 Mi gefais i fy ngeni yng Nghaerdydd.
s-21 Mae hi'n dy garu ti.
s-22 Mae'n rhaid i ti ddod cyn yfory.
s-23 Mi gafodd o ei ladd ym Mangor.
s-24 Roedd o newydd fwyta pan gyrhaeddodd ei chwaer.
s-25 Mae'r duw hwn hefyd yn gysylltiedig ag amser a henaint.
s-26 Gwybyddir am Sadwrn ers amserau cynhanesyddol.
s-27 Bydd o'n dod.
s-28 Mae'n rhad ac am ddim.
s-29 Mi ges i fy ngeni ym Mangor.
s-30 Hon oedd y frwydr dyngedfennol yn ymgyrch Napoleon i adennill pŵer wedi iddo ddianc oddi ar Ynys Elba.
s-31 Nod y seremoni symbolaidd yn llyfrgell y dref oedd dangos y berthynas rhwng datblygu economaidd a hybu'r Gymraeg fel prif iaith Sir Gaerfyrddin.
s-32 Adawes i'm sgidiau fi rywle fan hyn, dw i'n siŵr.
s-33 Fe aethon ni mas am awr neu ddwy, ac wedyn dod yn ôl.
s-34 Bu llawer o drafod ar ddatblygu economaidd i greu swyddi, a bu hefyd drafod ar strategaeth i hybu'r Gymraeg fel prif iaith y sir.
s-35 Ond does fawr ddim cyswllt wedi bod rhwng y ddwy drafodaeth hyn, heblaw am annog busnesau presennol i wneud defnydd o'r iaith.
s-36 Mae mudiad iaith wedi galw am fwy o gamau i sicrhau bod mwy o elfennau Cymraeg wedi'u cynnwys yn y Cwricwlwm Cenedlaethol.
s-37 Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru ddatblygu cwricwlwm newydd i ddod i rym yn 2022.
s-38 Lleolir Castell Aberystwyth ar frig rhwng traeth y de a thraeth y gogledd yn nhref Aberystwyth, Ceredigion.
s-39 Adfeilion yn unig a welir yno heddiw, y cwbl a erys o'r castell ag adeiladwyd ar y safle yn 1277, ond roedd sawl castell cynharach ar y safle cyn i'r un presennol gael ei godi.
s-40 Mae'r amddiffynfa cyntaf yn dyddio i Oes yr Haearn.
s-41 Dyw Sioned ddim yn astudio llenyddiaeth o gwbl.
s-42 Oedd mrawd i'n sôn am hyn wrthot ti neithiwr.
s-43 Fydd Caryl wedi ffonio drwodd erbyn hon?
s-44 Byddaf i'n gadael cyn i ti gyrraedd, mae'n debyg.
s-45 Pe byddai Freddie'n dod i'r parti, byddwn i'n dweud wrtho .
s-46 Mae eisiau arnaf i ddod.
s-47 Oes eisiau bwyd ar y plant?
s-48 Darllenwch y llyfryn yn ofalus.
s-49 Peidiwch â chyffwrdd!
s-50 Tacluswch eich stafelloedd, ac wedyn gellwch chi wylio'r teledu.
s-51 Rhwng 1968 a diwedd y 1970au roedd yn un o arweinyddion carismatig mwyaf y frwydr iaith.
s-52 Celt-Iberiad oedd Macsen Wledig a ddaeth i ynysoedd Prydain yn y trydedd canrif.
s-53 Aeth i'r ysgol yn Ysgol Gynradd Nefyn cyn mynd ymlaen i ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Athroniaeth a Diwinyddiaeth o Goleg Yr Iesu, Rhydychen.
s-54 Mae hi hefyd yn ysgrifennu sgriptiau ar gyfer rhaglenni teledu.
s-55 Bydd hi'n rhyddhau ei halbwm newydd.
s-56 Mae'n debyg mai'r cofnod hanesyddol cyntaf o Aberystwyth oedd adeiladu caer yn 1109, gan Gilbert Fitz Richard.
s-57 Gwelir siâp strydoedd Canol Oesol y dref o hyn mewn strydoedd ger y Castell ar ben uchaf Aberystwyth.
s-58 Mae hi'n gwybod y bydd hi'n dod.
s-59 Ydy o'n meddwl yr aeth hi i Gaerdydd?
s-60 Rwy 'n teimlo eich bod chi'n anhapus.
s-61 Mi welith hi fy mod i ddim yn anhapus.
s-62 Mi welith hi na dydw i ddim yn anhapus.
s-63 Gwn i yr eith hi ddim.
s-64 Gwn i nad eith hi.
s-65 Gwyddost ti mai fi ydy'r gorau.
s-66 Mae chwedl ddiddorol yn gysylltiedig â'r pentref hwn.
s-67 Dylai Emyr anfon y llythyr.
s-68 Gwelodd Siôn ei wraig o.
s-69 Dechreuodd Gwyn fy nharo i.
s-70 Prynodd o fy nhŷ.
s-71 Dywedodd Gwyn fod Emrys yn ddiog.
s-72 Dywedodd Gwyn ei fod o yn ddiog.
s-73 Mae Mair wedi gweld car yr athro.
s-74 Fy mrawd yw'r dyn sy'n canu.
s-75 Dyma'r genethod a fu'n canu.
s-76 Mi welais ddyn sy ddim yn gweithio o gwbl.
s-77 Mi ddaeth y ferch a allai wneud y gwaith.
s-78 Mi ddaeth y ferch na allai wneud y gwaith.
s-79 Rydw 'n nabod rhywun sy'n medru siarad Almaeneg.
s-80 Dim ond Kate na enillodd wobr.
s-81 Efrog Newydd yw'r ddinas mae pobl yn meddwl gyntaf amdani .
s-82 Mae Aled yn credu y darllenith Elen y llyfr.
s-83 Mae Aled yn credu y byddai Elen yn darllen llyfr.
s-84 Mae Aled yn credu bod Elen yn darllen llyfr.
s-85 Es i allan cyn bod y plant wedi codi.
s-86 Dymunai Aled i Mair fynd adref.
s-87 Roedd Hedd Wyn yn frodor o Drawsfynydd, yn yr hen Sir Feirionydd, lle cafodd ei eni yn 1887.
s-88 Ysgrifennodd y bardd Robert Williams Parry gyfres o englynion er cof amdano .
s-89 Y Ddaear yw'r blaned yr ydym ni'n byw arni .
s-90 Hi yw'r drydedd blaned oddi wrth yr haul.
s-91 Ceir pob math o diroedd ar wyneb y ddaear a elwir yn gyfandiroedd.
s-92 O le ydych chi'n dod?
s-93 Beth yw d'enw ti?
s-94 Gallai gwyntoedd cryfion daro Cymru a chodi i gyflymdra o 70 milltir yr awr, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
s-95 Gallai'r gwyntoedd achosi anafiadau a pheryglu bywydau, meddai'r Swyddfa Dywydd.
s-96 Mae'r rhybudd yn ei le drwy Gymru gyfan.
s-97 Mae'r Wythnos yn addas ar gyfer pobol sydd wrthi 'n dysgu Cymraeg.
s-98 Hefyd mae'n ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd wedi colli rhai o storiau mawr yr wythnos.
s-99 Bydd geiriau anodd yn dod ar y sgrîn, a bydd y geiriau hynny ar y dudalen hon ar ôl pob rhaglen.
s-100 Mae gradd yn y Gymraeg yn rhoi cyfle ichi astudio un o ieithoedd hynaf Ewrop a'i llenyddiaeth sy'n estyn yn ôl i'r chweched ganrif.

Text viewDownload CoNNL-U