Dependency Tree

Universal Dependencies - Welsh - CCG

LanguageWelsh
ProjectCCG
Corpus Parttest
AnnotationHeinecke, Johannes; Tyers, Francis;

Select a sentence

Showing 6 - 105 of 115 • previousnext

s-6 Dyma'r Eisteddfod gyntaf ers i sticeri coch y mudiad ddod yn rhan eiconig ac anochel o wead gweledol strydoedd ein dinasoedd a'n ffyrdd gwledig.
s-7 Ac mae'r mis Awst dryslyd hwn wedi teimlo i mi fel un o lanw a thrai, o newid yn sicr, a llif yn troi.
s-8 Mae John Humphrys yn dweud bod y BBC wedi methu â deall penderfyniad y bobol i bleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.
s-9 Mae'r newyddiadurwr o Gymru, sy'n gadael ei rôl yn cyflwyno rhaglen Today ar BBC Radio 4, yn cyhuddo'r Gorfforaeth o fod yn rhagfarnllyd o blaid yr asgell chwith ryddfrydol.
s-10 Mae fersiwn newydd Ubuntu yn cael ei ryddhau heddi.
s-11 Dydw i wedi ei drio fe eto, ond rydw wedi clywed o newyddion o bobl arall.
s-12 Yn gyntaf, mae menu sain wedi cael newidiadau er mwyn ddangos Rhythmbox yn canu caneuon mewn menu gyda botomau nôl, canu ac ymlaen.
s-13 Hefyd, mae gosodwr Ubuntu yn gosod Ubuntu pan ti'n rhoi gwybodaeth i Ubuntu.
s-14 Does dim aros am y tudalenau gwybodaeth i gwpla cyn i ti allu dechrau'r gosod!
s-15 Mae gosodwr yn rhoi siawns i di lawrlwytho updates a galluogi MP3 codecs i gael ei osod.
s-16 Mae'n edrych yn hyfryd i osod ac bydda i'n ei thrio hi nes mlaen!
s-17 Dwi 'n teimlo'r pwysau i gario mlaen ond teimlo'r pwysau i gael eraill i wneud hefyd.
s-18 A fydd criw Aber yn cario ymlaen?
s-19 Byddai'n braf meddwl hynny.
s-20 Fydd y gyfres pan gaiff ei darlledu yn ysgogi eraill i wneud run fath?
s-21 Byddai'n braf meddwl hynny hefyd.
s-22 Gellir gofyn: pam mae hi'n 'gyfrol cenedl' i ni'r Cymry?
s-23 Yr ateb: am ei bod yn cynnwys o'i mewn yr ymgais gyntaf erioed i ysgrifennu hanes pobl yn yr ynys hon, a ninnau'r Cymry wedyn drwy'r canrifoedd wedi cymryd mai ni yw disgynyddion neu etifeddion y bobl yr adroddir eu hanes.
s-24 A ydych chi'n ansicr neu'n ddihyder pan fydd angen i chi ysgrifennu yn Gymraeg, yn enwedig yn eich gwaith?
s-25 A ydych chi'n ansicr o'r cywair neu'r ieithwedd briodol wrth siarad neu ysgrifennu yn Gymraeg?
s-26 A ydych yn teimlo nad yw eich Cymraeg chi'n 'ddigon da'?
s-27 Os ydych chi wedi ateb 'ydw' i unrhyw un o'r cwestiynau uchod, yna mae'n debyg y byddai cwrs Sgiliau Iaith yn ddefnyddiol i chi.
s-28 Mae Canolfan Bedwyr yn darparu nifer o gyrsiau sgiliau iaith i'ch helpu i ddod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio'r Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig.
s-29 Ddôn nhw byth mewn tacsi.
s-30 Ddof i byth yma eto.
s-31 Ddoi di byth ar y bws.
s-32 Ddaw hi byth ar y trên eto.
s-33 Ddaw hi?
s-34 Na ddaw.
s-35 Ddewch chi hefyd?
s-36 Na ddof.
s-37 Nac ydw i.
s-38 Na fyddaf i.
s-39 Dewch yn llu i gyfarfod Cell Penfro yn Nhafarn y Pembroke Yeoman
s-40 Mi fyddwn yn trafod materion pwysig sy'n effeithio'r Sir, gan hefyd drafod y cyfarfod ynglŷn â thai yng Nghrymych!
s-41 Edrychwn ymlaen at weld chi yno!
s-42 Cynhelir ein Cyfarfod Blynyddol 2019 am 2 o'r gloch ar ddydd Sadwrn, 22ain o Fehefin, yn Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, drws nesaf i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
s-43 Edrychwn ymlaen yn fawr i wrando ar anerchiad y Llywydd, y Prifardd Myrddin ap Dafydd, ac yr ydym yn ddiolchgar iddo am sicrhau amser yn nyddiadur prysur yr Archdderwydd i ymweld â Chyfeillion GPC, sydd yn ymfalchïo yn ei benodiad i'r swydd ac yn ei longyfarch yn fawr.
s-44 Heddiw, fues i ym Mhwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cynulliad Cenedlaethol Cymru i roi diweddariad iddynt ar y cynnydd gyda diwygio'r cwricwlwm.
s-45 Maen nhw'n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o'm dal i, fel y Gweinidog Addysg, i gyfrif ac ar graffu ar ddatblygiad ein cwricwlwm.
s-46 Byddaf yn cyhoeddi adroddiad ar yr ymarfer adborth a'r hyn y bwriadwn ei wneud fel canlyniad yn ddiweddarach yn yr Hydref.
s-47 Ond rwyf am rannu syniadau cynnar gyda chi, yn ogystal â chyd-aelodau o'r Cynulliad.
s-48 Mae'n siŵr y bydd y beirdd sydd wrthi heddiw yn tystio i hynny'n fwy croyw nag y gallwn i.
s-49 Gwnaeth fwy na neb, dybiwn i, i greu ymdeimlad o gymuned o feirdd.
s-50 Roedd ei gyfnod o ddeuddeg mlynedd ar hugain yn Feuryn yn rhan allweddol o hynny, ac rwyf wedi clywed droeon gan gyfeillion o feirdd am y wefr amhrisiadwy a gaent o dderbyn canmoliaeth Gerallt yn y Talwrn.
s-51 Bu hefyd yn un o sylfaenwyr y Gymdeithas Cerdd Dafod, gan gydolygu'r cylchgrawn Barddas rhwng 1976 a 1983.
s-52 A braint yw cael nodi yma iddo fod yn un o Gymrodyr yr Academi Gymreig.
s-53 Fel sawl un arall, clywais yn gyntaf am farwolaeth Gerallt drwy gyfrwng trydariad.
s-54 A thros y munudau, yr oriau a'r dyddiau wedi hynny fe lanwyd y trydarfyd Cymraeg â llinellau a chwpledi o'i waith.
s-55 Aeth unigolion o bob math o wahanol gefndiroedd ati i rannu'r darnau hynny o waith Gerallt a oedd wedi eu serio ar eu cof - ni allaf feddwl am unrhyw fardd arall y mae ei eiriau ar gof a chadw yng nghalon y genedl yn y modd hwn.
s-56 Ei gerdd enwocaf, o bosib, yw 'Fy Ngwlad', ac yn ddiweddar clywais glip radio o Dafydd Iwan yn ei darllen gerbron cynulleidfa fawr yn Eisteddfod yr Urdd Aberystwyth 1969.
s-57 Bu farw ar 20 Tachwedd 1558.
s-58 Bu farw dau yn y protestiadau.
s-59 Canodd Iolo Goch farwnad i Ddafydd.
s-60 Ceisiodd gyflawni hunanladdiad mwy nag unwaith.
s-61 Chwaraeodd ran bwysig yn hanes Rhufain.
s-62 Ganwyd William Morgan yn Nhŷ Mawr y Wybrnant, ger Penmachno, yn fab i denant ar ystad Gwydir.
s-63 Yng Nghaergrawnt fe astudiodd athroniaeth, mathemateg a Groeg gan raddio'n faglor yn y celfyddydau ym 1568 ac yn feistr ym 1571.
s-64 Bu Dafydd ap Gwilym yn byw yn y pentref ac mae yna gerdd amdano 'i hun yn eglwys Llanbadarn, yn canolbwyntio ar y merched yn y gynulleidfa yn hytrach na'r gwasanaeth.
s-65 Gwelodd y pentref ddatblygu mawr yn ystod y 90au, gyda archfarchnad Safeway a siopau eraill yn cael ei hadeiladu ar dir fferm Parc yr Afon.
s-66 Dwi 'n wallgo!
s-67 Ti yn!
s-68 Wyt ti'n dod?
s-69 Ti'n dod?
s-70 Ydych chi'n mynd yn barod?
s-71 Chi'n mynd?
s-72 'Fe wyliais i araith y prif weinidog y prynhawn yma,' meddai, cyn ychwanegu nad oedd 'eglurder mawr na manylion o unrhyw fath yn ei araith'.
s-73 Fe ddaeth i'r amlwg eisoes fod Llywodraeth Prydain yn cynnig nifer o dollau ar hyd y ffin yn lle'r 'backstop'.
s-74 Ond fe gafodd ei wrthod gan lywodraeth Iwerddon
s-75 Mae'r Elyrch yn ddi-guro oddi cartref y tymor hwn, ac maen nhw wedi ennill pwyntiau gwerthfawr yn erbyn rhai o'r timau gorau fel Leeds a Bristol City.
s-76 Bydd hon yn sicr yn un ohonyn nhw.
s-77 Mae gennym ni'r strwythur newydd yma.
s-78 Mae gennym ni'r Cynulliad newydd yma yng Nghymru.
s-79 Y cwestiwn nawr ydy: Pam na allwn ni wneud jobyn gwell ohoni ?
s-80 Cawsom ein synnu gan y ffaith bod y bacteria yn gallu cynhyrchu cymaint o alcohol.
s-81 Mae hynny'n wir hyd yn oed os dydych chi ddim yn yfed.
s-82 Pan mae'r corff yn cael ei orlwytho a methu chwalu'r alcohol sy'n cael ei gynhyrchu gan y bacteria yma, rydych yn medru datblygu haint afu brasterog.
s-83 Allech chi helpu plentyn anabl?
s-84 Wrth gwrs, mae llawer o blant anabl eraill a allai elwa o ofal seibiant nad oes arnynt o angenrheidrwydd angen y cymorth arbenigol sy'n cael ei gynnig yn Hafan y Sêr.
s-85 Yn benodol, mae'r Cyngor yn awyddus i glywed gan wirfoddolwyr allai helpu trwy fynd â phlentyn allan am y diwrnod, mynd gyda theulu ar eu taith siopa wythnosol neu hyd yn oed gynnig gymorth yn y cartref teuluol.
s-86 Mae'r Cyngor hefyd eisiau clywed gan ddarpar ofalwyr maeth allai gynnig gofal dros nos am gyfnodau byr
s-87 O bob punt yng nghyllideb Cyngor Gwynedd, mae'r mwyafrif yn dod o grant blynyddol gan Lywodraeth Cymru, gyda'r gweddill yn dod o'r Dreth Cyngor.
s-88 Trowch i dudalen 8 i weld sut mae eich barn chi wedi dylanwadu ar gyllideb Gwynedd.
s-89 Er mwyn osgoi'r sefyllfa hunllefus yma, rydan ni'n pwyso ar y llywodraeth i sicrhau chwarae teg ariannol i holl gynghorau Cymru o'r flwyddyn nesaf ymlaen.
s-90 Rydw i wedi bod yn aelod o Fwrdd Gweithredol a Chabinet y Cyngor ers 2008, i ddechrau fel Aelod Amgylchedd ac wedyn yn gyfrifol am faes Gofal dros y pedair blynedd diwethaf.
s-91 Wrth i mi gamu lawr o'r Cabinet ar ddiwedd y mis, mae'n braf trosglwyddo'r awenau wrth i sawl cynllun cyffrous i wella gwasanaethau gofal i bobl leol gael eu gwireddu.
s-92 Ar y dde mae rhestr o wegamerâu sy'n cael eu cynnal gan y Cyngor ac gan gyrff eraill o amgylch Gwynedd.
s-93 Nid oes angen meddalwedd arbenigol i wylio'r gwegamerâu.
s-94 Os ydych chi wedi ei chael yn anodd i ganfod eiddo fforddiadwy yn lleol yna mae'n bosib y byddech am ymuno efo'r cannoedd o bobl sydd wedi cofrestru ar wefan newydd Tai Teg.
s-95 Mae'r ymdrechion i ennill cydnabyddiaeth a gwarchodaeth ryngwladol i ardaloedd chwareli gogledd-orllewin Cymru yn mynd o nerth i nerth.
s-96 Rydan ni wrth ein bodd hefyd efo'r rhaglen Llysgenhadon Ifanc, lle bydd pobl ifanc yn cael cyfle i chwarae rhan yn y gwahanol gynlluniau yn eu cymuned.
s-97 Bydd pobl ifanc yn dysgu am hanes lleol ac yn llais i'w tref neu bentref pan fydd syniadau'n cael eu trafod a'u ffurfio.
s-98 Mi fyddan nhw hefyd yn cael cyfle i adrodd yn ôl i'w hysgol a'u hardal leol wrth i bethau symud ymlaen.
s-99 Mae'n gyfle gwych iddyn nhw'n bersonol yn ogystal ag i'r gymuned maen nhw'n ei chynrychioli ac i'r prosiect yn gyffredinol.
s-100 Os nad ydych yn barod eto i wneud popeth ar-lein, mae'n bosib y byddech am dderbyn eich bil Treth Cyngor ar e-bost.
s-101 Mae hon yn ffordd gyflym ac effeithiol o dderbyn eich bil.
s-102 Gallwch weld y bil a gallwch gadw copi ar ffeil.
s-103 Os ydych chi'n cael anhawster dal i fyny gyda'r taliadau Treth Cyngor, cysylltwch â Chyngor Gwynedd ar unwaith i drafod eich sefyllfa.
s-104 Mae'r trên ar fin cyrraedd.
s-105 Mae'r llyfr hwn ar fenthyg o'r llyfrgell.

Text viewDownload CoNNL-U