cy-ccg-train-c28.txt.clean
Universal Dependencies - Welsh - CCG
Language | Welsh |
---|
Project | CCG |
---|
Corpus Part | train |
---|
View options
Text: - Show: - Tags:
Javascript seems to be turned off, or there was a communication error. Turn on Javascript for more display options.
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
Mae Morgan, sydd newydd dderbyn ei Lefel A mewn Drama, Llenyddiaeth Saesneg a Chymraeg Iaith o Ysgol Tryfan, Bangor, wedi ennill yr ysgoloriaeth i astudio'r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Sefydlwyd Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gan Gyngor Gwynedd. Mae'n cael ei dyfarnu i unigolyn sydd wedi ymgeisio am un o brif ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg, sy'n byw yng Ngwynedd ac sydd am astudio cwrs yn 100% trwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol. Mae'r ysgoloriaeth werth £1,000 y flwyddyn (neu £3,000 dros dair blynedd). Meddai Morgan: 'Rwy 'n hynod o ddiolchgar i Gyngor Gwynedd a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am gael ennill yr ysgoloriaeth eleni'. Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at fynd i Brifysgol Caerdydd i astudio'r Gymraeg. Mae gen i ddiddordeb angerddol yn y pwnc a'r holl sgiliau llenyddol a phroffesiynol bydd yn ei gynnig i mi. Bydd gradd yn y Gymraeg yn rhoi'r cyfle i mi wella fy hyder o ran ysgrifennu gan gynnig cyfleoedd i mi ar gyfer y dyfodol ac yn sicr bydd yr arian yn fy nghefnogi i dros y dair blynedd nesaf. Wrth i fi fyw yn Lloegr a gwrando bob dydd ar Radio Cymru, mae'n hawdd twyllo fy hun i feddwl bod Cymru'n wlad uniaith Gymraeg Ers dysgu siarad Cymraeg gwta chwe blynedd yn ôl, mae cyfreithiwr o Fanceinion wedi ysgrifennu nofel Gymraeg, meistroli'r gynghanedd, creu cynllun i ddiogelu enwau tai, a rhyddhau dwy albwm yn Iaith y Nefoedd. Mae Llety Arall, menter gymunedol yn Dre wedi trefnu gig i leddfu'r hiraeth sydd gan bobol yr ardal am yr Eisteddfod Genedlaethol.
Download XML • Download text
• Sentence view • Dependency trees