cy-ccg-train-c28.txt.clean

Universal Dependencies - Welsh - CCG

LanguageWelsh
ProjectCCG
Corpus Parttrain

Javascript seems to be turned off, or there was a communication error. Turn on Javascript for more display options.

index sentence 1 - 6 > sentence 7 - 17

Mae prosiect adfywio ardal Cei Llechi yng Nghaernarfon wedi cael ei agor yn swyddogol heddiw gan Dafydd Wigley. Dyma brosiect adfywio gwerth £5.9m sydd wedi cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon mewn partneriaeth â Galeri Caernarfon. Mae'r gwaith o adfywio wedi gweld Swyddfa'r Harbwr yn cael ei adnewyddu a'r unedau ac adeiladau oedd wedi dirywio yn sylweddol yn dod yn ôl i ddefnydd. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal rali fawr ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ddydd Iau, Awst 4. Bydd yn rhan o'r ymgyrch 'Nid yw Cymru ar werth', ac mae disgwyl i gannoedd o bobol orymdeithio o uned Cymdeithas yr Iaith ar y Maes at uned Llywodraeth Cymru. Bydd cyhoeddiad dyddiol am siaradwyr, cantorion a threfniadau hyd at y rali ymhen 50 diwrnod.

Download XMLDownload textSentence viewDependency trees